30.8.08

Pro-Life a Pro-Guns? Sarah Palin a'r 'moral votes'

Rai blynyddoedd yn ôl bellach, efallai mae nol adeg y frwydr Arlywyddol diwethaf oedd hi, fe gyflwynodd Arfon Jones fi i feddwl a gwaith Jim Wallis. Ar y pryd fe gyhoeddodd Wallis ei lyfr enwoca hyd yma sef 'God Politics: Why the right gets it wrong and the left don't get it', fe brynes i y llyfr a'i darllen ag awch. Roedd hi'n anochel y bydde ni'n troi at syniadaeth Jim Wallis yn fuan yn hytrach na'n hwyrach a hithau eto fyth yn dymor brwydr arlywyddol! Rwy'n gobeithio ac yn gweddïo mae'r Democratiaid a Barak Obama fydd yn fuddugol; nid yw'r Democratiaid heb eu beiai ac nid yw Obama ei hun yn ddifrycheulyd chwaith ond o bwyso a mesur rhyw fymryn does dim dwywaith fod polisïau y Democratiaid yn eistedd llawer esmwythach ar fy nghydwybod Cristnogol i na rhai McCain a'r Gweriniaethwyr.

Yr hyn wnaeth fy nghyflyru i sgwennu y blog cyntaf yma (o lawer maen debyg dros yr hydref) am y frwydr arlywyddol oedd penderfyniad McCain i benodi Sarah Palin fel ei bartner yn y frwydr. Ar un llaw maen beth da fod merch yn rhedeg ar y lefel uchaf wedi methiant Hillery i arwain y Democratiaid a chamgymeriad Obama wedyn (yn fy nhyb i) i beidio ei dewis hi fel partner. Ond ar y naill law maen drist fod McCain wedi dewis text book Cristion Efengylaidd Adain-Dde fel ei bartner i chwipio fyny'r hen ddadleuon 'moral votes' unwaith eto yn y frwydr arlywyddol yma. Dyma rai o nodweddion Palin sy'n siwr o bleisio'r 'moral voters':

1. Mab hynaf ar fin mynd i ymladd yn Afghanistan
2. Pro-Life
3. Pro-Guns


Dadl Jim Wallis yn ei lyfr dylanwadol 'God Politics' yw mae heresi yw i'r dde-efengylaidd yn America bennu beth sy'n fater 'moesol' a beth sydd ddim. I'r dde-efengylaidd nid yw eu 'moral values' nhw yn mynd tu hwnt y ddadl am (i.) erthyliad, (ii.) cred mewn rhyfel cyfiawn, (iii.) cred yn yr hawl i amddiffyn eich hun trwy drais (h.y. eu ymgyrchoedd pro-guns) a (iv.) materion yn ymwneud a rhywioldeb. Mae pleidlais y dde-efengylaidd yn hollol gul ei feddwl a dim ond yn edrych ar y pedwar pwnc dwi wedi nodi uchod, nhw yw'r 'moral issues' a dim byd arall. Dim sôn am dlodi. Dim sôn am wasanaeth iechyd. Dim sôn am yr amgylchedd. Dim sôn am gymorth i deuluoedd tlawd.

Wrth gwrs fe fydd unrhyw un sydd wedi darllen ei Feibl drosto ef ei hun yn gwybod fod mwy gan y Beibl i ddweud am dlodi a chyfiawnder na bron a bod dim byd arall ond rhywsut mae'r bleidlais dde-efengylaidd yn anwybyddu hynny yn llwyr. Os ydy McCain a Palin yn pro-life a pro-guns mae'r dde-efengylaidd yn fodlon anwybyddu'r ffaith fod polisiau economaidd a chymdeithasol y Gweriniaethwyr yn sylfaenol ang-Nghristnogol. Gwell yw pleidleisio dros Weriniaethwyr sy'n derbyn llwgr wobr gan y cwmnïau olew ac yn rhedeg contracts gwerth miliynau yn Affrica a'r Dwyrain Canol i'w melin eu hunain OND sy'n erbyn erthyliad na phleidleisio dros y Democratiaid sydd a rhaglen flaenllaw i ddod a gwasanaeth iechyd at gyrraedd pawb beth bynnag foi cefndir beth bynnag fo'i cyfoeth ac sy'n benderfynol o ail-edrych ar bolisi tramor dinistriol yr UDA.

Rwy'n cytuno fod gan y Cristion ddyletswydd i bwyso a mesur pa ymgeisydd sy'n cynrychioli cyfiawnder Iesu orau ond maen rhaid i'r dde-efengylaidd sylwi fod cyfiawnder Iesu yn siarad a chymdeithas a chyd-ddyn nid jest gyda'r preifat.

Fel dywedodd Jim Wallis yn ei lyfr: “Faith is always personnal but never private.”

No comments: