18.6.08

Rhyddid a Hunanlywodraeth yw'r asgwrn cefn a'r ffydd Gristnogol yw'r sbeinal cord

Fe ddoes ar draws llythyr difyr a phwerus tu hwnt heddiw yn yr archifau. Llythyr ydyw oddi wrth R. Tudur Jones at Gwynfor Evans. Mae yna dri peth ysgytwol sy'n sefyll allan i mi:

1. Yn gyntaf beirniadaeth RTJ o duedd y blaid tua diwedd yr wythdegau i goleddu "sosialaeth". Ddim bod RTJ yn wrth-sosialaidd ac yn Dori, ddim o gwbl, roedd RTJ yn hytrach yn credu mewn cydweithrediaeth, neu'r drydedd ffordd. Maen trafod hyn ym mharagraff cyntaf y llythyr.

2. Dibyniaeth a chred lwyr RTJ ym mhenarglwyddiaeth Crist cyn unrhywbeth arall, gweler hyn yn yr ail baragraff.

3. Cred ddiysgog RTJ fod tynged wleidyddol ac ysbrydol Cymru yn dod law yn llaw. Gwelir hyn yn y dair paragraff olaf.

4. Beirniadaeth gwbl ddi-flewyn-ar-dafod RTJ o'i enwad ef yr Annibynwyr oherwydd dylanwad (i.) traddodiaeth sy'n ymylu ar ofergoeliaeth (ii.) dylanwad sobor a negyddol Rhyddfrydwyr Diwinyddol fel Iorwerth Jones, Ysgrifennydd yr Undeb ar y pryd.

5. Ac yn dilyn pwynt 4 mae RTJ yn dangos ei gefnogaeth clir i sefydlu eglwysi newydd wedi eu diwygio a hynny yn ysbryd yr hyn maen esbonio yr yr ail baragraff am ddilyn ac ufuddhau i Iesu a neb arall.

Mae'r llythyr yma, i mi, yn ysgytwol bwerus ac yn agor cwr y llen i beth wmberth o drafod yn fy thesis. Fi sydd wedi ychwanegu y pwysleisiadau i dynnu sylw at gymalau oedd yn sefyll allan i mi:

Nid wyf wedi anghofio'r gwersi a ddysgwyd inni ym mlynyddoedd cynnar y Blaid am bwysigrwydd “cydweithrediad”. Er na wn fawr am economeg, bu'r rhan hon o'n hathrawiaeth yn ysbrydoliaeth arbennig i mi. Yr oedd yn dristwch darllen yn llyfr Pennar arnoch ei fod yn credu nad oedd fawr neb bellach yn coleddu'r athroniaeth hon. Os yw hyn yn wir, yr ydym wedi colli allwedd bwysig iawn i weithredu chwyldroadol. Cydweithrediad ein pobl yw'r union beth a allai ddymchwelyd y drefn bresennol a'i malltod.

....Lluniwch eich eglwys eich hunain. Ac os gwêl y llywodraeth ganolog yn dda gyhoeddi rhyfel arnoch – boed felly. Rhaid ufuddhau i Grist, Pen yr Eglwys, yn hytrach nag i unrhyw lywodraeth na brenhines. A dyna'r chwyldro creadigol ar sail cydweithrediad yn digwydd. Dyna wynebu'r gorthrwm mawr a fait accompli.'

....Ond yn y maes lle gorwedd fy ngwaith a'm gofal beunyddiol, yr wyf yn gweld rhyw lewyrch o oleuni. Yn un peth, yr wyf yn credu imi lwyddo ymhlith fy myfyrwyr fy hun – ac nid oes dim diolch i mi am hynny – i ddiogelu'r egwyddor fod dilyn Crist ac ymgeleddu a chyfoethogi bywyd Cymru'n cerdded law-yn-llaw. Mae gennym fwy o fyfyrwyr nag erioed o'r blaen yn astudio Diwinyddiaeth a'r Beibl ym Mangor. Mae tua 165 ohonynt yn dilyn ein cyrsiau. Ac yr oedd mwy na hanner y rhai a dderbyniwyd eleni o ysgolion Cymru. Fy hyder yw y bydd y rhain fel lefain yn y blawd.

....Ond mae'r rhagolwg yn yr eglwysi'n llai siriol. A dweud y gwir, mae eu cyflwr yn ddychrynllyd. Gyda'r anhawster mwyaf yr wyf yn gallu ymatal rhag ysgrifennu a siarad yn chwerw iawn am agwedd mwyafrif llethol aelodau honedig ein heglwysi. Yr oedd cyfarfod Cyngor yr Undeb ym Mhwllheli'n un digalon i'r eithaf. Ni ŵyr Iorwerth sut mae ymateb i'r egni rhagorol sy'n cynyddu ymhlith ein cenhedlaeth ifanc. Mae'n glynu'n dynn wrth ffurf ar Ryddfrydiaeth Ddiwinyddol sydd bellach yn waeth nag amherthnasol – mae hi'n rhwystr positif i ddatblygiadau creadigol ac mae hi'n digalonni'r to ifanc newydd sy'n priodi sêl angerddol at y Ffydd Gristnogol â thystiolaeth hunanaberthol tros hawliau'r iaith a'r genedl. Mae'n ddrwg gennyf ddweud hyn. Ond dyna'r gwir. Ar yr egwyddor yr wyf wedi'i hamlinellu - “diwygio heb aros wrth neb” - gallaf weld eglwysi newydd yn codi yma ac acw am fod oerfelgarwch cynifer o arweinwyr ein henwad yn siomi'r to ifanc. Ac os digwydd hynny, fe gânt bob cefnogaeth gen i. Oherwydd, ar wahân i anffyddlondeb haerllug cynifer o aelodau'r eglwysi, y mae Cristnogaeth llawer o'r ffyddloniaid wedi mynd yn sobor o denau ac anodd ei gwahaniaethu hi oddi wrth hiwmanistiaeth.

Credaf fod y sylwadau hyn yn berthnasol i'r thema. Yn y diwedd, ffydd sy'n rhyddhau egni ac yn tanio hunanaberth ac ymroddiad. Dyna pam mae'n ddyletswydd ar y rhai ohonom sy'n dwyn cyfrifoldeb uniongyrchol am yr eglwysi ac am addysg gweinidogion i roi sylw gwirioneddol ddifrifol i bopeth a all beri adnewyddiad yn yr eglwysi. Achubwyd ein cenedl o bosibilrwydd difodiant fwy na unwaith gan adnewyddiad Cristnogol mawr. Credaf mai dyna'n gobaith ni'n awr.' (RTJ @ Gwynfor, 30.10.76 [Ffeil 74])


Roeddwn wedi dod i feddwl, fel Robert Pope i raddau, wrth weld datganoli yn datblygu, wrth weld yr iaith Gymraeg yn ennill rhai (rhai yn unig) brwydrau a'r gefnogaeth i Blaid Cymru yn codi ers 1997 fod thesis R. Tudur Jones yn Ffydd ac Argyfwng Cenedl (1981 a 1982) yn profi, i ryw raddau, yn anghywir. Ond dros y 12 mis diwethaf wrth weld cenedlaetholwyr yn torri addewid ar ôl addewid mewn pŵer rwy'n gweld o'r newydd fod thesis Ffydd ac Argyfwng Cenedl yn hollol gywir - dim ond adferiad ysbrydol all ddod ac integriti gwleidyddol a diwylliannol llawn yn ôl i Gymru.

Rhyddid a Hunanlywodraeth yw'r asgwrn cefn a'r ffydd Gristnogol yw'r sbeinal cord - ni all un lwyddo yn ei waith o gynorthwyo Cymru i gerdded yn gefn syth heb y llall.

No comments: