Twitter, Twhirl ac Adobe Air
Dwi wedi bod yn defnyddio Twitter ers llai nag wythnos nawr ond mae'n cydio'n barod. Eisioes dwi wedi bod yn defnyddio gwefannau sy'n updêtio eich statws Twitter a Facebook run pryd. Yn gyntaf fe fuesi yn arbrofi gyda www.hellotxt.com ond bellach dwi wedi setlo i ddefnyddio www.ping.fm . Mae ping.fm dal yng nghyfnod beta (hy profi) ond os hoffech ei arbrofi a'i ddefnyddio yng nghyfnod beta defnyddiwch y côd "letmeping" i gofrestru.
Dwi hefyd wedi bod yn arbrofi gyda rhagleni penddesg i redeg Twitter. Y cyntaf wnes i drio oedd TwitterPost, rhaglen hyll ofnadwy felly peidiwch trafferthu gyda hwn. Ond bore ma des i ar draws un bach llawer gwell sef Twhirl. Medrwch weld o'r screen grab uchod sut y bo'r rhaglen yn eistedd yn daclus ar eich pen ddesg - maen gweithio mewn ffordd nid anhebyg i raglen ebost - cewch chi hysbysiad pan fo twitter newydd wedi ymddangos ac fe fedrwch chi udpêtio eich statws twitter chi heb orfod mynd mewn i'r porwr gwe ac i'r wefan bob tro. I'r geeks yn ein plith (os ydych chi wedi darllen mor bell a hyn rydych chi yn sicr yn geek!) diddorol yw nodi fod Twhirl yn un o'r rhagleni newydd yma sy'n defnyddio platform Adobe Air - sef math enwydd o gôdio sy'n caniatau datblygwyr i ddefnyddio "proven web technologies to build rich Internet applications that deploy to the desktop and run across operating systems."
Ymunwch a Twitter - dyma fydd y Facebook nesaf. Dilynwch fi ar 'rhysllwyd'
No comments:
Post a Comment