Showing posts with label Blogio. Show all posts
Showing posts with label Blogio. Show all posts

1.9.08

BLOG WEDI SYMUD!

MAE BLOG RHYS LLWYD WEDI SYMUD ODDI YMA I:

http://blog.rhysllwyd.com

BYDD YN FWY, YN WELL AC YN WAETH NA'R HEN FLOG!



WELA I CHI YNA!

30.6.08

Photoshop Disasters

Fe glywesi am y blog difyr yma rhai dyddiau yn ôl, Photoshop Disasters, dyma oedd rhai o fy ffefrynau i:

Mawredd mawr eisteddwch i lawr mae rhywun wedi dwyn fy nhrwyn llaw:



Gyrru ar hyd y gwair i'r garêj?:



Defnydd o'r teclyn clonio yn logo eiconig isod:

23.1.08

Blogiau Cymraeg Newydd - Anturiaethau Peladito a Bywyd Caled El Jefe

Dyma son am ddau flog newydd Cymraeg dwi wedi dod ar eu traws yn ddiweddar. Y ddau gan Gymry da o'r Wladfa fe dybiaf, Tad a Mab - Peladito a'i Dad El Jefe. Maent o ddiddordeb arbennig i mi gan fy mod yn ymchwilio i fywyd a gwaith aelod arall o'u teulu sef El Jefe Grande.

Doleni:

Anturiaethau Peladito

Bywyd Caled El Jefe

Hyd y gwn i ni yw'r ddau flog yma wedi cofrestru gyda Aran eto er mwyn ymddangos ar y Blogiadur.

20.1.05

Lansio blog Rhys Llwyd

Wel dyma fi yn dechrau blogio. Ychydig ar ei hol hi mae'n debyg gan fod llawer o Gymry eraill wedi bod yn blogio ers misoedd os na blynyddoedd bellach.

Felly beth sydd wedi peri i mi ddechrau blogio? Wel dwi'n meddwl y medrai ei dorri i lawr i dri rheswm.

  • Yr awydd i ysgrifennu mwy, dyma o bosib yw'r prif reswm. Hyd yn oed os wna neb ddarllen y postiadau bydd y blog yn ysbardun i mi ysgrifennu mwy.
  • Mae blogio yn rhyw fath o ffurf fodern o ddyddiadur amwn i. Mae cadw dyddiadur yn draddodiad cryf gyda ni'r Cymry felly dyma gyfrannu a chynnal y traddodiad hwnnw.
  • Ar drydydd rheswm am ddechrau blogio? Wel, mae hi newydd droi naw o'r gloch y nos ac rwyf wedi bod yn adolygu ar gyfer fy arholiadau trwy'r dydd, wedi cael llond bol bellach ac mi oeddwn i am wneud rhywbeth gwahanol. Ac wrth bori maes-e ces i'r syniad o ddechrau blog.

Nid dim ond fy hynt a helynt fy hun rwyf am adrodd ar y blog, ond fe obeithiaf hefyd roi sylw i bynciau a phethau sy'n agos at fy nghalon.