Showing posts with label Technoleg. Show all posts
Showing posts with label Technoleg. Show all posts

1.9.08

BLOG WEDI SYMUD!

MAE BLOG RHYS LLWYD WEDI SYMUD ODDI YMA I:

http://blog.rhysllwyd.com

BYDD YN FWY, YN WELL AC YN WAETH NA'R HEN FLOG!



WELA I CHI YNA!

29.8.08

Fy llyfr dyfyniadau

Dwi'n hoff iawn o gadw llyfrau nodiadau bach, mewn ffordd llyfr bach nodiadau electronig ydy blogs. Tra ro ni'n Rhydychen rhai diwrnodau yn ol wnes i brynnu llyfr nodiadau bach newydd, dydy fy un cyfredol i ddim yn llawn ond ro ni'n ysu i gychwyn defnyddio'r un newydd felly dwi wedi penderfynnu defnyddio'r un newydd yn arbennig ar gyfer nodi dyfyniadau da a defnyddiol alla i ddefnyddio mewn pregethe, sgyrsiau ac erthygle. Ymysg y rhai cyntaf sydd wedi mynd mewn i'r llyfr wythnos yma mae:

"I found that I was just as likely to meet God in the sewers of the ghetto as in the halls of academia. I learned more about God from the tears of homeless mothers than any Systematic Theology ever taught me." (Shane Claiborne)

"Frank: I'm seeing this new Girl.
Andy: What are you doing messing with all these girls?
Frank: But this one is sooo hott
Andy: Frank mate, hell's hot too" (Andy Ollerton)

Mae Cynan yn meddwl fod fy hoffter o gadw llyfrau bach yn pretentious, falle ei fod e, ond fydde chi'n ffol i beidio cadw copi dros gefn o waith ar y cyfrifiadur ac yn yr un modd mi fydde ni'n hurt i beidio cadw copi wrth gefn o'm meddyliau am hoff ddyfyniadau mewn llyfrau bach!

25.7.08

Dylunio fy nghlawr llyfr cyntaf!

Dwi newydd anfon fy nghlawr llyfr cyntaf bant i'r wasg. Clawr ar gyfer cyfieithiad Saesneg o lyfr Cymraeg Huw John Huws ydy e: 'Amazing Lives' sef cyfieithiad o 'Am bobl' - llyfr yn rhoi hanes bras 100 o Gristnogion enwog. Dwi ddim wedi dylunio clawr cymhleth a sgleiniog, dim ond un syml ond un sydd dal am ddenu'r llygad... gobeithio.






Dylunio Rhys Llwyd - proffesiynnol a fforddiadwy

24.7.08

Signal ffôn yng Nghymru yn styc yn yr Ugeinfed Ganrif

Dwi wedi cael iPhone ers wythnos nawr, dwi ddim wedi sgwennu adolygiad ar y blog 'to oherwydd fyddai ddim yn ei ddefnyddio fel ffôn tan ar ôl steddfod gan fod chydig o wythnosau gyda fi redeg allan ar fy hen gontract gyntaf. Ond un peth sydd wedi fy nharu yn barod ydy'r diffyg rhwydwaith ffôn symudol 3G yng Nghymru. Fe gew chi signal da ar hyd coridor yr M4, signal yng Nghanol tre Bangor a chanol tre Aberystwyth ac hefyd ardal eang ym Meirionydd ac Eifionydd rhwng Penrhyndeudraeth draw i Grigieith am ryw reswm! Ond heblaw am hynny chew chi ddim lwc o gwbl. Edrychwch ar y map isod sy'n dangos y rhwydwaith 3G yng Nghymru:



Yna cymharwch y rhwydwaith yn Lloegr i gymharu a'r rhwydwaith dros Gymru yn yr ail fap isod:



Dwi'n ffodus mod i'n treulio y rhan fwyaf o fy amser ym Mangor ac Aber lle mae yna signal gweddol (er, adre yn nhy fy rhieni does dim rhwydwaith 2G heb sôn am 3G felly dwi ar GPRS fan yma); ond mae'r diffyg rhwydwaith 3G yng Nghymru yn codi cwestiynnau dwfn i rheoleiddwyr y sector. Er enghriafft, ydy hi'n deg fod defnyddiwr iPhone O2 yng nghanol Llundain (neu Gaerdydd o ran hynny) yn cael mwynhau rhyngrwyd cyflymder band llydan ar ei iPhone tra bod Jo Bloggs draw yng Nghrymych yn talu yr union run swm y mis ac yn stryglo i lwytho tudalennau syml ar rwydwaith araf GPRS?

Dwi'n meddwl mod i'n iawn i ddweud fod rhai ardaloedd o Gymru yn parhau heb fand llydan! Gobeithio na fydd hi'n cymryd mor hir ag y gymerodd hi i ledaenu band llydan dros Gymru i ledaenu'r rhwydwaith ffôn 3G.

22.7.08

Flyer cyntaf Llanw 2009

Dwi wedi bod yn dylunio'r flyer cyntaf i ŵyl Llanw 2009 p'nawma:



Yn chwilio am ddylunydd? Dylunio Rhys Llwyd

8.7.08

Dylunio crys-t Y Gorlan 2008

Dwi wedi bod yn gwneud lot o waith dylunio dros y penwythnos, ddoe a bore ma; y rhan fwyaf mewn paratoad i waith llawer o fudiadau i'r Eisteddfod yng Nghaerdydd. Bore ma dwi wedi bod yn dylunio Crys-T i'r Gorlan, mi fydd mynnychwyr ffyddlon y Gorlan wedi hen arfer gyda'r crys-t thematic blynyddol y mae'r staff yn gwisgo. Thema'r Gorlan eleni ydy Datguddiad 21 a'r syniad am nef a dear newydd sy'n rhydd o unrhyw ofid a phoen. Dyma'r dyluniad/drafft cynta o'r crys-t wnes i weithio arno bore ma:



Gwefan y Gorlan

Gwefan fy ngwaith dylunio

30.6.08

Photoshop Disasters

Fe glywesi am y blog difyr yma rhai dyddiau yn ôl, Photoshop Disasters, dyma oedd rhai o fy ffefrynau i:

Mawredd mawr eisteddwch i lawr mae rhywun wedi dwyn fy nhrwyn llaw:



Gyrru ar hyd y gwair i'r garêj?:



Defnydd o'r teclyn clonio yn logo eiconig isod:

27.6.08

Ali G yng Nghymru

Dwi ddim yn cofio os ydw i wedi cyfeirio at y fideo yma o'r blaen ond maen un o fy ffefrynau. Ali G yng Nghymru, mwynhewch:

20.6.08

Twitter, Twhirl ac Adobe Air

Dwi wedi bod yn defnyddio Twitter ers llai nag wythnos nawr ond mae'n cydio'n barod. Eisioes dwi wedi bod yn defnyddio gwefannau sy'n updêtio eich statws Twitter a Facebook run pryd. Yn gyntaf fe fuesi yn arbrofi gyda www.hellotxt.com ond bellach dwi wedi setlo i ddefnyddio www.ping.fm . Mae ping.fm dal yng nghyfnod beta (hy profi) ond os hoffech ei arbrofi a'i ddefnyddio yng nghyfnod beta defnyddiwch y côd "letmeping" i gofrestru.



Dwi hefyd wedi bod yn arbrofi gyda rhagleni penddesg i redeg Twitter. Y cyntaf wnes i drio oedd TwitterPost, rhaglen hyll ofnadwy felly peidiwch trafferthu gyda hwn. Ond bore ma des i ar draws un bach llawer gwell sef Twhirl. Medrwch weld o'r screen grab uchod sut y bo'r rhaglen yn eistedd yn daclus ar eich pen ddesg - maen gweithio mewn ffordd nid anhebyg i raglen ebost - cewch chi hysbysiad pan fo twitter newydd wedi ymddangos ac fe fedrwch chi udpêtio eich statws twitter chi heb orfod mynd mewn i'r porwr gwe ac i'r wefan bob tro. I'r geeks yn ein plith (os ydych chi wedi darllen mor bell a hyn rydych chi yn sicr yn geek!) diddorol yw nodi fod Twhirl yn un o'r rhagleni newydd yma sy'n defnyddio platform Adobe Air - sef math enwydd o gôdio sy'n caniatau datblygwyr i ddefnyddio "proven web technologies to build rich Internet applications that deploy to the desktop and run across operating systems."

Ymunwch a Twitter - dyma fydd y Facebook nesaf. Dilynwch fi ar 'rhysllwyd'

18.6.08

Ysblander Frenin Nef (cyflwyno emyn newydd)

Dyma un o fy hoff emynau cyfoes ar hyn o bryd Ysblander Frenin Nef (The Splendor of the King) gan Chris Tomlin. Recordiad o fand addoli Llanw ydyw - nid yw safon y sain yn y fideo yn dda o bell ffordd ond gobeithio y bydd yn rhoi rhyw syniad i chi o'r emyn.



YSBLANDER BRENIN NEF,
Mawredd sy’n Ei wedd,
Gadewch in lawenhau, dewch i lawenhau,
Mae’n gwisgo golau pur
Mae’n treiddio’r tywyll-dir
Sy’n crynu’n sŵn Ei lais, yn crynu’n sŵn Ei lais.

Mor fawr yw ein Duw,
cenwch fry
Mor fawr yw ein Duw,
fe welwn ni
Mor fawr, mor fawr yw ein Duw.

Fe saif o oes i oes;
Mewn grym teyrnasa’n ddoeth
O’r dechrau a hyd byth, dechrau a hyd byth
Yn Drindod, Ef yw’r Tad,
Y mab a’r Ysbryd Glân
Y llew a’r oen yn un, y llew a’r oen yn un.

Enw’r uchaf Un,
Haedda’n mawl i gyd
Fe ganwn ni
Mor fawr yw ein Duw

Chris Tomlin, Jesse Reeves & Ed Cash
cyf. Martyn Geraint ac Arfon Jones

15.6.08

Dwi a'r Twitter

Fe wnes i ddal ton Twitter braidd yn gynnar rhai misoedd yn ôl a bryd hynny nid oedd dim o fy nghyfeillion yna. Ond penwythnos yma fe ddarganfyddais fod rhai o fy ffrindiau yn ei ddefnyddio bellach felly dwi wedi dechrau ei ddefnyddio.

Mae'n debyg mae Twitter yw'r Facebook nesaf, maen rhyw fath o wasanaeth sydd hanner ffordd rhwng 'update status' Facebook a Blogio. A'r hyn sy'n ei wneud yn cwl yw fod modd diweddaru eich statws wrth anfon neges destun o'ch ffon yn ogystal a clywed am ddiwedderiadau cyfeillion i chi ar eich ffon (maen rhaid i chi optio mewn i hyn, syn gneud sens oherwydd dy chi ddim am wybod beth mae pob un ffrind yn neud bob un munud o'r dydd!) Mae e am ddim. Wedi i chi ddechrau cyfri rydych chi'n medru gweld pwy yw eich "followers" ac hefyd gweld pwy ydych chi yn "following".

Yn enw i arno yw, yn wreiddiol iawn: 'rhysllwyd'

Welai chi draw ar Twitter!

13.6.08

COI 2008 - Cristnogaeth a Thechnoleg

Penwythnos yma mi fydda i yn mynychu Cynulliad Oedolion Ifanc (COI) yn Annibynwyr ar y thema: "Dewch i addoli, dathlu, mwynhau'r cymdeithasu, rhannu gwybodaeth a thrafod defnydd Cristnogol o'r dechnoleg newydd!" Oce nid thema oedd hwna, ond dyna oedd y tag line ar Facebook i'r digwyddiad. A dyma, yn fras, beth fydd rhaglen y penwythnos:

Nos Wener
7.00 Croeso, defosiwn (Rhodri, Hawys ac Andras a’r band!)

7.20 Torri’r Iâ (Hawys)

8.00 Blogio’n enw’r Iôr (Dafydd Tudur) (Wedi’i ddilyn â thrafodaeth/ cyfnod o weddio)

Dydd Sadwrn
10.00 Defosiwn ac Addoliad (Andras a'r Band)

10.30 Coffi

11.00 Beibl.net/Gobaith i Gymru (Arfon Jones) Trafodaeth

11.45 Tystiolaethau Digidol a'r Emerging Church (Rhys Llwyd) Trafodaeth i ddilyn

12.30 Cinio

2.00 Trafodaeth gyffredinol ar yr hyn y gellid ei wneud yn arwain i ddwy opsiwn o weithdy:
a) Edrych ar Dystiolaethau Digidol gyda Rhys Llwyd
b) Gwefannau yng nghaffi Fresh Ground wedi’i arwain gan Dafydd Tudur

3.30 Adrodd yn ôl/ trafodaeth ar beth i’w wneud nesa

4.00 Addoliad (Andras a'r Band) a chyfnod o weddi cyn ymadael


Fe wnai adael prif bwyntiau fy sgwrs i ar y blog yma yn fuan gobeithio i'r rhai na fydd wedi medru mynychu. Hefyd gobeithio bydd modd cael deunydd fideo i lawer o'r gweithgareddau a'i postio yma.

Mae croeso cynnes i bawb fynychu'r gynhadledd yma, yr Annibynwyr sy'n trefnu ond mae croeso i bawb ac mae, wrth gwrs, yn rhad ac am ddim.

Festri Seion, Stryd Y Popty, Aberystwyth Mehefin 13-14eg 2008-05-29

11.6.08

iPhone 3G ac Apple Mac

Pan wnes i brynnu fy Mac cyntaf dair blynedd yn ôl roeddw ni wedi fy mopio yn llwyr, roedd yn fyd cwbwl wahanol ac fel rhywun sy'n truluio oriau bob dwrnod (yn bennaf oherwydd natur fy ngwaith) ar y cyfrifiadur roedd newid o Windows i Mac mewn ffordd fe newidiodd fy mywyd. Dair mlynedd yn ddiweddarach dwi dal yn defnyddio yr yr cyfrifiadur ac mae e dal i deimlo fel defnyddio peiriant newydd sbon! Prin y byddai defnyddwyr Windows yn medru dweud hynny dair mlynedd ar ôl prynnu eu cyfrifiadur nhw. Ond maen rhaid i mi gyfaddef nad ydw i a gymaint o sêl (zeal) dros Apple ag oeddw ni a hynny oherwydd, mwy na thebyg, mod i wedi dod i gymryd yr holl brofiad yn ganiataol. Ond ar ôl bod adre a gwneud ambell i beth ar laptop Windows Mam dwi wedi cofio o'r newydd pa mor ryfeddol well ydy Mac's.



Ddoe fe lansiodd Apple ail genhedlaeth yr iPhone. Er gwaethaf fy hoffter mawr o stwff Apple yn wreiddiol roeddw ni wedi penderfynnu peidio newid i ddefnyddio iPhone am dri rheswm. (i.) Roedd yr iPhone yn costio £300, (ii.) Roedd y cytundebau rhy ddrud a (iii.) nid oedd yr iPhone a chyflymder 3G. Ond yn yr ail genhedlaeth a lansiwyd ddoe cyhoeddwyd fod yr iPhone newydd am gael cyflymder 3G, fod yn pris wedi gostwng o £300 i £99 ac ers tro bellach mae cytundebau cystadleuol gan O2. Oherwydd hynny, tua diwedd yr haf pan fydd fy nghytundeb presennol yn dod i ben dwi'n meddwl mod i am newid i'r iPhone.

Mae'r ddyfais yn wirioneddol ryfeddol, os am weld 'keynote' Apple ddoe yn dangos popeth gall yr iPhone wneud rhowch glec YMA.

24.5.08

Facebook Cymraeg ar y ffordd

Mae'r Gymraeg ar agor i gael ei gyfieithu! :-)

Mae'n broses fawr sydd ar hyn o bryd dim ond gyda 84 o bobl yn rhan o'r prosiect er fod miloedd o Gymry Cymraeg ar Facebook. Os nad ydych chi ffansio gwneud unrhyw gyfieithu yna peidiwch a phoeni oherwydd yr hyn sydd angen ydy defnyddwyr i bleidleisio ar y cyfieithiadau gorau fydd yn cael eu derbyn ac fe all bawb wneud hynny.

Ar hyn o bryd mae'r 133 o dermau craidd wedi eu cyfieithu ond maen rhaid i ni gael pobl i bleidleisio dros y termau i'w derbyn yn swyddogol cyn mynd ymlaen i gyfieuthu y cymal nesaf sy'n 20,000 o frawddegau!! Felly ymunwch yn y dasg - wnaiff pleidleisio dros y 133 term dechreuol ddim cymryd mwy na 15 munud i chi.

Ewch yma, a dewisiwch Cymraeg i helpu gyda'r gwaith

12.5.08

Wyt ti'n defnyddio Zattoo? teledu byw am ddim ar y we

Ers rhai wythnosau nawr dwi wedi bod yn defnyddio Zattoo sef gwasanaeth teledu byw ar y we. Maen wasanaeth rhad ac am ddim ac maen gwbl gyfreithiol. Yr unig anfantais yw fod ansawdd y darllediad ddim yn dod yn agos i ansawdd digidol neu deledu lloeren eto ond maen debyg nad oes gan y rhan fwyaf o bobl gysylltiad bandllydan ddigon sydyn i ddelio gyda ansawdd uwch ar hyn o bryd beth bynnag.

Mae'r gwasanaeth hwn yn un arloesol oherwydd fod gyda mi bellach yn fy fflat fynediad i sianeli digidol fel BBC Three a News 24 er fod fy nheledu confensiynol wedi methu pigo fynny signal analog da heb son am ddigidol (er mod i'n byw hanner canllath, yn llythrennol, o un o brif ganolfannau darlledu BBC Cymru!).

Ymysg y sianeli sydd ar Zattoo ar hyn o bryd mae BBC1,BBC2, BBC2 Wales (+London, Scotland etc...), ITV, HTV Wales, Channel 4, Five, BBC Three, BBC Four, BBC News 24, BBC Parliament ac S4C. Ac yn ôl y bobl sydd tu ôl Zattoo maen nhw yn y broses o ddenu rhai sianeli mawr eraill i'r gwasanaeth.

Defnyddiwch Zattoo heddiw - y gyfrinach i lesteirio eich llif gwaith!

17.4.08

iPhone yn gostwng mewn pris... ond peidiwch a chael eich twyllo

Heddiw mae pris iPhone o O2 wedi gostwng o £269 i £169 - mae'n parhau i fod rhy ddrud i mi gan mod i'n gwsmer ffyddlon i Three mae nhw'n cynnig yr HTC TyTN II (gwerth £400) a'r Nokia N95 (sydd gwerth tipyn hefyd) i mi am ddim ar gytundeb tipyn mwy cystadleuol na chytundeb O2 i'r iPhone. Fodd bynnag fe adawodd rhywun sy'n gweithio i O2 neges anhysbys ar flog technoleg y BBC heddiw yn dweud:

O2 has only secured a 1 year deal with apple - i work in head office for O2 - We have been forced to try and sell around 50,000 Iphones by June 1st or the contract will be open to the next biggest bidder (Vodafone or T-Mobile). I can confirm after June 1st and the release of the new Iphone it will be FREE on an 18month contract for the 8gb or £99.99 for the 16gb, the new Iphone is set to feature a 30gb memory and enhanced Camera - think it's only 3.2 with Flash, Also may come with a bonus pack from apple allowing £30 of free Itunes downloads.


Felly, mewn gair, peidiwch cael ei twyllo a rhuthro allan yna i brynnu iPhone nawr! Nid yw fy nghytundeb presennol i gyda Three yn dod i ben tan yn hwyrach yn yr haf beth bynnag felly o bosib erbyn hynny y bydd Apple wedi agor yr iPhone i gwmniau heblaw am O2 ac o bosib y bydd ar gael ar Three. Wedi dweud hynny er fod yr iPhone yn anhygoel o cwl a swish o'r troeon dwi wedi bod mewn yn siop O2 yn ei drio allan dwi wedi ei gael yn reit lletchwith i ddefnyddio - maen fwy o gadjet gimici nac ydyw o declyn effeithiol sy'n cyflymu eich llif gwaith fel ag y mae Blackberry's neu fy ffon presennol y Noka E61, felly dwi ddim yn hollol siwr os ydw i eisiau un ar hyn o bryd beth bynnag! Ond dwi rili ddim yn disgwyl mlaen i orfod gweld logo Microsoft Windows ar gornel fy sgrin os a i am y HTC TyTN II.

7.4.08

Afal newydd i'r Berllan?

Maen cymryd tipyn o gyts i ddefnyddiwr Apple Mac gyfaddef nad yw popeth yn berffaith. Dwi wedi bod yn ddefnyddiwr Mac ers bron a bod tair mlynedd bellach ac mae popeth wedi bod yn rhedeg fel oriawr nes i mi osod Leopard, system weithredu ddiweddaraf Apple, yn ddiweddar. Dros y penwythnos fe wnes i ail-osod Leopard yn gyfan a dileu popeth oddi ar fy nisg galed a nawr mae popeth yn iawn unwaith yn rhagor... wel iawn heblaw am un peth.

Ers i mi fuddsoddi mewn cyfarpar ffilmio fideo digidol yn ddiweddar ar gyfer datblygu y virtual church Cymraeg cyntaf dwi wedi bod yn golygu llawer o fideo. Wrth gwrs nid yw cluniaduron yn enwedig rhai tair mlwydd oed wedi ei cynhyrchu er mwyn eu defnyddio fel stiwdios golygu fideo sgrin lydan ac felly er fod y PowerBook bach dal yn saethu o gwmpas tasgau bob dydd maen peswch o bryd i'w gilydd pan dwi'n gofyn iddo berfformio rhai tasgau golygu fideo. Sydd wrth gwrs wedi peri i mi ddechrau meddwl am genhedlaeth nesaf fy mherllan...

Gan fod y gluniadur yn berffaith abl ac fel newydd yn neud tasgau bob dydd, ebost, rhyngrwyd, prosesu geiriau (wel, dwi ddim wir yn hapus gyda perfformiad NeoOffice ac yn anffodus does dim gwirydd Cymraeg ar Office for MAC, ond nid bai y gluniadur bach yw hyn) ayyb... mi fyddai hi'n ffol i mi fuddsoddi mewn MacBook Pro - sydd mewn cymhariaeth yn ddrud iawn i gymharu a'r PowerBook's slawer dydd. Felly tybed a ydy hi'n briodol i mi ystyried buddsoddi mewn iMac fel base ar fy nesg a peiriant chwim i olygu fideo a neud fy nylunio graffeg arno - heb son wrth gwrs am gynnig moethusrwydd helaethach i mi weithio ar fy noethuriaeth...

Gennai ofn fod iPhone felly ar y back burner am y deuddeg mis nesaf o leiaf... lwcus fod fy narparwr ffon yn cynnig yr LG 990 felly

8.3.08

Pigion o'r We 7/3/08

Mae llawer o flogwyr yn gwneud defnydd mawr o'i blogiau i rannu doleni i'r gwefanau diddorol y maen nhw wedi bod yn syrffio yn ddiweddar. Felly dyma son am ddau wefan ddifyr dwi'n ymweld a hwy yn aml y dyddiau yma.

Yn gyntaf, Blog "DOT.Life" y BBC sef blog gohebwyr technoleg y BBC, Rory Cellan-Jones a Darren Waters. Mae pobl sydd yn fy adnabod yn dda yn gwybod nad ydw i'n sterioteip o'r fath o berson sy'n ymddiddori â diwinyddiaeth a hanes yr Eglwys ac rwy yr un mor hoff o gadjects a thechnoleg fodern ac ydw i o gyfrolau Methodistiaid y Bedwaredd Ganrif a'r Bymtheg! Fel y bydde chi'n disgwyl gan ohebwyr technoleg maen nhw'n defnyddio'r dechnoleg ar-lein diweddaraf ar y blog megis darlledu byw drwy ddefnyddio video-phone yn y postiad yma.

Yr ail wefan yw TV-Links, dim byd newydd meddech chi; wel newydd mewn ffordd. Roedd llawer yn defnyddio tv-links.co.uk tan iddo gael ei gau i lawr gan yr awdurdodau yn ddiweddar. Bellach mae wedi ail ymddangos fel tv-links.cc! Wythnos yma dwi wedi bod yn gwylio'r gyfres Lost ar y wefan - hwyl a spri.

4.2.08

Grwp mwyaf amhoblogaidd Facebook

Nid oedd angen dyfalu pa grwp fyddai'r un mwyaf amhoblogaidd ar Facebook heddiw:

Cytundebau iPhone newydd


Mae pawb sy'n fy adnabod i yn gwybod am fy hoffter heintus o feddalwedd a chaledwedd Apple rhagor na Microsoft a chwmniau PC's. Mae gen i PowerBook G4 yn ogystal ac iPod Video ond hyd yma dydy fy myddin o offer a theclynau Apple heb ehangu tuag at fy mhoced ac at fy ffon eto. Mewn gair, nid oes iPhone gennyf! Dwi'n sicr yn bwriadu achub peth arian er mwyn budsoddi mewn un tro nesaf y bydd fy nghytundeb ffon yn dod i ben ond yr hyn wnaeth fy nal yn ol tro yma oedd cytundebau drud O2, sef yr unig rwydwaith sy'n rhedeg yr iPhone hyd yma. Ar hyn o bryd dwi'n defnyddio Nokia E61 ar Three ac yn talu £40 y mis, am hynny dwi'n cael 750 munud, 250 txt a Rhyngrwyd 3G unlimited (dim ond 2G sydd ar gael ar yr iPhone ar hyn o bryd, mae 3G yn gynt o lawer) . Nid oedd cytundebau O2 ar gyfer yr iPhone felly yn medru cystadlu gyda hynny. Ond daeth tro ar fyd, wythnos yma fe gyhoeddodd O2 ac Apple fod yna gytundeb newydd allan i'r iPhone sef 600 munud a 500 txt a rhyngrwyd unlimited (er yn parhau i fod yn 2G nid 3G) am £35! Gwych.

Gan fod 9 mis o fy nghytundeb Three ar ol maen bosib y bydd iPhone wedi trosi i ddefnyddio 3G erbyn hynny, os felly maen edrych yn debygol mae iPhone bydd fy ffon nesaf - rwy'n disgwyl ymlaen yn eiddgar!