7.2.08

Plaid Cymru yn methu cadw addewidion... siomedigaeth

Roedd ddoe yn ddiwrnod trist iawn, gwelwyd Llywodraeth Cymru'n Un yn methu cyflawni yr ail o dri addewid penodol parthed yr Iaith Gymraeg yr oedd Ieuan Wyn Jones yn ei addo yn ei deithiau o amgylch Cymru i werthu'r glymblaid. Methwyd a gwireddu'r cyntaf, Coleg Ffederal Cymraeg, nol ym mis Tachwedd. Yn swyddogol mae'r polisi yn parhau i gael ei lunio ond gyda dim ond £4.3m dros dair mlynedd (i gymharu gyda'r £15m y flwyddyn sydd ei angen) mae'r addewid i bob pwrpas wedi ei dorri. Yr ail a dorrwyd ddoe wrth gwrs oedd yr addewid i ariannu papur Dyddiol Cymraeg – mae £600,000 wedi ei addo i'r wasg Gymraeg yn gyfan, ond mae angen o leiaf £600,000 ar bapur Dyddiol yn unig.

Ar y diwrnod lle drylliwyd gobaith Y Byd (y papur dyddiol arfaethedig) yn dra eironig fe'n hatgoffwyd o'r angen am Y Byd oblegid neithiwr ar y Byd a'r Bedwar (ITV Cymru) “arbennigydd” y rhaglen wrth esbonio nad oedd sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn realistig oedd Marc Jones y “newyddiadurwr”. Ond fel y mae Dyfrig wedi nodi ar ei flog nid “newyddiadurwr” niwtral mo Marc Jones o gwbl bellach ond efe yw un o swyddogion PR Plaid Cymru! Mae'r peth yn gwbl warthus, ac yn dangos yn wyneb newyddiaduraeth ddiflas y BBC a diog ITV y bod angen gweld sefydlu'r BYD ar unwaith er mwyn gweld gwawr newydd ar newyddiadura yng Nghymru.

Ac rwy'n gwrthod derbyn fod “pethau yn dyn yn y gyllideb eleni” fel esgus oherwydd ar fympwy heb unrhyw ymrwymiad yn y rhaglen Cymru'n Un mae £13m wedi ei ganfod i ganolfan y Mileniwm a heddiw £1.9m arall i'r Gerddi Botaneg. Mae hyn yn dangos mae nid diffyg cyllid yw'r broblem ond diffyg blaenoriaeth i addewidion am yr iaith Gymraeg. Mae heddiw yn ddiwrnod lle dwi'n difaru mod i wedi aberthu tair wythnos o'm mywyd, pum tanc o betrol a syrthio tu ôl gyda'm ymchwil dros Blaid Cymru nol y llynedd.

No comments: