Showing posts with label Adolygiad. Show all posts
Showing posts with label Adolygiad. Show all posts

30.12.07

Adolygiad o lyfr Marc Driscoll 'Confessions of a Reformission Rev' [3/3]

Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll (Zondervan, £9.99)


Parhad o'r postiad blaenorol....

Beirniadaeth o rai agweddau o'r llyfr


I ddechrau rhaid nodi na fydd arddull Driscoll at ddant pawb, mae ei onestrwydd ar rai adegau yn rhy onest ac maen debyg y bydd llawer o bobl o fewn ei eglwys yn darllen amdanyn nhw eu hunain ac yn gwylltio gyda Driscoll am ddatgelu rhai hanesion rhy bersonol. Gellid dadlau hefyd fod Driscoll, am berson sy'n honni i roi'r pwysigrwydd mwyaf i waith Iawnol Crist ar y groes, yn rhyw ysgaf ei agwedd at waith Iesu, edrychwch ar y frawddeg fyrbwyll yma: 'We scraped together enough money to buy some big honking speakers, and I stole an unused sound console from my old church along with a projection screen, which were sins that Jesus thankfully died to forgive.' Yn bersonol mi oeddw ni'n meddwl fod brawddegau fel yna wedi cyfrannu'n fawr at apel a darllenadwyedd y llyfr ond fe fedrai werthfawrogi y gallai brawddegau byrbwyll fel yna galedu llawer o bobl yn erbyn rhai o'i syniadau mwy adeiladol a gwerthfawr.

I mi mae beirniadaeth Driscoll o Brian McLaren yn amlygu gwendid ynddo ef hefyd. Dyma yw beirniadaeth Driscoll o McLaren:

His [McLaren] pacifism seems to underline many of our theological dissagreements since he had a hard time accepting such things as the violance of penal substitutionary atonement... it is also Brian's pacifism that makes him such a warmly engaging person who is able to speak and write about theologically contreversial issues while being gracious... But I find it curious that, from my perspective, he is using his power as a writer and speaker to do violence to Scripture in the name of pacifism. tt. 99


O droi dadl Driscoll ar ei ben buaswn ni'n dadlau fod diffyg-heddychiaeth Driscoll yn boenus o amlwg trwy gydol y llyfr ac er ei fod yn gwneud gwaith Cristnogol arloesol rhaid cyfaddef fod ei agwedd ar adegau yn y llyfr yn fy nharo i fel Cristion o heddychwr yn dra an-rasol ac meiddia i ddweud ang-nghristnogol. Os ydw i fel Cristion yn dweud hynny yna maen debygol y byddai agwedd tubthumping Driscoll yn troi llawer o anghredinwyr yn ein Cymry rhyddfrydol-heddychol ni i ffwrdd. Ond wedi'r cyfan nid ceisio apelio at y Gymry Gymraeg heddychol ddosbarth canol y mae Driscoll – maen ceisio cyrraedd pobl gyffredin Seattle sydd a'i tadau a'i brodyr yn ymladd terfysgwyr yn Irac. Efallai na fyddai agwedd ryddfrydol-oleuedig-gelfyddydol McLaren yn mynd lawr mor dda gyda gwerin Seattle. Efallaiu fod y sylwad yna am werin Seattle braidd yn ddirymygus ond maen siwr eich bod chi'n deall beth ydw i'n ceisio ei ddweud.

Beirniadaeth arall sydd gennyf o'r llyfr yw ei fod yn saethu ei hun yn ei droed lawer tro. Wrth wneud pwynt dilys a fydd yn debygol o ennyn cydymdeimlad hyd yn oed rhyddfrydwyr diwinyddol maen ychwanegu sylwad ar y diwedd sy'n peri iddo golli pob cydymdeimlad. Er enghraifft maen ddi-gyfaddawd ei feirniadaeth ar wrwgydiaeth – o'i hanfod nid yw fy safbwynt i mor wahanol a hynny iddo ef (sef y safbwynt beiblaidd, mae pawb wedi pechu rhywsut felly carwch y pechadur ond nid y pechod) ond mae ef yn gwneud issue o'r peth heb bod angen. Ddim yn unman yn y llyfr maen beirniadau pobl sydd a phroblem gor-yfed ond dwi'n siwr fod mwy o bobl yn meddwi yn Seattle nag sydd yn cyflawni gweithredoedd gwrwgydiol felly pam targedu'r gwrwgydwyr yn benodol? Yn fy nhyb i mae Driscoll yn rhagfarnllyd wrth 'wneud enghraifft' o'r broblem honedig hon.

