7.4.08

Afal newydd i'r Berllan?

Maen cymryd tipyn o gyts i ddefnyddiwr Apple Mac gyfaddef nad yw popeth yn berffaith. Dwi wedi bod yn ddefnyddiwr Mac ers bron a bod tair mlynedd bellach ac mae popeth wedi bod yn rhedeg fel oriawr nes i mi osod Leopard, system weithredu ddiweddaraf Apple, yn ddiweddar. Dros y penwythnos fe wnes i ail-osod Leopard yn gyfan a dileu popeth oddi ar fy nisg galed a nawr mae popeth yn iawn unwaith yn rhagor... wel iawn heblaw am un peth.

Ers i mi fuddsoddi mewn cyfarpar ffilmio fideo digidol yn ddiweddar ar gyfer datblygu y virtual church Cymraeg cyntaf dwi wedi bod yn golygu llawer o fideo. Wrth gwrs nid yw cluniaduron yn enwedig rhai tair mlwydd oed wedi ei cynhyrchu er mwyn eu defnyddio fel stiwdios golygu fideo sgrin lydan ac felly er fod y PowerBook bach dal yn saethu o gwmpas tasgau bob dydd maen peswch o bryd i'w gilydd pan dwi'n gofyn iddo berfformio rhai tasgau golygu fideo. Sydd wrth gwrs wedi peri i mi ddechrau meddwl am genhedlaeth nesaf fy mherllan...

Gan fod y gluniadur yn berffaith abl ac fel newydd yn neud tasgau bob dydd, ebost, rhyngrwyd, prosesu geiriau (wel, dwi ddim wir yn hapus gyda perfformiad NeoOffice ac yn anffodus does dim gwirydd Cymraeg ar Office for MAC, ond nid bai y gluniadur bach yw hyn) ayyb... mi fyddai hi'n ffol i mi fuddsoddi mewn MacBook Pro - sydd mewn cymhariaeth yn ddrud iawn i gymharu a'r PowerBook's slawer dydd. Felly tybed a ydy hi'n briodol i mi ystyried buddsoddi mewn iMac fel base ar fy nesg a peiriant chwim i olygu fideo a neud fy nylunio graffeg arno - heb son wrth gwrs am gynnig moethusrwydd helaethach i mi weithio ar fy noethuriaeth...

Gennai ofn fod iPhone felly ar y back burner am y deuddeg mis nesaf o leiaf... lwcus fod fy narparwr ffon yn cynnig yr LG 990 felly

No comments: