12.8.08
29.5.08
Protest 'Cadwn ein Ysgolion' yn 'steddfod yr Urdd '08 [Vlog]
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
10:00 pm
0
Sylwad
Labeli: addysg, Cymdeithas yr Iaith, Cymraeg
24.5.08
Facebook Cymraeg ar y ffordd
Mae'r Gymraeg ar agor i gael ei gyfieithu! :-)
Mae'n broses fawr sydd ar hyn o bryd dim ond gyda 84 o bobl yn rhan o'r prosiect er fod miloedd o Gymry Cymraeg ar Facebook. Os nad ydych chi ffansio gwneud unrhyw gyfieithu yna peidiwch a phoeni oherwydd yr hyn sydd angen ydy defnyddwyr i bleidleisio ar y cyfieithiadau gorau fydd yn cael eu derbyn ac fe all bawb wneud hynny.
Ar hyn o bryd mae'r 133 o dermau craidd wedi eu cyfieithu ond maen rhaid i ni gael pobl i bleidleisio dros y termau i'w derbyn yn swyddogol cyn mynd ymlaen i gyfieuthu y cymal nesaf sy'n 20,000 o frawddegau!! Felly ymunwch yn y dasg - wnaiff pleidleisio dros y 133 term dechreuol ddim cymryd mwy na 15 munud i chi.
Ewch yma, a dewisiwch Cymraeg i helpu gyda'r gwaith
7.2.08
Plaid Cymru yn methu cadw addewidion... siomedigaeth
Roedd ddoe yn ddiwrnod trist iawn, gwelwyd Llywodraeth Cymru'n Un yn methu cyflawni yr ail o dri addewid penodol parthed yr Iaith Gymraeg yr oedd Ieuan Wyn Jones yn ei addo yn ei deithiau o amgylch Cymru i werthu'r glymblaid. Methwyd a gwireddu'r cyntaf, Coleg Ffederal Cymraeg, nol ym mis Tachwedd. Yn swyddogol mae'r polisi yn parhau i gael ei lunio ond gyda dim ond £4.3m dros dair mlynedd (i gymharu gyda'r £15m y flwyddyn sydd ei angen) mae'r addewid i bob pwrpas wedi ei dorri. Yr ail a dorrwyd ddoe wrth gwrs oedd yr addewid i ariannu papur Dyddiol Cymraeg – mae £600,000 wedi ei addo i'r wasg Gymraeg yn gyfan, ond mae angen o leiaf £600,000 ar bapur Dyddiol yn unig.
Ar y diwrnod lle drylliwyd gobaith Y Byd (y papur dyddiol arfaethedig) yn dra eironig fe'n hatgoffwyd o'r angen am Y Byd oblegid neithiwr ar y Byd a'r Bedwar (ITV Cymru) “arbennigydd” y rhaglen wrth esbonio nad oedd sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn realistig oedd Marc Jones y “newyddiadurwr”. Ond fel y mae Dyfrig wedi nodi ar ei flog nid “newyddiadurwr” niwtral mo Marc Jones o gwbl bellach ond efe yw un o swyddogion PR Plaid Cymru! Mae'r peth yn gwbl warthus, ac yn dangos yn wyneb newyddiaduraeth ddiflas y BBC a diog ITV y bod angen gweld sefydlu'r BYD ar unwaith er mwyn gweld gwawr newydd ar newyddiadura yng Nghymru.
Ac rwy'n gwrthod derbyn fod “pethau yn dyn yn y gyllideb eleni” fel esgus oherwydd ar fympwy heb unrhyw ymrwymiad yn y rhaglen Cymru'n Un mae £13m wedi ei ganfod i ganolfan y Mileniwm a heddiw £1.9m arall i'r Gerddi Botaneg. Mae hyn yn dangos mae nid diffyg cyllid yw'r broblem ond diffyg blaenoriaeth i addewidion am yr iaith Gymraeg. Mae heddiw yn ddiwrnod lle dwi'n difaru mod i wedi aberthu tair wythnos o'm mywyd, pum tanc o betrol a syrthio tu ôl gyda'm ymchwil dros Blaid Cymru nol y llynedd.
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
5:46 am
0
Sylwad
Labeli: Cymdeithas yr Iaith, Cymraeg, Plaid Cymru
14.5.07
A ddylai CYIG roi'r gorau i dor-cyfraith nawr fod genym ni ££?
Ysgrifenais yr isod yn wreiddiol fel ysgrif i'r Tafod nol ym mis Ionawr ar gyfer rhifyn y Cyfarfod Cyffredinol, ond am ryw reswm ni ymddangosodd y rhifyn yna byth felly dyma gyhoeddi'r erthygl ar y blog. Gwerth fyddai rhoi disclemer mai fy marn i yw'r isod nid barn CYIG o'r rheidrwydd:
Eleni mi dderbyniodd y Gymdeithas swm mawr o arian mewn ewyllys. Tybia rhai fod hwn yn gyfle i'r Gymdeithas “droi'n broffesiynol” a “rhoi'r gorau i fandaleiddio” a “troi'n lobïwyr proffesiynol.” I ddechrau rhaid holi pam fod rhai wedi dweud pethau o'r fath am y Gymdeithas yn ddiweddar? Mae'r clebar yma yn awgrymu mae diffyg arian a beri i'r Gymdeithas droi at brotestio, weithiau yn anghyfreithlon, dros y blynyddoedd. Gellid taflu'r dybiaeth anghywir yn allan o'r ffenestr yn syth – nid diffyg arian sy'n gyrru'r Gymdeithas at weithredu anghyfreithiol ond yn hytrach egwyddor. Mae'n wir fod arian yn medru llygru dyn a peri iddo anghofio ei egwyddorion – oni syrthiodd sawl Cenedlaetholwr i'r twll hwn yn y Gymru ddatganoledig? Ond rwy'n argyhoeddedig na syrthia'r Gymdeithas i'r un twll. Rhaid glynu wrth yr egwyddorion ac un o'r egwyddorion yma yw'r egwyddor o ddilysrwydd defnydd cyfrifol o weithredu uniongyrchol di-drais.
Gadewch i mi yn awr drafod y moesau ar athroniaeth tu ôl yr egwyddor hon. Mae'n beth iach i ni fel mudiad atgoffa ni ein hunain o'r newydd bob hyn a hyn pam ein bod ni'n gwneud pethau fel ydym ni'n eu gwneud – dyma obeithio dynnu sylw ein aelodau yn ôl at egwyddor craidd un o ideolegau canolog a phwysicaf y mudiad ers y dechrau. Gobaith yr ysgrif hon bydd lladd y beirniaid sy'n cyhuddo'r Gymdeithas o ruthro at weithredu uniongyrchol heb ystyried y cwestiynau moesol sydd ynghlwm a gweithredu o'r fath.
Mae gweithredu uniongyrchol yn dacteg cydnabyddedig effeithiol. Dyma ddywedodd neb llai na Peter Hain AS Llafur am weithredu uniongyrchol: 'If any one factor could be singled out in the overwhelming success of this campaign against the white South African tourists [Chwaraewyr Criced], it would be these direct action tactics which formed the basis of the campaign strategy.' Dyma oedd asgwrn cefn ymgyrchoedd Gandhi yn yr India a Matrin Luther King yn yr UDA hefyd. Mewn cyfarfod cyffredinol tanllyd fis Tachwedd 1966 mabwysiadodd y Gymdeithas bolisi oedd yn datgan: 'fod Cymdeithas yr Iaith yn datgan unwaith eto mai dulliau di-drais yw'r unig rai a arddelir ganddi, a'i bod yn dehongli “di-drais ar bersonau” fel na chaniateir i aelod o'r Gymdeithas daro'n ôl mewn ymgyrch neu brotest a drefnwyd gan y Gymdeithas.' Mae'r polisi hwn yn sefyll o hyd.
Yn ogystal ag edrych at ffigurau tramor fel Gandhi a Luther King am ysbrydoliaeth bu i rai athronwyr a diwinwyr Cymreig gynnig cyfundrefn a fframwaith i gyfiawnhau a chefnogi gweithrediadau uniongyrchol y Gymdeithas. Tri heavyweight sy'n sefyll allan yw'r Athrawon J.R Jones, Pennar Davies ac R. Tudur Jones – tri o ysgolheigion amlycaf a disgleiriaf yr Ugeinfed Ganrif a thri fu'n amddiffyn polisi'r Gymdeithas o weithredu uniongyrchol. Dywedodd J.R. Jones, a adnabuwyd ar un adeg fel 'athronydd preswyl' y Gymdeithas, yn 1967: 'Dadleuaf fod lle i'w gweithgarwch [anghyfansoddiadol] hwy ochr yn ochr â'r gweithredu cyfansoddiadol dros Gymru', gan mai 'brwydr dros gadw ein gwahanrwydd cenedligol ydyw – brwydr diogelu gwahaniaeth ffurfiannol fel Pobl.' Datganodd R. Tudur Jones môr gynnar ag 1960, ddwy flynedd cyn sefydlu'r Gymdeithas fod angen mudiad o'r fath, dywedodd bod angen '...byddin di-
drais i weithredu ar linellau Gandhiaidd.' Mewn amryw bamffledi ac ysgrifau defnyddiodd R. Tudur Jones eiriau fel 'braint' a 'dyletswydd' yng nghyd destun gwrthwynebu'r Wladwriaeth Brydeinig.
Rhaid derbyn fod lle i oruchwyliaeth rhyw fath o Wladwriaeth – nid anarchydd mohonof ac nid mudiad anarchaidd mo'r Gymdeithas. Diben y Wladwriaeth yw caniatáu dyn i fyw y bywyd da. Yn ogystal a'i ddyletswydd i warchod yr unigolyn mae gan y wladwriaeth ddyletswydd i warchod y genedl a'i hunaniaeth; wrth gwrs y broblem sydd gyda ni ym Mhrydain yw pa genedl? Dywedai R. Tudur Jones ei bod hi'n amhosib i wladwriaeth wasanaethu mwy nag un cenedl. Felly lle bo'r wladwriaeth yn fforeddu ei chyfrifoldeb yna mae hawl, onid dyletswydd, gan yr unigolyn i bwyntio hynny allan a'i gwrthwynebu yn agored a defnyddio dulliau di-drais hyd yn oed. Barn glir Cymdeithas yr Iaith yw ein bod ni'n byw dan Wladwriaeth sydd yn nacau ei gyfrifoldeb i roi hawliau ac amodau teg i siaradwyr Cymraeg.
Rhaid pwysleisio hefyd mae y cam olaf mewn unrhyw ymgyrch yw troi at weithredu uniongyrchol. Mae'n bosib fod gan y Gymdeithas ddelwedd o afael yn y paent y cyfle cyntaf posib. Nid pawb sy'n sylweddoli fod y Gymdeithas yn ddiwyd bob wythnos yn paratoi llythyrau, deisebion, dogfennau trafod a pholisi heb sôn am fynd i lobio gwleidyddion a swyddogion yn aml. Y gwaith di-sôn-amdano yma mewn gwirionedd ydy asgwrn cefn y mudiad ond y gwir trist plaen amdani yw nad oes gan y cyfryngau ddim diddordeb yn y gwaith pwysig cefn llwyfan yma. Dim ond y rhwystro mynedfeydd a'r paentio sloganau y clywch amdanynt yn y Western Mail ac ar donfeddi'r BBC. Rhaid i unrhyw weithredu tor-cyfreithiol ddilyn neu o leiaf fynd law yn llaw a gweithredu confensiynol cyfreithiol.
Ydy mae Cymru wedi newid ers 1997 ac bydd mi fydd mwy o adnoddau ariannol gan y Gymdeithas dros y blynyddoedd nesaf ond does dim unrhyw reswm yn y byd pam y dylai'r Gymdeithas roi'r gorau i'r defnydd o weithredu uniongyrchol di-drais os ydy pob ymgais gonfensiynol yn methu. Mae dros hanner canrif ers i R. Tudur Jones yngan y geiriau yma, datganoli neu beidio, arian yn y banc neu beidio, mae'n parhau i fod yn wir lle bo'r Wladwriaeth yn nacau Cymry Cymraeg oddi wrth eu hawliau '... credwn mae ein braint a'n dyletswydd yw llefaru yn eu herbyn.'
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
3:15 am
2
Sylwad
Labeli: Cymdeithas yr Iaith, Cymraeg, R. Tudur Jones
11.5.07
Gwerth yr Iaith Gymraeg?
Dwi di tynnu nyth cacwn i fy mhen dros nos gyda fy sylwadau am Golwg yn rhoi colofn i flogiwr Saesneg. Gwerth fyddai i mi grynhoi fy marn am y pwnc drwy ddefnyddio'r alagori yma:
I fi roedd hyn fel gweld y Poppies yn neud gigs Saesneg trwy'r flwyddyn wedyn yn cael un gig mawr Cymraeg bob 'steddfod. Oce grêt bod nhw actually yn neud gig Cymraeg ond ychydig o dywod yn wyneb y rhai sydd wedi bod yn gigio'n Gymraeg trwy'r flwyddyn.
Hyd yn oed os nad ydych chi'n cytuno gobeithio eich bod chi o leiaf yn deall fy safbwynt ar y mater. Ymhellach, mae sawl person wedi nod fod hi ddim yn bwysig ym mha iaith ydych chi'n trafod gwleidyddiaeth ac mai'r trafod ei hun sy'n bwysig. “Dim ots os ydy o'n Saesneg neu Cymraeg neu fflipin Swahili.” Mae'r sylw yma yn ddifrîol i werth iaith, mae'n trin iaith fel petasai'n gyfrwng yn unig heb fod iddo werth annibynnol o'r rheidrwydd iddo ef ei hun.
Mae Bethan Jenkins AC wedi ymateb wrth ddweud:
“Mae gan ef a phawb arall rhwydd hynt i ddewis pa iaith i flogio ynddo. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, mae blog yn adlewyrchiad o feddyliai person, ac ni ddylir person cael ei feirniadu am ddewis blogio yn saesneg( na finne chwaith am hynny!)”
Rwy'n deall pwynt Bethan ond unwaith yn rhagor mae'r iaith yn cael ei drafod fel comodity fedrw chi benderfynu tynnu oddi ar y silff neu beidio – ac os ydy cynifer o bobl yn dewis ei adael ar y silff yna iaith eilradd bydd y Cymraeg yng Nghymru am amser eto.
Allw ni ddim gadael tynged y Gymraeg i lazzies fair oherwydd dim ond y lleiafrif bach iawn bydd yn fodlon sefyll yn erbyn y llif. Nid cyfrwng i'w ddewis neu beidio i gario dadl neu gario trafodaeth ydy'r Gymraeg ond mae'n endyd sydd a gwerth iddo yn ei hun. Ydy mae'r ddadl yn bwysig, ydy mae'r drafodaeth yn bwysig ond mae'r iaith mae hyn oll yn digwydd ynddo yn bwysig hefyd nid cyfrwng yn unig ydyw mae yn endyd gwleidyddol yn ei hun. Felly mae ots os ydy o'n Saesneg, Cymraeg neu fflipin Swahili.
Yn olaf, ydw i'n meddwl dylai Aelodau Cynulliad flogio'n Gymraeg? Ydw wrth reswm, yn enwedig felly eu bod nhw'n aelodau etholedig sydd, unwaith eto, fod i arwain y ffordd. Gyda Ciaran, er y buaswn ni wrth fy modd yn ei weld yn blogio'n Gymraeg does dim rheidrwydd arno fel aelod etholedig na dim byd felly i wneud – ond am aelodau etholedig – wrth gwrs bod dyletswydd. I Aelod Cynulliad gadw blog uniaith Saesneg mae e fel Aelod Cynulliad yn anfon gohebiaeth/flyers uniaith Saesneg allan i'w etholwyr. Trist.
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
10:04 pm
7
Sylwad
Labeli: Bethan Jenkins, Ciaran Jenkins, Cymraeg
Newyddiaduraeth Cymraeg/Saesneg - trafodaeth Ciaran
Diolch i Ciaran am ymateb i fy mhostiaid diwethaf. Mae e'n dweud mae'r unig beth pwysig am y golofn yw fod hi'n un “dda”. Wrth gwrs fod hynny yn bwysig ond mae hynny yn awgrymu fod dim ots pa iaith yw hi, neu pa iaith yw'r blog. Dwi'n anghytuno. Mae cyhoeddi mewn iaith leiafrifol yn bwysig ac yn benderfyniad gwleidyddol, i mi beth bynnag. Mae Ciaran yn mynd ymlaen i ddweud:
"Os ydyn ni am gael Cymru deinamig a dwyieithog, rhaid i ni erfyn pobl i weithtio trwy gyfrwng y dwy iaith . Yn delfrydol, dylai fod dim siwt beth a newyddiadurwr 'Cymraeg' a newyddiadurwr 'Saesneg'. Mae'r ffaith bod pobl dal yn gwneud y gymhariaeth yn dangos pa more bell sydd 'da ni i fynd."
Deall ei bwynt i raddau ond pam y dyliwn i fod yn newyddiadura yn Saesneg yn ogystal a'r Gymraeg i gael credentials? Mae'r ffaith bod sgiliau Saesneg gyda mi mynd i fy ngwneud i'n newyddiadurwyr Cymraeg gwell na Cymro uniaith Gymraeg ydy – ond dwi ddim yn derbyn fod rhaid i chi ymarfer eich crefft yn Saesneg, hefyd, i brofi eich hun. Mae yna rhywbeth eithaf taeog yn y feddylfryd yna.
Fodd bynnag mae geiriau Ciron yn bwysig ond credaf mai ochr Saesneg BBC Llandaf sydd angen arwain y ffordd. Cam mawr ymlaen gyda cyfryngau Cymraeg/Saesneg yng Nghymru fyddai perswadio Wales Today i adael pobl i siarad yn Gymraeg ar eu rhaglenni gan roi is-deitlau neu over-dub mlaen (sef beth sy'n digwydd os ydy Prif Weinidog Iran neu pwy bynnag yn siarad). Rwy'n deall fod pobl fel John Meredith wedi bod yn pwyso am hyn ond fod BBC Llandaf (ochr Saesneg) wedi gwrthod.
Tan y bydd Wales Today yn fodlon i bobl siarad yn Gymraeg (gyda subtitles neu over-dub) bydd yna wastad split yn bodoli yn anffodus gan fod Wales Today yn wasanaeth lle mae'r Gymraeg yn cael ei sensorio.
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
12:28 am
2
Sylwad
Labeli: BBC, Ciaran Jenkins, Cymraeg, Newyddiaduraeth
1.5.07
Meri Huws a'r Mewnlifiad - amau yr ysbardun
Sylwadau diddorol a chalonogol (ar yr olwg gyntaf) gan Meri Huws o Fwrdd yr Iaith ddoe a bore ma ar y newyddion. Dywedodd pennaeth Bwrdd yr Iaith mai mewnlifiad i ardaloedd Cymraeg yw'r "her fwyaf" sy'n wynebu'r Gymraeg. Ond pam gwneud y sylwadau dadleuol yma dridiau cyn yr etholiad?
Wel, fel dwi'n deall Llafurwraig ydy Ms. Huws ac tydi ei phlaid hi ddim yn perfformio mor dda a hynny yn y polau piniwn. Ac os gofiwch chi'n iawn cam-ddefnyddiodd y Blaid Lafur a'i rhacsyn o bapur newydd,y 'Welsh Mirror', helynt y Fro Gymraeg a Chymuned i golbio Plaid Cymru a chenedlaetholwyr yn ddi-ddiwedd ac yn gwbl ffiaidd rhwng 1999-2003. Er ffiaidd y polisi gan y Blaid Lafur fe weithiodd ac fe gloffwyd Plaid Cymru erbyn 2003. A'i ymgais unwaith eto gan Lafur i gloffi Plaid Cymru a'i phortreadu fel plaid y Fro Gymraeg yn unig ydy sylwadau Ms. Huws? Ymgais i ddangos fod hollt ym Mhlaid Cymru rhwng y De a'r Gogledd, rhwng y ceidwadwr a'r sosialwyr, yr hen aelodau a'r newydd? Ceisio pegynnu Plaid a Llafur? Dim ond gofyn.
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
9:41 pm
0
Sylwad
Labeli: Cymraeg, Etholiad, Plaid Cymru
13.2.07
Annwyl Ioan Matthews
Llawer un wedi cwyno fod y blog wedi bod yn dawel yn ddiweddar. Dwi di bod reit brysur rhwng gwahanol bethau. Y Piwritaniaid yn fy nghadw'n brysur rhan fwyaf o'r dydd a digon o bethau erill mlaen hefyd. Dwi'n trio helpu Menna cymaint fedrai yn y gwaith paratoi ar gyfer y rali dydd Sadwrn (dewch!) - dwi'n helpu i ffilmio a torri fideo ddogfen fer ar ran UMCA i chwarae yn y rali. Wrth gwrs, unwaith bydd hi'n barod fe rof hi fyny ar y blog i chi weld hefyd. Gig cyntaf Kenavo ers misoedd lawer nos Wener felly bydd rhaid meddwl paratoi rywfaint ar gyfer honno hefyd. Felly ar y cyfan wythnos brysur ac felly heb amser i sgwennu postiad difyr dim ond esbonio pam nad oes amser gyda fi roi postiaid difyr!
Ond dyma rywbeth bach difyr i chithau sy'n dilyn yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg. Yn dilyn adroddiad Arad mae'r Brifysgol a HEFCW (y cyngor cyllido) wedi symud at strwythur newydd o reoli. Dwi wedi ysgrifennu at Ioan Matthews yn holi am fanylion y strwythur newydd. Dwi'n ofni mae jest symud pethau o gwmpas yn ffenest y siop maen nhw'n gwneud a prin gallaf ddychmygu y daw y newid strwythurol/pwyllgorol yma a lawer o wahaniaeth i fyfyrwyr ar lawr gwlad. Dyma'r llythyr y gobeithiaf gael ateb iddi yn fuan:
10.2.2007
Annwyl Ioan Matthews,
Yn dilyn diddymu'r Grŵp Llywio Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch dan gadeiryddiaeth Andrew Green dyma gysylltu i holi am y strwythurau newydd bydd mewn lle. Rydym ni ar ddeall y bydd HEFCW yn sefydlu Grŵp Sector Addysg Uwch fydd a chynrychiolwyr o bob SAU yn aelod gan eich cynnwys chwi o'r Ganolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg. A fedrwch ddatgelu a chadarnhau:
- Pwy fydd aelodau'r Grŵp newydd yma?
- Beth yn union bydd dyletswyddau a chyfrifoldebau'r grŵp newydd?
- Pa mor aml y bydd y grŵp yn cyfarfod?
- A phwy, sut a phle y bydd y grŵp yn cael ei gweinyddu?
- Pwy fydd y Cadeirydd?
Rydym a'r ddeall hefyd fod cynlluniau ar droed gan HEFCW i sefydlu Fforwm Sector Addysg Uwch fydd a chynrychiolaeth ehangach na'r grŵp uchod fydd yn cynnwys cynrychiolaeth gan Undebau'r Myfyrwyr. A fedrwch gadarnhau aelodaeth, rôl a phwrpas y fforwm hwn:
- Pwy fydd aelodau'r fforwm newydd yma?
- Beth yn union bydd dyletswyddau a chyfrifoldebau'r fforwm newydd?
- Pa mor aml y bydd y bydd y fforwm yn cyfarfod?
- A phwy, sut a phle y bydd y fforwm yn cael ei gweinyddu?
- Pwy fydd y Cadeirydd?
- A fydd cyfle i Gymdeithas yr Iaith wneud cais am le ar y fforwm?
Gobeithiaf dderbyn eich cydweithrediad llwyr er mwyn i ni ddeall sut mae'r strwythurau a'r pwyllgorau newydd am weithredu i symud Addysg Gymraeg ymlaen yn y Sector Addysg Uwch.
Yn gywir,
Rhys Llwyd
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
7:00 am
0
Sylwad
Labeli: Coleg Ffederal, Cymdeithas yr Iaith, Cymraeg, Kenavo, Menna, Piwritaniaid
1.2.07
Darllediadau Gwleidyddol ...cartref
Mae pawb wedi arfer clywed am yr hwn ar llall sy'n gwneud bara cartref ond dyma un newydd i chi - darllediadau gwleidyddol cartref. Dwi wedi bod yn ystyried y posibilrwydd ers rhai misoedd yn rhannol oherwydd poblogrwydd youtube fel gwefan ac hefyd fel ffordd o ymateb yn bositif i rai issues sydd gyda mi a rhai o'm ffrindiau gyda Phlaid Cymru ar hyn o bryd.
Wel dyma gyhoeddi y gyntaf. Nid darlleqdiad pro-Plaid Cymru na pro-annibyniaeth mo hon ond yn hytrach hysbyseb yn annog pobl i ddod i'r Rali Coleg Ffederal Cymraeg gan fy nghyfeillion yn UMCA. Mi wn nad ydyw'n oll broffesiynol OND mae o'r galon ac fe'i wnaed ar y laptop adref ar gyllideb o £0!! Gadewch mi wybod be dy chi'n feddwl:
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
3:01 am
1 Sylwad
Labeli: Coleg Ffederal, Cymraeg, Darllediad, Plaid Cymru, umca
30.1.07
Bangor a Vavasor Powell
Dros y penwythnos fuesi lan ym Mangor ym Mhrotest Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd. Roedd rhyw 150 yna a rhaid mi ddeud mae dyma'r brotest fwyaf lwyddiannus i mi ei fynychu gan y Gymdeithas ers y blynyddoedd. Wedi i drafodaethau gyda chwmni Morrisons dorri i lawr fe benderfynwyd eu targedu gyda phrotest. Yn ddiddorol ddigon dywedd y rheolwr "We don't have to provide welsh stuff, we are not oblijed by law to do so - your argument is with the Welsh office therefore" A'r Llywodrarth sy'n dweud nad oes angen newid y ddeddf gan y gwnaiff cwmniau cyhoeddus fel Morrision ddarparu'n ddwy-ieithog allan o ewyllys da - hurt.
Isod wele fideo you tube o gasgliad o'r lluniau dynesi pan i lawr mewn lobi yn y Cynulliad cyn 'dolig ac yna lluniau o'r Brotest ddydd Sadwrn. Rhaid cael fy nanell nol mewn i'r Piwritaniaid yn awr - cyn mynd yn ôl at gyfrolau mawr Thomas Richards dwi'n cael hoe fach ac yn gweithio trwy Vavasor Powell gan R. Tudur Jones ei hun. Dyma'r llyfr cyntaf gan Dr. Tudur ei hun i mi weithio trwyddo yn fanwl ac dwi'n cael blas! Mwynhewch y fideo:
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
10:20 pm
0
Sylwad
Labeli: Bangor, Cymdeithas yr Iaith, Cymraeg, Deddf Iaith Newydd, Piwritaniaid, R. Tudur Jones, Vavasor Powell
23.1.07
Rali Coleg Ffederal - 17.2.07
Postiwyd gan
Rhys Llwyd
am
2:13 am
0
Sylwad
Labeli: Aberystwyth, Coleg Ffederal, Cymraeg