4.2.08

Cytundebau iPhone newydd


Mae pawb sy'n fy adnabod i yn gwybod am fy hoffter heintus o feddalwedd a chaledwedd Apple rhagor na Microsoft a chwmniau PC's. Mae gen i PowerBook G4 yn ogystal ac iPod Video ond hyd yma dydy fy myddin o offer a theclynau Apple heb ehangu tuag at fy mhoced ac at fy ffon eto. Mewn gair, nid oes iPhone gennyf! Dwi'n sicr yn bwriadu achub peth arian er mwyn budsoddi mewn un tro nesaf y bydd fy nghytundeb ffon yn dod i ben ond yr hyn wnaeth fy nal yn ol tro yma oedd cytundebau drud O2, sef yr unig rwydwaith sy'n rhedeg yr iPhone hyd yma. Ar hyn o bryd dwi'n defnyddio Nokia E61 ar Three ac yn talu £40 y mis, am hynny dwi'n cael 750 munud, 250 txt a Rhyngrwyd 3G unlimited (dim ond 2G sydd ar gael ar yr iPhone ar hyn o bryd, mae 3G yn gynt o lawer) . Nid oedd cytundebau O2 ar gyfer yr iPhone felly yn medru cystadlu gyda hynny. Ond daeth tro ar fyd, wythnos yma fe gyhoeddodd O2 ac Apple fod yna gytundeb newydd allan i'r iPhone sef 600 munud a 500 txt a rhyngrwyd unlimited (er yn parhau i fod yn 2G nid 3G) am £35! Gwych.

Gan fod 9 mis o fy nghytundeb Three ar ol maen bosib y bydd iPhone wedi trosi i ddefnyddio 3G erbyn hynny, os felly maen edrych yn debygol mae iPhone bydd fy ffon nesaf - rwy'n disgwyl ymlaen yn eiddgar!

No comments: