13.5.07

Crefydd yn gwahanu - plaid yn uno

Fe addewesi bostio fy narlith/sgwrs ar 'Crefydd yn gwahanu - plaid yn uno' ar y blog. Felly dyma hi. Fe aeth y noson yn iawn dwi'n meddwl, fe gafodd fy syniadau ddigon o wrthwynebiad yn bennaf o dy y Methodistiaid Calfinaidd hynny nad sy'n arddel yr un Calfiniaeth (os o gwbl) a thadau eu henwad - perodd fy syniadau beth anesmwythod i Grynwr oedd yno hefyd oedd yn dadlau fod Duw wedi ei greu ar ein llun an delw ni, roeddwn ni wrth gwrs yn dadlau y ffordd arall. Dwi'n meddwl i Cynog Dafis ddilyn fy nadl trwyddo er na fynai ef gytuno chwaith er fe dybiaf ei fod yn dra ddiolchgar am y sgwrs. Roedd trafodaeth am ddiwinyddiaeth gyhoeddus o safbwynt ddiwigiedig uniongred yn newydd (neu o eliaf yn flash from the past) i lawer oedd yna gan fod y safbwynt ryddfrydol Gristnogol wedi mwynhau free run ym maes diwinyddiaeth gyhoeddus yng Nghymru ers degawd a mwy bellach, ers marw R. Tudur Jones yn wir.

Yr unig beth dwi'n dyfranu yw peidio rhoi mwy o gefndir ac esbonio o lle dwi'n dod gyda'r safbwynt diwigiedig uniongred o sofraniaeth Duw - cymerais yn ganiataol y byddai pawb yn gyfarwydd ar rhagdyb syniadaethol yna, roeddwn yn anghywir dwi'n meddwl. Problem sylfaenol arall oedd fod yna wahaniaeth sylfaenol ynghlyn a dealltwriaeth o Islam - roeddwn ni ar un llaw, tra yn eu parchu, diwedd y dydd yn gwbl argyhoeddiedig eu bod nhw yn anghywir ac mai Crist y gwaredwr yw'r unig ffordd. Doedd llawer i Gristion, sawl un sydd ar bapur yn glynu at gyffes fydd weddol uniongred, yn cael anesmwythdod gyda'r fath abseliwt gan ddadlau fod y Moslem yn credu mewn Iesu - ydyn maen nhw ond fel proffwyd nid gwaredwr.

Ta beth dyma'r ddarlith....

CREFYDD YN GWAHANU - PLAID YN UNO

Y cwestiwn cyntaf sydd eisiau i ni ystyried cyn taro i mewn i unrhyw fanylder yw hyn. I ba raddau y mae'r DG ac yn benodol Cymru yn 'wlad Gristnogol'?

Cri Lewis Valentine yn ei emyn fawr 'Dros Gymru'n gwlad' oedd “Gwna hi'n Gymru ar dy lun”. Ydy'r genedl hon felly yn Gymru y gellid tybied ei bod ar lun a delw Duw?

Edrychwch ar yr ystadegau yma. Yn 1996 nododd 88% o bobl y DG eu bont yn Gristnogion, ond eto yn 2007 cyhoeddodd Tearfund arolwg oedd yn dangos nad oedd gan 66% o bobl y DG unrhyw gyswllt ag unrhyw Eglwys! Beth sydd i'w gyfrif am y fath anghysondeb? Mae'n edrych yn debyg mai i'r rhan fwyaf o'r 88% a honnai eu bod yn Gristnogion, label diwylliannol neu gymdeithasol yn unig yw 'Cristnogaeth'. Nid yw Cristnogaeth 'fyw' nac yn rhywbeth real i fwyafrif helaeth o bobl y DG er fod yr ystadegau yn honni i'r gwrthwyneb.

Beth am Gymru? Wel, os edrychir ar yr ystadegau, Ynys Môn yw sir mwyaf Cristnogol Cymru gyda 79% yn 2001 yn nodi eu bod nhw'n Gristnogion – Môn mam Cymru yn dangos y ffordd i'w phlant anufudd. Ond ydy hwn yn ffigwr credadwy, ac i ba raddau y gellir ei gymryd o ddifrif. Ydy cyflwr ysbrydol Ynys Môn mor iachus ac y tybir iddi fod – ydy bob pentref a thref yn Ynys Môn yn cynnal achosion crefydd dirifedi a chryf? Yn anffodus 'nac ydy' yw'r ateb.

Mae Cristnogaeth ar drai yn gyffredinol ag eithrio'r Eglwysi Pentacostalaidd Diwygiedig sy'n parhau i lwyddo i ddenu'r tyrfaoedd – yn bennaf rhai sy'n cael eu harwain gan bobl o dras Affricanaidd. Mae yna un crefydd, fodd bynnag, sydd ar dŵf yma yng Nghymru - Moslemiaeth. Bellach mae 1.6m yn y DG, 50,000 o rheini yng Nghymru. Yng Nghymru maen nhw'n grŵp mwy bellach na'r Hen Gorff hyd yn oed ac rwy'n siŵr eich bod chi i gyd wedi gyrru heibio hen Gapel y Crwys yng Nghaerdydd sydd bellach yn Fosg. Mae'r gymuned Foslemaidd yn gymuned sydd bellach wedi gwreiddio yma oblegid erbyn hyn mae dros 50% ohonynt wedi eu geni yma. Un ystadegyn difyr oedd darganfod mai Ceredigion yw'r Sir a'r canran uchaf o Fwdeaid yng Nghymru.

Ac ar nodyn ysgafnach. Mae ystadegau'r Muslim Council of Britain yn dangos fod y gymuned Foslemaidd yn bwyta 20% o'n cig oen ni er eu bod nhw ond yn cynrychioli 5% o'r boblogaeth. Conglfaen ymgyrch etholiadol nesaf y BNP rwy'n siŵr!

Felly dyna'r cefndir. Nid ydym ni’n byw mewn ‘gwlad Gristnogol’ bellach ac maen rhaid i Gristnogion ddatblygu ‘rationale’ i ddelio gyda hyn. Fy marn bendant i hefyd yw fod gadael ein Cristnogaeth yn y sffer breifat ac Eglwysig yn gam gwag. Fe allwn, ac fe ddyliem wynebu yr her newydd fel Cristnogion nid fel bodau Seciwlar.

Gadewch i mi ddechrau gyda dau ddyfyniad, dau o eiddo R. Tudur Jones mewn llythyrau at Gwynfor Evans sydd ar gael i'w darllen yn y Llyfyrgell Genedlaethol – difyr iawn yn enwedig fel seibiant o gyfrolau sychion am y cyfnod Piwritanaidd! Cefndir y dyfyniad cyntaf yw protest o dŷ Pabyddion Plaid Cymru am gynnwys hysbyseb gan glinig 'Planned Families' yn y Ddraig Goch, Meddai Dr. Tudur:

“Trueni na bai ein cyfeillion Pabyddol yn teimlo mor ddwfn ynglŷn a materion fel rhyfel neu erledigaeth ar leiafrifoedd crefyddol.”


Ac yna rai blynyddoedd yn ddiweddarach:

“[Mae] Saunders yn dechrau ymosod yn gyhoeddus arnom yn awr... Dowch inni fod yn gwbl glir ein golygon; gyda phob dyledus barch i Saunders a'i allu mawr, pe bai ef wrth y llyw, ni byddai'r Blaid ond cwmni dibwys o bobl od, os mewn bodolaeth o gwbl.


Geiriau o eiddo R. Tudur Jones sy'n dangos tensiwn amlwg oddi fewn i Blaid Cymru – tensiwn nid rhwng Cristion ac Anghredadun mewn un plaid - nac ychwaith rhwng Cristion a rhywun o grefydd gwbl wahanol, ond tensiwn rhwng dau garfan o Gristnogion! Saunders ar y naill law yn chwifio baner Rhufain a Tudur Jones ar y llaw arall yn chwifio baner Genefa.

Ac yna cymharwch Efengyliaeth yn yr Unol Daleithiau, y garfan uchaf eu cloch a'u cyswllt amlwg a gwleidyddiaeth llewyrch ac yna'r lleiafrif dan arweiniad Jim Wallis sy'n pwysleisio radicaliaeth cymdeithasol yr efengyl. Y dyfyniad cyntaf yn sôn am Oral Roberts, Tele-Efengylydd sy'n godro pob dimau goch allan o'i wylwyr ac yn byw fel miliwnydd:

“In 1987, during a fund raising drive, Oral Roberts announced to a television audience that unless he raised $8 million by that March, God would "call him home” They gave him over $9m.”


Ac yna geiriau Jim Wallis o'r traddodiad Efenyglaidd Adain Chwith yn yr Unol Daleithiau wrth drafod honiad Bush fod y rhyfel yn Irac yn unol a dymuniad Duw:

“Are we asking whether we are being accountable to God's intentions and purposes? Or are we asking for God's blessing on our activities? They're very different things.”


Prawf pellach o'r gwahaniaethau sy'n amlygu eu hunan ymysg Cristnogion ar fater gwleidyddol a chymdeithasol.

Os ydy carfanau o Gristnogion yn anghytuno yna pa obaith i bobl o wahanol ffydd i gytuno a chydweithio o fewn plaid wleidyddol? Pa obaith? Wel, dyma drafod y posibilrwydd.

Ar y dechrau carwn dynnu eich sylw at dri cymal pwysig yn hanes y byd a hanes y ddynoliaeth:

1. Y Cread
2. Y Cwymp
3. Yr Adferiad yng Nghrist


Delio heno yr ydym ni gyda'r trydydd pwynt sef pa sgôp sydd i'r adferiad yng Nghrist? Beth yw ei gynnwys? Ysbrydol yn unig? Neu a oes iddo oblygiadau cyffredinol a chosmig i'r byd hwn?

Mae Cristnogion dros y blynyddoedd wedi gosod y cread fel antithesis i Dduw – yn rhywbeth i'r credadun ffoi oddi wrtho. Celf, Gwyddoniaeth, Iaith, Llen a Gwleidyddiaeth i gyd yn cael eu gweld fel pethau colledig. Dim ond Cristnogion oedd yn ddigon clir eu meddwl i lywodraethu a barnu, nid oedd gwleidydd o anghredadun i'w drystio ac nid oedd llenyddiaeth gan anghredadun i'w werthfawrogi. Do, fe ddaeth cyfamod gras i achub a chipio'r enaid o'r byd ond rhaid oedd derbyn pietistiaeth arallfydol wedi derbyn y rhad ras – gadael y byd yn ei lanast ei hun oedd y feddylfryd.

Yr ofn mawr ar un adeg ymysg Cristnogion oedd cael eich dal yn y Sinema pan ddeiau Iesu yn ôl!

Bu Eglwys Rufain yn gyfrifol fwy na neb – a rhai traddodiadau efengylaidd i'w dilyn - am osod yr Eglwys a'r Byd yn erbyn ei gilydd. Y naill yn Sanctaidd a'r llall yn parhau dan felltith. Gwelwyd bopeth oedd tu allan i'r Eglwys fel petai dan ddylanwad yr un drwg ac fe ddefnyddiwyd Tynghedwr (Exorcist) i ddifa'r grym drwg yma o bopeth ddeuai dan ddylanwad, yn ddylanwad neu yn ysbrydoliaeth ar yr eglwys. Dan drefn felly roedd rhaid i bopeth cymdeithasol gael ei roi dan adain yr Eglwys – yr unig le saff i fod. Canlyniad hyn oedd fod rhaid i'r arweinwyr gwleidyddol a chyfreithiol fod yn eneiniog ac wedi eu clymu i gyffes. Yn ogystal rhoed celf a gwyddoniaeth dan gymeradwyaeth neu sensoriaeth yr Eglwys. Pen y daith yma o geisio Cristioneiddio'r byd drwy ei dynnu i fewn i'r Eglwys oedd i'r byd lygru'r Eglwys.

Drwy beidio gweld unrhyw ddaioni yn y byd credaf fod y gred yma wedi bod yn euog o roi cyfyngiadau ar bŵer yr adferiad yng Nghrist.

Fodd bynnag mae yna Gristnogion dros y canrifoedd sydd wedi gweld gwerth mewn ymwneud a'r Byd a hynny yn annibynnol o'r Eglwys. Gwelsant werth i Lenydda a Gwleidydda ac fe gyd-weithiasant a chydwybod tawel gyda anghredinwyr a hyd yn oed cyd-weithio gyda phobl o ffydd arall. Fel Cristion ac aelod o Blaid Cymru rydw i, a llawer un arall yma heno, wedi ymroi i gyd-weithio a phobl o ffydd wahanol oblegid ers nos Iau mae gan Blaid Cymru aelod cynulliad Moslemaidd, Mohamaad Ashgar.

Credaf ei bod hi'n bwysig i'r Cristion gael 'rationale' tu ôl i bob penderfyniad neu safiad felly dyma gynnig 'rationale' i Gristnogion gyd-weithio dros gyfiawnder cymdeithasol a gwleidyddol ochr yn ochr a Mohamaad Ashgar yn dawel eu cydwybod.

Fe ddychwelaf at Gymru ac at Mohamaad mewn ychydig ond yn gyntaf gadewch i mi fynd a chi i'r Iseldiroedd a'ch cyflwyno i'r diwinydd Calfinaidd Abraham Kuyper. Ystyrir Abraham Kuyper (1837-1920) yn un o'r diwinyddion fu'n gyfrifol am ail ffocysu ar awdurdod y diwygwyr mewn oes oedd nai llai wedi anghofio amdanynt neu gan amlaf wedi troi i arddel safbwyntiau oedd yn wrthun i syniadau Calfin a'r diwygwyr eraill. Gydag gwaddol y tadau diwygiedig yn sylfaen, adeiladodd Kuyper ar hynny fyd-olwg i chwyldroi gwleidyddiaeth, academia, celf a systemau cymdeithasol yr oes. Calfiniaeth oedd calon ei system, y math puraf o Gristnogaeth – yn ei eiriau ef: '...the tresure of the past, the hope of the future.'

Roedd yn un o'r athrylithwyr prin hynny wnaeth lwyddo i arwain mudiad poblogaidd. Nid oedd yn credu fod llunio a datgan byd-olwg Cristnogol yn mynd ddigon pell. Fe aeth ati i greu sefydliadau i roi'r byd-olwg mewn lle; papur newydd, system addysg a phlaid wleidyddol boblogaidd cyntaf ei wlad. Anghytunai'n gryf ac yn sylfaenol gyda Moderniaeth ac fe wrthododd ddiwinyddiaeth Ryddfrydol yn gynnar iawn. Condemniodd yr arweinwyr eglwysig hynny yn yr Is-Almaen oedd yn ceisio plygu'r gyffes draddodiadol i fowld yr oes resymoliaethol-wyddonol bresennol. Uchafbwynt ei yrfa gyhoeddus oedd codi i fod yn Brif Weinidog yr Iseldiroedd - llwyddodd i gipio pŵer drwy fynd i glymblaid gyda'i elynion traddodiadol, plaid y Catholigion, diau fod yna wersi i'r Cynulliad Cenedlaethol a Senedd yr Alban fan hyn.

Fel Diwinydd Calfinaidd a Gwladweinydd gwelsai Kuyper ei bod hi'n bwysig iddo gynnig 'rationale' i'w rôl a'i fywyd cyhoeddus tu allan yr Eglwys yn yr Iseldiroedd. Darganfu'r 'rationale' yn athrawiaeth y 'Gras Cyffredin'

Yn y traddodiad Calfinaidd ceir sôn am ddau fath o ras

1.Gras Arbennig
2.Gras Cyffredin

Mae'r math cyntaf yn ymwneud a'r math o ras yr ydym ni mwyaf cyfarwydd a'i drafod sef y gras achubol. Y Gras sy'n achub y dyn syrthiedig ac yn adfer ei berthynas a'r Tad nefol – gras sydd wedi ei neilltuo'n arbennig i wneud gwaith penodol ac arbennig.

Er na ddefnyddiodd Calfin y term Gras Cyffredin yn ei Institutes (sef magnus opus Calfin) ceir sôn am ras nad sy'n ras achubol ond yn hytrach yn ras sydd i'r Byd yn gyffredin. Dyma ddywed cenad Calfin, Kuyper, ddiwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg:

“...we must distinguish two dimensions in this manifestation of grace: 1. a saving grace. Which in the end abolishes sin and completely undoes its consequences; and 2. a temporal restraining grace, which holds back and blocks the effect of sin.”


Mae'r sôn yma am 'ddal yn ôl' effaith ddinistriol pechod yn cydnabod nad yw'r Byd wedi ei “golli” yn llwyr yn yr ystyr y bod yn rhaid i bob Cristion ddianc ohoni. Gan fod Gras Cyffredin yn dal grym pechod yn ôl mae yna le i Gristnogion ymhél a'r sffêr gyhoeddus a gyda'r byd a'i bethau sydd, yn eu mysg, yn cynnwys Gwleidyddiaeth.

Fe ddywed athrawiaeth Gras Cyffredin fod gras yn syrthio ar bawb yn ddi wahân - nid yw Duw yn gwahaniaethu pwy gaiff dderbyn bendithion cyffredinol gras. Yr enghraifft mae Bobi Jones yn ei ddefnyddio i brofi hyn yw bodolaeth llenorion Cristnogol ofnadwy a llenorion seciwlar rhagorol. Ond y wedd o athrawiaeth Gras Cyffredin sy'n berthnasol yng nghyd destun y sgwrs yma yw'r cysyniad fod ffrwyth bendithion gras yn golygu bod cyfiawnder yn bosibl ar y ddaear yma, o leiaf ar lefel ddinesig.
Dywedodd y diwinydd Louis Berkhof;

Common grace enables man to perform what is generally called justitia civilis, that is, that which is right in civil or natural affairs... Reformed theologians generally maintain that the unregenerate can perform natural good, [and] civil good...


Ymhellach dywed Vincent E. Bacote awdur ar syniadaeth Kuyper:

“Common grace is the reason there is so much to admire from non-Christians.”


Rwy'n cytuno gyda Kuyper ac yn gwrthod y dybiaeth mae dim ond Cristnogion all wneud 'da' mewn materion gwleidyddol a chymdeithasol. Mae rhesymeg ac athrawiaeth Gristnogol yn dangos fod modd i bawb yn ddi-wahan ddod dan fendith gras cyffredin.

Gan droi yn ôl yn awr at ein senario gyfoes ni gyda ethol Mohamaad Ashgar. Fe olyga athrawiaeth Gras Cyffredin fod Mohamed wedi derbyn joch o ras cyffredin cymaint meiddia i awgrymu a Christion mawr o Bleidiwr fel R. Tudur Jones neu Pennar Davies. Felly yn hynny o beth dydy cyd-weithio gyda Mohamaad ar fater gwleidyddol ddim yn codi dim deilema i mi.

Os ydych chi, fel Cristion, wedi bodloni ar weithio gyda phobl nad sy'n Gristnogion o fewn Plaid Cymru ers blynyddoedd pam yr amheuaeth wrth weld Moslem yn ymuno a'ch plaid? Onid un arall nad sy'n gwrthod Iesu fel gwaredwr, fel unrhyw un arall nad sy'n Gristion ydy Moslem? Pam eu trin yn wahanol?

I gloi dwi am gynnig sylwad beiddgar sef ei bod hi'n haws cytuno a chydweithio gyda Mohamaad sydd o ffydd arall nag ydyw i gytuno a chydweithio gydag Atheist o argyhoeddiad – ffigwr tebyg i Richard Dawkins neu ei brif ladmerydd yn Aberystwyth, Iolo ap Gwyn. Er, fe dybiaf, fod rhin fy athrawiaeth Gristnogol i a rhin athrawiaeth Moslemaidd Mohamaad yn syrthio ben ben a'i gilydd credaf fod yna beth tir cyffredin:

1.Cydnabod bodolaeth y sffêr ysbrydol
2.Y Cysyniad o foesoldeb
3.Ofn Duw
4.Sancteiddrwydd Bywyd


Fe fedrwn ganfod peth tir cyffredin gyda'r Moslem ar y pwyntiau uchod ond ofer yw ceisio canfod tir cyffredin gyda Dawkiniaid.

Un stori fach i orffen. Dwi'n cofio'r dadleuon ffyrnig yn yr ysgol nol yn 2003 pan aeth lluoedd Prydain a'r Unol Daleithiau i fewn i Irac. Roeddwn ni yn gwrthwynebu'r rhyfel ar sail fy Nghristnogaeth a'r gwerth a roddwn ar Sancteiddrwydd bywyd – dim ond un cyd-ddisgybl i mi oedd yn cyd weld a'm rhesymeg. Bydd rhaid yn ei adnabod hi, Joti Upadya, merch o deulu Hindwaidd. Nid, cyd ddigwyddiad oedd hyn ond yn hytrach dau berson, o ffydd wahanol ie, ond dau berson oedd yn deall ac yn derbyn bodolaeth y sffêr ysbrydol a sancteiddrwydd bywyd.

Mae anghredinwyr wedi bod yn aelodau o Blaid Cymru ers tro ac ni welaf i fod ethol Mohamaad yn newid dim, un anghrediniwr Cristnogol arall yn aelod o’r Blaid - dim byd mwy a dim byd llai. Croeso iddo.

8 comments:

Tortoiseshell said...

"...Richard Dawkins neu ei brif ladmerydd yn Aberystwyth, Iolo ap Gwynn...ofer yw ceisio canfod tir cyffredin gyda Dawkiniaid."

> Blog a dadansoddiad trwyadl ond wedi siomi gan dy gasgliadau.

Iolo ap Gwynn oedd un o benseiri buddugoliaeth Cynog ym 1992.

Er fy magwraeth Cristnogol, dwi siwr o fod yn uniaethu mwy erbyn hyn gydag ysbryd ddyneiddiaeth Iolo - a gwerthoedd ymgyrch 1992 - na neges uniongred y groes.

Fel dwi wedi blogio eisioes, yn ddiweddar iawn, mae'n debyg bod Undodiaeth yn cynnig fforwm posib ar gyfer ryw fath o gymod rhwng efengylwyr a Dawkiniaid.

Rhys Llwyd said...

Diolch am dy sylwad. Dwi ddim yn dweud fod e'n gwbl amhosib i gyd weithio gyda rhywyn o gred fel Iolo - jest deud fod yna rwystrau mynd i godi yn enwedig o ystyried ei sylwadau ar y radio dros y flwyddyn diwethaf.

Er na fyddai ef yn cyfaddef o wrandod ar Cynog Undodiaeth ydy'r math grefydd y mae ef agosa ato dwi'n meddwl. Ond i mi mae gwadu'r drindod yn broblematig tu hwnt!

Tortoiseshell said...

"...o wrandod ar Cynog Undodiaeth ydy'r math grefydd y mae ef agosa ato dwi'n meddwl."

Mae'r rhannau o hunangofiant Cynog sy'n delio gyda crefydd yn ddiddorol dros ben.

Fe fu Cynog yn undodwr ond, os rwy'n cofio'n iawn rwy'n deall bod e wedi mynd at y begwn arall sef yr Eglwys yng Nghymru.

Dwi'n credu bod Cynog yn mynegu rhywfaint o rwystrediagaeth gydag Undodiaeth yn ei lyfr, hefyd.

Tortoiseshell said...

"...sylwadau (Iolo) ar y radio..."

Ddim yn gyfarwydd a'r rhain. Beth mae wedi dweud?

Rhys Llwyd said...

Ydy mae Cynog yn aelod o'r Eglwys yng Nghymru ond maen pwysleisio mae Eglwyswr yw e rhagor nac Anglican ac mae ei ddehongliad ef o gredo Nicea yn dra gwahanol i un y rhai a'i ysgrifenodd.

Parthed sylwadau Iolo, galw Cristnogion yn "ffol" am gredu'r lol "ofergoelus". Roedd ei ddweud am Gristnogion, yn fy nhyb i, yn reit ddi-edifar ac amharchus, ond ddim cryfach ei eiriau na Dawkins ei hun maen siwr.

Aled said...

Diddorol Rhys, er mae'n ddryswch i fi pam ddylai'r cwestiwn o a yw cyd-weithio a Moslem yn broblematig yn codi yn y lle cyntaf. Mae anghredinwyr, Cristnogion a bobl o ffydd eraill yn cyd-weithio yn ddyddiol ym mhob sffer o fywyd.

Tydw i ddim yn gyfarwydd a Iolo ap Gwyn, ond mae'n swnio fel rhywyn y buaswn yn cytuno a fo :-) Dwi'n synnu fodd bynnag fod geiriau mor ddof yn digio. Wedi'r cyfan, dwi'n cymryd dy fod di yn ei ystryied o (a fi) yn bechaduriaid di-edifar sydd ar ein ffordd i uffern am dragwyddoldeb am nad yw Duw yn ystyried ein heneidiau yn gyfwerth a dy un di a felly wedi dewis peidio ein achub. O'i gymharu a hynne, mae 'ofergoelus' a 'ffol' yn swnio bron a bod fel compliment...

Tortoiseshell said...

"...mae ei ddehongliad ef (Cynog) o gredo Nicea yn dra gwahanol i un y rhai a'i ysgrifenodd..."

* Pwynt diddorol iawn. O'n i'n hen gyfarwydd ag adrodd y credo o Sul i Sul pan o'n i'n mynychu'r eglwys yn Lloegr (lle ces i'm magu).

Bellach yn dewis cadw tawelwch parchus adeg y credo os ydw i'n digwydd bod mewn gwasanaeth Eglwys y dyddie' hyn...

Rhys Llwyd said...

Mi fydde ti a Iolo yn dod ymlaen fel llaw a maneg dwi'n tybio gasyth - fel dwi di deud o blaen dwi ddim yn ystyried ti yn fwy o bechadur na fi - ond dwi yn credu yn y gwaredwr a dwyt ti ddim, medde ti dy hun.