Coleg Ffederal Cymraeg - rhaid achub ar y cyfle nawr
Yn dilyn cyfarfodydd ddoe (ni ddywedaf ymhle na gyda phwy oherwydd rwy'n parchu preifatrwydd y cyfarfodydd) rwy'n teimlo fel bod yn rhaid dweud gair am Goleg Ffederal Cymraeg eto fyth.
Gan ddisgwyl cyhoeddiad buan gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglŷn a pholisi Llywodraeth Cymru'n Un o Goleg Ffederal Cymraeg carwn dynnu eich sylw at yr hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor craidd Coleg Ffederal Cymraeg. Gellid defnyddio'r pedwar egwyddor yma wedyn fel meini prawf i farnu os ydy'r Llywodraeth ar y trywydd cywir tuag at wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:
(i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol,
(ii.) Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru,
(iii.) Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf tybiwn; ac yn olaf
(iv.) Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a chyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono.
I'r rhai diffuant hynny sy'n gofidio y bydd creu Coleg Cymraeg fel sefydliad statudol annibynnol yn rhyddhau'r sefydliadau presennol o'i cyfrifoldebau gadewch i ni gael un peth yn glir. Mi fydd y sefydliadau presennol yn parhau i fod yn ddarparwyr dan unrhyw drefn newydd. Mor debyg yw'r gymhariaeth gyda'r dadleuon yn '79 gyda sefydlu S4C. Sianel Gymraeg Vs mwy o ddarpariaeth Gymraeg ar y sianeli Saesneg. Coleg (aml-safle) Cymraeg Vs mwy o ddarpariaeth Gymraeg yn y prifysgolion presennol. Maen amlwg bellach mae rheidrwydd oedd sefydlu S4C er mwyn datblygu teledu Cymraeg, er fod y BBC yn parhau i fod yn chwaraewr pwysig ym myd darlledu Cymraeg yn yr un ffordd ac y bod yn rhaid gweld sefydlu Coleg Cymraeg i ddatblygu addysg Gymraeg er y bydd y prifysgolion traddodiadol yn parhau i chwarae eu rhan.
Eisoes mae llythyr agored gan dri deg o academwyr blaenllaw sy'n ymarferwyr dydd i ddydd ym maes dysgu cyfrwng Cymraeg wedi ei anfon at Jane Hutt yn amlinellu y pedwar egwyddor craidd. Yn ogystal, mae rhai cannoedd o bobl wedi torri eu henwau ar y ddeiseb ar-lein, croeso i chi lwybro draw i ychwanegu eich enw chi. Llwyr obeithiaf y bydd y llywodraeth yn achub ar y cyfle unigryw yma i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ac na fydd y cyfle yn cael ei golli am genhedlaeth arall.
Mae gair wedi mynd i mewn i'r cylchgronau a'r papurau yn dweud yr un peth... efallai i chi synhwyro mae nid di-sail yw'r gofid bellach nad ydym ni yn debygol o weld setliad sy'n anrhydeddu'r pedwar egwyddor craidd yn llawn.
No comments:
Post a Comment