1.2.07

Darllediadau Gwleidyddol ...cartref

Mae pawb wedi arfer clywed am yr hwn ar llall sy'n gwneud bara cartref ond dyma un newydd i chi - darllediadau gwleidyddol cartref. Dwi wedi bod yn ystyried y posibilrwydd ers rhai misoedd yn rhannol oherwydd poblogrwydd youtube fel gwefan ac hefyd fel ffordd o ymateb yn bositif i rai issues sydd gyda mi a rhai o'm ffrindiau gyda Phlaid Cymru ar hyn o bryd.

Wel dyma gyhoeddi y gyntaf. Nid darlleqdiad pro-Plaid Cymru na pro-annibyniaeth mo hon ond yn hytrach hysbyseb yn annog pobl i ddod i'r Rali Coleg Ffederal Cymraeg gan fy nghyfeillion yn UMCA. Mi wn nad ydyw'n oll broffesiynol OND mae o'r galon ac fe'i wnaed ar y laptop adref ar gyllideb o £0!! Gadewch mi wybod be dy chi'n feddwl:

1 comment:

hafod said...

Diom yn bad i feddwl ma stills oedd gen ti. Gormod o leisiau gwahanol a neb yn siarad i gamera, felly anodd uniaethu efo unrhyw berson. Mae teli'n licio personoli pethe.

Hefyd mae'r effects wyt ti di defnyddio i dorri rhwng stills yn rhy amrywiol - dewisia un neu ddau a sticia atyn nhw.

Edrych ymlaen at yr un nesaf - mae angen democrateiddio darlledu!

Gyda llaw, be di'r anghytundeb efo Plaid?