11.6.08

iPhone 3G ac Apple Mac

Pan wnes i brynnu fy Mac cyntaf dair blynedd yn ôl roeddw ni wedi fy mopio yn llwyr, roedd yn fyd cwbwl wahanol ac fel rhywun sy'n truluio oriau bob dwrnod (yn bennaf oherwydd natur fy ngwaith) ar y cyfrifiadur roedd newid o Windows i Mac mewn ffordd fe newidiodd fy mywyd. Dair mlynedd yn ddiweddarach dwi dal yn defnyddio yr yr cyfrifiadur ac mae e dal i deimlo fel defnyddio peiriant newydd sbon! Prin y byddai defnyddwyr Windows yn medru dweud hynny dair mlynedd ar ôl prynnu eu cyfrifiadur nhw. Ond maen rhaid i mi gyfaddef nad ydw i a gymaint o sêl (zeal) dros Apple ag oeddw ni a hynny oherwydd, mwy na thebyg, mod i wedi dod i gymryd yr holl brofiad yn ganiataol. Ond ar ôl bod adre a gwneud ambell i beth ar laptop Windows Mam dwi wedi cofio o'r newydd pa mor ryfeddol well ydy Mac's.



Ddoe fe lansiodd Apple ail genhedlaeth yr iPhone. Er gwaethaf fy hoffter mawr o stwff Apple yn wreiddiol roeddw ni wedi penderfynnu peidio newid i ddefnyddio iPhone am dri rheswm. (i.) Roedd yr iPhone yn costio £300, (ii.) Roedd y cytundebau rhy ddrud a (iii.) nid oedd yr iPhone a chyflymder 3G. Ond yn yr ail genhedlaeth a lansiwyd ddoe cyhoeddwyd fod yr iPhone newydd am gael cyflymder 3G, fod yn pris wedi gostwng o £300 i £99 ac ers tro bellach mae cytundebau cystadleuol gan O2. Oherwydd hynny, tua diwedd yr haf pan fydd fy nghytundeb presennol yn dod i ben dwi'n meddwl mod i am newid i'r iPhone.

Mae'r ddyfais yn wirioneddol ryfeddol, os am weld 'keynote' Apple ddoe yn dangos popeth gall yr iPhone wneud rhowch glec YMA.

No comments: