Showing posts with label Cerddoriaeth. Show all posts
Showing posts with label Cerddoriaeth. Show all posts

20.7.08

Endaf Emlyn

Maen rhaid i mi gyfaddef mod i wedi colli pob diddordeb yn y sin roc gymraeg ers blwyddyn a mwy. Ddim mod i wedi i wedi "bradychu" y sin ac wedi ymroi yn lle i ddilyn cerddoriaeth saesneg a mynychu gigs saesneg jest fod dim byd egsiting yn digwydd yn y sin gymraeg dyddiau yma. Dim gigs. Dim bandiau newydd ffresh. Dim hip-hop. Yr eithriad i'r ddeddf amwni yw Derwyddon Dr Gonzo, nhw ydy'r unig fand Cymraeg ar hyn o bryd dwi'n disgwyl mlaen i weld a dwi byth yn cael fy siomi. Mae dirfawr angen bandiau newydd ar y sin sy'n gwneud mwy na bod yn efelychwyr ail ddosbarth o'i harwyr cerddorol. Mae hefyd angen band hip-hop newydd llawn all ddod ag egsitment nol i'r sin fel y gwnaeth Lo-cut a Sleifar gyda Miwsig i'ch traed a miwsig i'ch meddwl ac Mc Mabon gyda Nia Non rhyw bum mlynedd yn ol nawr.

Ond er gwaethaf fy nadrithiad a'r sin Gymraeg fe es i draw i Sesiwn Fawr Dolgellau ddydd Sadwrn. Roedd hi'n fraint anghyffredin cael gweld a chlywed Endaf Emlyn yn perfformio Salem ar ei hyd yn fyw. Roedd y cyfan yn hudolus. Meddal a melys oedd ei lais cynnes cyfoethog - roedd yn ryfeddod. Salem oedd un o'r recordiau hynny y ces i fy magu arno - roedd yn ffefryn gan fy rhieni ac felly roedd ymlaen ar yr hen vinil yn aml pan oeddwn yn fach. Gan fod fy Nhad yn un o Feirionydd dwi'n ei gofio yn ymhelaethu ar hanesio y bobl ym mhob can - dwi ddim yn siwr hyd heddiw os oedd y storiau yn wir a'i peidio! A wyddwchi'r linell yn un o'r caneuon "a phan ddaw Pedr i agor ei lyfr...", roedd Dad wastad yn dweud wrtho ni mae son amdano fe oedd e - stori i'w goelio? Wn i ddim. Profiad bythgofiadwy oedd clywed Salem yn fyw.

Dim ond un band basw ni'n hoffi gweld yn Nolgellau flwyddyn nesa - Jess!

16.7.08

Hip-Hop yn Mars Hill

Maen ymddangos mae nid dim ond pregethu da mae Mars Hill yn Seattle yn deall ond mae ganddyn nhw sesiynnau mawl pen i gamp hefyd. Dyma fideo o'r band oedd yr arwain y mawl ddydd Sul diwethaf, pa mor cŵl yw hwn, mewn capel! Ffantastig!


'Send Me' - Live at MHC | Ballard from Mars Hill Church on Vimeo.

18.6.08

Ysblander Frenin Nef (cyflwyno emyn newydd)

Dyma un o fy hoff emynau cyfoes ar hyn o bryd Ysblander Frenin Nef (The Splendor of the King) gan Chris Tomlin. Recordiad o fand addoli Llanw ydyw - nid yw safon y sain yn y fideo yn dda o bell ffordd ond gobeithio y bydd yn rhoi rhyw syniad i chi o'r emyn.



YSBLANDER BRENIN NEF,
Mawredd sy’n Ei wedd,
Gadewch in lawenhau, dewch i lawenhau,
Mae’n gwisgo golau pur
Mae’n treiddio’r tywyll-dir
Sy’n crynu’n sŵn Ei lais, yn crynu’n sŵn Ei lais.

Mor fawr yw ein Duw,
cenwch fry
Mor fawr yw ein Duw,
fe welwn ni
Mor fawr, mor fawr yw ein Duw.

Fe saif o oes i oes;
Mewn grym teyrnasa’n ddoeth
O’r dechrau a hyd byth, dechrau a hyd byth
Yn Drindod, Ef yw’r Tad,
Y mab a’r Ysbryd Glân
Y llew a’r oen yn un, y llew a’r oen yn un.

Enw’r uchaf Un,
Haedda’n mawl i gyd
Fe ganwn ni
Mor fawr yw ein Duw

Chris Tomlin, Jesse Reeves & Ed Cash
cyf. Martyn Geraint ac Arfon Jones

17.4.08

'Fy Iesu, Ngwaredwr' ar American Idol?!

Wythnos yma maen debyg i'r rhaglen American Idol ddewis 'My Jesus, My Saviour' (Fy Iesu, Ngwaredwr), emyn poblogaidd gan Hillsong, i'w wyth olaf ei ganu ar y rhaglen! Mae'r fideo islaw. Dychmygwch pe tae'r ffasiwn beth yn digwydd ym Mhrydain? Pop Idle yn canu Blessed Be Your Name gan Matt Redman neu rhywbeth felna. Wrth gwrs yn yr UDA nid yw'r sub-culture Cristnogol mewn gwirionedd yn sub-culture fel ag y mae yn y wlad hon ond mae, yn hytrach, yn main stream a'r arwydd ddiweddaraf yn unig yw hon sef bod yna Gristnogion efengylaidd digon blaenllaw o fewn FOX i gael y ffasiwn emyn i'w chanu ar raglen fel American Idle! Beth nesaf? Cristnogion efengylaidd yn penderfynnu tynged brwydr Arlywyddol? ... o ie, wps, mae hyn eisioes yn diwgydd!

14.2.08

Caneuon MC Peryg - MP3's am ddim

Rhowch glec yma i islwytho ffeil zip yn cynnwys holl ganeuon MC Peryg fel MP3's.

Mwynhewch.

25.1.08

Blog Huw Thomas a GHR2


Dwi wedi dod ar draws blog newydd eto fyth gan un o fy ffrindiau. Huw Thomas yw'r enw - hen gyfaill da i mi o Benweddig - ef oedd ar y bas yn ein band anenwog hwnnw GHR2 pan yn yr ysgol. O gwglo fymryn canfuais fod ein hen wefan dal i fyny - clec fan yma i weld! [dwi wedi mynd dros y data limit yn edrych trwy'r hen luniau felly os nad yw e'n llwytho triwch eto wedyn - gol.] Fe aeth Huw bant i Rydychen i 'studio Cerddoriaeth, ac yna dwi'n meddwl fod hi'n saff i mi ddweud iddo ddod i lawn werthfawrogi ei Gymreictod ('gwell Cymro oddi cartre' ys dywed yr hen rigwm). Dychwelodd i Aberystwyth ac ymuno a fy hen adran i a gwneud gradd meistr mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a bellach mae yn o broses o symud i lawr i Gaerdydd er mwyn cychwyn ar ei swydd gyntaf gyda EADS - "y cwmni sy'n cynhyrchu Airbus"!

Yr hyn sydd i'w edmygu hyd yma am flog Huw yw ei fod yn gwbl ddwyieithog - mae hynny yn cymryd ymroddiad. Da iawn ef! Dyma'r linc:

Blog Huw Thomas

29.6.07

Pontrhydfendigaid a Kenavo yn ôl

Rhagofn i chi gam-ddeall, dwi rioed wedi meddwl fod neb wedi 'gweld eisiau' Kenavo ond er gwybodaeth mae Kenavo yn ôl. Mae gyda ni dri gig yn dod i fyny dros yr haf. Y cyntaf ddydd Sadwrn yma yn Gig Mawr Bont - fel dwi'n deall byddwn ni mlaen tua 5pm. Yr ail yw'r gig diddorol isod yn Aberystwyth - dwi'n disgwyl ymlaen i gael clywed Ashokan eto. Bydd gigio eto, yn enwedig gyda Mattoidz ac Ashokan yn nostalgia go-iawn! Os ydych chi'n chwilio am rywbeth i wneud penwythnos yma tarwch draw i Bonrhydfendigaid - hidden gem y galender gerddorol haf yma fe dybiaf. Radio Lux, Genod Droog, Cowbois Rhos Botwnnog, Jen Jeniro, Bryn Fôn, Tecwyn Ifan, Bob Delyn a’r Ebillion, Fflur Dafydd a’r Barf, Coda, Kenavo a mwy... Adroddiad llawn a lluniau ar y blog wythnos nesaf gobeithio.

Gwefan Mei Speis Kenavo

15.5.07

Sellaband


Dwi newydd ddod ar draws www.sellaband.com gwefan lle medrwch chi wrando ar demo's bandiau ac os ydych chi'n hoffi yr hyn dy chi'n clywed medrwch chi ddod yn 'gredadun' a chyfrannu $10 tuag at gronfa i'r band dan sylw fynd i fewn i stiwdio i recordio LP. Wedi i fand gael 5,000 o 'gredinwyr' maen nhw'n mynd i'r stiwdio ac yna yn dychwelyd i'r wefan i werthu y cynnyrch proffesiynol ac mae'r elw yn cael ei rannu rhwng y wefan, yr artist a'r 'credinwyr' hynny wnaeth fuddsoddi ynddyn nhw i ddechrau.

Mae'n syniad rhagorol yn fy nhyb i. Dwi'n ceisio dyfalu os ydy hi'n bosib setio rhywbeth tebyg fyny i fandiau Cymraeg. Dydy codi digon o arian i dalu band i recordio LP cyfan ddim yn realistig ond o bosib fod codi digon o arian i anfon band ifanc Cymraeg i stiwdio broffesiynol am ddiwrnod yn ddigon realistig. Rhyw 25 o 'gredinwyr' bydd eu hangen i anfon band ifanc Cymraeg i'r stiwdio am ddiwrnod. Gallaf i setio'r wefan fyny a'r talidau drwy Paypal ond yr hyn na fuasw ni'n medru rhoi yn ôl byddai dividends i'r 'credinwyr' – er basw ni'n gobeithio y byddai 'credinwyr' cerddoriaeth Gymraeg yn fodlon buddsoddi £10 heb ddisgwyl dim byd nol heblaw am glywed deunydd y band wedi iddynt recordio. Diddorol byddai clywed eich sylwadau?