22.10.05

Fi a'r Ffliw Adar!


Deffrais. Roedd y ffon yn canu.

Pwy ar wyneb daear oedd yn fy ffonio adeg yma o'r dydd?

Neb.

Cloc larwm ydoedd yn fy neffro i fynd i'r Seminar oedd am naw.

Roeddwn mor flinedig doeddwn ni ddim wedi meddwl am hanner eiliad mae'r larwm oedd yn canu; roeddwn ni wedi cymryd yn ganiataol fod hi dal yn noson gynt ac fod rhywun yn ffonio.

Dwi wedi bod yn rhyw besychu a chwythu fy nhrwyn ers wythnos bellach a bore ma fe ddaeth i'w ben tennyn wrth i mi fethu mynd i'r Seminar. E-bostiais yr Athro Howard Williams yn esbonio fy absenoldeb ac atodi y nodiadau oeddwn ni wedi ei paratoi, rhoi chwythad go-lew i'r trwyn ac yna mynd nol i'r gwely.

Gyda'r peswch a'r snwffian wythnos yma roedd hi'n anorfod y byddai rhywrai yn tynnu fy nghoes; “Ti di cal y Bird Flu!” Dwi'n weddol sicr erbyn hyn mae jest dos go hegar o anwyd sydd gennai serch hynny dyma gyfle i sôn ychydig am y bygythiad mwyaf i wareiddiad Ynysoedd y Kedyrn ers Natsiaeth – wel dyna maen nhw'n dweud.

Mae'r newyddion wedi adrodd y gall hyd at 150 miliwn farw o'r Bird Flu – felly mae lle gyda ni boeni.

Ond oedde chi'n gwybod fod 12,000 yn marw bob blwyddyn ym Mhrydain o'r Ffliw arferol? A dywedodd rhyw foi oedd yn dallt ei bethau eu bod nhw'n disgwyl i 50,000 farw ym Mhrydain o'r Ffliw Adar. Bydd colli 50,000 yn ergyd drymach na unrhyw ymosodiad terfysgol ond mae'n bilsen tipyn haws i'w llyncu na'r newyddion fod 150 miliwn mynd i farw o'r Ffliw.

1 comment:

Ifan Morgan Jones said...

Gobeithio fyddi di'n well cyn hir! Rydw i wedi medru denig rhag cael y 'freshers flu' am y tro cyntaf mewn tair mlynedd.