8.3.08

Pigion o'r We 7/3/08

Mae llawer o flogwyr yn gwneud defnydd mawr o'i blogiau i rannu doleni i'r gwefanau diddorol y maen nhw wedi bod yn syrffio yn ddiweddar. Felly dyma son am ddau wefan ddifyr dwi'n ymweld a hwy yn aml y dyddiau yma.

Yn gyntaf, Blog "DOT.Life" y BBC sef blog gohebwyr technoleg y BBC, Rory Cellan-Jones a Darren Waters. Mae pobl sydd yn fy adnabod yn dda yn gwybod nad ydw i'n sterioteip o'r fath o berson sy'n ymddiddori รข diwinyddiaeth a hanes yr Eglwys ac rwy yr un mor hoff o gadjects a thechnoleg fodern ac ydw i o gyfrolau Methodistiaid y Bedwaredd Ganrif a'r Bymtheg! Fel y bydde chi'n disgwyl gan ohebwyr technoleg maen nhw'n defnyddio'r dechnoleg ar-lein diweddaraf ar y blog megis darlledu byw drwy ddefnyddio video-phone yn y postiad yma.

Yr ail wefan yw TV-Links, dim byd newydd meddech chi; wel newydd mewn ffordd. Roedd llawer yn defnyddio tv-links.co.uk tan iddo gael ei gau i lawr gan yr awdurdodau yn ddiweddar. Bellach mae wedi ail ymddangos fel tv-links.cc! Wythnos yma dwi wedi bod yn gwylio'r gyfres Lost ar y wefan - hwyl a spri.

No comments: