27.4.06

Deffrais a blogiais

Fe aeth y blog yn dawel.

Fe ddeffrodd y blog.

Nol ym Mhantycelyn bellach – y tymor olaf – teimladau cymysg. Dwi'n berson sy wastad yn barod i symud ymlaen rhy gynnar. Pan o ni'n neud Lefel A mi o ni ishe bod yn fyfyriwr cyn fy amser – a nawr cyn i fi raddio dwi ishe neud y peth nesa – ymchwil gobeithio. Ond maen bosib na cha fi fy ngradd fel ma pethe'n sefyll ar hyn o bryd. Mae'r darlithwyr yn gwrthod marcio gwaith hyd nes y bydd UCEA yn cytuno i roi codiad cyflog – achos teilwng a dwi'n cefnogi'r darlithwyr sy'n sicr ddim yn cael digon o dal.

Ond mae oblygiadau hyn i fy ngradd chydig bach yn anffodus. Fel mae hi ar hyn o bryd caiff fy ngradd ei dyfarnu ar fy marciau hyd yma – sef 2.1 – ond o weithio yn arbennig o galed tymor yma mae ychydig o bosibilrwydd i mi gael dosbarth cyntaf. Mae'r streic felly yn nadu'r ychydig bosibilrwydd hwnnw.

Be arall sy di digwydd dudwch? Ma gan Kenavo wefan ar myspace bellach; MP3 a bob dim (www.myspace.com/kerddoriaethkenavo). Da ni'n recordio Bandit dydd Sadwrn hefyd, can newydd da ni'n exited iawn amdano. Gobeithio cael caneuon newydd eto cyn yr ha.

Dwi di gorffen fy nhraethawd hir ar syniadaeth R. Tudur Jones hefyd – os oes gan rywyn ddiddordeb yn y pwnc gadewch neges. Gwaith – wel gobeithio cychwyn gweithio i'r BYD eto yn fuan. Dwi hefyd yn mynd i Romania mis Mehefin – mwy am hyn eto. Nos da.

1 comment:

Rhys Llwyd said...

hia Dafydd,

Ie dyma'r farchnad rydd ar ei gorau.

serch engine yn gymraeg = chwilotwr dwin meddwl.

Rhys