Yn yr un golwg dwi'n edrych ar farn Driscoll am rol merched o fewn yr Eglwys - wrth gwrs fod gwahanol rol gan wahanol bobl boed yn fechgyn neu ferched, hen neu ifanc. Ond beth bynnag fod rol gwahanol bobl mae Driscoll yn rhoi rol y fenyw yn is na rol y dyn ac mae hyn yn drienu. Mae rol i bawb chwarae ac mae pob rol yn gyfartal yn fy nhyb i. Tristwch pellach yw bod yr agwedd yma yng ngwaith Driscoll yn debyg o wneud i lawer o bobl, gan gynnwys fi i raddau, galedu yn erbyn Driscoll. Mae hyn yn drist oherwydd gallwn ddysgu llawer iawn oddi wrth Driscoll a'i eglwys ond maen debyg na chaiff y 99% da o'i waith wrandawiad teg oherwydd yr 1% arall rhagfarnllyd y bydd pobl yn penderfynu canolbwyntio arno.

Y feirniadaeth olaf yw diffyg dirnadaeth Driscoll o rol wleidyddol a chymdeithasol y cristion a'r Eglwys. Efallai fod fy meiriadaeth fan yma yn anheg a bod Driscoll wedi dewis peidio dod a hyn i mewn i'r llyfr ond roedd yn fy nharo i yn od fod Driscoll heb grybwyll unrhyw waith gwleidyddol neu chymdeithasol oedd yr eglwys yn rhan ohono. O gasglu o'i feirniadaeth o heddychiaeth McLaren dwi'n meddwl y medrw ni fod yn weddol saff fod dim llawer o radical gwleidyddol ym Driscoll. Yn fy nhyb i nid yw Driscoll wedi deall arwyddocad yr efengyl yn y sffêr wleidyddol – i raddau gellid deall a gwerthfawrogi sut y bo Driscoll ei hun fel arweinydd eglwys am ganolbwyntio ar ehangu'r eglwys yn esbrydol fel cenhadaeth ond roedd yn fy nharo i fel gwendid nad oedd son o gwbl fod adain o'r eglwys yn ddiwyd gyda chenhadaeth gymdeithasol i'r anghenus. Maen bosib bod yna ond gan nad oedd son yn y llyfr maen bur debygol fod unrhyw waith tebyg dim ond yn cael lle ymylol gan Driscoll sydd, yn fy nhyb i yn wendid mawr yn meddwl Driscoll ac unrhyw yn rhagor yn agwedd o'i feddwl na fyddai'n cael llawer o groeso yng Nghymru.

Casgliad



Darllenwch y llyfr drosoch chi eich un, maen afaelgar ac yn darllen fel nofel. Dwi'n amau a fydd unrhyw un yn cytuno gyda Driscoll ar bopeth, fel dwi wedi nodi mae yna lawer i bwynt lle dwi'n anghytuno ag ef ond ar y cyfan ni ellid ond edmygu gwr sydd wedi gwasanaethu ei arglwydd a dwyn miloedd i berthynas a Iesu. Tuedd llawer o eglwys mawr yw troi yn fewnblyg ond rhaid nodi nad yw eglwys Driscoll felly, er ei fod hi'n glap o eglwys maen rhoi llawer o sylwi godi a datblygu eglwysi newydd o fewn Seattle, dros yr UDA a bellach dros y byd i gyd – nid yw hi wedi mynd yn gyfforddus fel eglwys. Ond y wers fwyaf yn y llyfr yw pwysigrwydd cofio mae cenhadaeth fawr yw diben yr eglwys ac nid clwb caedig i'r cadwedig rai.

Adolygiad o lyfr Marc Driscoll 'Confessions of a Reformission Rev' [2/3]

Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll (Zondervan, £9.99)


Parhad o'r postiad blaenorol...

Megathema'r llyfr yw fod yr eglwys i fodoli fel cenhadaeth ac nid fel clwb i'r cadwedig rai yn unig felly wrth wneud penderfyniadau ar sut y dylid cynnal gwasanaethau ac ati yn yr eglwys rhai rhoi yr ystyriaeth gyntaf i'r rhai di-gred a fydd yn troi mewn ac nid i'r teulu Cristnogol bach neis. Mae hon yn wers galed sydd yn rhaid i Eglwysi Cymru ei dysgu os am weld twf eto. Fel enghraifft o'r egwyddor hon ar waith mae Driscoll yn rhoi hanesyn am deulu o efengylwyr-brethren tra ceidwadol a ddechreuodd fynychu'r eglwys ac a ddywedodd y buasen nhw yn dod yn aelodau ar yr amod y cai eu plant nhw gannu handbells fel rhan o'r gwasanaeth a fyddai, a dweud y lleiaf, jest yn ymddangos yn wierd i'r punks a'r indies di-gred a fyddai'n troi mewn i'r gwasanaethau. Dyma oedd ymateb Driscoll wedi hanes y teulu yma:

It was at that time that I realized our church would never have a sign out front that said “Everyone welcome,” because i did not want everyone. Instead, I wanted people who would reach out to the lost young people in our area. So the Bretheren folks and their handbells left our church. tt. 63


Ar un llaw mae agwedd Driscoll yn reit, wel, cas tuag at y teulu dan sylw ac o fewn y sin Gristnogol Gymraeg nid oes yna ddigon o bobl yma i fedru taflu pobl od allan o'ch eglwys. Os taflu pawb od allan o'r eglwysi Cymraeg ni fyddai llawer o bobl ar ôl gyda ni! Ond mae sentiment Driscoll yn yr achos yma yn iach sef rhoi prif ystyriaeth i anghenion y di-gred ac nid i ofynion personol pobl a theuluoedd sydd eisoes wedi eu hachub.

Agwedd hynod ddiddorol o'r llyfr yw'r lle mae Driscoll yn ei roi i waith y diafol, mewn sawl lle yn y llyfr maen adrodd sut y bu Satan a'r waith y ceisio taro'r gwaith, yr eglwys a'i harweinwyr oddi ar y cledrau. Mae hyn wrth gwrs yn rhywbeth sy'n weddol estron i ni yng Nghymru efallai oherwydd fod dim byd o werth i Satan geisio ei ddinistrio yn ein eglwysi o bosib? Fe ddyfynnaf ychydig frawddegau am un o hanesion sobreiddiol Driscoll:

A few weeks before we launched our little church plant in the fall of 1996, I was perplexed by an older man who had become something of a mentor to me. He was pushing some theological ideas that i did not agree with... I was conflicted. On one hand, I really liked the idea of having a seasoned older pastor in the church... on the other hand, my very discerning wife had the same Ghost check in her gut as I did... [a] a clue came in thew form of a prophetic dream... while i was sleeping one night the Holey Spirit gave me a dream in which I was standing in the foyer of our rented church on the opening night of our church plant... the older man walked in.. he informed me that he wanted to pastor the church and that I should step aside and let him. God then spoke Actes 20:28-31 saying:

“Keep watch over yourselves and all the flock of which the Holy Spirit has made you overseers. Be shepherds of the church of God, which he bought with his own blood. I know that after I leave, savage wolves will come in among you and will not spare the flock. Even from your own number men will arise and distort the truth in order to draw away disciples after them. So be on your guard!”

...On the opening night of our church plant in October of 1996, the service was getting started when my wife realized that she had forgotted her Bible in the foyer. I jumped up to get it, and as I turned around, I found myself standing alone in the foyer, just as I had been in my dream. The older man then walked in teh door... and came toward me speaking every word he had in my dream. I was so stunned that I was momentarily speechless... I told him to leave our church and never come back.

A few months later, another older pastor contacted me and said that the man God warned me of had been kicked out of his denomination on suspicion of undermining young pastors and taking money from young churches. tt. 74-76


Mae'r hanesyn yna a sawl un arall yn y llyfr yn eich brawychu ond maen yn eich atgoffa o'r newydd fod pob Cristion a phob eglwys yn rhan o frwydr gosmig ysbrydol. O ran profiad personol dim ond dau enghraifft amlwg yr wyf fi wedi profi o ymosodiadau ar waith y deyrnas gan Satan, y ddau yn ymosodiadau ar ffrindiau i mi tra oedden nhw yng nghanol cenhadaeth gyffroes a ffrwythlon. Os ydy'r eglwys yng Nghymru yn debygol o adfywhau eto mae angen i ni fod yn barod am yr ymosodiadau gan Satan a'i angylion syrthiedig fydd yn ceisio tanseilio unrhyw adferiad.

Un o brif gryfderau Driscoll a'r hyn sydd wedi peri iddo bellhau ei hun o adain Emergent yr Emerging Movement ydy ei bwyslais ar dramgwydd yr efengyl ac awdurdod yr ysgrythur. Dyma maen nodi:

I am particularly concerned... with some growing trends among [the emerging church movement]: the rejection of Jesus' death on the cross as a penal substitute for our sins... the rejection of God's sovereignty over the knowledge of the future... This is ultimately all the result of a dimished respect for the perfection, authority, and clarity of Scripture... tt.22


Dyma wedd bwysig i'r llyfr a chenhadaeth Driscoll a'i eglwys yn gyffredinol sef bod estyn allan mewn dull cyfoes ac ol-fodernaidd ddim gyfystyr a chyfaddawdu ar graidd efengyl Crist. Yr un ffydd a roddwyd unwaith i'r saint ydy efengyl Crist ond maen rhaid i ni, fel gwnaeth Driscoll yn Seattle ei gyflwyno mewn cyfrwng newydd i bob cenhedlaeth. Hen efengyl mewn cyfrwng newydd.

Parhad yn y postiad nesaf....

Adolygiad o lyfr Marc Driscoll 'Confessions of a Reformission Rev' [1/3]


Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll (Zondervan, £9.99)

Mae'r adolygiad yma yn un hir a hynny mewn tri postiad gwahanol ac ar y dechrau hoffwn annog pob Cristion i ddarllen y blog ar ei hyd oherwydd fod cynnwys y llyfr yn ddifyr ac yn hynod berthnasol i chi. Maen flogiad hir oherwydd fod gymaint o gîg yn y llyfr i'w drafod. Ac yn olaf, mi wn fod y postiadau yn llawn typos ond maen hwyr nos Sadwrn a doedd dim amynedd genai ddarllen trwy'r cyfan eto cyn postio! (Sori Mam!)


Yn dilyn y gynhadledd am ddyfodol yr eglwysi ddechrau'r mis (blog am y digwyddiad yma) ym Mangor dwi wedi fy sbarduno i ddarllen ambell i lyfr gan aelodau mwyaf blaenllaw symudiad yr Emerging Church. Dyma adolygu'r llyfr cyntaf sef Confessions of a Reformission Rev: Hard Lessons From an Emerging Missional Church gan Mark Driscoll. Yn y llyfr hynod yma mae Driscoll yn gwneud sylwadau am gyflwr yr eglwys heddiw, sut mae sefydlu eglwysi a sut mae eu rhedeg a hynny wedi ei blethu gyda naratif am hanes ei eglwys ef, Mars Hill yn Seattle (maen werth i chi ymweld a'i gwefan), dros y deng mlynedd diwethaf. Teimlodd Driscoll alwad i sefydlu eglwys newydd yn ninas Seattle, y ddinas yn ystadegol oedd a'r nifer lleiaf o bobl yn mynychu eglwys. Ei fyrdwn o'r dechrau oedd cychwyn eglwys a fyddai'n estyn allan i'r genhedlaeth ôl-fodernaidd, eglwys wedi ei dargedu yn benodol at bobl oedd yn troi o gwmpas is-ddiwylliant poblogaidd y ddinas. Mewn ychydig dros ddeng mlynedd mae'r eglwys wedi tyfu i fod a dros 6,000 o aelodau yn cyfarfod ar bedwar campws gwahanol mewn unarddeg cyfarfod gwahanol ar y Sul a channoedd o gyfarfodydd llai yn ystod yr wythnos. Mewn gair, maen gweithio.

Ond cyn taro i fewn i naratif hanes ei eglwys mae Driscoll yn cyflwyno pedwar math gwahanol o Gristnogaeth sydd oll wedi ei gwneud i fyny o dri cynhwysiad. Y tri cynhwysiad ydy'r Efengyl, Yr Eglwys a Diwylliant a dyma sut mae'r esbonio adeiladwaith y pedwar math gwahanol o Gristnogaeth:

Efengyl + Diwylliant – Eglwys = Parachurch

Diwylliant + Eglwys – Efengyl = Rhyddfrydol

Eglwys + Efengyl – Diwylliant = Ffwndamentalaidd

Efengyl + Diwylliant + Eglwys = Reformission


Maen nodi y gallwn werthfawrogi cryfderau y gwendidau yn y tri traddodiad cyntaf hyd yn oed Rhyddfrydol OND dim ond y pedwerydd math, yn nhyb Driscoll sy'n ffyddlon i ddysgeidiaeth radical y Beibl – mae'r tri math cyntaf yn cyfaddawdu ar oleiaf un cynhwysyn.

Mae Driscoll yn anhygoel o onest yn ei lyfr, er enghraifft maen nodi manylion fel hanesion pan fo arwain yr eglwys wedi effeithio ar ei briodas (gyda llaw fe sylwodd ar y broblem mewn pryd i newid blaenoriaethau mewn pryd!). Mae hefyd yn cyfaddef fod rhai o'i syniadau ar adegau wedi bod yn dra fyrbwyll – mae'r gonestrwydd yma yn gwneud Driscoll yn gymeriad hoffus ac mae'r llyfr yn cydio oherwydd.

Parhad yn y postiad nesaf...