12.5.08

R. Tudur Jones yn trafod economeg

Y pwynt cyntaf a dylid ei nodi yw fod yna ddiffyg trafod materion economaidd, diwydiant ac amaeth – pynciau pragmataidd os y mynnwch – yn ysgrifau golygydd y Welsh Nation yn y 1950au a'r Ddraig Goch yn yr 1960au. Fodd bynnag credaf y gellid gwneud ambell sylwad er ei bod yn seiliedig ar glwstwr bychan yn unig o'r ysgrifau yn y Nation a'r Ddraig. Mae R. Tudur Jones, er enghriafft, yn rhoi sylw i dwristiaeth yng Nghymru yn rhifyn Mai o'r Nation 1953: 'A Wales which is merely a fifth-rate England,' meddai, 'is of no interest to anyone. Once we are able to put our life into some resemblance of order, we shall indeed have something to show to our guests...Welsh tourism ought to make capital out of the very simple fact that Wales is a foreign country not only to Italians and New Yorkers, but also to Englishmen.'1 Er nad yw'r ysgrif yma yn trafod pwnc twristiaeth yn ddofn ac yn ddifrifol mae o leiaf yn rhoi yr argraff i ni fod R. Tudur Jones yn ymwybodol y bod pynciau economaidd, fel y diwydiant twristiaeth, yn rhai sydd angen i'r Blaid ddelio a hwynt maes o law. Yn yr un modd yn ei ysgrif O! Bydded i'n cefn gwlad barhau! mae R. Tudur Jones yn adrodd fod amaethyddiaeth yn bwysig i Gymru ac y bydd ffermydd bychain yn chwarae rôl bwysig yn y Gymru annibynnol: '...[mae] polisïau amaethyddol y Deyrnas,' meddai, 'yn cael eu paratoi heb unrhyw ystyriaeth arbennig i batrwm ffarmio yng Nghymru... cred [Y Blaid] fod amaethyddiaeth iach yn un o hanfodion bywyd gwareiddiedig mewn unrhyw wlad.'2 Fel ag yng nghyd destun twristiaeth ni cheir yr argraff fod R. Tudur Jones yn arbenigwr nac yn deall problemau a materion y sector amaeth - fodd bynnag maen dangos ei fod yn ymwybodol fod yn rhaid i'r Blaid o leiaf siarad am y pwnc hwn sy'n effeithio bywydau llawer o Gymry'n feunyddiol.

Fe gysylltir Plaid Cymru yn y cyfnod hwn gyda'r theori economaidd-wleidyddol trydedd ffordd. Nid rhyw gyfaddawd rhwng cyfalafiaeth ar un llaw a chomiwnyddiaeth ar y llall mo'r theori ond yn hytrach ail-feddwl yn llwyr am ateb a hynny thu allan y bocs. Yn rhifyn Awst 1953 o'r Nation ceir ysgrif unigryw gan R. Tudur Jones lle maen torchi ei lewys ac yn trafod economeg mewn manylder. Fe gyflwyna R. Tudur Jones critique manwl o broses gynhyrchu ddiwydiannol fodern. Mae ei critique yn un neo-Farcsaidd sy'n canolbwyntio a'r ymneilltuad gweithiwr o'i gynnyrch. Fe ddadleua mae cam i'r cyfeiriad cywir yw i'r gweithwyr gael perchnogaeth dros y ffatrïoedd maen nhw'n gweithio ynddynt drwy gyd-weithredaeth.

"There has been much talk amongst us in years gone by about de-industrialization. A vague term... The fact of the matter is that wiping out our industry is impossible, and savors of Utopian irresponsibility. If our people want to maintain the standard of living to which they have been accustomed, then the wealth to maintain it must be created...They must, at least, be given the pleasure of being responsible for the factories they operate...The first step towards humanizing, what is, perhaps, in the ultimate issue incapable of being humanized, is to put responsibility upon those why suffer most de-humanization. In a word, co-operation."3


Yr hyn a gyflwynir gan R. Tudur Jones fan yma yw'r theori drydedd ffordd o gydweithrediad sy'n gochel rhag cyfalafiaeth a'r un llaw ond yn cadw rhag gwladoli ar y llaw arall er mwyn i'r gweithiwr gael teimlad o berthyn a pherchnogaeth i'w waith. Ddwy flynedd yn ddiweddarach mae R. Tudur Jones yn ategu'r gred yma eto yn y Nation: '[Plaid Cymru objects] all forms of totalitarianism whether of the Left or of the Right,' meddai, 'It will have no truck with Capitalism, whether in its old form of individualism run riot, or in its new form of State monopoly. The workers must be given the right to own their factories and mean of employment.'4

Yr unig fath arall o drafod economeg a geir gan R. Tudur Jones yn yr ysgrifau yw cyfeiriadaeth fan hyn fan draw tuag at broblemau diweithdra gyda'i sgil effaith o ddiboblogi ac all-lifiad o weithwyr i Loegr. Maen amlwg yn yr ysgrifau mae nid economegydd yw R. Tudur Jones fodd bynnag yn rhinwedd ei rôl fel golygydd y Nation a'r Ddraig am un mlynedd ar hugain fe dorchodd ei lewys a rhoi cynnig arni os oedd angen.

Troednodiadau:
1. R. Tudur Jones: 'Stopping-Train to Afonwen' yn 'Welsh Nation', Mai 1953
2. R. Tudur Jones: 'O! Bydded i'n cefn gwlad barhau!' yn 'Ddraig Goch', Ebrill 1964
3. R. Tudur Jones: 'Wheels Within Wheels' yn 'Welsh Nation', Awst 1953
4. R. Tudur Jones: 'Vitriol' yn 'Welsh Nation', Tachwedd 1955

No comments: