Showing posts with label twitter. Show all posts
Showing posts with label twitter. Show all posts

20.6.08

Twitter, Twhirl ac Adobe Air

Dwi wedi bod yn defnyddio Twitter ers llai nag wythnos nawr ond mae'n cydio'n barod. Eisioes dwi wedi bod yn defnyddio gwefannau sy'n updêtio eich statws Twitter a Facebook run pryd. Yn gyntaf fe fuesi yn arbrofi gyda www.hellotxt.com ond bellach dwi wedi setlo i ddefnyddio www.ping.fm . Mae ping.fm dal yng nghyfnod beta (hy profi) ond os hoffech ei arbrofi a'i ddefnyddio yng nghyfnod beta defnyddiwch y côd "letmeping" i gofrestru.



Dwi hefyd wedi bod yn arbrofi gyda rhagleni penddesg i redeg Twitter. Y cyntaf wnes i drio oedd TwitterPost, rhaglen hyll ofnadwy felly peidiwch trafferthu gyda hwn. Ond bore ma des i ar draws un bach llawer gwell sef Twhirl. Medrwch weld o'r screen grab uchod sut y bo'r rhaglen yn eistedd yn daclus ar eich pen ddesg - maen gweithio mewn ffordd nid anhebyg i raglen ebost - cewch chi hysbysiad pan fo twitter newydd wedi ymddangos ac fe fedrwch chi udpêtio eich statws twitter chi heb orfod mynd mewn i'r porwr gwe ac i'r wefan bob tro. I'r geeks yn ein plith (os ydych chi wedi darllen mor bell a hyn rydych chi yn sicr yn geek!) diddorol yw nodi fod Twhirl yn un o'r rhagleni newydd yma sy'n defnyddio platform Adobe Air - sef math enwydd o gôdio sy'n caniatau datblygwyr i ddefnyddio "proven web technologies to build rich Internet applications that deploy to the desktop and run across operating systems."

Ymunwch a Twitter - dyma fydd y Facebook nesaf. Dilynwch fi ar 'rhysllwyd'

15.6.08

Dwi a'r Twitter

Fe wnes i ddal ton Twitter braidd yn gynnar rhai misoedd yn ôl a bryd hynny nid oedd dim o fy nghyfeillion yna. Ond penwythnos yma fe ddarganfyddais fod rhai o fy ffrindiau yn ei ddefnyddio bellach felly dwi wedi dechrau ei ddefnyddio.

Mae'n debyg mae Twitter yw'r Facebook nesaf, maen rhyw fath o wasanaeth sydd hanner ffordd rhwng 'update status' Facebook a Blogio. A'r hyn sy'n ei wneud yn cwl yw fod modd diweddaru eich statws wrth anfon neges destun o'ch ffon yn ogystal a clywed am ddiwedderiadau cyfeillion i chi ar eich ffon (maen rhaid i chi optio mewn i hyn, syn gneud sens oherwydd dy chi ddim am wybod beth mae pob un ffrind yn neud bob un munud o'r dydd!) Mae e am ddim. Wedi i chi ddechrau cyfri rydych chi'n medru gweld pwy yw eich "followers" ac hefyd gweld pwy ydych chi yn "following".

Yn enw i arno yw, yn wreiddiol iawn: 'rhysllwyd'

Welai chi draw ar Twitter!