13.2.07

Annwyl Ioan Matthews

Llawer un wedi cwyno fod y blog wedi bod yn dawel yn ddiweddar. Dwi di bod reit brysur rhwng gwahanol bethau. Y Piwritaniaid yn fy nghadw'n brysur rhan fwyaf o'r dydd a digon o bethau erill mlaen hefyd. Dwi'n trio helpu Menna cymaint fedrai yn y gwaith paratoi ar gyfer y rali dydd Sadwrn (dewch!) - dwi'n helpu i ffilmio a torri fideo ddogfen fer ar ran UMCA i chwarae yn y rali. Wrth gwrs, unwaith bydd hi'n barod fe rof hi fyny ar y blog i chi weld hefyd. Gig cyntaf Kenavo ers misoedd lawer nos Wener felly bydd rhaid meddwl paratoi rywfaint ar gyfer honno hefyd. Felly ar y cyfan wythnos brysur ac felly heb amser i sgwennu postiad difyr dim ond esbonio pam nad oes amser gyda fi roi postiaid difyr!

Ond dyma rywbeth bach difyr i chithau sy'n dilyn yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg. Yn dilyn adroddiad Arad mae'r Brifysgol a HEFCW (y cyngor cyllido) wedi symud at strwythur newydd o reoli. Dwi wedi ysgrifennu at Ioan Matthews yn holi am fanylion y strwythur newydd. Dwi'n ofni mae jest symud pethau o gwmpas yn ffenest y siop maen nhw'n gwneud a prin gallaf ddychmygu y daw y newid strwythurol/pwyllgorol yma a lawer o wahaniaeth i fyfyrwyr ar lawr gwlad. Dyma'r llythyr y gobeithiaf gael ateb iddi yn fuan:

10.2.2007

Annwyl Ioan Matthews,

Yn dilyn diddymu'r Grŵp Llywio Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch dan gadeiryddiaeth Andrew Green dyma gysylltu i holi am y strwythurau newydd bydd mewn lle. Rydym ni ar ddeall y bydd HEFCW yn sefydlu Grŵp Sector Addysg Uwch fydd a chynrychiolwyr o bob SAU yn aelod gan eich cynnwys chwi o'r Ganolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg. A fedrwch ddatgelu a chadarnhau:

  • Pwy fydd aelodau'r Grŵp newydd yma?
  • Beth yn union bydd dyletswyddau a chyfrifoldebau'r grŵp newydd?
  • Pa mor aml y bydd y grŵp yn cyfarfod?
  • A phwy, sut a phle y bydd y grŵp yn cael ei gweinyddu?
  • Pwy fydd y Cadeirydd?

Rydym a'r ddeall hefyd fod cynlluniau ar droed gan HEFCW i sefydlu Fforwm Sector Addysg Uwch fydd a chynrychiolaeth ehangach na'r grŵp uchod fydd yn cynnwys cynrychiolaeth gan Undebau'r Myfyrwyr. A fedrwch gadarnhau aelodaeth, rôl a phwrpas y fforwm hwn:

  • Pwy fydd aelodau'r fforwm newydd yma?
  • Beth yn union bydd dyletswyddau a chyfrifoldebau'r fforwm newydd?
  • Pa mor aml y bydd y bydd y fforwm yn cyfarfod?
  • A phwy, sut a phle y bydd y fforwm yn cael ei gweinyddu?
  • Pwy fydd y Cadeirydd?
  • A fydd cyfle i Gymdeithas yr Iaith wneud cais am le ar y fforwm?

Gobeithiaf dderbyn eich cydweithrediad llwyr er mwyn i ni ddeall sut mae'r strwythurau a'r pwyllgorau newydd am weithredu i symud Addysg Gymraeg ymlaen yn y Sector Addysg Uwch.

Yn gywir,

Rhys Llwyd
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

No comments: