12.5.08

Wyt ti'n defnyddio Zattoo? teledu byw am ddim ar y we

Ers rhai wythnosau nawr dwi wedi bod yn defnyddio Zattoo sef gwasanaeth teledu byw ar y we. Maen wasanaeth rhad ac am ddim ac maen gwbl gyfreithiol. Yr unig anfantais yw fod ansawdd y darllediad ddim yn dod yn agos i ansawdd digidol neu deledu lloeren eto ond maen debyg nad oes gan y rhan fwyaf o bobl gysylltiad bandllydan ddigon sydyn i ddelio gyda ansawdd uwch ar hyn o bryd beth bynnag.

Mae'r gwasanaeth hwn yn un arloesol oherwydd fod gyda mi bellach yn fy fflat fynediad i sianeli digidol fel BBC Three a News 24 er fod fy nheledu confensiynol wedi methu pigo fynny signal analog da heb son am ddigidol (er mod i'n byw hanner canllath, yn llythrennol, o un o brif ganolfannau darlledu BBC Cymru!).

Ymysg y sianeli sydd ar Zattoo ar hyn o bryd mae BBC1,BBC2, BBC2 Wales (+London, Scotland etc...), ITV, HTV Wales, Channel 4, Five, BBC Three, BBC Four, BBC News 24, BBC Parliament ac S4C. Ac yn ôl y bobl sydd tu ôl Zattoo maen nhw yn y broses o ddenu rhai sianeli mawr eraill i'r gwasanaeth.

Defnyddiwch Zattoo heddiw - y gyfrinach i lesteirio eich llif gwaith!

No comments: