15.5.07

Sellaband


Dwi newydd ddod ar draws www.sellaband.com gwefan lle medrwch chi wrando ar demo's bandiau ac os ydych chi'n hoffi yr hyn dy chi'n clywed medrwch chi ddod yn 'gredadun' a chyfrannu $10 tuag at gronfa i'r band dan sylw fynd i fewn i stiwdio i recordio LP. Wedi i fand gael 5,000 o 'gredinwyr' maen nhw'n mynd i'r stiwdio ac yna yn dychwelyd i'r wefan i werthu y cynnyrch proffesiynol ac mae'r elw yn cael ei rannu rhwng y wefan, yr artist a'r 'credinwyr' hynny wnaeth fuddsoddi ynddyn nhw i ddechrau.

Mae'n syniad rhagorol yn fy nhyb i. Dwi'n ceisio dyfalu os ydy hi'n bosib setio rhywbeth tebyg fyny i fandiau Cymraeg. Dydy codi digon o arian i dalu band i recordio LP cyfan ddim yn realistig ond o bosib fod codi digon o arian i anfon band ifanc Cymraeg i stiwdio broffesiynol am ddiwrnod yn ddigon realistig. Rhyw 25 o 'gredinwyr' bydd eu hangen i anfon band ifanc Cymraeg i'r stiwdio am ddiwrnod. Gallaf i setio'r wefan fyny a'r talidau drwy Paypal ond yr hyn na fuasw ni'n medru rhoi yn ôl byddai dividends i'r 'credinwyr' – er basw ni'n gobeithio y byddai 'credinwyr' cerddoriaeth Gymraeg yn fodlon buddsoddi £10 heb ddisgwyl dim byd nol heblaw am glywed deunydd y band wedi iddynt recordio. Diddorol byddai clywed eich sylwadau?

1 comment:

Tegwared ap Seion said...

O ddarllen y blog (heb ymchwilio ymhellach i'r cysyniad) beth sy'n gwneud "sellaband" yn apelgar yw'r elfen o "gamblo" a gweld faint, os o gwbwl, o dy bres gei di 'nôl. Mae hynny yn sicr yn llawer mwy apelgar na rhoi £10 i griw o lafna' s'isho g'neud sŵn.

Dwi 'chwaith ddim yn cytuno 100% efo'r syniad o "sîn roc Gymreig" gan mai peth cwbwl Americanaidd/Seisnig ydi hi, ond stori arall ydi hynny... ond os 'ti'n medru dewis i ba fand ti'n rhoi dy £10 yna mai fyny i chdi dydi.

$10 = £5, gyda llaw, sydd yn gwneud sellaband hyd'noed fwy apelgar byth! ;o)