8.3.08

Theori Quantum

Dwi wedi dechrau darllen Quantum Theory Cannot Hurt You: a guide to the Universe (Faber, 2007) gan Marcus Chown, awdur gwyddoniaeth-poblogaidd ac ymgynghorydd y cylchgrawn New Scientist ar gosmoleg. Nid ydw i'n wyddonydd o bell ffordd fodd bynnag ers i mi gael rhyw fan sgyrsiau gyda cyfaill i mi sy'n Gristion, Owain Roberts (neu 'Owain Morfa' i rai), rai blynyddoedd yn ol yn Aberystwyth mae wedi plannu rhyw chwylfrydedd ynai tu ol i theoriau ffiseg yn enwedig rhai a adnabyddir fel theoriau quantum a theoriau perthynol Einstein.

Er mai fel ffrind o Gristion dwi'n adnabod Owain yn gyntaf; mae ef, yn wahanol i mi, yn wyddonydd ac yn rhan o dim ymchwil Semiconductors yn adran Ffiseg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae Owain wedi ceisio esbonio i mi droeon beth yn union mae e'n gwneud ond maen rhaid mi gyfaddef nad ydw i wedi deall eto! Beth bynnag, yr hyn wnaeth Owain wneud i mi sylweddoli yn ein sgwrs rai blynyddoedd yn ol y bo rhai meysydd o fewn y byd gwyddonol yn enwedig felly ym myd Ffiseg yn dibynnu gymaint ar ffydd ag y mae, dyweder, fy ffydd i yn Nuw. Ddiwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg roedden nhw'n meddwl eu bod nhw wedi datrys y cyfan ond o ganlyniad i lond llaw o ddarganfyddiadau droad yr Ugeinfed Ganrif a chwalodd y consensws derbyniedig ar y pryd ganrif yn ddiweddarach yn yr Ugeinfed Ganrif mae'r theoriwyr Ffiseg yn theorio a dyfalu cymaint ag erioed.

Un syniad rhoddodd Owain yn fy mhen rai blynyddoedd yn ol oedd y ddeilema yma: hyd yn oed pan yn gweld cwpwrdd ochr arall yr ystafell rydym ni'n dibynnu ar ein ffydd y bod ein llygaid yn dweud y gwir wrthym mai cwpwrdd sydd wir yno. Gwnaeth hynny ennyn chwylfrydedd ynai i ddarllen mwy am theoriau ffiseg yn enwedig felly theoriau quantum oherwydd, mwy na thebyg, fod theoriau o'r fath yn agor y drws i'r posibilrwydd o blygu'r hyn sy'n cael ei dderbyn, ar y pryd, fel "deddf" natur. Ond mae'r cysyniad fod gwyddoniaeth a gwyddonwyr yn medru plygu "deddf" yn dangos nad oes yna'r fath beth a "deddfau" gwyddonol yn bodoli ac fod unrhyw "ddeddf" gwyddonol ond yn berthnasol i'w gyfnod.

Beth sydd a wnelo hyn a ciw-ddiwinydd ifanc fel fi? Wel tipyn fel maen digwydd oherwydd y bod anwadalrwydd a mystic y byd theori ffiseg yn dangos nad yw gwyddoniaeth, wel pob rhan ohono, mor absoliwt a hynny. Hefyd mae'r cysyniad yma fod "deddfau" gwyddonol ond yn berthnasol i'w cyfnod yn arwyddocaol. Dywedodd y Diwinydd Rhyddfrydol D. Miall Edwards unwaith wrth drafod gwyrthiau'r Beibl nad oedd yna'r fath beth ac eithriadau i'r ddeddf wyddonol ac fod digwyddiadau gwyrthiol yn hytrach a bod yn eithriadau o'r ddeddf yn rannau o'r ddeddf nad oeddem ni eto yn deall. Mae theori Miall Edwards yn ddiddorol oherwydd ei fod yn awgrymu y medr, rhyw ddydd, roi esboniad gwyddonol i rai o elfennau gwyrthiol Cristnogaeth. Ac mewn ffordd mae'r ffaith fod "deddfau" gwyddonol y Bedwaredd Ganrif a'r Bymtheg wedi ei chwalu yn ufflon gan Einstein a'i debyg yn profi fod pob deddf, hyd yn oed rhai gwyddonol, ond yn berthynol i'w cyfnod. Mae'n arwyddocaol mae Quantum Theory Cannot Hurt You ydy teitl y llyfr rwy'n ei ddarllen nid Quantum Laws Cannot Hurt You.

1 comment:

Mei said...

Ti'n disgyn i'r hen drap.

Mewn gwyddoniaeth, mae 'theory' yn wahanol i'n defnydd pob dydd.

Er engraifft, mae Theory Pythagoras yn brawf bod, i driongl ongl sgwar, sgwar y hypotenuse yn swm sgwar y ddwy ochr arall.

Conjecture yw theori sydd heb brawf.