30.12.07

Adolygiad o lyfr Marc Driscoll 'Confessions of a Reformission Rev' [3/3]

Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll (Zondervan, £9.99)


Parhad o'r postiad blaenorol....

Beirniadaeth o rai agweddau o'r llyfr


I ddechrau rhaid nodi na fydd arddull Driscoll at ddant pawb, mae ei onestrwydd ar rai adegau yn rhy onest ac maen debyg y bydd llawer o bobl o fewn ei eglwys yn darllen amdanyn nhw eu hunain ac yn gwylltio gyda Driscoll am ddatgelu rhai hanesion rhy bersonol. Gellid dadlau hefyd fod Driscoll, am berson sy'n honni i roi'r pwysigrwydd mwyaf i waith Iawnol Crist ar y groes, yn rhyw ysgaf ei agwedd at waith Iesu, edrychwch ar y frawddeg fyrbwyll yma: 'We scraped together enough money to buy some big honking speakers, and I stole an unused sound console from my old church along with a projection screen, which were sins that Jesus thankfully died to forgive.' Yn bersonol mi oeddw ni'n meddwl fod brawddegau fel yna wedi cyfrannu'n fawr at apel a darllenadwyedd y llyfr ond fe fedrai werthfawrogi y gallai brawddegau byrbwyll fel yna galedu llawer o bobl yn erbyn rhai o'i syniadau mwy adeiladol a gwerthfawr.

I mi mae beirniadaeth Driscoll o Brian McLaren yn amlygu gwendid ynddo ef hefyd. Dyma yw beirniadaeth Driscoll o McLaren:

His [McLaren] pacifism seems to underline many of our theological dissagreements since he had a hard time accepting such things as the violance of penal substitutionary atonement... it is also Brian's pacifism that makes him such a warmly engaging person who is able to speak and write about theologically contreversial issues while being gracious... But I find it curious that, from my perspective, he is using his power as a writer and speaker to do violence to Scripture in the name of pacifism. tt. 99


O droi dadl Driscoll ar ei ben buaswn ni'n dadlau fod diffyg-heddychiaeth Driscoll yn boenus o amlwg trwy gydol y llyfr ac er ei fod yn gwneud gwaith Cristnogol arloesol rhaid cyfaddef fod ei agwedd ar adegau yn y llyfr yn fy nharo i fel Cristion o heddychwr yn dra an-rasol ac meiddia i ddweud ang-nghristnogol. Os ydw i fel Cristion yn dweud hynny yna maen debygol y byddai agwedd tubthumping Driscoll yn troi llawer o anghredinwyr yn ein Cymry rhyddfrydol-heddychol ni i ffwrdd. Ond wedi'r cyfan nid ceisio apelio at y Gymry Gymraeg heddychol ddosbarth canol y mae Driscoll – maen ceisio cyrraedd pobl gyffredin Seattle sydd a'i tadau a'i brodyr yn ymladd terfysgwyr yn Irac. Efallai na fyddai agwedd ryddfrydol-oleuedig-gelfyddydol McLaren yn mynd lawr mor dda gyda gwerin Seattle. Efallaiu fod y sylwad yna am werin Seattle braidd yn ddirymygus ond maen siwr eich bod chi'n deall beth ydw i'n ceisio ei ddweud.

Beirniadaeth arall sydd gennyf o'r llyfr yw ei fod yn saethu ei hun yn ei droed lawer tro. Wrth wneud pwynt dilys a fydd yn debygol o ennyn cydymdeimlad hyd yn oed rhyddfrydwyr diwinyddol maen ychwanegu sylwad ar y diwedd sy'n peri iddo golli pob cydymdeimlad. Er enghraifft maen ddi-gyfaddawd ei feirniadaeth ar wrwgydiaeth – o'i hanfod nid yw fy safbwynt i mor wahanol a hynny iddo ef (sef y safbwynt beiblaidd, mae pawb wedi pechu rhywsut felly carwch y pechadur ond nid y pechod) ond mae ef yn gwneud issue o'r peth heb bod angen. Ddim yn unman yn y llyfr maen beirniadau pobl sydd a phroblem gor-yfed ond dwi'n siwr fod mwy o bobl yn meddwi yn Seattle nag sydd yn cyflawni gweithredoedd gwrwgydiol felly pam targedu'r gwrwgydwyr yn benodol? Yn fy nhyb i mae Driscoll yn rhagfarnllyd wrth 'wneud enghraifft' o'r broblem honedig hon.

Yn yr un golwg dwi'n edrych ar farn Driscoll am rol merched o fewn yr Eglwys - wrth gwrs fod gwahanol rol gan wahanol bobl boed yn fechgyn neu ferched, hen neu ifanc. Ond beth bynnag fod rol gwahanol bobl mae Driscoll yn rhoi rol y fenyw yn is na rol y dyn ac mae hyn yn drienu. Mae rol i bawb chwarae ac mae pob rol yn gyfartal yn fy nhyb i. Tristwch pellach yw bod yr agwedd yma yng ngwaith Driscoll yn debyg o wneud i lawer o bobl, gan gynnwys fi i raddau, galedu yn erbyn Driscoll. Mae hyn yn drist oherwydd gallwn ddysgu llawer iawn oddi wrth Driscoll a'i eglwys ond maen debyg na chaiff y 99% da o'i waith wrandawiad teg oherwydd yr 1% arall rhagfarnllyd y bydd pobl yn penderfynu canolbwyntio arno.

Y feirniadaeth olaf yw diffyg dirnadaeth Driscoll o rol wleidyddol a chymdeithasol y cristion a'r Eglwys. Efallai fod fy meiriadaeth fan yma yn anheg a bod Driscoll wedi dewis peidio dod a hyn i mewn i'r llyfr ond roedd yn fy nharo i yn od fod Driscoll heb grybwyll unrhyw waith gwleidyddol neu chymdeithasol oedd yr eglwys yn rhan ohono. O gasglu o'i feirniadaeth o heddychiaeth McLaren dwi'n meddwl y medrw ni fod yn weddol saff fod dim llawer o radical gwleidyddol ym Driscoll. Yn fy nhyb i nid yw Driscoll wedi deall arwyddocad yr efengyl yn y sffêr wleidyddol – i raddau gellid deall a gwerthfawrogi sut y bo Driscoll ei hun fel arweinydd eglwys am ganolbwyntio ar ehangu'r eglwys yn esbrydol fel cenhadaeth ond roedd yn fy nharo i fel gwendid nad oedd son o gwbl fod adain o'r eglwys yn ddiwyd gyda chenhadaeth gymdeithasol i'r anghenus. Maen bosib bod yna ond gan nad oedd son yn y llyfr maen bur debygol fod unrhyw waith tebyg dim ond yn cael lle ymylol gan Driscoll sydd, yn fy nhyb i yn wendid mawr yn meddwl Driscoll ac unrhyw yn rhagor yn agwedd o'i feddwl na fyddai'n cael llawer o groeso yng Nghymru.

Casgliad



Darllenwch y llyfr drosoch chi eich un, maen afaelgar ac yn darllen fel nofel. Dwi'n amau a fydd unrhyw un yn cytuno gyda Driscoll ar bopeth, fel dwi wedi nodi mae yna lawer i bwynt lle dwi'n anghytuno ag ef ond ar y cyfan ni ellid ond edmygu gwr sydd wedi gwasanaethu ei arglwydd a dwyn miloedd i berthynas a Iesu. Tuedd llawer o eglwys mawr yw troi yn fewnblyg ond rhaid nodi nad yw eglwys Driscoll felly, er ei fod hi'n glap o eglwys maen rhoi llawer o sylwi godi a datblygu eglwysi newydd o fewn Seattle, dros yr UDA a bellach dros y byd i gyd – nid yw hi wedi mynd yn gyfforddus fel eglwys. Ond y wers fwyaf yn y llyfr yw pwysigrwydd cofio mae cenhadaeth fawr yw diben yr eglwys ac nid clwb caedig i'r cadwedig rai.

No comments: