A ddylai CYIG roi'r gorau i dor-cyfraith nawr fod genym ni ££?
Ysgrifenais yr isod yn wreiddiol fel ysgrif i'r Tafod nol ym mis Ionawr ar gyfer rhifyn y Cyfarfod Cyffredinol, ond am ryw reswm ni ymddangosodd y rhifyn yna byth felly dyma gyhoeddi'r erthygl ar y blog. Gwerth fyddai rhoi disclemer mai fy marn i yw'r isod nid barn CYIG o'r rheidrwydd:
Eleni mi dderbyniodd y Gymdeithas swm mawr o arian mewn ewyllys. Tybia rhai fod hwn yn gyfle i'r Gymdeithas “droi'n broffesiynol” a “rhoi'r gorau i fandaleiddio” a “troi'n lobïwyr proffesiynol.” I ddechrau rhaid holi pam fod rhai wedi dweud pethau o'r fath am y Gymdeithas yn ddiweddar? Mae'r clebar yma yn awgrymu mae diffyg arian a beri i'r Gymdeithas droi at brotestio, weithiau yn anghyfreithlon, dros y blynyddoedd. Gellid taflu'r dybiaeth anghywir yn allan o'r ffenestr yn syth – nid diffyg arian sy'n gyrru'r Gymdeithas at weithredu anghyfreithiol ond yn hytrach egwyddor. Mae'n wir fod arian yn medru llygru dyn a peri iddo anghofio ei egwyddorion – oni syrthiodd sawl Cenedlaetholwr i'r twll hwn yn y Gymru ddatganoledig? Ond rwy'n argyhoeddedig na syrthia'r Gymdeithas i'r un twll. Rhaid glynu wrth yr egwyddorion ac un o'r egwyddorion yma yw'r egwyddor o ddilysrwydd defnydd cyfrifol o weithredu uniongyrchol di-drais.
Gadewch i mi yn awr drafod y moesau ar athroniaeth tu ôl yr egwyddor hon. Mae'n beth iach i ni fel mudiad atgoffa ni ein hunain o'r newydd bob hyn a hyn pam ein bod ni'n gwneud pethau fel ydym ni'n eu gwneud – dyma obeithio dynnu sylw ein aelodau yn ôl at egwyddor craidd un o ideolegau canolog a phwysicaf y mudiad ers y dechrau. Gobaith yr ysgrif hon bydd lladd y beirniaid sy'n cyhuddo'r Gymdeithas o ruthro at weithredu uniongyrchol heb ystyried y cwestiynau moesol sydd ynghlwm a gweithredu o'r fath.
Mae gweithredu uniongyrchol yn dacteg cydnabyddedig effeithiol. Dyma ddywedodd neb llai na Peter Hain AS Llafur am weithredu uniongyrchol: 'If any one factor could be singled out in the overwhelming success of this campaign against the white South African tourists [Chwaraewyr Criced], it would be these direct action tactics which formed the basis of the campaign strategy.' Dyma oedd asgwrn cefn ymgyrchoedd Gandhi yn yr India a Matrin Luther King yn yr UDA hefyd. Mewn cyfarfod cyffredinol tanllyd fis Tachwedd 1966 mabwysiadodd y Gymdeithas bolisi oedd yn datgan: 'fod Cymdeithas yr Iaith yn datgan unwaith eto mai dulliau di-drais yw'r unig rai a arddelir ganddi, a'i bod yn dehongli “di-drais ar bersonau” fel na chaniateir i aelod o'r Gymdeithas daro'n ôl mewn ymgyrch neu brotest a drefnwyd gan y Gymdeithas.' Mae'r polisi hwn yn sefyll o hyd.
Yn ogystal ag edrych at ffigurau tramor fel Gandhi a Luther King am ysbrydoliaeth bu i rai athronwyr a diwinwyr Cymreig gynnig cyfundrefn a fframwaith i gyfiawnhau a chefnogi gweithrediadau uniongyrchol y Gymdeithas. Tri heavyweight sy'n sefyll allan yw'r Athrawon J.R Jones, Pennar Davies ac R. Tudur Jones – tri o ysgolheigion amlycaf a disgleiriaf yr Ugeinfed Ganrif a thri fu'n amddiffyn polisi'r Gymdeithas o weithredu uniongyrchol. Dywedodd J.R. Jones, a adnabuwyd ar un adeg fel 'athronydd preswyl' y Gymdeithas, yn 1967: 'Dadleuaf fod lle i'w gweithgarwch [anghyfansoddiadol] hwy ochr yn ochr â'r gweithredu cyfansoddiadol dros Gymru', gan mai 'brwydr dros gadw ein gwahanrwydd cenedligol ydyw – brwydr diogelu gwahaniaeth ffurfiannol fel Pobl.' Datganodd R. Tudur Jones môr gynnar ag 1960, ddwy flynedd cyn sefydlu'r Gymdeithas fod angen mudiad o'r fath, dywedodd bod angen '...byddin di-
drais i weithredu ar linellau Gandhiaidd.' Mewn amryw bamffledi ac ysgrifau defnyddiodd R. Tudur Jones eiriau fel 'braint' a 'dyletswydd' yng nghyd destun gwrthwynebu'r Wladwriaeth Brydeinig.
Rhaid derbyn fod lle i oruchwyliaeth rhyw fath o Wladwriaeth – nid anarchydd mohonof ac nid mudiad anarchaidd mo'r Gymdeithas. Diben y Wladwriaeth yw caniatáu dyn i fyw y bywyd da. Yn ogystal a'i ddyletswydd i warchod yr unigolyn mae gan y wladwriaeth ddyletswydd i warchod y genedl a'i hunaniaeth; wrth gwrs y broblem sydd gyda ni ym Mhrydain yw pa genedl? Dywedai R. Tudur Jones ei bod hi'n amhosib i wladwriaeth wasanaethu mwy nag un cenedl. Felly lle bo'r wladwriaeth yn fforeddu ei chyfrifoldeb yna mae hawl, onid dyletswydd, gan yr unigolyn i bwyntio hynny allan a'i gwrthwynebu yn agored a defnyddio dulliau di-drais hyd yn oed. Barn glir Cymdeithas yr Iaith yw ein bod ni'n byw dan Wladwriaeth sydd yn nacau ei gyfrifoldeb i roi hawliau ac amodau teg i siaradwyr Cymraeg.
Rhaid pwysleisio hefyd mae y cam olaf mewn unrhyw ymgyrch yw troi at weithredu uniongyrchol. Mae'n bosib fod gan y Gymdeithas ddelwedd o afael yn y paent y cyfle cyntaf posib. Nid pawb sy'n sylweddoli fod y Gymdeithas yn ddiwyd bob wythnos yn paratoi llythyrau, deisebion, dogfennau trafod a pholisi heb sôn am fynd i lobio gwleidyddion a swyddogion yn aml. Y gwaith di-sôn-amdano yma mewn gwirionedd ydy asgwrn cefn y mudiad ond y gwir trist plaen amdani yw nad oes gan y cyfryngau ddim diddordeb yn y gwaith pwysig cefn llwyfan yma. Dim ond y rhwystro mynedfeydd a'r paentio sloganau y clywch amdanynt yn y Western Mail ac ar donfeddi'r BBC. Rhaid i unrhyw weithredu tor-cyfreithiol ddilyn neu o leiaf fynd law yn llaw a gweithredu confensiynol cyfreithiol.
Ydy mae Cymru wedi newid ers 1997 ac bydd mi fydd mwy o adnoddau ariannol gan y Gymdeithas dros y blynyddoedd nesaf ond does dim unrhyw reswm yn y byd pam y dylai'r Gymdeithas roi'r gorau i'r defnydd o weithredu uniongyrchol di-drais os ydy pob ymgais gonfensiynol yn methu. Mae dros hanner canrif ers i R. Tudur Jones yngan y geiriau yma, datganoli neu beidio, arian yn y banc neu beidio, mae'n parhau i fod yn wir lle bo'r Wladwriaeth yn nacau Cymry Cymraeg oddi wrth eu hawliau '... credwn mae ein braint a'n dyletswydd yw llefaru yn eu herbyn.'
2 comments:
Erthygl gwych Rhys. A fydd yn ymddangos yn rhifyn Steddfod yr Urdd sgwni?!?
Rwy'n disgwyl ymlaen yn eiddar i weld - gobeithio!
Post a Comment