1.2.08

Beth ddigwyddod i'r Memorial Hall?

Fe ddois ar draws rhywbeth tra diddorol yng nghasgliadau Dr. Tudur heddiw sef ffeil a ddynodwyd ar ei flaen "Memorial Hall Case – High Court." Gan nad oes cysylltiad i'r we yn archifdy Bangor ac ei bod hi yn bwrw cenllysg tu allan a finnau ddim am droedio draw i'r llyfyrgell i chwilota fe ddaeth y stori at ei gilydd yn ara deg wrth i mi weithio try'r dogfennau a'r llythyrau oedd yn y ffeil. Dyma'r stori.

Fe drodd 'The Union of Congregational Churches of England and Wales' i fod yn 'Congregational Church of England and Wales' yn 1967 oedd yn gam i ffwrdd o gynulleidfaoliaeth a cham tuag ag bresbyteriaeth. Y penllanw oedd i'r 'Presbyterian Church of England' a'r 'Congregational Church of England and Wales' uno yn 1972 a ffurfio'r 'United Reformed Church' (URC) a fyddai o hynny allan a threfniadaeth eglwysig bresbyteraidd. Gadawodd nifer o eglwysi cynulleidfaol yr 'Congregational Church of England and Wales' yn 1967 a mwy eto yn 1972 pan ffurfiwyd yr URC ac fe unwyd yr eglwysi yma gan ddau undeb oedd yn parhau i arddel gwerthoedd cynulleidfaol sef y 'Congregational Federation' a'r 'Evangelical fellowship of Congregational Churches' nid anhebyg, fe dybiaf, i'r Rebel Alliance yn Star Wars.

O 1972 ymlaen roedd y ddwy garfan, yr URC a'r cynulleifaolwyr “pur”, yn hawlio perchnogaeth o Memorial Hall, pencadlys a llyfrgell hanesyddol y cynulleidfaolwyr yn Llundain. Pan ddaeth y cyfan i'w fwcwl erbyn 1975 roedd gan Memorial Hall 17 o ymddiriedolwyr – 12 yn aelod o'r URC a 5 yn gynulleidfaolwyr "pur". Yn naturiol felly yr URC oedd a'r mwyafrif wrth hawlio perchogaeth a rheolaeth Memorial Hall. Ond roedd y cynulleidfaolwyr yn mynnu nad oedd hawl han y 12 oedd yn aelodau o'r URC fod yn ymddiriedolwyr bellach oherwydd nad oeddent yn gynulleidfaolwyr bellach ac yn hytrach yn aeodau o'r URC, eglwys oedd yn bresbyteraidd. Craidd dadl y cynulleidfaolwyr oedd fod cyfansoddiad Memorial Hall a luniwyd yn 1872 yn datgan fod rhaid i bob ymddiriedolwr ymddiswyddo pe peidia a bod yn gynulleidfaolwr. Fe aed a'r achos i'r uchel lys gyda, a dyma Obi One Konobi yn camu i'r llwyfan, R. Tudur Jones yn pwyso ar ddogfennau hanesyddol a'i ddawn yn esbonio egwyddorion cynulleidfaoliaeth yn dadlau achos y cynulleidfaolwyr "pur".

Pwy oedd yn fuddugol pan aeth yr achos i'r uchel lys? Wn i ddim! Ni nodwyn hynny o gwbl yn y ffeil ac ar ol ychydig bach o gwglo methais a chanfod yr ateb. Unrhywun yn gwybod? Mae'r hen adeilad bellach wedi ei ddymchwel, mae'r wefan yma yn honni iddi gael ei dymchwel mor gynnar a 1969 ond ni allaf i gredu fod hynny yn gywir oherwydd ni oedd yr achos gerbron yr uchel lys tan 1975 a beth oedd diben mynd i'r gyfraith dros adeilad nad oedd yn bodoli? Maen bosib iddi gael ei dymchwel yn 1979 ac nid 1969 sy'n awgrymu i'r URC ennill yr achos. Dwi'n disgwyl mlaen i ddarganfod sut ddaeth y stori i ben.

No comments: