20.8.05

Cynhadledd a Winchester

Dwi wedi cael wythnos gret yn y Gynhadledd. Roedd y bregeth neithiwr gan Ifan Masson Davies yn wefreiddiol. Son am y consyrn dyle ni gal am eneidiau ein cyd-Gymry, fel y consyrn oedd gan Paul am ei gyd-Iddewon.

Mae Ifan yn un o'r Efengylwyr hynny sydd wedi ei dallt hi yn yr ystyr fod en gwbod yn iawn ble mar balans rhwng bod yn ubers ysbrydol a chael eich traed ar y ddaear. Roedd hyn yn amlwg wrth iddo, yn dra feiddgar mewn cynhadledd Efengylaidd, ddweud fod Diwilliant a Chenedlaetholdeb yn iawn OND wrth gwrs mae'r angen penaf ydy eneidiau Cymru.

Dwi'n mynd ar fy ngwyliau fory gyda Mam a Dad i Winchester. Dim syniad ble mae e - dwi'n disgwyl mlaen oherwydd dwi wedi prynnu sawl llyfr newydd yn ddiweddar a heb gael amser i'w darllen.

Dwi di rhoi ambell i lun arall ar fy nghyfri Flickr, yn anffodus allai ddim grwpio lluniau bellach (dim ond cyfrifon pro sy'n cael gwneud hynny) felly mae'r lluniau diweddaraf ar y brif dudalen YMA.

Hwyl tan wythnos nesaf (oni bai bo fi'n ffindo cysylltiad ar fy ngwyliau).

...o ie tybed pwy yw'r cynhyrfwr sydd wedi ymateb i fy neges flaenorol am ddyfodol MEC? Ma syniad gyda fi.

No comments: