Showing posts with label anglicaniaeth. Show all posts
Showing posts with label anglicaniaeth. Show all posts

3.8.08

Dilyn Iesu nid y traddodiadaeth: gwersi i Eglwys Loegr

Wedi dwy noson yng Nghaerdydd dwi wedi dianc yn ôl i'r Fro yn barod am seibiant (mi fydda i'n dychwelyd i'r steddfod fory cofiwch). Nol yn Llanddarog fe'm syfrdanwyd i weld fod Tom Livingston yn y Western Mail yn dyfynnu fy mlog, dyma maen dweud:

Not everyone is a fan of this mini-Glastonbury [maes b] exising in pararell to the main Eisteddfod, though. Las year Welsh blogger Rhys Llwyd complained of the Eisteddfod's “dark secret” - the huge amount of booze consumed on Maes B.
“After the carnage of Maes B my conscience told me I had to say something,” he wrote. “I'm not against drinking, just be sensible and do it in moderation.


Chwarae teg i Tom, maen fy nyfynnu yn ei gyd-destun yn gywir er fe ddylwn ychwanegu mod i yn ffan o wyliau cerddorol ac mae dim ond y diwylliant yfed yn dwll a chyffuriau sy'n cyd-fynd ag ef yr ydw i'n anghyfforddus ag ef.

Ond erthygl llawer mwy difyr yn y Western Mail ddoe oedd un yn sôn am y dadlau rhwng yr Anglicaniaid “ceidwadol” a “rhyddfrydol.” Pen-bandit y garfan geidwadol ydy Henry Orombi, Archesgob Uganda. Wrth wylio rhaglen ddogfen am yr ymryson bythefnos yn ôl fe sylwais am y tro cyntaf difrifoldeb y rhwyg yn yr eglwys Anglicanaidd. Arwynebol yn unig yw'r ddau issue o ordeinio menywod ac ordeinio pobl sy'n ymarfer rhyw gwrywgydiol oblegid y broblem waelodol sydd tu ôl y dadlau diweddar yw democratiaeth, hynny yw diffyg, o fewn yr Eglwys Anglicanaidd. Eglwys Loegr yw pen-eglwys y gymuned Anglicanaidd ac felly Archesgob Caergaint, Rowan Williams, yw arweinydd de facto y gymuned Anglicanaidd yn rhyngwladol. Yn hanesyddol gellid deall pam – honno oedd y fam eglwys a honno anfonodd genhadon i sefydlu esgobaethau Anglicanaidd dros y byd, yn arbennig yn Affrica. Ond bellach mae Eglwys Loegr ar drai difrifol tra bod yr Eglwys Anglicanaidd yn Affrica yn gweld diwygiadau nerthol gyda miloedd ar filoedd yn dod i gredu ac eglwysi newydd yn agor ym mhob tref. Er enghraifft mae 25% o Anglicaniaid y byd yn byw yn Nigeria yn unig! Gan mai pobl yw eglwys ac nid adeiladau na sefydliadau fe ddylai canolbwynt a phencadlys yr Anglicaniaid bellach fod yn Affrica ac nid yn Lloegr a Chaergaint. Fodd bynnag gan fod yr Eglwys Anglicanaidd yn eglwys an-nemocrataidd mae'r Eglwys yn Lloegr yn gwrthod ildio a symud pen yr Eglwys at drwch ei haelodau yn Affrica.

Yn y Western Mail mae Henry Ormbi, Archesgob Uganda, yn cyfeirio at y diffyg democratiaeth yma o fewn yr Eglwys Anglicanaidd yn “a remnant of British colonialism.” Mae'r Archesgob Ormbi wrth gwrs yn llygad ei le – mae'r “hawl ddwyfol” yma mae Eglwys Loegr ac Archesgobaeth Caergaint yn hawlio dros holl Anglicaniaid y byd yn sylfaenol ang-Nghristnogol. Fe â Ormbi ymlaen i ddweud: “Even the Pope is elected by his peers. But what the Anglicans have is a man appointed by a secular government.”

Nid yw Henry Ormbi a'i gyd Anglicaniaid “ceidwadol” heb ei bai chwaith – er enghraifft maen nhw'n cefnogi “state-sponsored persecution of lesbians and gay men.” Dwi ddim yn meddwl fod lle i ddefnyddio deddfau gwlad i orfodi gwerthoedd Cristnogol ar bobl – mae hynny hefyd yn anghristnogol oherwydd mae Iesu sy'n newid calonnau pobl ac nid deddfau gwlad.

Rwy'n eithriadol o falch o'n traddodiad annibynnol anghydffurfiol ni yng Nghymru ac mae'r holl hw ha yma yn profi o'r newydd nad ydy model hierarchaidd yr eglwys Anglicanaidd yn abl i genhadu i'n cymdeithas ni heddiw. Mae'r ceidwadwyr oddi mewn iddi, lle mae fy nghydymdeimlad i yn syrthio, ddim wedi deall yr angen i ddangos cariad a gras tuag at bobl sy'n sylfaenol anghywir ac mae'r rhyddfrydwyr yn eu hymgais i ddenu a charu wedi cyfaddawdu ar y gwirionedd.

Mae angen synthesis newydd. Mae angen bod yn driw i wirionedd a chariad Crist.

6.7.08

Yr Anglicaniaid ac ordeinio Merchaid yn Esgobion: Duw sydd ar gair olaf.

