29.1.08

Archifau a Llawysgrifau R. Tudur Jones

Mi rydw i wedi cael y fraint a'r anrhydedd heddiw o gychwyn edrych trwy Archifau a Llawysgrifau R. Tudur Jones. Maen fraint anarferol felly y bo'r teulu wedi ymddiried yndda i anheilwng un felly i archwilio, chwynnu a dwyn maeth o'r casgliadau i'w rhannu gyda'r cyhoedd i ddechrau trwy gyfrwng fy nhraethawd doethuriaethol ac wedi hynny o bosib mewn llyfr?

Mae yna fynydd enfawr o stwff yn y casgliad. 27 o focsys mawr ac oddeutu 15 ffeil drwchus ymhob un ohonynt. Fe gymerodd hi ddiwrnod i mi sgimio trwy'r ffeil gyntaf yn y bocs cyntaf heddiw felly mi fydd hi'n cymryd rhai misoedd i mi weithio trwy'r casgliad cyflawn heb son am bwyso a mesur ac yna trosi'r wybodaeth i ryddiaeth ystyrlon.

Maen weddol amlwg fod R. Tudur Jones fel hanesydd wedi paratoi y casgliad gan wybod y byddai yna hanesydd arall maes o law yn troi at y casgliad oherwydd mae'r cyfan rwyf wedi gweld hyd yma wedi ei drefnu yn daclus ac wedi ei ffeilio yn ol thema'r testunau. Ffeil i'r llawysgrifau sy'n trin llenyddiaeth, ffeil arall i'r llawysgrifau sy'n trin testunau diwinyddol a ffeil arall yn cynnwys testunau gwleidyddol ayyb. Yn ogystal, maen amlwg fod Dr. Tudur wrth eu ffeilio cyn eu trosglwyddo i'r Archifdy wedi tarro golwg dros yr hen lawysgrifau ac wedi sgriblo gair o esboniad ar dop rhai llawysgrifau e.e. "Darn a luniwyd yn 1982 fel paratod i anerch Chweched Dosbarth Ysgol Morgan Llwyd." Ar un llawn maen reit pretentious ei fod wedi cymryd yn ganiataol y byddai ei archifau o werth hanesyddol rhyw ddydd; ar y llaw arall maen gymwynas arbennig i mi ac i'r cenedlaethau i ddod fydd am astudio Dr. Tudur a'i gyfnod. Un arall a wnaeth rywbeth tebyg wrth gwrs oedd Hywel Harris, pan sylwyddolodd y byddai hanes yn edrych arno fel ffigwr o bwys fe ddechreuodd gadw copi o bob llythyr anfonodd i eraill. Wrth gwrs nid bod yn pretentious oedd Harries na Dr. Tudur ond yn hytrach am i'w archifau nhw fod yn dyst nid o'i gwaith nhw ond yn hytrach yn dyst fod eu Duw wedi bod ar waith ar lwyfan hanes. Trosglwyddwyd yr archifau draw i'r Archifdy yn 1989, sef blwyddyn cau Coleg Bala-Bangor felly rwy'n cymryd mae'r rheidrwydd i dacluso a chlurio ei hen stydi/swyddfa yn y Coleg oedd yr ysbardun i Dr. Tudur roi trefn ar yr archifau a'i trosglwyddo nhw i gadw saff.

Wrth mod i'n mynd yn fy mlaen fe geisiaf rannu rhai o'r pethau mwy diddorol y dof ar eu traws.

No comments: