12.5.07

Ideoleg economaidd a chymdeithasol Plaid Cymru - y chwith blithdrafflith


Cwestiwn sydd wedi codi ei ben unwaith yn rhagor ers yr etholiad (roeddem ni gyd ddigon call i beidio ei godi yn ystod yr ymgyrch etholiadol) ydy 'Sosialaeth' Plaid Cymru. Mae'r pwnc yn debygol o gael sylw arbennig dros dymor nesaf y cynulliad gan fod gan Leanne Wood bellach aelod newydd caled chwith yn y cynulliad gyda hi sef Bethan Jenkins. Mi ydw i wedi galw fy hun yn Sosialydd ers pan o ni tua 15, ac rhwng yr oedran o 15-18 roeddwn ni'n mynd mor bell a dweud mod i'n sosialydd o arlliw Marcsaidd. Roedd llun Che Guvera gyda mi ar y wâl, chi'n gwybod y math maen siŵr. Yr hyn a berodd i mi golli ysbryd sosialaeth galed i ddechrau oedd darganfod fod sosialaeth galed wedi, ac yn, wrth Gristnogol ac dan faner sosialaeth a comiwnyddiaeth y mae Cristnogion wedi eu erlid waethaf yn hanes yr Ugeinfed Ganrif. Nawr, rwy'n gwybod nad ydw i'n debygol o gael fy erlid gan Leanne Wood, Adam Price a Bethan Jenkins am fy Nghristnogaeth, fodd bynnag roedd y syniad yma o ddyrchafu ideoleg wleidyddol fel petae yn ddwyfol ac i gymryd lle Duw fel y dwyfol yn codi braw arnaf.

Yn ogystal a hyn roedd fy nghred yn y dyn syrthiedig yn peri cymhlethdod gyda credu mewn sosialaeth gomiwnyddol lwyr. Dwi'n cofio darllen pan oeddwn tua 18 fod sosialwyr yn credu fod modd dileu trachwant, cenfigen ac uchelgais bersonol drwy'r drefn addysg. Yn ogystal ag ymylu ar senario Orwell yn '1984' dwi ddim yn credu fod y peth yn bosib beth bynnag – canlyniad a cyflwr y dyn syrthiedig yw trachwant a cenfigen ac ni all addysg byth dynnu rheini allan o galon pob dyn yn llwyr. Rhaid oedd trefn sosialaidd felly oedd yn cymryd i gyfri cyflwr naturiol farus dyn. Problem arall sosialaeth lwyr i mi oedd lle mae lle creadigrwydd a menter? Efallai fod gan y chwith galed atebion i hyn ond methais i a canfod rhai call.

Fodd bynnag 'toedd troi i'r dde ddim yn opsiwn – roeddwn ni, oherwydd fy Nghristnogaeth, yn credu fod dyn yn syrthiedig ond roeddwn ni dal yn Gristion oedd yn credu fod adferiad yng Nghrist yn bodoli nid yn unig ar y lefel ysbrydol ond ar lefel cyfiawnder yn y byd. Wedi'r cyfan sosialaidd i raddau yw'r senario yn yr hanesyn yma am sut oedd Cristnogion yr eglwys fore yn cyd-fyw:

Roedd undod go iawn ymhlith y credinwyr i gyd. Doedd neb yn dweud “Fi biau hwnna!”. Roedden nhw’n rhannu popeth gyda'i gilydd. Roedd cynrychiolwyr Iesu yn cael rhyw nerth rhyfedd i dystio’n glir fod yr Arglwydd Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac roedden nhw i gyd yn teimlo fod Duw mor dda tuag atyn nhw. Doedd neb ohonyn nhw mewn angen, am fod pobl oedd yn berchen tir neu dai yn eu gwerthu, ac yn rhoi’r arian i’r apostolion i’w rannu i bwy bynnag oedd mewn angen. Er enghraifft, Joseff, y dyn roedd yr apostolion yn ei alw’n Barnabas (sy’n golygu ‘yr anogwr’). Iddew o dras llwyth Lefi yn byw yn Cyprus. Gwerthodd hwnnw dir oedd ganddo a rhoi'r arian i'r apostolion. (Actau 4:32-37)


Mae'r hanesyn uchod yn seiliedig ar y ffaith fod pawb o'r gymuned wedi penderfynu cyfranogi i'r fenter, heb i bawb gyfranogi ni fuasai'r peth yn bosib. Nes ymlaen yn llyfr yr Actau mae son am griw wnaeth dorri cwys a pheidio cyfrannogi'n deg:

Roedd dyn arall o'r enw Ananias, a'i wraig Saffeira, wedi gwerthu peth o'u heiddo. Ond dyma Ananias yn cadw peth o’r arian iddo’i hun a mynd â’r gweddill i’r apostolion gan honni mai dyna’r cwbl oedd wedi ei gael. Roedd e a'i wraig wedi cytuno mai dyna fydden nhw’n ei wneud. 
Pan ddaeth at yr apostolion dyma Pedr yn dweud wrtho, "Ananias, pam rwyt ti wedi gadael i Satan gael gafael ynot ti? Rwyt ti wedi dweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân trwy gadw peth o'r arian gest ti am y tir i ti dy hun! Ti oedd biau’r tir, ac roedd gen ti hawl i wneud beth fynnet ti â'r arian. Beth wnaeth i ti feddwl gwneud y fath beth? Dim wrthon ni rwyt ti wedi dweud celwydd, ond wrth Dduw!" (Actau 5:1-4)


Felly lle i droi? 'Centre left' dwi wedi bod yn galw fy hun ers rhyw dair mlynedd bellach ac pan fo cyfle yn codi dwi'n dyfynnu R. Tudur Jones pan ddywedodd hyn mewn llythyr at Gwynfor ddechrau'r 80au:

I mi mae'r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda'r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a'r cwbwl trwy ei gilydd a chyda'i gilydd yn galluogi pobl i fyw'n rhydd a ffyniannus – i mi, mae'r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. Ac mae hi hefyd yn athrawiaeth sydd, yn fy nhyb i, yn gorwedd yn esmwythach ar gydwybod y Cristion na'r un arall. - R. Tudur Jones

Am arddel y fath safbwynt mae sawl un wedi nodi wrtha i fod sy syniadaeth yn debyg i 'One Nation Conservatism' (ideoleg adain chwith y Blaid Geidwadol).

Dwi mewn theori ac egwyddor yn credu mewn ail-ddosbarthu cyfoeth ond y broblem sylfaenol yw sut? Os ydy'r chwith galed o fewn Plaid Cymru yn tybied fod modd gwneud hynny dros nos (neu o leiaf mewn tymor llywodraeth) drwy ail-strwythuro sylweddol ar y wladwriaeth a'r economi yna dangoswch i mi sut? Yr unig gynnig sydd erioed wedi bod yw'r cynnig sofietaidd a wnaeth, fel a wŷr pawb, fethu a hynny gyda steil. Tra bod y chwith galed yn dod ag ateb amgen gerbron yna rwy'n dawel fy nghydwybod yn rhwyfo yn llong gwleidyddiaeth chwith-ganol, democrataidd sosialaidd sy'n ceisio canfod hanner ffordd deg rhwng ail-ddosbarthu a hybu creadigrwydd a menter.

Ydw i'n sosialydd? Ydw dwi'n credu mewn ail ddosbarthu cyfoeth mewn egwyddor ac rwyf am hybu lles pawb yng Nghymru yn ddi-wahan.

Ydw i'n Sosialydd? Nac ydw fe ymddengys.

7 comments:

Tortoiseshell said...

Leanne Wood a Bethan Jenkins - "chwith caled?"

Go brin, er gwaethaf eu harddeliad o "sosialaeth" fel label.

Cysyniad mwy defnydiol, efallai, byddai "left libertarian" - o blaid ail-ddosbarthu cyfoeth ond hefyd o blaid gwladwriaeth agored a goddefol.

sion jobbins said...

Collais i fy 'ffydd' gyda'r chwith yn dilyn methiant aelodau amlwg y Chwith i sefyll dros Simon Glyn.

Ers hynny, gallaf ddim credu gair mae'r chwith yn ei ddweud. Mae gymaint yn ymddangos fel gwagedd jingositiaidd dosbarth i mi. Dyma byrdwn fy erthygl yn rhifyn cyfredol 'Cambria'.

Rhys Llwyd said...

Diolch am y sylwadau. 'chwith-ryddfrydol' diddorol. Bydd rhaid i mi brynu Cambria, disgwyl mlaen i ddarllen yr ysgrif Sion.

bethan said...

Wel Sion a Rhys, siom yn llwyr yw darllen y blog yma. Mae'n ceisio gor symleiddio'r ddadl ar un lefel rhwng y chwith a'r de, ac yna mae'n mynd ati i or cymhlethu'r ddadl trwy mynd i hynt a helynt craidd sosialaeth a llywodraeth sosialaidd.

Rwy'n galw fy hun yn sosialydd er mwyn ceisio creu cymdeithas cyfiawn, sydd yn symud o Thatcheriaeth Blair a Brown, sydd yn ail dosbarthu cyfoeth, ac sydd yn rhoi hawliau dynol y Cymry mewn i weithredaeth. Does dim byd 'caled' am hwn, neu eithafol.

Dyna di'r broblem o hyd sbo, mae pawb yn ffeindio fe'n hawdd iawn i ymosod ar 'chwith' y Blaid heb hyd yn oed ystyried bod y Blaid o ran polisi yn adain chwith/ canol!

Rwyf yn ceisio ymgyrchu dros faterion sosialaidd, ond cynrychioli a chefnogi pobl lleol dylai ddod ar flaen yr agenda.

sion jobbins said...

Bethan - dwi'n amau dim na fydde ni'n cytuno ar y rhan fwyaf o'r polisiau rwyt ti'n ymgyrchu arnynt, er, efallai nid y blaenoriaethau. Ond mae'n rhaid imi gyfadde' 'mod i'n switcho bant pan fyddaf yn clywed pobl yn son am 'gymdeithas cyfiawn' - mae'n swnio fel jargon a jingoistiaeth i fi. Dwi jyst ddim yn ei gredu mwyach a dwi ddim yn credu fod y cyhoedd chwaith.

Pan geisiodd Simon Glyn ymladd dros 'gymdeithas cyfiawn' roedd aelodau'r chwith o fewn y Blaid yn dawel iawn eu cefnogaeth ac yn wir, aelodau amlwg o'r chwith oedd fwyaf chwyrn eu hymosodiad arno ef (ac arnaf i). Mae hynny'n hanes bellach, ond ers hynny, mae'r consensws 'cenedlaethol-sosialaidd' roeddwn i'n cytuno ynddo wedi ei chwalu i mi t'beth.

Ti'n son am 'ail-ddosbarthu cyfoeth' ond ddim lot am greu cyfoeth. Mae Ffrainc wedi dilyn agenda chwith ers degawd ac edrycha ar diweithra'r wlad honno. Byddan nhw nawr yn dilyn agenda mwy 'Thatcheraidd' a bydd diweithdra'n cwympo. Y ffordd orau o 'ail-ddosbarthu cyfoeth' yw creu swyddi yn y lle cyntaf a dydw i ddim yn gweld lot o son am hynny.

O ran ymgyrchu ar faterion sosialaidd. iawn, digon teg. Ond dydy'r agenda sosialaidd ddim fel petai'n ymnweud a nifer o faterion dwi'n credu sy'n sylfaenol bwysig sef e.e. demograffi, yn wir, mae demograffi ac effaith newid poblogaeth anferthol, yn rhywbeth nad sy'n cael ei drafod ymysg y chwith yn yr un ffordd ag y mae'r amgylchedd.

Efallai mai mater o ieithwedd a blaenoriaethau yw llawer o'r anghytuno. Efallai fod angen i ti a'r 'chwith' feddwl am ieithwedd newydd sydd ddim yn swnio'n mor ddiystyr i nifer ohonom? Os wyt ti'n credu mewn sosialaeth - iawn. Ond mae'r cyhoedd wedi hen ymadael ar peth - nid pleidleisio dros bleidiau sosialaidd wnaeth pobl y Cymoedd wythnos diwetha ond pleidleisio dros yr hen 'rate-payers' party.

Os yw Plaid yn credu mewn sosialaeth, iawn, ond peidied neb a meddwl fod pleidleisiau i'w hennill wrth fod yn fwy sosialaidd na Llafur.

Pob hwyl yn y Senedd.

bethan said...

Efallai mai mater o ieithwedd a blaenoriaethau yw llawer o'r anghytuno. Efallai fod angen i ti a'r 'chwith' feddwl am ieithwedd newydd sydd ddim yn swnio'n mor ddiystyr i nifer ohonom? Os wyt ti'n credu mewn sosialaeth - iawn. Ond mae'r cyhoedd wedi hen ymadael ar peth - nid pleidleisio dros bleidiau sosialaidd wnaeth pobl y Cymoedd wythnos diwetha ond pleidleisio dros yr hen 'rate-payers' party.

I fod yn onest, doedd ieithwedd y blog na'r ymatebion nad oedd yn dod 'or chwith' yn hynod glir ac ysbrydoledig ychwaith!

Rhys Llwyd said...

Waw, fy mlog yn fforwn ddadl rhwng dau heavy weight o fewn Plaid Cymru :-)