13.3.07

UCCF, Undebau Cristnogol a'r Christian Institute

Yn y rhifyn cyfredol o'r Cylchgrawn Efengylaidd mae Steffan Jones yn rhoi sylw i hynt a helynt Undeb Cristnogol Exeter sy'n mynd a'i Prifysgol, gyda chymorth a chefnogaeth y Christian Instutute, i'r Uchel Lys am beidio gadael iddynt fod yn gymdeithas swyddogol (affiliated). Cefais fy hun yn cytuno ar lawer bwynt gan Steffan ond yn anghytuno ar ambell bwynt yn ogystal. Gan fod Steffan wedi nodi mae 'cynnig cyfraniad i'r drafodaeth' oedd ei fwriad dyma fy nghyfraniad i i'r drafodaeth – iach o beth yw trafod yn nhraddodiad y Seiat! Dwi wedi llunio ymateb mawr cynhwysfawr i'w gyhoeddi yn y rhifyn nesaf o'r cylchgrawn gobeithio ond dyma bwt bach o'r ysgrif fwy i chi:

Rhoes Steffan yn y rhifyn diwethaf gryn sylw i'r mudiad The Christian Institute, rai blynyddoedd yn ôl pan ddechreuais ymddiddori yn y berthynas rhwng Cristnogaeth a Gwleidyddiaeth edrychwn ar y mudiad hwn fel chwa o awyr iach. Cristnogion diwygiedig sy'n ymhél a Gwleidyddiaeth – rhagorol meddwn ninnau yn naïfrwydd fy ieuenctid. Erbyn heddiw fodd bynnag, wedi i mi ddod i werthfawrogi'r hyn sydd gan bobl fel Kuyper a Dooyeweerd, ac yng Nghymru R. Tudur Jones, i ddweud am sofraniaeth Duw ym mhob sffêr ac o ganlyniad pob maes gwleidyddol dwi'n tyfu'n gynyddol sgeptigaidd o ethos y Christian Institute. Fe dynnwyd fy sylw at y tyllau yng nghyfundrefn feddwl y Christian Institute wrth ddarllen llyfr gan Jim Wallis yr ydw i wedi rhoi sylw iddo yn y cylchgrawn yma o'r blaen sef 'God Politics.' Yn y llyfr hwnnw mae Wallis yn beirniadu'r Gweriniaethwyr (plaid Bush a'r rhelyw o Gristnogion Efengylaidd yr UDA) am ymladd yr etholiad ar sail 'moral issues'. Ymysg y pynciau moesol yma mae - yn ôl y disgwyl - erthylu, hawl rhieni i ddisgyblu plant, ymchwil stem cells ac yn y blaen. Dadl Wallis yw fod y Gweriniaethwyr yn anghywir i nodi beth ddylai fod yn bynciau moesol i Gristion; hynny yw fe ddylai cynnwys cyllideb y llywodraeth fod yn gymaint o bwnc moesol i Gristion ag ydyw polisi'r llywodraeth ar ymchwil geneteg.

Rwy'n cael sylwad Wallis yn graff ac yn gwbl gywir – i'r Cristion nid oes yna fath beth a phynciau moesol, y mae pob pwnc a phob agwedd o'r gwleidyddol yn ymwneud a gwneud penderfyniad moesol. O ddeddfau yn ymwneud ag erthylu i ddeddfau megis toriadau treth i aelwydydd incwm isel. Ac yn y golau yna yr wyf i wedi troi'n amheus o'r Christian Institute oblegid y mae ganddyn nhw adran ar eu gwefan lle medrwch weld sut pleidleisiodd eich AS ar y pynciau moesol yma yn San Steffan. Dim sôn o gwbl sut pleidleisiodd eich AS ar fater rhyfel Irac, dim sôn o gwbl sut y pleidleisiodd ar fater Ffioedd Dysgu Prifysgol nac ychwaith ar Breifateiddio rhannau o'r NHS. Os y cymerwn fod Iesu yn Benarglwydd ar bopeth y mae i'r materion yna gymaint o arwyddocâd moesol i'r Cristion ag ydyw pynciau megis Deddf Hapchwarae neu Erthylu.

Yn ail rhoes Steffan sylw i'r ffaith fod rhai Undebau Cristnogol yn mynd a'i Prifysgol neu eu Hundeb Myfyrwyr i'r Llys. Mae'r ddysgeidiaeth ar anghydfod yn dra ddiddorol yn y Bregeth ar y Mynydd, Mathew 5:25, sef ceisio'n frwd am gymod tu allan i lys. Rhaid i Gristnogion ddewis eu brwydrau'n ofalus.

Fe ddangosodd Steffan i ni pa mor gymhleth a dyrys yw'r mater yma ac fe ategaf hynny - cymhleth a dyrys tu hwnt yw'r busnes yma! Ond fel casglid carwn nodi dau beth. Yn gyntaf y pwysigrwydd, onid dyletswydd, i'r Cristion ymhél a Gwleidyddiaeth ar bob lefel nid dim ond pan fo'r senario yn codi lle bo rhaid dewis rhwng Iesu a Cesar. Rwy'n argyhoeddedig y byddai'r Undebau Cristnogol a'r byd Cristnogol Diwygiedig yn gyffredinol wedi eu harfogi'n well i ddelio a senario o'r fath petai yn ymhél a gwleidyddiaeth o ddydd i ddydd nid dim ond pan fo sathru ar fawd troed yn digwydd. Yn ail, neges i arweinwyr UCCF ac Undeb Cristnogol Exeter, gan eu bod nhw mor frwd i aros yn rhan o'r sefydliad gellid ond neidio i'r casgliad mai Anglicaniaid ydynt oll. Rheitiach o beth fyddai iddynt ddarllen Congregationalism in England gan Dr. Tudur er mwyn gweld fod yr eglwys ymneilltuol wedi goroesi, onid blodeuo a hynny heb unrhyw gysylltiad a'r sefydliad!

Darllen Pellach

  • R. Tudur Jones: 'The Chrisistian Doctrine of the State' yn 'Congregetional Quarterly', XXXI/4, 1953

  • R. Tudur Jones: 'Yr Ysbryd Glan' (Caernarfon: Llyfyrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1972) – pennod 42: 'Yr Ysbryd Glan a Diwylliant'

  • R.M. Jones: 'Mawl a Gelynion ei Elynion' (Abertawe: Cyhoeddiadau Barddas, 2002) - y bennod olaf: 'Hanfod Adnabod Bodolaeth yw Moli.'

  • Vincent E. Bacote: 'The Spirit in Public Theology – Appropriating the Legacy of Abraham Kuyper' (Grand Rapids Michigan: Baker Academic, 2005)

3 comments:

Ap Blog said...

"gan eu bod nhw mor frwd i aros yn rhan o'r sefydliad gellid ond neidio i'r casgliad mai Anglicaniaid ydynt oll."

Mae hyn yn ffals, Rhys.

Yn gyntaf, llac iawn yw ymrwymiad y Christian Institute ac UCCF i Anglicaniaeth . Y mae dweud fod rhywun yn Anglican oherwydd eu bod yn dal safiadau gweidyddol a chymdeithasol "ceidwadol" fatha dweud fod pob cenedlaetholwr o blaid trais.

Nid yw'r CI yn gynrychioledig o safiadau Anglicanaidd ar rywioldeb, erthylu, y wladwriaeth , Darwiniaeth, gwyddoniaeth na dim arall.

O'm mhrofiad i yn Aber (bron i ugain mlynedd yn ol, cofia), elfennau mwyaf ceidwadol y CU oedd y rhai oedd yn mynd i Albert Place (Bedyddwyr) a'r rhai oedd yn mynd i Sant Fihangel nid o'r herwydd mai hi oedd eglwys y plwyf, ond ei bod wedi cael gwared ar gymaint o elfennau "Anglicannaidd" ac y gallai wrth ddenu cyn lleied o lid a fo bosib o Dy Ddewi, fel y'i bod yn le lle gallai sbectrwm lydan o efengylwyr carismataidd (yn cynnwys pobl yn gysylltiedig a chriw Elim) addoli yno. Elfen leifafrifol o fewn Anglicaniaeth yw efengyliaeth. Elfen "ymneulltuol", rhyw biwritaniaeth (ol-)ol-fodern ydi hi.

Cofion

- Dyfrig "Dafydd Iwanynyglaw" Ap Blog

gethin said...

Eitha diddorol. O'r hyn dwi wedi'i weld ynglyn a'r CI, mae'r rhan fwyaf o'r achosion y maent yn ymwneud a nhw yn bennaf yn delio a rhyddid y Cristion i fod yn Gristion ac efengylu neu'n syml i fod yn agored am eu ffydd - mae na rai, siwr o fod, sydd ddim yn gysylltiedig a hwn mor glir ond mae'n debyg mai dyna'r prif resymeg tu ol eu dewis.

Hefyd, dwi ddim yn meddwl fod problemau yr undeb Gristnogol yn Exeter yn golgyu o reidrwydd mai Anglicaniaid ydyn nhw - a hyd yn oed petai nhw yn anglicaniaid - be ydi dy bwynt? Dwi ar ddeall mai'r brif broblem yn Exeter ydi i'r Undeb Myfyrwyr bleidleisio i newid enw a pholisiau yr Undeb Gristnogol heb unryw gynrychiolaeth o'r Undeb Gristnogol yn bresennol yn y cyfarfod. Felly dwi'n meddwl mai'r anhegwch yw'r brif mater. Diddorol, serch hynny.

Steffan said...

Cytuno a phwyslais dy neges Rhys. Mae gwerthoedd yr efengyl yn effeithio ar bob rhan o fywyd, fel rwyt yn nodi. Mae'n ddyletswydd ar yr eglwys i frwydro dros gyfiawnder yn gyffredinol, ac nid jyst y "moral issues" fel mae Wallis yn eu disgrifio nhw (rwy'n nodi hynny yn yr erthygl, tua'r diwedd). Ond mae'n bwysig cofio ein bod yn rhan o Gorff. Mae'n ddyletswydd ar bob unigolyn i gael consyrn dros gyfiawnder, ond amhosibl a ffol byddai disgwyl i un person neu fudiad i ddelio, ac i gario baich, dros bob mater. Dyna'r rhyfeddod cael bod yn rhan o gorff Crist, eglwys Crist. Fel corff gallwn gyd-weithio i gael dylanwad mewn pob math o feysydd. Bydd rhai'n cael baich PENODOL dros gyfiawnder economaidd, eraill dros gyfiawnder diwylliannol, ieithyddol, eraill dros ethics meddygol, eraill dros faterion ecolegeol, ayyb.

Ai dyna sydd gan CI mewn meddwl efallai? Efallai mod i'n rhy hael iddynt, ond a ydynt yn cydnabod eu limitations, ac felly'n canolbwyntio ar faterion penodol, yn lle delio a phob peth ar lefel arwynebol? Efallai eu bod yn hyderus fod pobl eraill yn dadlau dros y materion eangach. Cyn ein bod yn eu sgrifennu bant fel anfeiblaidd, pwy a wyr nad yw aelodau'r CI ar gyrff seciwlar sy'n delio a chyfiawnder economaidd, ecolegol, etc?? Ac o edrych ar yr erthyglau ac ati ar eu gwefan, gallech chi ddweud eu bod yn brwydro dros faterion ychydig yn eangach na'r "rhagfarnau cristnogion efengylaidd".

Yn bersonol, rwy'n cytuno a ti Rhys yn dy edmygaeth o bwyslais sfferau Kuyper. Yn bersonol, rwy'n meddwl y dylai Cristion fod mewn mudiadau seciwlar sy'n brwydro dros gyfiawnder (Greenpeace a Cymdeithas yr Iaith er enghraifft!) yn hytrach na mudiad fel Ekklesia (sy'n sicr o ethos mwy sefydliadol). (Rwy'n ansicr hefyd am agwedd Ekklesia at y teulu ac anfoesoldeb rhywiol). Gallech chi ddadlau fod mudiad fel CI yn eithriad am ei fod yn delio a materion sydd ar galon Cristnogion yn unig, ac felly bod lle iddo yn y byd gwleidyddol.

Ro'n i'n teimlo yn dy neges hefyd Rhys (cyweiria fi os wy'n anghywir) feirniadaeth o bobl nad ydynt yn rhan o'r byd gwleidyddol. Rwy'n cytuno y byddai'r UC mewn llawer gwell sefyllfa tase gwell berthynas a'r Undebau Myfyrwyr (a bod Cristnogion sydd a baich penodol yn rhan ohono). Mae'n bwysig sylweddoli though nad yw pawb yn mynd i fod yn y byd hwn, a dyw'r ffaith fod pobl ddim yn rhan o'r byd gwleidyddol cyhoeddus ddim yn golygu di-faterwch gwleidyddol. Pwy a wyr pa fath o achosion a gefnogir gan unigolion, neu pa fath o fudiadau seciwlar maent yn rhan ohonynt hyd yn oed, neu hyd yn oed yr effaith "gwleidyddol" mae Cristnogion ffyddlon unigol yn cael yn y byd gwaith, yn brwydro'n dawel fach dros gyfiawnder.

Ar bwynt hollol wahanol, o ran anglicaniaeth cudd UC Exeter, rwy'n credu ein bod yn colli'r pwynt yma - nid brwydro er mwyn aros yn rhan o'r sefydliad maent, ond yn hytrach, brwydro er mwyn diogelu rhyddid barn a thegwch cymdeithasol. Nid consyrn hunanol, mewnblyg yw hyn, ond consyrn eangach - ie, dros allu pregethu'r efengyl yn agored, ond hefyd, dros gyfiawnder cymdeithasol yn fwy cyffredinol. Mae darllen neu wrando ar sylwadau Richard Cunningham (cyfarwyddwr UCCF) yn dangos hynny'n glir iawn. Pa obaith sydd i gymdeithas - nid jyst i'r Cristnogion ynddi - os oes caethiwo rhyddid barn?