1.9.08

BLOG WEDI SYMUD!

MAE BLOG RHYS LLWYD WEDI SYMUD ODDI YMA I:

http://blog.rhysllwyd.com

BYDD YN FWY, YN WELL AC YN WAETH NA'R HEN FLOG!



WELA I CHI YNA!

30.8.08

Pro-Life a Pro-Guns? Sarah Palin a'r 'moral votes'

Rai blynyddoedd yn ôl bellach, efallai mae nol adeg y frwydr Arlywyddol diwethaf oedd hi, fe gyflwynodd Arfon Jones fi i feddwl a gwaith Jim Wallis. Ar y pryd fe gyhoeddodd Wallis ei lyfr enwoca hyd yma sef 'God Politics: Why the right gets it wrong and the left don't get it', fe brynes i y llyfr a'i darllen ag awch. Roedd hi'n anochel y bydde ni'n troi at syniadaeth Jim Wallis yn fuan yn hytrach na'n hwyrach a hithau eto fyth yn dymor brwydr arlywyddol! Rwy'n gobeithio ac yn gweddïo mae'r Democratiaid a Barak Obama fydd yn fuddugol; nid yw'r Democratiaid heb eu beiai ac nid yw Obama ei hun yn ddifrycheulyd chwaith ond o bwyso a mesur rhyw fymryn does dim dwywaith fod polisïau y Democratiaid yn eistedd llawer esmwythach ar fy nghydwybod Cristnogol i na rhai McCain a'r Gweriniaethwyr.

Yr hyn wnaeth fy nghyflyru i sgwennu y blog cyntaf yma (o lawer maen debyg dros yr hydref) am y frwydr arlywyddol oedd penderfyniad McCain i benodi Sarah Palin fel ei bartner yn y frwydr. Ar un llaw maen beth da fod merch yn rhedeg ar y lefel uchaf wedi methiant Hillery i arwain y Democratiaid a chamgymeriad Obama wedyn (yn fy nhyb i) i beidio ei dewis hi fel partner. Ond ar y naill law maen drist fod McCain wedi dewis text book Cristion Efengylaidd Adain-Dde fel ei bartner i chwipio fyny'r hen ddadleuon 'moral votes' unwaith eto yn y frwydr arlywyddol yma. Dyma rai o nodweddion Palin sy'n siwr o bleisio'r 'moral voters':

1. Mab hynaf ar fin mynd i ymladd yn Afghanistan
2. Pro-Life
3. Pro-Guns


Dadl Jim Wallis yn ei lyfr dylanwadol 'God Politics' yw mae heresi yw i'r dde-efengylaidd yn America bennu beth sy'n fater 'moesol' a beth sydd ddim. I'r dde-efengylaidd nid yw eu 'moral values' nhw yn mynd tu hwnt y ddadl am (i.) erthyliad, (ii.) cred mewn rhyfel cyfiawn, (iii.) cred yn yr hawl i amddiffyn eich hun trwy drais (h.y. eu ymgyrchoedd pro-guns) a (iv.) materion yn ymwneud a rhywioldeb. Mae pleidlais y dde-efengylaidd yn hollol gul ei feddwl a dim ond yn edrych ar y pedwar pwnc dwi wedi nodi uchod, nhw yw'r 'moral issues' a dim byd arall. Dim sôn am dlodi. Dim sôn am wasanaeth iechyd. Dim sôn am yr amgylchedd. Dim sôn am gymorth i deuluoedd tlawd.

Wrth gwrs fe fydd unrhyw un sydd wedi darllen ei Feibl drosto ef ei hun yn gwybod fod mwy gan y Beibl i ddweud am dlodi a chyfiawnder na bron a bod dim byd arall ond rhywsut mae'r bleidlais dde-efengylaidd yn anwybyddu hynny yn llwyr. Os ydy McCain a Palin yn pro-life a pro-guns mae'r dde-efengylaidd yn fodlon anwybyddu'r ffaith fod polisiau economaidd a chymdeithasol y Gweriniaethwyr yn sylfaenol ang-Nghristnogol. Gwell yw pleidleisio dros Weriniaethwyr sy'n derbyn llwgr wobr gan y cwmnïau olew ac yn rhedeg contracts gwerth miliynau yn Affrica a'r Dwyrain Canol i'w melin eu hunain OND sy'n erbyn erthyliad na phleidleisio dros y Democratiaid sydd a rhaglen flaenllaw i ddod a gwasanaeth iechyd at gyrraedd pawb beth bynnag foi cefndir beth bynnag fo'i cyfoeth ac sy'n benderfynol o ail-edrych ar bolisi tramor dinistriol yr UDA.

Rwy'n cytuno fod gan y Cristion ddyletswydd i bwyso a mesur pa ymgeisydd sy'n cynrychioli cyfiawnder Iesu orau ond maen rhaid i'r dde-efengylaidd sylwi fod cyfiawnder Iesu yn siarad a chymdeithas a chyd-ddyn nid jest gyda'r preifat.

Fel dywedodd Jim Wallis yn ei lyfr: “Faith is always personnal but never private.”

Pregeth dda ar Nehemeia 2

Dwi newydd wylio'r fideo isod sef sgwrs gan Mark Driscoll ar Nehemeia 1:11b-2:8 lle mae Driscoll yn esbonio sut roedd Nehemeia ar un llaw yn uchelgeisiol ac ar y llaw arall yn llwyr ddibynnol ar Dduw a gweddi. Byrdwn ei neges yw fod dim byd o'i le gyda bod yn uchelgeisiol a dibynnu fod yr uchelgais yna yn un bydd yn gogoneddu Duw.

29.8.08

Fy llyfr dyfyniadau

Dwi'n hoff iawn o gadw llyfrau nodiadau bach, mewn ffordd llyfr bach nodiadau electronig ydy blogs. Tra ro ni'n Rhydychen rhai diwrnodau yn ol wnes i brynnu llyfr nodiadau bach newydd, dydy fy un cyfredol i ddim yn llawn ond ro ni'n ysu i gychwyn defnyddio'r un newydd felly dwi wedi penderfynnu defnyddio'r un newydd yn arbennig ar gyfer nodi dyfyniadau da a defnyddiol alla i ddefnyddio mewn pregethe, sgyrsiau ac erthygle. Ymysg y rhai cyntaf sydd wedi mynd mewn i'r llyfr wythnos yma mae:

"I found that I was just as likely to meet God in the sewers of the ghetto as in the halls of academia. I learned more about God from the tears of homeless mothers than any Systematic Theology ever taught me." (Shane Claiborne)

"Frank: I'm seeing this new Girl.
Andy: What are you doing messing with all these girls?
Frank: But this one is sooo hott
Andy: Frank mate, hell's hot too" (Andy Ollerton)

Mae Cynan yn meddwl fod fy hoffter o gadw llyfrau bach yn pretentious, falle ei fod e, ond fydde chi'n ffol i beidio cadw copi dros gefn o waith ar y cyfrifiadur ac yn yr un modd mi fydde ni'n hurt i beidio cadw copi wrth gefn o'm meddyliau am hoff ddyfyniadau mewn llyfrau bach!

Stori Chris Jones (Rhan 3/3)

Yn y fideo yma, yr olaf mewn cyfres o dri, mae Chris Jones y cyn chwaraewr rygbi a chyn hyfforddwr Treorci a Phontypridd gafodd ei wahardd o'r gem am byth... ddwywaith (!) yn adrodd ei hanes o fod yn chwaraewr mwyf treisgar y gem dros y byd, i gell heddlu yn Aberhonddu i droed croes Iesu Grist. Dyma dystiolaeth dyn sy'n dangos fod Crist a Christnogaeth i ddynion cadarn cryf ac nid dim ond i wimps sy'n gwisgo sandalau ac yn sipian te decaf!



Y Gyfres Gyfan:

Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

www.souledoutcymru.net

28.8.08

Stori Chris Jones (Rhan 2/3)

Yn y fideo yma, yr ail o dri, mae Chris Jones y cyn chwaraewr rygbi a chyn hyfforddwr Treorci a Phontypridd gafodd ei wahardd o'r gem am byth... ddwywaith (!) yn adrodd ei hanes o fod yn chwaraewr mwyf treisgar y gem dros y byd, i gell heddlu yn Aberhonddu i droed croes Iesu Grist. Dyma dystiolaeth dyn sy'n dangos fod Crist a Christnogaeth i ddynion cadarn cryf ac nid dim ond i wimps sy'n gwisgo sandalau ac yn sipian te decaf!



Bydd rhan nesaf y stori ar y blog fory.

27.8.08

Stori Chris Jones (Rhan 1/3)

Yn y fideo yma, y cyntaf o dri, mae Chris Jones y cyn chwaraewr rygbi a chyn hyfforddwr Treorci a Phontypridd gafodd ei wahardd o'r gem am byth... ddwywaith (!) yn adrodd ei hanes o fod yn chwaraewr mwyf treisgar y gem dros y byd, i gell heddlu yn Aberhonddu i droed croes Iesu Grist. Dyma dystiolaeth dyn sy'n dangos fod Crist a Christnogaeth i ddynion cadarn cryf ac nid dim ond i wimps sy'n gwisgo sandalau ac yn sipian te decaf!



Bydd rhan nesaf y stori ar y blog fory.

26.8.08

Garin Jenkins yn Souled Out (rhan 4/4)

Y rhan olaf o bedwar o gyfweliad a ffilmwyd yn nigwyddiad Souled Out yn y Bala nos Sul diwethaf lle mae'r cyn-chwaraewr Rygbi rhyngwladol Garin Jenkins yn trafod ei fywyd a'i ffydd ar, ac oddi ar y cae.



Y Gyfres Gyfan:

Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4

www.souledoutcymru.net

25.8.08

Garin Jenkins yn Souled Out (rhan 3/4)

Trydydd rhan o bedwar o gyfweliad a ffilmwyd yn nigwyddiad Souled Out yn y Bala nos Sul diwethaf lle mae'r cyn-chwaraewr Rygbi rhyngwladol Garin Jenkins yn trafod ei fywyd a'i ffydd ar, ac oddi ar y cae.

t>