3.4.08

Pigion diweddaraf o fyd Web 2.0

Yn gyntaf, beth yn union yw Web 2.0? Wel dyma'r disgryfiad cryno sydd gan Wikipedia:

Web 2.0 is a trend in the use of World Wide Web technology and web design that aims to facilitate creativity, information sharing, and, most notably, collaboration among users.


Mae'r term Web 2.0 wedi dod i gael ei ddefnyddio mewn cylchoedd arall yn ogystal nawr, er enghriafft yn ddiweddar fe gyfeiriodd Mark Driscoll at ei eglwys hip ef yn Seattle fel Church 2.0 ac fe ysbrydolodd hynny fi i newid fy statws religion ar Facebook i 'Christian 2.0'! Hynny ydy parhad o'r hyn oedd yn bodoli eisoes ond wedi ei ailwampio i ddygymod a bodoli yn y sefyllfa gyfoes dydd o'n blaen.

Beth bynnag, dwi am rannu rhai o fy hoff wefanau Web 2.0 diweddaraf gyda chi nawr. Anghofiwch am seren fore Web 2.0 sef youtube. Ar y pryd roedd youtube yn wefan rhyfeddol ac mae ei ddylanwad yn parhau o hyd, er enghriafft mae'r fideo yma am Goleg Ffederal Cymraeg y bues i yn rhan o'i chynhyrchu y llynedd wedi cael ei gwylio yn agos i 2,000 o weithiau nawr a dros 600 o bobl wedi gwylio Lewid Roderick yn rhannu ei brofiad ef am ddod yn Gristion yn y fideo yma! Ond bellach, i mi beth bynnag, mae rhywbeth wedi mynd yn stel am youtube - yn gyntaf mae'r fideo's o ansawdd isel iawn ac yn ail mae'r fideo's i gyd yn cael ei cywasgu i sgwar perffaith er fod pob camera a theledu gwerth son amdano bellach yn cynhyrchu pethau mewn fformat sgrin lydan. Llawer gwell yw blip.tv gwefan debyg i youtube ond sy'n cynnig fideo's o ansawdd uwch (sgrin lydan) ac yn cynnig llawer mwy o bethau clyfar.

Er enghriafft dwi ar hyn o bryd yn datblygu gwefan 2.0 Gristnogol gynhwysfawr ar hyn o bryd fydd yn cynnwys pentwr o fideo's yn esbonio agweddau o'r ffydd Gristnogol, yn tywys pobl drwy rannau o'r Beibl ac yn rhoi adroddiadau o weithgaredd Cristnogol, mi fydd adran i'r wefan lle medrir mynd i ganu emynau hyd yn oed - dwi ddim am ei alw e'n virtual church ond mewn ffordd dyna'r ffordd orau o'i ddisgrifio. Ar hyn o bryd dwi'n hostio'r fideo's dwi wedi gwneud eisoes art blip.tv oherwydd fod blip.tv yn cynnig opsiwn i bobl danysgrifio i'r holl fideo's dy chi'n postio arni fel podleidiad fideo.

Wrth basio gwerth fyddai i mi grybwydd sesh.tv sef gwefan nid anhebyg i blip.tv jest ei fod hi'n un Gymraeg - mae dal yng nghyfnod beta ar hyn o bryd, dwi wedi cael pip tu mewn iddi ac maen edrych yn wych. Dwi ddim yn siwr eto os wnaf i droi at sesh.tv i hostio fideo's fy ngwefan newydd eto (yn dibynnau os ydy sesh.tv yn cynnig y fideo's fel podleidiad) ond fe fydd pigion fy ngwefan yn sicr yn ymddangos ar sesh.tv.

Yn olaf - anghofiwch am tv-links.cc ac hefyd am alluc.org a syrffiwch draw i Surf The Channel - llawer haws i fynwfro a fideo's llawer mwy dibenadwy, ar hyn o bryd dwi'n gwylio pedwaredd cyfres Lost!

No comments: