30.6.05

Euro-English

Mae'r Saesneg bellach wedi ei dewis yn hytrach na'r Almaenmeg fel prif iaith yr Undeb Ewropeaidd. Yn ogystal a hynny mae'r Undeb Ewropeaidd wedi gosod canllawiau i sillafu'r Saesneg yn fwy phonetig. Wele yr erthygl isod! Anhygoel, dwi'n meddwl ei fod yn syniad reit dda. Hynny yw y newid sillafu nid y ffaith fod y Saesbneg yn brif iaith Ewrop.

The European Commission has just announced an agreement whereby English will be the official language of the European nation rather than German which was the other possibility.

As part of the negotiations, Her Majesty's Government conceded that English spelling had some room for improvement and has accepted a 5-year phase-in plan that would become known as "Euro-English"

In the first year, "s" will replace the soft "c". Sertainly, this will make the sivil servants jump with joy. The hard "c" will be dropped in favour of the "k". This should klear up konfusion, and keyboards kan have one less letter.

There will be growing publik enthusiasm in the sekond year when the troublesome "ph" will be replaced with the "f". This will make words like fotograf 20% shorter.

27.6.05

Ffansin NAWS

Dwi di bod yn rhoi ail wampiad i ffansin naws heddiw. Gyda'r rhaglenni Adobe newydd sy ar y Mac da fi gobeithio fedra i roi e fel PDF ar wefan Naws o nawr mlaen. Gobeithio wir. Dim byd diddorol arall wedi digwydd heddiw heblaw bo ni di cal pregeth dda gan Steffan heno yn capel – 25 yw e!

26.6.05

Naws Gorffenaf

Bore ma daeth newyddiadurwraig o'r BBC i'r tŷ er mwyn gwneud cyfweliad gyda ni ynglyn a cerddoriaeth Gymraeg ar y we. Roedd hi'n glen iawn chware teg a dwi'n meddwl i ni ddangos a dweud pethau diddorol! Roedd hi ishe ffilmio'r broses o recordio yna llosgi i MP3 a chyhoeddi ar y we.

Mynd i weithio ar ffansin NAWS rŵan, dyma fydd y cyntaf i fi wneud ar y Mac newydd felly dwi am ail frandio y ffansin fel dathliad mae dyma fydd NAWS 10!

Dyma boster NAWS 10



24.6.05

Pam cadw blog?

"Cadw tŷ mewn cwmwl tystion”

Er fod street cred blogs a blogwyr yn codi dwi dal i glywed pobl yn siarad yn wawdlyd am bobl sy'n cadw blogs. “Sados” medde'n nhw! Felly heno ma yn sydyn dwi'n teimlo'r awydd i esbonio beth yw pwynt blog i mi. Dwi wedi gwneud hyn unwaith, nol yn mis Ionawr yn fy mhostiad cyntaf.


Dwi'n mwynhau ysgrifennu, er fod fy Nghymraeg yn wallus ac yn rhydd ar y blog o'i gymharu a fy erthyglau bARN efallai, mae'r blog yn gyfle i ysgrifennu ychydig baragraffau bob dydd. Rhaid i mi gyfaddef mod i wedi sôn mwy am hynt a helynt fy hun nag y tybiaswn y byddwn yn gwneud ar y dechrau – ond holl bwynt gwneud hyn ydy rhoi sylw i'r hyn dwi'n credu neu at yr hyn sy'n agos at fy nghalon.

Dyna pam er enghraifft mod i'n sôn dipyn am waith Undeb Cristnogol y coleg, fy ngwaith gyda'r Gymdeithas a'r BYD – nid er mwyn tynnu sylw ataf i fy hun ond yn hytrach er mwyn hyrwyddo yr achosion a chael cyfle i esbonio yr hyn dwi'n credu.

Yn olaf ac yn bwysicaf dwi'n meddwl fod blogio yn bwysig oherwydd mae'n rhoi'r gallu i gyhoeddi i bawb am ddim! Dyma yn wir yw'r chwyldro mawr mae'r we wedi dod i ni – bellach nid oes gan y BBC a llond dwrn o gwmnïau papur newydd fonopoli ar gyhoeddi newyddion a rhoi sylw i bethau. Bellach fe all bawb droi at y we a dechrau cyhoeddi yn ddyddiol eu newyddion nhw a rhoi eu slant nhw i ddigwyddiadau ac achosion y dydd.

23.6.05

Blogio Ffon

Dwi wedi cymryd bore ma bant o gwaith oherwydd mod i'n mynd allan i Dal-y-bont mewn munud. Dwi wedi llwyddo i wneud ambell i beth bach bore ma fel diweddaru gwefan Kenavo, mae'r gigs diweddaraf a gwybodaeth am y CD newydd yna nawr. Cofiwch am y cynnig arbennig i ddarllenwyr y blog (gwelwch y blogiad diwethaf).

Dwi wrthi nawr yn gwylio'r Cynulliad yn fyw – diflastod llwyr! Y pwyllgor Amaeth ac Amgylchedd sydd wrthi.

Efallai i chi sylwi fod y llun yn y blogiad isod o ansawdd is na'r arfer. Mae hynny oherwydd mae llun oddi ar y ffon ydyw – fy ngobaith wrth ddefnyddio'r ffon yn amlach i dynnu lluniau a'i rhoi ar y blog fydd er mwyn dal pethau diddorol tra mod i ar y mwf. Bydd yn rhaid i mi drio gweld sut mae'r Flicr yma yn gweithio rywbryd hefyd.

Nesi ddarllen ddoe y bydd modd mewn ychydig postio ar eich blog drwy ddanfon neges destun (neu neges media os am gynnwys llun hefyd) i'ch blog! Mae Blogger yn gwneud hyn eisioes yn yr UDA ond dwi methu gweld yn nunlle fod modd ei wneud ar Ynysoedd y Kedyrn eto. Pan ddeith blogio testun ffon i fodolaeth bydd yn chwyldro arall i flogwyr oherwydd bydd modd rhoi adroddiadau byw a chyson o bethau diddorol heb orfod aros tan eich bod yn mynd adref at eich cyfarfod.

22.6.05

CD Newydd



Heddiw fe gyrhaeddodd bocsys mawr trwy'r post. 200 CD gwag, 200 casyn CD a 200 sticer i roi ar y CD's. Stoc ar gyfer cynhyrchu CD newydd Kenavo oedden nhw, dy ni'n cynhyrchu 200 CD erbyn 'steddfod i'w rhoi allan am ddim. Does neb yn prynu CD's Cymraeg heb sôn am brynu CD band amheus fel Kenavo, felly does dim pwynt trio eu gwerthu nhw. Oherwydd nad ydym ni'n ceisio gwneud bywoliaeth allan o'r band dydy gwneud arian allan o werthu'r CD's ddim yn broblem, be dy ni eisiau ydy fod 200 o bobl yn mynd adref o'r 'steddfod i werthfawrogi ein cerddoriaeth nid dim ond yr 20-30 hard-core byddai wedi prynu'r CD.

Dyma gynnig arbennig i ddarllenwyr y blog – os hoffech gopi o flaen llaw cysylltwch gyda mi: fyenwi@lladdnadroedd.com (Fy enw i yn lle fy enw i wrth gwrs!!!)

Mynd mas at Robat Lolfa bore fory – mae e wedi cynnig fod Afalwyr Talybont yn rhoi cymorth i mi osod meddalwedd dylunio ar fy Afal newydd i wneud gwaith Y BYD, chware teg.

21.6.05

Aled Sam, Seimon Thomas a Wili Bin

Diwrnod adre heddi. Dwi ddim yn gweithio llawn amser haf yma oherwydd dwi am gael amser rhydd i wneud od jobs!

Heddiw dwi wedi golchi'r frij allan, trwsio y cwpwrdd dal cotiau ac ysgrifennu llythyr i Dafydd Wigely yn ei annog i sefyll yn yr etholiadau nesaf (gwnewch chi run peth!). Mewn munud dwi'n mynd allan i olchi'r wili bin! Ych... ond mae'n ymddangos fel sialens.

Ddoe es i a Gwen am dro i Ystrad Fflur. Eitha bizzare oherwydd pwy welo ni gyntaf oedd Aled Sam - “Helo shwd i ti?” medde fe yn llawn brwdfrydedd, “Iawn diolch” medde fi mewn syndod. Dwi'n meddwl ei fod e wedi fy ngham gymryd am rywyn oedd e'n adnabod, dwi rioed wedi siarad gyda'r boi o'r blaen.

Ar ol gwerthfawrogi'r adfail ymlaen a ni i weld bedd Dafydd ap Gwilym, ar y ffordd draw dyma ni'n rhedeg i mewn i'r ail seleb! Seimon Thomas! Dyma oedd y tro cyntaf i fi weld Seimon ers yr etholiad, panic, doeddw ni ddim yn siwr beth i ddweud wrtho. Roedd hi wedi mynd yn rhy hwyr bellach i siglo llaw ac estyn fy nghydymdeimlad, felly nesi ddim son am wleidyddiaeth o gwbl.

Ond wedyn beth oedd i'w son amdano? Doeddw ni rioed di siarad am ddim byd gyda Seimon heblaw am wleidyddiaeth. Wedi eiliad o ddistawrwydd anifyr dyma Seimon yn gofyn os oeddem ni wedi gorffen Coleg am y flwyddyn a dyma fi'n ateb ac yna yn dweud “Mae'n braf” (arwydd amlwg bo fi ddim yn gwbod beth i ddweud) ac yna ffarwelio a sleifio ffwrdd. Chware teg roedd Seimon yn edrych yn dda – fe'i welais o bell yn fuan wedi'r arholiad roedd yn edrych dan ofid mawr; ddoe roedd yn edrych fel ei hun eto.

Reit at y wili bin!

20.6.05

Genefa – Dydd Iau (5)

Roedd ein hawyren yn gadael Genefa am 4.30 ac roedd angen i ni fod yn y maes awyr erbyn 3.30. Felly roedd gyda ni ddigon o amser i fynd ati i wneud rhywbeth Ddydd Iau cyn cychwyn adre. Fe benderfynom ni fynd at gable-car fyddai'n mynd a ni fynny un o'r mynyddoedd oedd yn edrych i lawr dros Enefa.

Gan ein bod ni'n gadael ac na fyddem yn gweld John a'r plant cyn mynd ar yr awyren gwnaethom ymdrech arbennig i ddeffro ddigon cynar i gael brecwast gyda nhw cyn iddyn nhw fynd i'r ysgol. Dyma Nolwen, Erwan a Yann cyn gadael am yr ysgol y diwrnod olaf.



Roeddem ni wedi gwneud ymdrech reit arbennig oherwydd roedden nhw yn gadael am yr ysgol cyn 8. Roedd y wers gyntaf yn cychwyn am 8.15!! Byddai pobl y wlad yma wedi codi mewn protest erbyn hyn pe tai ysgolion Cymru yn dechrau mor gynnar a hyn.

Wedi gwneud ein hunain yn barod draw a ni i ddal y tram unwaith yn rhagor i droed y mynydd. Roedd system dramiau/bws Genefa yn anhygoel, roeddech chi'n talu am eich tocyn cyn mynd ar y tram (roedd peiriannau hunan ddefnydd ym mhob gorsaf), ac yna yn neidio ar y tram nesaf, neb yn cymryd eich tocyn nac yn gwneud yn siwr eich bod chi wedi talu. Roedd y drefn yma yn golygu fod y system dramiau yn medru rhedeg yn gyson ac ar amser.

Fel yr esboniodd John doedd dim pwynt i bobl Genefa gymryd mantais o'r system a mynd ar y trams heb dalu oherwydd yn y diwedd nhw fyddai'n dioddef oherwydd na fyddai'r system dramiau yn rhedeg cystal. Mae'r drefn yn gwneud synnwyr bur, ond prin y gallaf ddychmygu y byddai trefn o'r fath yn medru gweithio yn ein cymdeithas ni ar Ynysoedd y Cedyrn. Rhyfedd sut mae gwahanol ddiwilliannau yn medru bod yn wahanol ar bethau rhyfedd ag gonestrwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus!

Bant a ni o'r tram a chroesi y ffin draw i Ffrainc ar droed. Dyma oedd yr olygfa wrth i ni nesau at orsaf waelod y cable-car.



Roedd hi'n dywydd reit oer yng Ngenefa ond roedd hi'n rhewllyd fynny ar dop y mynydd. Felly wedi cyraedd y top syth a ni i'r Caffi! Doedd dim bwrdd gwag, roedd y lle yn llawn dop o benshaniars! Felly wedi archebu ein coffi fe ffeindio ni wal i eistedd arno. Roedd y coffi yn lysh. Wedi llowcio'r coffi fe fentro ni allan i'r balconi i weld yr olygfa. Dyma Enefa o'r mynydd.



Dyma fi a Gwen gyda Genefa yn gefndir.



Ar ol aros fynny yna am rhyw hanner awr i lawr a ni a dal y tram nol i gannol y ddinas er mwyn cael cinio cyflym cyn dechrau gwneud ein ffordd i'r maes awyr. Un o'r pethau cwl am Genefa ydy fod yna ffynhonau o ddwr yfadwy dros y ddinas i gyd. Tro diwethaf pan oeddwn allan roedd hi'n grasboeth felly roeddwn yn llowcio o bob ffynon oeddwn i'n ei phasio; cyn gadael tro yma roedd rhaid i mi gael llond cegiad unwaith!



Rhoddodd Sophie lifft i ni draw i'r maes awyr. Ar ol ffarweliad sydyn i ffwrdd a ni i arwyddo mewn ac o fewn dim roedd y llyn mawr yn smotyn bach trwy ffenestr yr awyren. Roeddem ni wedi cael amser gwych, mae Genefa yn le hynod ac roedd hi'n wirioneddol cwl treulio amser gydag foreign leigion y teulu! Diolch i John a Sophie am ein dioddef ni!

Nol i reality bywyd Aberystwyth yn y blogiad nesaf debyg...

19.6.05

Genefa - Dydd Mercher (4)

Dydd Mercher roeddem ni wedi hanner meddwl mynd i Chamonix a Mont Blanc (Take 2), ond oherwydd mae dim ond hanner diwrnod oedd fy nghefndryd yn yr ysgol ar ddydd Mercher penderfynom ni aros yng Ngenefa er mwyn gwneud rhywbeth gyda nhw yn y prynhawn. Yn y bore aethom ni i amgueddfa'r Groes Goch, fe fuom ni yna y tro diwethaf i ni ymweld a Genefa ond oherwydd amser roedd rhaid i ni frysio trwy'r arddangosfa ddiddorol.

Felly tro yma roeddem ni am fynd yn ol er mwyn gwerthfawrogi'r amgueddfa yn iawn. Yn eironig fe getho ni hyd yn oed lai o amser y tro hwn! Fe'm cynghorwyd gan y gwr yn y ganolfan dwristiaeth i fynd fynny i'r Amgueddfa ar droed drwy un o barciau'r ddinas yn hytrach na dal tram. Dywedodd y dyn y buasai daith gerdded yn cymryd oddeutu hanner awr – roedd hi'n agosach at awr! O ganlyniad dim ond rhyw hanner awr getho ni yn yr amgueddfa ei hun.

Oherwydd bod amser yn dyn fe aetho ni yn syth draw at yr adran newydd oedd wedi agor ers i ni ymweld tro diwethaf. Roedd yr adran yma yn dilyn y rhyfeloedd sydd wedi digwydd ers 9/11, yn benaf y rhyfel yn Afganistan ac Irac. Roedd y lluniau yn hollol anhygoel ac yn gwneud i ni sylwi fwy fyth mae rhyfel ydy llofnod Satan yn wir. Un llun oedd yn arbennig o ddiddorol i mi oedd un o filwyr Americanaidd yn cael eu bedyddio yn Irac. Roedden nhw wedi cloddio twll mawr yn y tywyd, wedi ei leinio a bagiau plastig, ei lenwi a dwr ac ynddo wedyn roedd milwyr yn cael bedydd trochiad!

Nol a ni wedyn i gyfarfod John yn yr ysgol, adre am ginio cyflyn ac yna cychwyn i ????? (ddim yn cofio enw'r lle!). Roedd gan Nolwen, fy nghefnither wersi cerddoriaeth a nofio felly dim ond fi, Gwen, John, Erwan a Yann aeth ar y trip! Roedd ????? yn le del iawn, lle fydde chi'n disgwyl gweld mewn cerdyn post. Wele'r stryd isod...



Dyma luniau ohonom yn ?????. Yn y llun cyntaf mae Gwen, Yann a John. Ac yn yr ail mae Erwan a Yann.




Ar ol crwydro dipyn rownd y pentref i lawr a ni at y llyn. Yr holl droeon erill dwi wedi ymweld a Genefa mae hi wedi bod yn chwilboeth, ond y tro yma roedd hi'n wahanol. Roedd y tywydd yn weddol oer ac roedd gwyntoedd cryf main bob diwrnod. Roedd y gwyntoedd ddigon cryf i greu tonau bach ar y llyn – a cafodd Erwan a Yann ddigon o hwyl yn ceisio neidio rhag y tonnau.



Ar y ffordd nol fe ddygodd Erwan y camra a tynnu'r llun dibwynt isod. Ond wedi meddwl dydy'r llun ddim yn hollol ddiwerth oherwydd mae'n dangos ein bod ni wedi bod yn agos iawn i bentref Evian ple mae'r dwr Evian yn cael ei boteli. Mae'n debyg fod yna dap yn gannol y pentref ac fe all unrhyw un fynd a chwpan yna a chael cwpaned o ddwr Evian am ddim! Rhywbeth i wneud tro nesa ew ni allan.



Erbyn i ni fynd nol i Enefa roedd hi'n reit hwyr felly yn syth ar ol bwyta swper roedd hi'n amser i'r plant fynd i'w gwlau. Bob nos roedd y ddau leiaf yn mynnu mod i a Gwen yn darllen stori iddyn nhw – ciwt de!

18.6.05

Genefa – Dydd Mawrth (3)

Dyma oedd y trydydd tro i mi ymweld a Genefa, ac ail dro Gwen. Felly i bob pwrpas roeddem ni wedi gweld popeth oedd i'w weld yn y ddinas ei hun. Felly y cynllyn tro yma oedd teithio tipyn i'r trefi/pentrefi/mynyddoedd cyfagos. Penderfynom ni ein bod ni mynd i ddal tren 8.30 y.b. draw i Chamonix, mae Chamonix yn Lanberis o le oherwydd yn Chamonix mae modd dal tren bach fynny Mont Blanc, mynydd ucha Ewrop. Fynny yn Mont Blanc roedd modd mynd i weld Rhewlif (arwyddocaol iawn i bawb swydd wedi naillai dilyn cwrs TGAU neu Lefel A Dearyddiaeth CBAC!)

Ond yn anffodus ni wireddwyd y trip i Mont Blanc. Fe aeth John ag allweddi Sophie gyda fe drwy gamgymeriad i'r gwaith! O ganlyniad doedd dim modd i Sophie roi lifft draw i ni i ddal tren 8.30 y.b. Doedd y tren nesa ddim yn gadael tan 12.00, roedd y daith i Chamonix yn un ddwy awr felly rhaid oedd anghofio am Chamonix am heddiw. Ond roeddem ni yn benderfynol o fynd rhywle! Felly dyma edrych ar fap a gweld pa ddinasoedd oedd mewn pellter cyraedd hawdd, penderfynom ni ddal tren i Lussane, y ddinas oedd pen draw pella llyn Genefa.

Dyma ddal y tram o Muzolionz (yr orsaf agosaf at dy John a Sophie) draw i Coravin, prif orsaf drenau Genefa. Roedd trenau yn mynd o Genefa i Lussane bob 12 munud! Y pris oedd 80 Swiss Franc i'r ddau ohonom ni, sy'n oddeutu £20 return yr un – ddim yn ddrwg o gwbwl o ystyried safon uchel iawn y gwasanaeth tren. Dyma archebu ein tocynau yn y blwch, yn Saesneg wrth gwrs (och!) ac yna rhuthro fynny i'r platform i ddal y tren nesaf.

Wrth i'r tren nesau dyma fi'n dechrau cynhyrfu! Roedd e'n dren dybyl deker! Gadewch i mi esbonio arwyddocad hyn. Pan oeddw ni'n llai roeddw ni'n dwli ar raglenni Meical Peilin, 'Round the World in 80 days' ayyb... (dwi dal yn eu gweld nhw yn dra ddiddorol). Yn aml byddai MP yn teithio ar drenau enfawr dybyl deker fel yr un oeddem ni yn ei ddal i Lussane – roedd e mor cwl.



Wedi i ni gyraedd Lussane roedd symbolau'r Olympics yn bobman, enw'r lle yn yr holl lenyddiaeth dwristiaeth oedd '...the Olympic City'. Nawr os fu'r Olympics yn Lussane byddech yn tybio y buaswn wedi clywed am y ddinas cyn edrych ar y map y bore hwnw. Ond ar ol gwneud ychydig mwy o ddarllen dyma pethau'n dod yn glir, ni fu'r Olympics erioed yn Lussane ei hun ond yn hytrach yn Lussane mae pencadlys y Cyngor Olympaidd, y cyngor sy'n gyfrifol am drefnu a rheoleiddio'r gemau.

Mae'r ddinas wedi ei hadeiladu ar ochr bryn serth, yn anffodus roedd yr orsaf drenau ar y gwaelod a'r holl bethau diddorol ar y top felly'r orchwyl gyntaf oedd dringo'r bryn! Wedi cyraedd y top roedd syched ofnadwy ar y ddau ohonom ni felly aethom yn syth i gaffi i gael diod. Ymlaen a ni wedyn i weld yr Eglwys Gadeiriol, isod mae llun ohona i ar font ac yn y cefndir mae'r Eglwys.


Wedi i ni dreulio peth amser yn edmygu'r ffenestri lliw anhygoel oedd yn yr Eglwys i lawr a ni i ganol y dref i chwilio am ginio. Ar y ffordd i lawr be basio ni y Ci bach doniol (isod) ac hefyd prif adeilad Prifysgol Lussane, roedd hwn yn adeilad pert iawn fel y gwelwch yn y llun isod.




Wedi ychydig o edrych o gwmpas fe ffeindio ni gaffi reit rhesymol, am ryw rheswm roedd y bwyd yn rhatach na'r diodydd! Erbyn hyn roeddem ni wedi ymgyfarwyddo gyda ffordd od pobl y Swistir o brisio pethau. Roedd y Baget yma (isod) yn arbennig o flasus.



Ar ol i ni orffen y bwyd roedd hi bron yn dri o'r gloch ac yn y llyfrau twristiaeth roedd yna gloc arbennig yn perfformio sioe bypedau ar bob awr, yn ffodus roedd y caffi wrth droed y cloc. Yn bersonol doeddw ni ddim yn gweld beth oedd mor 'wa wi' am y peth. Isod mae llun o'r pypedau yn hedfan heibio.


Siopau oedd y peth olaf ar y rhestr cyn ymadael a Lussane, yn ffodus i mi ni dreulio ni lawer o amser yn siopa ac fe ddalio ni dren nol tua handi pedwar. Ar ol cyraedd Genefa nol a ni i dy John a Sophie ar y tram. Wrth gerdded o'r trem i'r ty fe basio ni'r bwytdy tandori isod wnaeth i mi gofio am Gymru!

16.6.05

Genefa – Dydd Llun (2)

Wedi’r teithio dydd Sul doedd dim awydd gyda ni godi ar frys bore Dydd Llun. Erbyn i ni godi roedd John a’r plant wedi mynd i’r ysgol a dim ond Sophie oedd yn y ty. Un o’r pethau mwyaf cwl am fynd allan i aros gyda John a Sophie ydy cael coffi ‘go-iawn’ bob bore! Wedi i ni gael brecwast rhoddodd Sophie Lifft i ni cyn belled a Grange Cannal ple roedd hi’n gweithio ac o fanna wnaetho ni ddal y tram i ganol y ddinas. Fel Prydeinwyr go iawn (!) y peth cynta wnaethom ni oedd mynd i’r siop ddillad H&M, roeddwn ni eisiau prynnu fflip fflops. Wedi chydig o grwydro a chasglu tafleni o’r ganolfan Dwristiaeth dyma ni’n mynd fynny i’r hen ddinas i chwilio am le i gael cinio.

Doedde ni ddim yn gwbod beth i ddisgwyl o ran bwyd nac o ran prisiau. Felly i bob pwrpas fe ddewiso ni y caffi cyntaf i ni basio. Archebais i Selsig mawr o’r Swistir gyda rhyw fath o Hash Brown anferth (gweler y llun isod), aeth Gwen am yr opsiwn iachach a chael salad gyda caws Gafr!



Wedi i ni gael cinio aetho ni i grwydro’n ddyfnach i fewn i’r hen ddinas. Fel Cristion Calfinadd roedd yna arwyddocad arbennig i’r hen Ddinas. Yma wrth gwrs yr oedd Calfin yn byw yn ystod y diwigiad Protestanaidd, ac yn Genefa y pregethodd ac ysgrifennodd Calfin ei weithiau sydd wedi bod mor ddylanwadol ar y Cymry byth ers hynny. Yn Genefa rhoddodd Calfin loches i lwythi o Gristnogion diwigiedig o’r gwledydd cyfagos oedd yn cael eu herlid gan Eglwys Rufain. Isod mae llun ohona i rhwng pileri Eglwys Calfin.



Wrth i ni fwyta ein cinio aeth un o’r trenau bach yna heibio sy’n mynd a twristiaid o gwmpas. Wedi i ni ymweld ac eglwys Calfin aetho ni i geisio ffeindio un o orsafodd y tren bach! Daethom o hyd i’r tren mewn dim o beth, isod mae yna ddau lun diddorol y tynais tra ar y tren. Y cyntaf ydy un o swyddfa’r BNP yn Genefa, na joc, jyst enw anffodus sydd gan un o fanciau’r Swistir. Yr ail ydy un o brif adeiladau Prifysgol Genefa, tipyn deliach nag adeiladau 60au/70au hyll Aberystwyth.





Wedi dod oddi ar y tren dyma ni’n gwneud ein ffordd yn ol i dy John ar y tram – wnaetho ni warchod y plant y noson honno er mwyn i John a Sophie gael mynd allan am dro!

Genefa – Dydd Sul (1)

Ar ddydd Sul roedd angen i ni fod ym Mryste i arwyddo fewn erbyn 11.30 y.b., felly er mwyn bod yn saff fe adawo ni Gaerdydd am 10.00 y.b. Roedd y daith yn y car yn ddifyr iawn, oherwydd i ni yrru trwy’r Avon Gorge ac yna pasio’r Clifton Suspension Bridge oedd yn edrych yn anhygoel. Tynodd Tad Gwen ein sylw at y ffaith fod llawer yn lladd eu hunain drwy neidio oddi ar y bont – hmmm diddorol.



Wedi cyraedd y maes awyr draw a ni at ddesg easyJet. Mae easyJet yn gwmni hollol wych! Roedd y daith yna ac yn ol dim ond yn costio ychydig mwy na thren i Lundain ac yn ol (llynedd roedd y tocynnau YN rhatach na thren i Lundain ac yn ol!). Wedi i ni ddangos passports ayyb… roedd angen i ni gyflwyno ein bagiau. Wedi i’r ddynes eu pwyso fe’m gorchmynwyd ni i fynd i ddesg arall i gael ein holi ym mhellach (roedd pawn arall yn medru mynd syth trwyddo ar y pwynt yma!).



O na, co ni’n mynd meddyliais. Dwi wedi cal sawl running gyda phobol Customs o’r blaen e.e. Unwaith ar y ffordd nol o Ffrainc fe gymerodd un o’r dynion hunan-bwysig Basbort fy Nhad a gofyn iddo “Where were you born sir?” (roedd e’n dweud ar y pasbort wrth gwrs) atebodd fy nhad “Aberystwyth”. Atebodd Dad yn anghywir, roedd e’n stressed debyg! Tro arall aetho ni i Ddulyn am y diwrnod o Gaergybi, ar y ffordd nol daeth dyn fynny ata i a Cynan a gofyn i ni sefyll o’r neulltu. Wedi i ni fynd rownd y gornel tynodd gerdyn allan a’i fflachio a dweud “Special Branch… i want straight answers boys”. Diolch byth dim ond cwestiynnau syml ofynodd e.

Reit nol at Frystau. Ers cal fy arestio cwpwl o weithiau gyda’r Gymdeithas + cal fy stopio ddwywaith gan Heddlu tra’n gyrru, dwi wedi datblygu rhyw fath o baranoia anhygoel. Pob tro dwi’n gweld Heddlu dwi’n mynd i banic. Felly wrth i ni ymlwybro draw i’r ddesg nad oedd neb arall yn gorfod mynd iddi dyma fi’n cofio ein bod ni yn Nalgylch Avon and Sumerset Constabulary, hynny yw y sir ges i fy arestio ynddi flwyddyn yn ol tra’n protestio ym Mhencadlys Oren. Roeddw ni’n poeni fod fy enw wedi fflachio ar y cyfrifiadur.

Dyma ni’n cyraedd y ddesg a’r dyn yn gorchymyn i ni basio’n bagiau trwy’r peiriant sganio. Gofynnodd “Have you got any electrical equipment?”, “No” atebais innau. A wedyn panic – dyma fi’n cofio fod gyda mi sawl peth electronig yn fy mag. Dechreiais boeni wedyn fod y boi yn meddwl fy mod i’n ceisio cuddio rhywbeth. Ond yna atebais gan esbonio beth oedd popeth. Diolch i’r drefn dyna ddiwedd ar yr arwyddo mewn.

Wedi’r halibalw yna roedd gyda ni hanner awr i gael cinio. Felly lan i ni i gal cinio gyda rhieni Gwen cyn iddyn nhw droi nol am Gaerdydd. Yn ol yr arfer mewn llefydd fel meysydd awyr roedd y bwyd yn weddol ddi-flas ac wedi brisio trwy’r to. Yr unig beth diddorol oedd y te oedd yn datblygu ewin. Es i a fe nol ac fe gytunodd y staff fod rhywbeth yn bod gyda fe!

Roedd y daith yn yr awyren yn un fyr (tua awr a 15 munud) ond ryff iawn. Roedd Air Turbelance difrifol, wedi dweud hynny oherwydd y gwyntodd cryfion esboniodd y Capten y bydde ni’n medru teithio yn gynt drwy fynd mewn i un o’r jet streems naturiol. Erbyn cyraedd Genefa roedd genai fol tost a chlustiau poenus.

Yna yn ein cyfarfod roedd fy Nheulu i gyd ag eithrio Erwan oedd mewn parti. Wedi gadael y maes awyr fe aethom ni i barc mawr i gael picnic cyn mynd i nol Erwan. Erbyn i ni gyraedd yn ol yn y ty a chael swpper roedd hi’n amser noswylio.

15.6.05

Nol yn Aberystwyth

Wedi'r teithio ar ymlacio dwi nol yn Aberystwyth! A dwi nol gyda Laptop newydd - Apple PowerBook G4, mae e mor cwl. Ddim yn deall sut i wneud dim eto oherwydd dwi rioed di defnyddio Afal o'r blaen. Ond y peth cwl dwi wedi sysio allan hyd yma ydy fod yna gerdyn di wifr tu mewn felly heb fod wedi gorfod newid unrhyw osodiadau dwi'n medru mynd ar y we bobman yn y ty, gret!

Ers dod nol o Genefa dwi wedi bod yng Nghaerdydd, ddim wedi gwneud llawer o ddim, dim ond bwyta bwyd neis. Gafodd Gruff, brawd Gwenllian y newydd da neithiwr ei fod wedi ei dderbyn y RADA i wneud Actio flwyddyn nesa, tipyn o gamp chware teg iddo.

Hmmm ie, Meical Jakson, dwi'n siwr fod en euog o 'rhywbeth'.

Fory gobeithio gai amser i lwytho lluniau a dechrau adrodd hanes Genefa ar y blog. Yn y cyfamser nol a fi i geisio ffeindio ble ma 'shutdown' ar y Macs er mwyn fi fynd i'r gwely.

10.6.05

Nol yng Nghymru

Dwi nol yng Nghymru! Ond ddim adre eto - byddai ddim nol yn Aber tan wythnos nesaf (yng Nghaerdydd rwan) felly bydd rhaid i chi aros ychydig ddwrnodau am adroddiad llawn a lluniau o Genefa.

Plis peidiwch disgwyl adroddiadau mor fanwl a rhai Dogfael o'r Fflanders.

4.6.05

Wythnos yn y Ddinas



Dyma fi’n cael cyfle hanner munud i bostio neges. Mae di bod yn wythnos brysur lawr fan hyn yng Nghaerdydd, wedi blino’n lan. Fel y gallwch dybio nid cystadlu sydd wedi dod a fi lawr i’r steddfod ond yn hytrach gwaith(ish). Dwi di bod yn helpu mas da’r BYD ar y maes, roeddem ni rhy hwyr yn archebu stondin ond dy ni di cael cornel i roi ein stwff yn stondin y brifysgol, ddim yn ddelfrydol OND rhaid gwneud y gorau o’r sefyllfa yn toes.

Mae’r Steddfod yn rhyfedd iawn leni, yn ogystal ag edrych fel seit adeiladu ôl-Fodernaidd mae’r maes wedi ei wasgaru’n eang dros y Bae. Oherwydd hyn mae’r Gymdeithas mewn lle gwael iawn a thawel a does neb prun byth yn pasio heibio. Tra ar y llaw arall bod rhai stondinwyr yng nghanol y miri a’r prysurdeb – hyn ddim yn deg iawn i feddwl fod pob Stondinwr yn talu run peth am eu huned.

Dwi wedi cael digon o’r steddfod nawr dwi’n meddwl, dwi ddim wedi mynd mewn bore ma oherwydd ro’ ni eisiau hoe ond fe a’i drio ffeindio ffordd lawr i’r Bae ar y trenau p’nawma debyg. Mae bron yn bryd i fi adael am Enefa nawr!!! Ecsitied iawn! Fuesi a Gwen ddoe i gyfnewid arian a sortio allan yr E111 (er yn aflwydianus oherwydd doedd dim un ohonom ni’n gwbod ein rhif yswiriant cenedlaethol – wps!). Mae debyg fod tymheredd Genefa yn y 30au wythnos hyn - jyst neis!