Maen ddiwrnod mawr i'r Eglwys Anglicanaidd fory gan fod y Synod yn Efrog yn pleidleisio ar y mater o dderbyn merched fel Esgobion. Ni welaf i urnhyw broblem gyda chael Merched ochr yn ochr a dynion yn arwain yr Eglwys - mae'r ddau ryw yn hafael ac mae angen y ddau ryw. Maen gywir i nodi fod gwahanol bobl yn cael eu galw i wahanol rôls o fewn yr Eglwys ond dwi ddim yn meddwl fod hynny o'r rheidrwydd yn golygu fod y split yn digwydd ar linellau rhyw oherwydd fe geir dynion llipa a fyddai'n gwneud arweinyddion ofnadwy ond efallai yn gaffeiliadau yn gwneud tasgau eraill tra ar y llaw arall mae yna ferchaid sy'n arweinwyr naturiol ac yn haeddu'r hawl i ymarfer y rôl yna o fewn yr Eglwys a hynny er lles gwaith y Deyrnas.

Rwyf wedi bod yn meddwl yn ddwys am hyn yn ddiweddar ac er mod i'n deall fod yna beth dadl yn y Beibl na ddylai Merchaid arwain mewn rhai sefyllfaoedd, rwy'n credu mae cyfeirio at rai sefyllfaoedd yn unig y mae hynny. Ar y cyfan mae hanes yr Eglwys fore yn dangos fod merched wedi chwarae rôl bwysig yn arwain dan eneiniad yr Ysbryd Glan. Dyma rai enghreifftiau:

Phoebe yn Rhufeiniaid 16:1-2
"Dim ond pethau da sydd gen i i’w dweud am Phoebe, ein chwaer sy'n gwasanaethu yn eglwys Cenchrea. 2 Rhowch groeso brwd iddi – y math o groeso mae unrhyw un sy’n credu yn yr Arglwydd yn ei haeddu. Rhowch iddi pa help bynnag sydd arni ei angen. Mae hi wedi bod yn gefn i lawer iawn o bobl, gan gynnwys fi."

Prisca ynghŷd a Acwila yn Rhufeiniaid 16:3-5, 19
"Cofiwch fi at Prisca ac Acwila, sy'n gweithio gyda mi dros y Meseia Iesu. Dau wnaeth fentro eu bywydau er fy mwyn i. A dim fi ydy'r unig un sy'n ddiolchgar iddyn nhw, ond holl eglwysi'r cenhedloedd hefyd! 
5 Cofion hefyd at yr eglwys sy'n cyfarfod yn eu tŷ nhw... Ond mae pawb yn gwybod eich bod chi’n ufudd i’r Arglwydd, a dw i’n hapus iawn am hyn. Dw i am i chi fod yn ddoeth wrth wneud daioni ac yn ddieuog o wneud unrhyw ddrwg."

Jwnia yn Rhufeiniaid 16:7
"Hefyd at Andronicus a Jwnia, cyd-Iddewon fuodd yn y carchar gyda mi. Mae nhw'n adnabyddus fel cynrychiolwyr i'r Arglwydd – roedden nhw’n credu yn y Meseia o'm blaen i."

Nymffa yn Colosiaid 3:15
"Cofiwch fi at y brodyr a'r chwiorydd yn Laodicea, a hefyd at Nymffa a'r eglwys sy'n cyfarfod yn ei thŷ hi. "

Euodia a Syntyche yn Philipiaid 4:2-3
"Dw i'n apelio ar Euodia a Syntyche i ddod ymlaen â’i gilydd am eu bod yn perthyn i’r Arglwydd. A dw i'n gofyn i ti, fy mhartner ffyddlon i, eu helpu nhw. Mae’r ddwy yn wragedd sydd wedi brwydro gyda mi o blaid y newyddion da, gyda Clement a phob un arall o’m cydweithwyr. Mae eu henwau i gyd yn Llyfr y Bywyd."

Merched Philip yn Actau 21:8-9
"A’r diwrnod wedyn dyma ni’n mynd ymlaen i Cesarea, ac aros yng nghartre Philip yr efengylydd (un o’r saith gafodd eu dewis gan eglwys Jerwsalem i fod yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd i’r gweddwon). Roedd gan Philip bedair o ferched di-briod oedd yn proffwydo."

Ac yn olaf y cryfaf sef y dweud amlwg fod angen i Ferched sefyll ochr yn ochr a bechgyn wrth arwain yr Eglwys yn y dyddiau olaf, ac maen debyg ein bod ni YN byw yn y dyddiau olaf yn awr:

Merched a dynion yn proffwydo yn Actau 2:17-18
"'Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf
 Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd. 
Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, 
bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau, 
a dynion hŷn yn cael breuddwydion. 
Bryd hynny bydda i'n 
tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd, 
yn ddynion a merched, 
a byddan nhw’n proffwydo."

I ddyfynnu cyfaill tra ffwdamentalaidd ei ddiwinyddiaeth ar un wedd sydd wedi profi drosto ef ei hun fod Duw yn defnyddio merched i arwain yr Eglwys: "I have seen women of God who have prayed for demon-possessed individuals to be delivered. Healing has taken place in the lives of individuals through women ministry. If God does not approve their ministry, I don't think He would even give them the grace to function effectively." A dyna fy nghyfaill wedi taro'r hoelen ar ei phen - Duw ac nid sefydliadau crefyddol dynol sy'n dewis defnyddio neu beidio defnyddio merchaid ac mae Duw yn sicr yn ac am ddefnyddio merchaid - ni all wneud hebddyn nhw. Dwi ddim yn siwr beth fyddai gan Dr. Tudur i ddweud am hyn ond o ddyfynnu un o'i atebion aml i gwestiynnau dwys: "Duw sydd a'r gair olaf."