26.3.05

Aeth i’r lladdfa yn ein lle!

Haleliwia, Haleliwia
Aeth i’r lladdfa yn ein lle!


Mae’n ddydd Gwener y Groglith, diwrnod pwysicaf y flwyddyn, pwysicach na diwrnod Nadolig hyd yn oed! Ar y diwrnod yma bu farw Iesu yn ein lle ni – dyna oedd newyddion da.

Es i’r Capel bore ma, Roger Thomas wedi pregethu, yna roedd gorymdaith trwy’r dref gyda phobl yn cario croes yn y tu blaen – gobeithio y gwnaeth hyn wneud i bobl oedd yn pasio hebio ofyn iddyn nhw eu hunain “Pam dy ni’n cael dwrnod off gwaith heddi te?”.

Mae’n braf cael amser gwyliau yma i ddarllen a ysgrifennu beth sydd ar fy nghalon yn hytrach na darllen beth sydd rhaid i mi ar gyfer fy nghyrsiau coleg! Heddiw dwi wedi dechrau erthygl am Tadcu ar Wikipedia – cliciwch YMA i’w ddarllen.

2 comments:

Nic said...

Erthygl Saesneg? Rhag dy gywilydd! Beth sy'n bod ar y Wici Cymraeg? ;-)

Rhys Llwyd said...

Dwi'n gwbod a gwrychaf. Dwi heb fentro i fyd y Wici Cymraeg eto - rhywbeth i wneud y gwylia yma mae'n debyg. Dwi di sgwennu lot i'r un Saesneg CYN dod i wybod am yr un Cymraeg, bydd rhaid i mi wneud llawer o gyfeithu nawr i ddal fynny! - Rhys