9.5.06

Styc ar ynys bellennig gyda Cheidwadwr!

Wel dydw i ddim yn cytuno gyda'r Ceidwadwyr ond heno yng Nghyfarfod Cyffredinol yr Undeb des i weld fod yna bobl lot gwaeth yn bod na phobol dydy chi jest ddim yn cytuno gyda hwynt. Un peth pwysig dwi wedi dysgu yn ystod fy nghyfnod yn Coleg yw mae nid eich gelyn yw'r gelyn pennaf ond yn hytrach y rhai difater sydd heb ystyried dadleuon na sefyllfaoedd o gwbl. Parthed Cymru a'r Gymraeg, nid yr Imperialydd yw'r gelyn mwyaf, ond yn hytrach Cymry diog a taeog. Parthed egwyddorau gwleidyddol – ma gennai fwy o barch at geidwadwyr (g fach) na phobol sydd ddim yn meddwl pethau trwodd ac jest yn ypsetio a dweud pethau hurt fel y digwyddodd heno.

O orfod dewis rhwng rhywun apathetig neu David Davies AS/AC i fod yn styc ar ynys gydag ef fe fuasw ni'n sicr yn dewis David Davies – sgwrs llawer mwy difyr.

2 comments:

Rhys Llwyd said...

Mi wyt ti wedi cam ddeallt. Ti'n dweud fod well gen ti bobol sy'n meddwl pethe trwodd - wel dyna yn union dwi wedi ei ganfod mewn llawer o geidwadwyr. Er mod i'n anghytuno gyda nhw mae nhw oliaf wedi meddwl y peth trwodd a dod i safbwynt. Rhywbeth sydd ddim yn wir am ambell i Genedlaetholwr Lager and Lime (ys dywed Ceri Wyn Jones).

Nid cydymdeimlo gyda'r ceidwadwr ydw i - jest nodi'r hyn dwi di dod ar ei thraws.

Rhaid mi gyfaddef mod i'n euog ar rai achlysuron o gael egwyddorion a wedyn eu gweithio nhw allan OND does dim byd yn bod ar hynny nacoes? Maen bwysig asesu'r egwyddorion sda chi'n barod boed e jest i'ch hatgoffa pam bo chin credu betrh chi'n credu.

Sori mod fy naliadai yn dy ypestio gyment - jest di meddwl nhw trwyddo ydw i ;-)

diolch am y sylwad

Rhys Llwyd said...

diddorol.

Ti'n iawn o ddarllen yn ol roedd fy mhostiad braidd yn 'elitaidd' hynny yw mod i'n dweud mod i'n meddwl pethe trwodd a bod eraill ddim. Hunan asesiad bownd o fod yn hunan-ganolog! Ymddiheuriaf.

Diddorol am dy sylwadau am y ceidwadwyr run mor dwp. Wn i ddim se ni'n galw nwn dwp - bydde ni'n meddwl fod naif neu pesemistig hyd yn oed yn air mwy addas.

Ti'n iawn, hyd yn oed ar ol meddwl pethe trwodd alle chi dal dod i gasgliad hollol hurt i.e. David Irvie WEDI astudio yr Almaen 1932-1945 ond dal wedi dod i'r casgliad twp fod dim hil-laddiad di digwydd.