10.5.08

R. Tudur Jones Vs Cledwyn Hughes

Fe gododd safiad y rhan fwyaf o eglwysi ar gwestiwn ymreolaeth i Gymru erbyn y saithdegau y cwestiwn o briodoldeb i'r eglwysi a'i harweinwyr ymhél a gwleidyddiaeth. Onid creu rhwyg o fewn yr eglwys fyddai sgìl effaith gwneud safiadau a datganiadau gwleidyddol o'r fath? Wel dyma oedd cwestiwn miniog Cledwyn Hughes i R. Tudur Jones a'r cwestiwn a daflwyd yn ôl at yr Ysgrifennydd Gwladol gan R. Tudur Jones. Mae'r ddadl i'w gweld mewn ysgrif yn dwyn y teitl Yr Ysgrifennydd, Y Blaid a'r Eglwysi a gyhoeddwyd yn rhifyn mis Hydref 1967 o'r Ddraig Goch, papur Plaid Cymru. Fe feirniadodd Cledwyn Hughes Bleidwyr am ddod a gwleidyddiaeth i mewn i'r Pulpud ac mae R. Tudur Jones yn ymateb drwy gymharu ei eiriau gyda geiriau o eiddo Hanns Kerrl, Gweinidog Materion Crefyddol llywodraeth Hitler. Mae R. Tudur Jones yn mynd ymlaen i rybuddio y bo sgil-effaith ddifrifol pan fo'r eglwys yn ddywedws am lywodraeth y dydd fel ag yr oedd yr eglwys, ar y cyfan, yn yr Almaen yn y 30au. 'Y mae'n anhygoel fod Mr Cledwyn Hughes sydd ei hunan yn flaenor ac yn bregethwr ac yn fab i weinidog,' meddai R. Tudur Jones, 'mor fyr ei olygon fel ei fod yn chwarae a syniadau fel hyn.'

Fe â R. Tudur Jones ymlaen i bwyntio allan i Cledwyn Hughes, bymtheg mlynedd ynghynt, ddod a gwleidyddiaeth i'r pulpud pan oedd hynny yn gyfleus iddo ef drwy siarad ar destun 'Y Wladwriaeth Les' i Gymdeithasfa'r Eglwys Bresbyteraidd. Meddai R. Tudur Jones eto: 'dyma enghraifft drist o wleidydd yn awyddus i ddefnyddio'r eglwysi Cristnogol pan fo hynny'n hwylus i'w amcan a'i ddelfryd a'i uchelgais ef, ond yn mynd mor bell hyd yn oed ac amau eu hawl i ryddid llafar pan feiddiant feirniadu.' Cred llawer mai nid gwleidyddiaeth o'r rheidrwydd y dylai'r Cristion, a'r Bugail yn enwedig, ei osgoi ond yn hytrach gwleidyddiaeth pleidiol. Fe â R. Tudur Jones ymlaen i holi beth yn union yw gwleidyddiaeth “plaid”? Meddai: 'dim ond mewn gwlad ddarostyngedig fel Cymru y mae tynged y genedl, a ffyniant ei hiaith a'i hawl i'w llywodraeth yn dod o dan y pennawd “gwleidyddiaeth plaid.”' Dadl R. Tudur Jones yw fod tynged Cymru, yr iaith a chymunedau Cymraeg yn fwy na “gwleidyddiaeth plaid” a'i fod o bwys mawr i'r eglwysi ymateb i'r argyfwng:

"Un peth na all arweinwyr y capeli na'r eglwysi ei osgoi bellach yw bod hyn yn ffrwyth dinistr cymdeithasol anaele. Byddai'r eglwysi'n anghofio eu swydd broffwydol petaent yn fud yn wyneb y fath strempio. Addawodd y gwleidyddion fara i'n hardaloedd a'r hyn a ddaeth oedd diweithdra. Cadwodd yr eglwysi fflam ein traddodiad Cristnogol Cymraeg yn fyw pan nad oedd na gwleidydd nac uchelwr nac ysgolfeistr yn malio a fyddai byw ai peidio... Fe ddistrywir y traddodiad Cristnogol Cymraeg trwy'r ystryw syml o ofalu na bydd byth ddigon o addysg Gymraeg nac o urddas cyhoeddus ar y Gymraeg i sicrhau'r olyniaeth. Mewn gair, fe wyr pawb sy'n gweithio yn ein heglwysi fod y diwrnod wedi dod i siarad yn blaen. Mae'n rhaid i Mr Hughes a'i gymrodyr ateb am y storm gymdeithasol enbyd yr ydym yn ei chanol. O safbwynt yr eglwysi mae hynny'n fater o foesoldeb elfennol ac o ofal bugeiliol dros y praidd."


Barn Cledwyn Hughes ydy nad busnes yr eglwys yw llefaru am dynged Cymru ond mewn ymateb fe ddywed R. Tudur Jones mai 'busnes cyntaf eglwysi yw bod yn eglwysi. Ond eu busnes hwy hefyd, nid busnes gweinidog y goron, yw diffinio beth mae hynny'n ei olygu.' Mae'r ddadl gyhoeddus yma gyda Cledwyn Hughes yn eithriadol bwysig yn fy nhyb i i ddeall meddwl gwleidyddol R. Tudur Jones fel gwleidydd Cristnogol yn arbennig felly ei ymateb a'i ddelio gyda'r Wladwriaeth Seisnig oblegid mae R. Tudur Jones yn dadlau'n glir a chroyw fan yma mai un o ddyletswyddau'r yr eglwys yw dal y wladwriaeth yn atebol: 'Ond pan fo hi [y wladwriaeth] yn dechrau ymagweddu fel petai'n ddwyfol neu pan fo'n gweithredu'n anghyflawn,' meddai R. Tudur Jones, 'yr adeg honno mae'n bryd i Gristnogion ymuno gyda'r dinasyddion oll i'w cheryddu.'

Diddorol!

No comments: