Y BYD, Byd a'r Bedwar, Marc Jones a'r BBC
Mae'r stori am Y BYD yn parhau i ddatblygu ar y cyfryngau amgen (blogs, maes-e ayyb...) ond mae'r stori yn gwbl segur o safbwynt diflas y BBC – nid yw'r BBC wedi newid nac adrodd ar y diddordeb sydd wedi codi yn dilyn camgymeriadau golygyddol y Byd ar Bedwar o anghofio nodi fod Marc Jones y sylwebydd “niwtral” bellach yn gweithio i Blaid Cymru. Ac wedyn beth am rôl Aled Eurig? Tro diwethaf i mi ddod ar ei draws oedd yn 'steddfod Abertawe 2006 bryd hynny roedd e'n gweithio fel cynghorydd i Dafydd Ellis-Thomas, ydy e dal yn y swydd honno? Os ydyw a wnaeth y Byd ar Bedwar unrhyw ymdrech i gyfathrebu hyn i'r gwylwyr? Dwi ddim yn dweud nad oes hawl gan bobl a vested intrest leisio barn ar bethau, ddim o gwbl, ond mae hawl gan y gwylwyr wybod beth yw'r vested intrest hynny er mwyn iddyn nhw ddod i benderfyniadau drostynt hwy eu hunain.
Yn y blogiad diwethaf gwnes i gymharu'r diffyg ymroddiad ariannol i'r BYD ac i Goleg Ffederal Cymraeg gyda'r tap agored oedd yna i brosiectau eraill megis clirio dyledion Canolfan y Mileniwm a'r Gerddi Botaneg. Unwaith eto heddiw mae stori wedi torri yn dweud fod yna £150m mynd i fod ar gael i ddatblygu busnesau newydd – pe bai'r llywodraeth i bennu £1m o hwnnw i'r BYD mi fyddai £149 yn parhau i fodoli i'r holl brosiectau eraill. Mewn gair, yr hyn dwi'n ei awgrymu yw mae diffyg ewyllys gwleidyddol ac nid diffyg cyllid sydd tu ôl i fethiant y Llywodraeth i ariannu prosiect Y BYD.
Y cwestiwn gwleidyddol dyfnach tu ôl i hyn i gyd yw pwy sydd ar fai? A'i Plaid Cymru sy'n methu yntau y Blaid Lafur sy'n taflu dwr oer ar yr holl addewidion blaengar oedd yn nogfen Cymru'n Un?
No comments:
Post a Comment