Stori Chris Jones (Rhan 3/3)
Yn y fideo yma, yr olaf mewn cyfres o dri, mae Chris Jones y cyn chwaraewr rygbi a chyn hyfforddwr Treorci a Phontypridd gafodd ei wahardd o'r gem am byth... ddwywaith (!) yn adrodd ei hanes o fod yn chwaraewr mwyf treisgar y gem dros y byd, i gell heddlu yn Aberhonddu i droed croes Iesu Grist. Dyma dystiolaeth dyn sy'n dangos fod Crist a Christnogaeth i ddynion cadarn cryf ac nid dim ond i wimps sy'n gwisgo sandalau ac yn sipian te decaf!
Y Gyfres Gyfan:
Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
www.souledoutcymru.net
2 comments:
pob parch Rhys, ond mae'r boi wedi rhedag allan o ysgwyddau i grio arno, a rwan mae'n troi at y clustog olaf sydd 'na, sef y marsh mallow mawr yn yr awyr.
rhydd i ti dy ddaliadau dy hun ond yn yr un ysbryd fedri di ddim dadlau a ffrofiad a ffydd bersonnol Chris. Y peth ydy efo atheists fatha chdi fedri di ddim ennill, naillai dy chi'n gweld bai ar rywyn fel fi sydd wedi dod i ffydd heb unrhyw natatif dramatig a dadlau nad ydw i "wedi byw" nac yn "gwybod fy ngeni" yna pan gei di rhywun fel Chris sydd a naratif dramatig ac wedi byw i'r eitha cyn dod at y "marshmallow" dy chi'n ei gyhuddo o fod wedi ei cholli hi.
Efo pobl fatha chdi sy'n cychwyn gyda'r rhagdyb atheistaidd does dim diben ceisio "dadlau" o blaid Duw; yr unig beth allw ni wneud yw ceisio dangos Duw ar waith ym mywyd ei ddisgyblion fel Chris. Ond mae dy ragdyb di yn dy orfodi i gymryd yn ganiataol mae loopy nid geneuin ydy Chris, sy'n drist oherwydd dy fod yn twistio'r dystiolaeth i siwtio dy farn ragdybiaethol.
Diolch am wyluo'r fideo ac ymateb fodd bynnag. O gyfarfod Chris yn ogystal a gwylio'r fideo dwi'n siwr y bydde tin dod i weld fod Chris yn geneuin a ddim yn fabi mawr sy wedi rhedeg mas o ysgwyddau.
Hwyl,
Rhys :-)
Post a Comment