11.5.07

Gwerth yr Iaith Gymraeg?

Dwi di tynnu nyth cacwn i fy mhen dros nos gyda fy sylwadau am Golwg yn rhoi colofn i flogiwr Saesneg. Gwerth fyddai i mi grynhoi fy marn am y pwnc drwy ddefnyddio'r alagori yma:

I fi roedd hyn fel gweld y Poppies yn neud gigs Saesneg trwy'r flwyddyn wedyn yn cael un gig mawr Cymraeg bob 'steddfod. Oce grêt bod nhw actually yn neud gig Cymraeg ond ychydig o dywod yn wyneb y rhai sydd wedi bod yn gigio'n Gymraeg trwy'r flwyddyn.


Hyd yn oed os nad ydych chi'n cytuno gobeithio eich bod chi o leiaf yn deall fy safbwynt ar y mater. Ymhellach, mae sawl person wedi nod fod hi ddim yn bwysig ym mha iaith ydych chi'n trafod gwleidyddiaeth ac mai'r trafod ei hun sy'n bwysig. “Dim ots os ydy o'n Saesneg neu Cymraeg neu fflipin Swahili.” Mae'r sylw yma yn ddifrîol i werth iaith, mae'n trin iaith fel petasai'n gyfrwng yn unig heb fod iddo werth annibynnol o'r rheidrwydd iddo ef ei hun.

Mae Bethan Jenkins AC wedi ymateb wrth ddweud:

“Mae gan ef a phawb arall rhwydd hynt i ddewis pa iaith i flogio ynddo. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, mae blog yn adlewyrchiad o feddyliai person, ac ni ddylir person cael ei feirniadu am ddewis blogio yn saesneg( na finne chwaith am hynny!)”


Rwy'n deall pwynt Bethan ond unwaith yn rhagor mae'r iaith yn cael ei drafod fel comodity fedrw chi benderfynu tynnu oddi ar y silff neu beidio – ac os ydy cynifer o bobl yn dewis ei adael ar y silff yna iaith eilradd bydd y Cymraeg yng Nghymru am amser eto.

Allw ni ddim gadael tynged y Gymraeg i lazzies fair oherwydd dim ond y lleiafrif bach iawn bydd yn fodlon sefyll yn erbyn y llif. Nid cyfrwng i'w ddewis neu beidio i gario dadl neu gario trafodaeth ydy'r Gymraeg ond mae'n endyd sydd a gwerth iddo yn ei hun. Ydy mae'r ddadl yn bwysig, ydy mae'r drafodaeth yn bwysig ond mae'r iaith mae hyn oll yn digwydd ynddo yn bwysig hefyd nid cyfrwng yn unig ydyw mae yn endyd gwleidyddol yn ei hun. Felly mae ots os ydy o'n Saesneg, Cymraeg neu fflipin Swahili.

Yn olaf, ydw i'n meddwl dylai Aelodau Cynulliad flogio'n Gymraeg? Ydw wrth reswm, yn enwedig felly eu bod nhw'n aelodau etholedig sydd, unwaith eto, fod i arwain y ffordd. Gyda Ciaran, er y buaswn ni wrth fy modd yn ei weld yn blogio'n Gymraeg does dim rheidrwydd arno fel aelod etholedig na dim byd felly i wneud – ond am aelodau etholedig – wrth gwrs bod dyletswydd. I Aelod Cynulliad gadw blog uniaith Saesneg mae e fel Aelod Cynulliad yn anfon gohebiaeth/flyers uniaith Saesneg allan i'w etholwyr. Trist.

7 comments:

Rhys Wynne said...

Dwi'n sylwi bod ti'n llwyddo i dynnu nyth cacwn i dy ben yn rheolaidd iawn Rhys (yn fwriadol neu beidio)! Yn anffodus yn yr achos yma mae pobl wedi dehongli (yn anghywir dwi'n meddwl) dy sylwadau fel ymosodiad ar benderfyniad Ciaran i flogio'n Saesneg yn hytrach na cwestiynnu pam nad yw Golwg wedi gofyn i flogwyr Cymraeg ysgrifennu colofn/erthygl i'r cylchgrawn.

Mae safon yn bwysig, a dwi'n meddwl bod blog Ciaran yn dda iawn, ac fel sydd wedi'w nodi mae'n ddi duedd. Dyna yw natur Golwg yn anffodus, tra mae Barn (ble wyt ti a sawl blogiwr arall wedi cyfrannu) yn cylchgrawn sy'n caniatau gosod safbwynt.

Ond o fynd yn ôl at 'werth yr iaith', byddwn i'n disgwyl i gylchgrawn sy'n argraffu mewn iaith lleiafrifol, sy'n ymwybodol o ba mor anodd yw denu ddarllenwyr fod yn fwy cefnogol i flogwyr Cymraeg.

O ran blogiau Aelodau Etholedig, dwi'n meddwl dylai fod yn newis iaith y blogiwr (tra dylai eu gwefannau swyddogol/etholaeth fod yn ddwyieithog), ond mae'n siomedig gweld unrhyw AC sy'n gallu'r Gymraeg ac yn enwedig rhai o PC yn dewis blogio'n Saeseng yn unig, gan ei fod yn danfon y neges bod y Gymraeg yn ddiwerth fel cyfrwng cyfathrebu â'r cyhoedd.

Rhys Llwyd said...

Diolch Rhys - dwi;n meddwl taw ti yw'r cyntaf i lawn ddeall fy safbwynt yn enwedig parthed fy ymosodiad (honedig) ar Ciaran.

bethan said...

dydw i erioed wedi blogio yn uniaith saesneg ta beth i fod yn gwbl blaen. Gyda diffyg adnoddau, mae blogio yn y gymraeg a'r saesneg wedi bod yn anodd. Byddaf yn blogio yn y dwy iaith yn ei dro yn awr fel a ddywedais y byddaf yn ei wneud ar fy mlog cyn yr etholiad.
Mae'r iaith saesneg yn dod yn fwy naturiol i mi o ran drafodaeth yn anffodus iawn, ond byddaf yn blogio yn y ddwy iaith, ac yn parhau i wneud hynny.

Huw Waters said...

Rhys, dwi'n deall dy safbwynt a mewn sefyllfa pob dydd mae fel gweld rhywun yn cael neidio ciw o flaen chi, o ystyried bod rhai yn ysgrifennu blogiau sy'n debyg i golofnau newyddiadurol.

Dwi'n reit siŵr bod Golwg wedi neidio ar ben hype, yn clywed am y blamerbell ma sy'n denu sylw (BBC, blogiau eraill), ac o wneud dipyn mwy o ymchwil yn gwybod ei fod yn siarad Cymraeg.

Dwi di glan syrffedu ar weld pobol yn defnyddio'r Gymraeg fel arf economaidd i gael cyfleon swyddi, neu ei fod yn hawl. I mi, rhan o adnabyddiaeth a rhywbeth i'w fwynhau ydyw.

Ceith blamerbell neu unrhyw un arall ysgrifennu mewn unrhyw iaith maent yn dymuno, ond os nad yw'r cynulleidfa'n ei ddilyn, beth yw'r ots?

Dwi'n gwbad ei fod yn safiad wyneb galed gan Golwg, ond oes disgwyl gwell gan y cylchgrawn ma? (O ble ddaeth Lisa Reich!?)

Papur newydd Y Byd fydd yr un i anelu at!

Blamerbell said...

"Rhys, dwi'n deall dy safbwynt a mewn sefyllfa pob dydd mae fel gweld rhywun yn cael neidio ciw o flaen chi, o ystyried bod rhai yn ysgrifennu blogiau sy'n debyg i golofnau newyddiadurol."

Wnaeth rhywun neidio ciw o flaen fi yn y Mochyn Du wythnos diwethaf... ac yna siarad amdana i yn Gymraeg (siwr o fod yn tybio nad oeddwn i'n deall).

Ro'n i mor grac nes i ofyn am fy mheint yn Saesneg.

Mae na snobs anhygoel yn ymwneud a'r iaith weithiau ac dwi wedi cael llond bol ohonyn nhw.

Dwi ddim yn nabod unrhywun sy'n defnyddio'r Gymraeg fel arf economaidd i gael cyfleon swyddi. Ond dwi'n nabod llawer o bobol sy'n ymwybodol o be 'di realiti cymdeithas dwy-ieuthog.

Believe it or not chaps, that means using two languages to express yourself and two languages to get on. The more natural this becomes (with people flitting seamlessly between the two) the more successful and prosperous Wales will become.

Rhys Llwyd said...

Rwy'n deall dy resymeg Ciaran ac o bosib y gwnei di lwyddo gan dy fod yn naturiol ddwyieithog. Hynny yw nid ail-iaith ydy'r Saesneg i ti na? Mae yr un mor naturiol a'r Gymraeg os nad yn fwy naturiol? I fi ail-iaith fel yr Almaeneg neu Ffrangeg ydy'r Saesneg ac er ei fod yn ddefnyddiol dwi ddim yn gweld pam y dyliwn orfod ei ddefnyddio mewn rhai sefyllfaoedd yng Nghymru.

Mae'r Saesneg yn ddefnyddiol i Ffrancwr ond does dim rhaid iddo ei ddefnyddio i wneud rhai pethau. Priod iaith Cymru dylai fod y Gymraeg (dyna yw'r norm rhyngwladol mewn cenedl fach fel Cymru) ond yn anffodus y iaith de facto ar hyn o bryd yw'r Saesneg.

Gwlad dwyieithog ydy gwlad lle fedri di ddewis byw dy fywyd cyfan yn gwbl deg yn Gymraeg. Nid, fel wyt ti'n awgrymu, dy fod di'n defnyddio'r ddwy-ieith trwyddi trwch.

Americanwr said...

Tra'n mynnu hawliau a hybu'r iaith lle bynnag fedrwn ni, mae'n rhaid i Gymry Cymraeg hefyd barchu a hybu plwraliaeth a sylweddoli, hyd yn oed yn y gymdeithas Gymraeg mae 'na lu o wahanol gefndiroedd a phrofiadau bywyd gan bobl felly dydy dewis iaith ddim bob amser yn ddewis rhwng du a gwyn. Mae'n lot fwy cymhleth na hynny ac mae angen i Gymry sylweddoli hynny a bod yn agored i bobl sydd o bosib ddim yn rhannu eu safbwyntiau yn union