Blog Huw Thomas a GHR2
Dwi wedi dod ar draws blog newydd eto fyth gan un o fy ffrindiau. Huw Thomas yw'r enw - hen gyfaill da i mi o Benweddig - ef oedd ar y bas yn ein band anenwog hwnnw GHR2 pan yn yr ysgol. O gwglo fymryn canfuais fod ein hen wefan dal i fyny - clec fan yma i weld! [dwi wedi mynd dros y data limit yn edrych trwy'r hen luniau felly os nad yw e'n llwytho triwch eto wedyn - gol.] Fe aeth Huw bant i Rydychen i 'studio Cerddoriaeth, ac yna dwi'n meddwl fod hi'n saff i mi ddweud iddo ddod i lawn werthfawrogi ei Gymreictod ('gwell Cymro oddi cartre' ys dywed yr hen rigwm). Dychwelodd i Aberystwyth ac ymuno a fy hen adran i a gwneud gradd meistr mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a bellach mae yn o broses o symud i lawr i Gaerdydd er mwyn cychwyn ar ei swydd gyntaf gyda EADS - "y cwmni sy'n cynhyrchu Airbus"!
Yr hyn sydd i'w edmygu hyd yma am flog Huw yw ei fod yn gwbl ddwyieithog - mae hynny yn cymryd ymroddiad. Da iawn ef! Dyma'r linc:
Blog Huw Thomas
No comments:
Post a Comment