Showing posts with label Iesu Grist. Show all posts
Showing posts with label Iesu Grist. Show all posts

29.8.08

Stori Chris Jones (Rhan 3/3)

Yn y fideo yma, yr olaf mewn cyfres o dri, mae Chris Jones y cyn chwaraewr rygbi a chyn hyfforddwr Treorci a Phontypridd gafodd ei wahardd o'r gem am byth... ddwywaith (!) yn adrodd ei hanes o fod yn chwaraewr mwyf treisgar y gem dros y byd, i gell heddlu yn Aberhonddu i droed croes Iesu Grist. Dyma dystiolaeth dyn sy'n dangos fod Crist a Christnogaeth i ddynion cadarn cryf ac nid dim ond i wimps sy'n gwisgo sandalau ac yn sipian te decaf!



Y Gyfres Gyfan:

Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3

www.souledoutcymru.net

28.8.08

Stori Chris Jones (Rhan 2/3)

Yn y fideo yma, yr ail o dri, mae Chris Jones y cyn chwaraewr rygbi a chyn hyfforddwr Treorci a Phontypridd gafodd ei wahardd o'r gem am byth... ddwywaith (!) yn adrodd ei hanes o fod yn chwaraewr mwyf treisgar y gem dros y byd, i gell heddlu yn Aberhonddu i droed croes Iesu Grist. Dyma dystiolaeth dyn sy'n dangos fod Crist a Christnogaeth i ddynion cadarn cryf ac nid dim ond i wimps sy'n gwisgo sandalau ac yn sipian te decaf!



Bydd rhan nesaf y stori ar y blog fory.

27.8.08

Stori Chris Jones (Rhan 1/3)

Yn y fideo yma, y cyntaf o dri, mae Chris Jones y cyn chwaraewr rygbi a chyn hyfforddwr Treorci a Phontypridd gafodd ei wahardd o'r gem am byth... ddwywaith (!) yn adrodd ei hanes o fod yn chwaraewr mwyf treisgar y gem dros y byd, i gell heddlu yn Aberhonddu i droed croes Iesu Grist. Dyma dystiolaeth dyn sy'n dangos fod Crist a Christnogaeth i ddynion cadarn cryf ac nid dim ond i wimps sy'n gwisgo sandalau ac yn sipian te decaf!



Bydd rhan nesaf y stori ar y blog fory.

26.8.08

Garin Jenkins yn Souled Out (rhan 4/4)

Y rhan olaf o bedwar o gyfweliad a ffilmwyd yn nigwyddiad Souled Out yn y Bala nos Sul diwethaf lle mae'r cyn-chwaraewr Rygbi rhyngwladol Garin Jenkins yn trafod ei fywyd a'i ffydd ar, ac oddi ar y cae.



Y Gyfres Gyfan:

Rhan 1
Rhan 2
Rhan 3
Rhan 4

www.souledoutcymru.net

25.8.08

Garin Jenkins yn Souled Out (rhan 3/4)

Trydydd rhan o bedwar o gyfweliad a ffilmwyd yn nigwyddiad Souled Out yn y Bala nos Sul diwethaf lle mae'r cyn-chwaraewr Rygbi rhyngwladol Garin Jenkins yn trafod ei fywyd a'i ffydd ar, ac oddi ar y cae.

t>

24.8.08

Garin Jenkins yn Souled Out (rhan 2/4)

Ail ran o bedwar o gyfweliad a ffilmwyd yn nigwyddiad Souled Out yn y Bala nos Sul diwethaf lle mae'r cyn-chwaraewr Rygbi rhyngwladol Garin Jenkins yn trafod ei fywyd a'i ffydd ar, ac oddi ar y cae.

22.8.08

Trin yr Eglwys fel Sinema

Dwi wrth fy modd yn mynd i'r Sinema yn enwedig ers symud i Fangor oherwydd fod mynd i weld ffilm yn cynnwys reid fach ar y trên draw i Gyffordd Llandudno. Ond er fy hoffter o'r tripiau bach draw i Junction (fel mae'r Conductor ar y trên yn ei alw) anaml iawn dwi'n cael noson rydd neu wythnos dawel i fynd; dim ond os nad oes dim byd arall o gwbl ymlaen, dim gwaith i'w gwblhau a dim adloniant amgen ar gael dwi'n ei throi hi am Junction. Wedi i chi gyrraedd draw does dim rhaid i chi wneud dim byd, prynu eich tocyn, y staff yn gweni diodydd a phop-corn i chi yna i mewn a chi ac eistedd nol a mwynhau y ffilm a chael dianc o'r byd go iawn am awr neu ddwy. Yna adref a chi a gadael i staff y Sinema glirio y pop-corn oddi ar y llawr a gosod y lle yn barod i'r ffilm nesaf. Tybed a ydych chi'n un o'r rheiny sy'n trin yr Eglwys fel Sinema? Mae yna ddigon o rai allan yna.

Dim ond os nad oes dim byd arall ymlaen rydych chi'n troi i mewn i'r cwrdd, a hynny dim ond lond llaw o weithiau'r flwyddyn, rhyw fath o last resort. A phan drowch chi fyny fyddwch chi ddim yn disgwyl gwneud mwy na eistedd yn y cefn ac yna ei throi hi adref ar y diwedd. Bydd y rheiny sy'n trin yr Eglwys fel Sinema yn cymryd yn ganiataol fod aelodau eraill yn gwneud yr holl waith ac y gallent hwy droi fyny pan yn gyfleus iddyn nhw. Mae cadw eich enw ar lyfrau aelodaeth eich capel a dangos eich wyneb yn cwrdd dim ond lond dwrn o weithiau'r flwyddyn er mwyn lleddfu eich cydwybod yn ymylu ar ofergoeliaeth ac mae hyn yn ffenomenon sy'n rhaid i'r Eglwysi Cymraeg ei wynebu a'i daclo rhag blaen. Un o brif elynion efengyl Crist yn ein capeli heddiw yw crefydd, nid yw crefydd a Christnogaeth yr un peth. Mae un yn dilyn ofergoel a'r llall yn dilyn gras Crist.

Os wyt ti'n un o'r aelodau hynny sy'n trin dy eglwys fel Sinema yna beth am roi ymdrech fis Medi ymlaen i ymroi mwy o fywyd a gwaith dy eglwys.

11.8.08

Iesu! Aled Jones Williams

Mae'r theatr a'r ddrama yn gyfryngau pwerus tu hwnt ac o safbwynt Cristion a Christnogaeth mae'r theatr yn sicr a photensial i gyflwyno pobl o'r newydd i Iesu Grist y Gwaredwr. Fodd bynnag trist oedd gweld fod Aled Jones Williams, ac yntau wrth gwrs yn Ficer yn yr Eglwys yng Nghymru, yn defnyddio'r theatr i ymosod ar ein Gwaredwr yn hytrach na'i gyflwyno o'r newydd i genedl sydd wirioneddol angen clywed a deall y newyddion da. Yn y ddrama roedd Iesu, wrth gwrs, yn cael ei actio gan Ferch – nid oedd hynny yn fy nghynhyrfu rhyw lawer ond yn hytrach yr hyn wnaeth fy nigalonni rhyw damaid oedd fod Aled yn portreadu Iesu fel Duw llipa a phathetig. Mi oedd Iesu Grist, wrth gwrs, yn ostyngedig ond mae bod yn ostyngedig yn dra wahanol i fod yn llipa. Er enghraifft cymerwch Ghandi, roedd yn ŵr hynaws a gostyngedig ond doedd hynny ddim gyfystyr a bod yn llipa a phathetig. Cymaint mwy felly oedd yr Iesu, oedd mi oedd yn ostyngedig ond roedd yn ŵr a Duw cadarn a wnaeth y safiad mwyaf yn hanes. Mae drama Aled yn methu'n llwyr a phwyntio allan y gwahaniaeth yma rhwng gostyngeiddrwydd a lliprwydd a thrwy fethu a phwyntio allan y gwahaniaeth yma mae Aled yn ymosod yn ffiaidd ar gymeriad Iesu fy ngwaredwr a'm Duw.

Mae Aled wedi cwyno o'r blaen bod dim cymeriad gan Iesu'r Beibl ac oherwydd hynny Iesu yw cymeriad gwanaf ei ddrama. Wrth gwrs mewn drama pechod a pechodau'r cymeriadau sy'n creu'r cymeriadau, creu'r cyffro a chreu'r tensiynau; felly i Aled fel dramodydd mae delio a phortreadu cymeriad di-bechod fel Iesu yn siŵr o beri problemau sylweddol. Yn hynny o beth efallai mae'r peth gorau i Aled fyddai wedi canoli'r ddrama yn llwyr ar yr ymryson rhwng Caiaffas a Pontiws Peilat – wedi'r cyfan cefndirol oedd cymeriad Iesu ei hun yn y ddrama. Ond roedd rhaid i Aled fachu ar bob cyfle i ymosod a'r Gristnogaeth glasurol felly pa ffordd well na hynny o ddifrïo y gwaredwr ei hun pobl cyfle cai?

O roi ystyriaethau diwinyddol a'r 'hw ha' dadleuol i'r neilltu ac edrych ar y ddrama yn gwbl wrthrychol rwy'n parhau i gredu fod y ddrama yn un wan ac iddi sgript eclectig flêr. Rodd diffyg cynildeb difrifol gan Aled yn y sgript ac roedd y diffyg cynildeb yma yn golygu fod y dramodydd yn gwthio ei hun ar y llwyfan ac yn pregethu ei ragfarnau at y gynulleidfa yn hytrach na defnyddio'r sgript a'r ddrama i wneud hynny mewn ffordd gywrain a chynnil. Roedd llawer o regi yn y ddrama ac fe nododd cyfaill i mi, nad sy'n arddel Cristnogaeth gyda llaw, mae arwydd o sgript wan a rhwystredigaeth o dŷ'r dramodydd ydy gorfod troi at regi cymaint. Dwi ddim yn erbyn y defnydd o reg mewn llên, i ddweud y gwir dwi'n meddwl fod defnydd cynnil o reg mewn llen yn effeithiol dros ben i bortreadu'r gynnen a phechod sydd ynom ni gyd. Ond doedd dim cynildeb o gwbl yn nefnydd Aled o'r rheg ac oherwydd hynny roedd y defnydd o reg yn ddim byd mwy na dangos bod Aled yn Ficer rhwystredig sydd wedi a methu mynegi ei hun ac oherwydd hynny yn gorfod troi at reg yn yr un ffordd ag y mae plentyn bach yn gwaeddi a strancian pan nad yw'n cael ei ffordd ei hun.

Gan gofio mae gweinidog yr efengyl oedd awdur y ddrama rhaid holi'r cwestiwn a'i diben yr Eglwys a'i haelodau ydy cyhoeddi'r newyddion da am Deyrnas Crist yntau holi cwestiynau a dymchwel ei sylfaeni? Mae yna ddigon o bobl allan yna sy'n ymosod a'r Grist a'i waith ac mae'n drueni fod Gweinidog yr Efengyl o Borthmadog wedi cymryd ochr a hwy. Ond dydw i ddim yn gofidio rhyw lawer oblegid ganrifoedd yn ddiweddarach rydym ni'n parhau i werthfawrogi gweithiau llenyddol mawr Cristnogaeth glasurol y Piwritaniaid a'r Methodistiaid ond dwi'n amau a fydd unrhyw un wedi dim ond pum mlynedd yn parhau i gofio heb sôn am berfformio Iesu! gan Aled Jones Williams.

Maen debyg fod Aled Jones Williams bellach yn ferthyr ond does neb cweit yn siŵr dros be y'i merthyrwyd. Yr unig ateb hyd y gwela i i Aled, yn eironig ddigon, ydy troi at y gwaredwr y mae wedi dyrnu ei rwystredigaeth yn ei erbyn yn y ddrama hon. 'Dewch ataf i bawb sy'n flinderog a llwythog' meddai Iesu ac ar ôl gwylio Iesu! rwy'n amau fod Aled, yn fwy na neb, yn hen Ficer sydd angen troi at yr Iesu yn hytrach na'i ddifrïo pob cyfle posib.

28.7.08

Dylanwad llesol yr eglwys ar gymdeithas

Yn ddiweddar, yn Cristion ac hefyd ar fy mlog, rwyf wedi bod yn annog pobl i edrych tu hwnt i grefydd gyfundrefnol er mwyn ail-ddarganfod Cristnogaeth y Beibl ac ail ddarganfod Crist drostynt hwy eu hunain. Rwyf hyd yn oed wedi cyfeirio at ymadroddion beiddgar fel “Everyday people are leaving the Church and coming Back to God” yn ogystal â “Jesus – OK, Church – No Way!”. Rwyf wedi fy nghyhuddo o ddifrïo'r Eglwys lle mewn gwirionedd fy mwriad oedd herio a chwyldroi'r eglwys. Yn y blogiad yma felly fy mwriad yw tanlinellu o'r newydd beth yw'r eglwys a thanlinellu fod rhaid i ni ymroi i'n heglwysi mewn modd radical a graslon yr un pryd.

Maen ystrydebol bellach i gyfeirio a chymharu'r Eglwys a McDonalds - dydy mynd i'r Eglwys ddim yn eich gwneud chi'n Gristion mwy nag y gwnaiff mynd i McDonalds yn eich gwneud chi'n hamburger! Er, fel Protestant da, na gredaf fod yr Eglwys yn gyfrwng i selio iachawdwriaeth rwyf yn argyhoeddedig fod yr Eglwys ac athrawiaeth yr eglwys o bwys canolog i'r Cristion.

Mae'r Beibl yn cyfeirio at yr Eglwys fel Priodferch Crist. Meddai Paul yn Effesiaid 5:25-27:

“Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau'r eglwys a'i roi ei hun drosti, i'w sancteiddio a'i glanhau â'r golchiad dŵr a'r gair, er mwyn iddo ef ei hun ei chyflwyno iddo'i hun yn ei llawn ogoniant, heb fod arni frycheuyn na chrychni na dim byd o'r fath, iddi fod yn sanctaidd a di-fai.”


Mae'n debyg fod yr adnodau hynny yn rai sy'n fwy cyfarwydd i chi fel rhai sy'n cael eu darllen mewn gwasanaeth priodasol ond gadewch i ni am ennyd graffu yn fanwl ar yr adnodau. I mi mae'r adnodau yma yn ysgytwol: cymaint yw cariad Iesu dros ei eglwys, ei briodferch - hynny yw y ti a mi os wyt yn credu - fel ei fod wedi rhoi ei hun o'i wirfodd ar y groes drosom ni. Ond nid yn unig hynny ond pan ddaw y dydd (nid os ddaw y dydd) pan ddown i gyd o flaen Duw nid yn unig y bydd hi'n gysur gwybod fod Iesu wedi rhoi ei hun o'i wirfodd ar y groes trosom ond y bydd Iesu ei hun yn ein cyflwyno yn ddi-fai a di-frycheuyn i Dduw yn y nefoedd. Wylwch, o'r fath fraint! Mae rhai diwinwyr o'r farn fod Duw wedi creu'r sefydliad o briodas fel delwedd i ni allu cael mymryn o amgyffred o'r cariad mae Iesu wedi ei ddangos at yr Eglwys. Fe ddywed Joshua Harris yn ei lyfr 'Stop Dating the Church' (Multnomah, 2004):

“God invented romance and pursuit and the promise of undying love between a man and a woman so that throughout our lives we could catch a faint glimmer of the intense love Christ has for those He died to save. What passion He has for His Church! Even if you've never studied the Bible, you've heard echoes of this amazing love throughout your life. Every true love story has hinted at it. Every groom weakened at the sight of his radiant bride has whispered of it. Every faithful, committed, and loving marriage has pointed to it. Each is an imperfect echo of the perfect song of heaven.”


Dyna felly'r olwg hir dymor o bwysigrwydd yr eglwys – yr eglwys yw cymar Crist ei hun. Ond beth am bwysigrwydd fwy ymarferol dydd i ddydd yr Eglwys? Rwyf wedi cyfeirio eisoes at y ffaith nad ydy bod yn aelod o Eglwys yn eich gwneud chi'n Gristion, wedi dweud hynny rwy'n credu ei bod hi'n anodd os nad amhosib byw fel Cristion heb fod yn rhan o Eglwys. Mae dyletswydd ar Gristnogion i fod yn oleuni a halen yn y gymdeithas a'r ffordd orau i ddangos y goleuni a taenu'r halen hwnnw yw fel cymuned wedi dod at ein gilydd. Mae'r gymdeithas ehangach yn fwy tebygol o gymryd sylw o gymuned Gristnogol nag ydyw o Gristnogion unigol wedi eu gwasgaru dros dref, dinas neu ardal helaeth. Drwy gael cymuned o gredinwyr yn cyd-fyw yr efengyl a'r bywyd newydd gall y gymuned yn ehangach weld yr efengyl ar-waith yn arbennig felly pan fo cyfyngderau fel salwch a phrofedigaethau yn dod i'n rhan.

Yr Eglwys oedd asgwrn cefn moesol cymdeithas. Gan anwybyddu demensiwn ysbrydol Cristnogol a'r Eglwys am enyd maen rhaid i ni dderbyn fod Cristnogaeth a'r Eglwys wedi bod o les cymdeithasol sylweddol i Gymru a Lloegr a thu hwnt. Maen anhygoel o drist clywed am yr holl drywanu sy'n digwydd ymysg plant a phobl ifanc yn y dinasoedd yn ddiweddar. Ni allaf i ond deillio'r llwybr llithrig diweddar yma i fethiant trychunebus seciwlariaeth ac annffyddiaeth i ffeindio troed addas i lenwi esgid Eglwys Crist. Ac ofer bydd hi am byth oherwydd dim ond y ffydd Gristnogol all all ddod ac asgwrn cefn moesol yn ôl i ni yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth yn dangos fod yr arbrawf seciwlar yn methu.

17.7.08

Wncwl John Llanymawddwy

Heddiw yn Ninas Mawddwy roedd crebrwng dyn arbennig iawn - Wncwl John gynt o fferm Bryn Ucha, Llanymawddwy. Hen gyfaill i'n Nhadcu a'm Mamgu oedd John a'i Wraig Mari - mi fyddai ein teulu ni gyd, pob cangen o deulu mam, yn arfer mynd i aros ar y fferm wythnos olaf Awst yn ddi-ffael. Tan i John a Mari ymddeol i'r Bala rhyw ddeng mlynedd yn ol fe fuodd Mam yn aros ar y fferm bob haf ers ei geni. Roedd apel y fferm i ni fel plant o'r dre yn anhygoel, ro' ni'n disgwyl mlaen yn eiddgar gydol y flwyddyn i gael mynd i Lanymawddwy. Erbyn y blynyddoedd ola ro' ni'n ddigon hen i helpu Wncwl John ac ro' ni'n cael mynd da fe lan y mynyddoedd yn y Defender 90 - dwi dal i gofio llythrennau olaf y registration: "WFF". Wrth edrych yn ol heddiw maen debyg mae mwy o ffwdan nag o help oeddw ni i Wncwl John!

Dod i adnabod eu gilydd trwy waith y Mudiad Efengylaidd ymhell yn ol yn y 1950au gwnaeth John a Nhadcu. Roedd John yn Gristion o argyhoeddiad ac wedi profi gras a chariad achubol Iesu Grist mewn ffordd arbennig a real iawn - roedd hyn yn amlwg i bawb a ddeuai ar draws John a Mari. Yr hyn oedd yn wych am John oedd ei ffydd syml ond ergydiol o real yn Iesu Grist - doedd dim byd uchel ael yn perthyn i'w efengyliaeth. Roedd e'n efengylwr oherwydd ei fod yn credu ac wedi profi'r efengyl - y newyddion da!

Methais i a mynd draw i'r crebrwng heddiw ond rwy'n siwr y bu llawer son am fod Wncwl John, gynt o fferm Bryn Ucha, bellach ar y bryn uwch fyth ac yn y nefoedd gyda'i Waredwr. Diolch iddo.

15.7.08

Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser

Pan fo pethau yn tueddu i fynd yn anghywir neu beidio gweithio allan fel yr oedde chi wedi ei weithio allan yn eich pen mae yna duedd yndom ni gyd i droi a beio Duw. Ond dwi wedi fy atgoffa o'r newydd heddiw fod y gwrthwyneb yn wir sef mai at Dduw y dyliem droi am gadernid a chysur yn hytrach na rhywun i'w feio. Yn llythyr Paul at y Philipiaid dawn eglur fod croes a gwirionedd Crist wedi ein harfogi i wynebu problemau a helbulon y byd hwn yn ogystal a'n paratoi ar gyfer y daith olaf.

Dyma rai enghreifftiau, does dim gwadu fod unigrwydd yn broblem enfawr yn ein cymdeithas heddiw - maen broblem sy'n cael ei guddio drwy ddibyniaeth pobl ar gwmni y teledu a chyfryngau tebyg, neu yn fy achos i a llawer o bobl ifanc: facebook/maes-e/blogs/twitter! Yn adnodau agoriadol yr epistol at y Philipiad (1:1-11) mae hyder a gobaith Paul yn rhyfeddol a hynny yn wyneb yr unigrwydd difrifol yr oedd yn ei wynebu mewn cell. Ymhellach yn y bennod gyntaf mae Paul yn dangos sut mae croes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth yn wyneb dioddefaint (1:12-18) a hyd yn oed marwolaeth (1:19-30).

Ymlaen yn y drydedd bennod gwelwn groes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth yn wyneb tensiynau a chynnen (3:1-11) a'r blinder (3:12-4:1) sy'n ein goddiweddid ni gyd o bryd i'w gilydd. Maen debyg mae'r cyflwr meddyliol sy'n llorio'r mwyaf o bobl heddiw yw pryder (anxiety) ac yn achos llawer o bobl mae'r cyflwr môr ddifrifol fel ag y maen rhaid cymryd cyngor doctor a da o beth fod y cyngor hwnnw ar gael. Ond fe all y Meddyg Da yn ogystal a'r GP ein cynnal a'n cynorthwyo pan yn wynebu pryder difrifol oherwydd fel y dywed Paul: 'Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe'i dywedaf eto, llawenhewch. Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos. Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch' (3:4-6). Yn olaf mae croes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth i ni yn wyneb tlodi (4:10-23).

Fe ddywedodd John Lennon:

Imagine there's no Heaven
It's easy if you try
No hell below us
Above us only sky
Imagine all the people
Living for today


Wel, maen gysur gwbod fod Cristnogaeth yn gysur ac yn gymorth i ni sy'n "living for today" hefyd. Oes mae gan Iesu yr ateb i bechod ond mae ganddo atebion hefyd i broblemau ymarferol bywyd nid dim ond y cosmig. Diolch iddo.

14.7.08

Mark Driscoll yn Llundain

Dwi newydd ddychwelyd adre ar ôl ychydig ddyddiau ar y ffordd. Yn gyntaf fe es i i Gaerfyrddin i groesawu Menna nôl, roedd hi wedi bod yn teithio ers bron i fis – dwi'n eithriadol o falch ei bod hi nôl yng Nghymru nawr a hynny yn saff a diogel! Fe es i ymlaen o Gaerfyrddin i Lundain i glywed Mark Driscoll o Mars Hill, Seattle yn siarad. Fe ges i'r fraint o gael sgwrs gyflym ag ef rhwng un o'r sesiynau ar y dydd Sadwrn. Esboniais iddo fe mae un o'r problemau oeddem ni yn ei wynebu yng Nghymru oedd drwgdeimlad ac amheuaeth o dŷ gwahanol Gristnogion tuag at waith a dulliau Cristnogion eraill boed yn amheuaeth enwadwyr at waith eglwysi Efengylaidd neu amheuaeth eglwysi efengylaidd o waith mwy emerging fel yr ydw i'n ceisio cael fy ngafael ynddi. Roedd cyngor Driscoll yn ddoeth iawn sef mae'r oll oedd angen gwneud oedd dangos fod unrhyw ddatblygiadau a chynlluniau emerging yn Feiblaidd a thrwy bwysleisio hynny law yn llaw a dangos cariad ac amynedd at y rhai sy'n amau eich dulliau a'ch cymhellion fe ddônt hwy i barchu eich ffordd gwahanol chi o wneud Eglwys (to do Church).

Fe welais hi'n reit ddifyr fod Driscoll yn cymharu fy nghefndir i mewn eglwys 'ffwndamentalaidd efengylaidd' (ei eiriau ef!) gyda'i gefndir ef mewn eglwys Babyddol. Wrth gwrs mae diwinyddiaeth eglwysi ffwndamentalaidd efengylaidd ac eglwysi Pabyddol yn hollol wahanol fodd bynnag mae yna un peth yn gyffredin sef eu methiant llwyr i gyrraedd y diwylliant cyfoes. Ac yn hynny o beth yn yr un modd ag yr oedd yn rhaid i Driscoll ddangos i'w gyfeillion Pabyddol fod yr hyn oedd yn gwneud yn Mars Hill yn Feiblaidd y maen rhaid i ni sydd ynghlwm a'r emerging Church ddangos i'r eglwysi efengylaidd fod yr hyn rydym ni'n ei wneud yn Feiblaidd.

Gan osgoi gwneud eilun o Mark Driscoll ei hun maen rhaid i mi ddweud ei bod hi wedi bod yn fraint cyfarfod ag arweinydd Cristnogol sydd wedi cael ei ddefnyddio gan Dduw mewn modd cwbl cwbl anghyffredin yn Seattle. Maen wych ac yn anogaeth fod Duw yn parhau i fendithio rhai eglwysi yn y Gorllewin ac dwi'n gweddïo y bydd Duw yn anfon bendith i'r gwaith yn y Gymru Gymraeg unwaith eto.

[Mae adroddiad o sgwrs Driscoll ar y Nos Wener ar y blog yma (Saesneg yn anffodus!)]

4.7.08

Hynt a helynt darlithio yn Undeb yr Annibynwyr

Fuesi lawr yn Abertawe heddiw yn rhoi'r ddarlith hanes yn Undeb yr Annibynwyr. Fel un sydd wedi fy magu mewn eglwys annibynnol nad sy'n aelod o'r Undeb roedd hi'n agoriad llygad gweld yr Undeb ar waith, ond trafodaeth at rywbryd eto yw hynny! Y testun heddiw oedd, sypreis sypreis, R. Tudur Jones a Phlaid Cymru. Swmp y ddarlith oedd fy nhraethawd hir gradd, mae e ar gael i ddarllen YMA (PDF) i unrhyw un a diddordeb. Fe'm harweiniwyd gan yr Ysbryd Glan i ddefnyddio'r ddarlith i herio yn ogystal a chyflwyno'r hanes moel am Dr. Tudur. Dyma oedd fy sylwadau clo, maddeuwch y llaw fer:

Casgliadau a'r Her Heddiw

Lle mae hyn yn ein gadael ni heddiw yn 2008? Pa wersi y gellid ei dysgu o hanes a syniadaeth Dr. Tudur? Eleni rydym ni'n coffau deng mlynedd ers marwolaeth R. Tudur Jones. Llawer wedi newid yn y ddeng mlynedd diwethaf: datganoli wedi blodeuo, yn ystadegol mae'r iaith Gymraeg yn y broses o gael ei hadfer, Plaid Cymru mewn Llywodraeth ac un o gyn-fyfyrwyr Dr. Tudur ym Mala-Bangor yn Weinidog Iaith a Diwylliant! Ond: dirywiad yr Eglwysi yn gwaethygu, cymunedau Cymraeg dan warchau a “cenedlaetholwyr” mewn llywodraeth yn torri addewidion

Byddai'n anghyfrifol i mi roi geiriau yng ngheg y diweddar Dr. Tudur. Ond holwch chi eich hun beth fyddai Dr. Tudur yn ei ddweud am rîn Plaid Cymru heddiw? Beth fyddai Dr. Tudur yn ei ddweud am hygrededd Gweinidogion Plaid Cymru mewn llywodraeth heddiw? Fy marn bendant i yw y bod angen dylanwad Cristnogol cryf ar y mudiad cenedlaethol yng Nghymru o'r newydd heddiw fel ag yn nydd Dr. Tudur – mae dyletswydd arnom i fod yn lefain yn y blawd.

Dywedodd Dr. Tudur yn 1976:

“Yn y diwedd, ffydd sy'n rhyddhau egni ac yn tanio hunanaberth ac ymroddiad. Dyna pam mae'n ddyletswydd ar y rhai ohonom sy'n dwyn cyfrifoldeb uniongyrchol am yr eglwysi ac am addysg gweinidogion i roi sylw gwirioneddol ddifrifol i bopeth a all beri adnewyddiad yn yr eglwysi. Achubwyd ein cenedl o bosibilrwydd difodiant fwy na unwaith gan adnewyddiad Cristnogol mawr.”


Gan adael gwrthrychedd academaidd wrth y drws rhaid i mi nodi mod i'n cyd-weld yn llwyr a gweledigaeth Dr. Tudur ac mi gredaf mai dim ond adferiad ysbrydol all ddod ac integriti gwleidyddol a diwylliannol llawn yn ôl i Gymru. Rhyddid a Hunanlywodraeth yw'r asgwrn cefn a'r ffydd Gristnogol yw'r sbeinal cord - ni all un lwyddo yn ei waith o gynorthwyo Cymru i gerdded yn gefn syth heb y llall.

26.6.08

Ydy bod yn Gymro a bod yn Gristion yn synonymous?

Cyn i fy Nhad-cu droi at Grist yr hyn wnaeth ei sbarduno ef i feddwl yn ddyfnach am ei berthynas (neu ddiffyg ar y pryd) gyda Duw oedd iddo dderbyn pamffled oedd a'r teitl brawychus GOD HAS NO GRAND CHILDERN. Byrdwn neges awdur y bamffled y diwrnod hwnnw oedd y ffaith fod rhaid i bawb ddod i adnabod yr Iesu drostynt hwy eu hunain. Nid oes unrhyw un yn etifeddu perthynas a Duw ar sail ffydd ei rieni neu am ei fod yn aelod o genedl a thraddodiad Cristnogol fel, meiddia i awgrymu, Cymru. Mae'r Beibl yn glir y bod pawb yn dechrau yn yr un man mewn perthynas a Duw does ots am unrhyw gefndir neu fagwraeth Gristnogol. Gwrandewch ar yr apostol Paul, mae'n dechrau gyda'r cwestiwn rhethregol: 'Felly beth ydyn ni’n ei ddweud? Ydyn ni Iddewon yn well yng ngolwg Duw na phawb arall?' cystal i ni ofyn a ydym ni'r Cymry yn rhagori oherwydd ein treftadaeth Gristnogol? Ateba'r apostol yn gadarn - na!:

Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn glir: 

"Does gan neb berthynas iawn gyda Duw – neb o gwbl!
 Does neb sy'n deall go iawn, 
neb sydd wir yn ceisio Duw.
 Mae pawb wedi troi cefn arno, 
ac yn dda i ddim. 
Does neb yn gwneud daioni – dim un! Mae eu geiriau’n drewi fel beddau agored; 
dim ond twyll sydd ar eu tafodau. Mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau. Mae eu cegau yn llawn melltith a chwerwedd. Maen nhw’n barod iawn i ladd;
 mae dinistr a dioddefaint yn eu dilyn nhw i bobman,
 Dyn nhw'n gwybod dim am wir heddwch. Does ganddyn nhw ddim parch at Dduw o gwbl. (Rhufeiniaid 3:10-18)


Dyna beth yw geiriau sobreiddiol a phwerus. Y rheswm pam y dewisais dynnu sylw at gymal môr negyddol oedd er mwyn dangos nad oes gan Dduw ei ffefrynnau ac yn bwysicach fyth i ni'r Cymry nid yw chwaith yn ffafrio rhai cenhedloedd mwy nag eraill. Mae pawb, de facto, wedi methu cyraedd safon perffaith Duw ond y newyddion da yw hyn sef y gall pawb, yr un môr hafal a theg, ddod i mewn i berthynas a Duw. Ni fydd hynny yn digwydd drwy gael eich magu mewn eglwys a chael eich bedyddio'n blentyn; ni fydd hynny yn digwydd chwaith oherwydd fod eich Mam neu eich Tad yn Gristnogion ac yn sicr ni fydd hynny yn digwydd trwy berthyn i un o genhedloedd mwyaf Cristnogol hanes, mewn gair nid drwy fod yn Gymro! Nid yw rhain yn ffactorau i'w difrïo cofiwch, cyfryngau yn unig ydynt, nid annhebyg i arwyddion ffordd sy'n eich cyfeirio at y briffordd i berthynas go-iawn a Duw a dod yn Gristion. Yr allwedd yw ffydd syml fod Iesu Grist wedi gwneud yr holl waith trosoch chi.

"Dyn ni'n haeddu cael ein cosbi am beth wnaethon ni. Ond wnaeth hwn ddim byd o'i le." Yna meddai, "Iesu, cofia amdana i pan fyddi di'n teyrnasu." Dyma Iesu'n ateb, “Wir i ti – cei di ddod gyda mi i baradwys heddiw." (Luc 23:41-43)


Fel y lleidr ar y groes mae croeso i bawb heddiw ddod i baradwys hefyd! Diolch iddo.

24.6.08

Effaith mynychu Prifysgol ar dueddiadau crefyddol

Ar hyn o bryd dwi wrthi yn darllen cyfrol gyntaf 'Ffydd ac argyfwng Cenedl' ac maen chwith gyda mi gyfaddef mae dyma'r tro cyntaf i mi weithio trwyddi er mod i'n dod i ddiwedd fy ail flwyddyn yn gwneud doethuriaeth am R. Tudur Jones, awdur y gyfrol!

Yr hyn a'm trawodd heno oedd darllen ystadegyn am yr 1890s oedd yn dweud mai dim ond 10 y cant o blant yr eglwysi fyddai'n parhau'n aelodau eglwysig wedi iddynt fudo i Lerpwl ar dinasoedd mawrion i weithio. Mor debyg yw'r phenomenon ymysg myfyrwyr Cymraeg heddiw o gael eu derbyn yn gyflawn aelod neu eu bedyddio jest cyn mynd i'r coleg yna wedi cyrraedd Aberystwyth, Bangor neu lle bynnag ni fyddant yn twllu cyfarfod am dair mlynedd heb son am ymroi yn llawn i fywyd eglwys tra yn y coleg.

Maen amlwg fod had problem heddiw wedi ei hau yn natblygiadau mudo a thraddodiadau crefyddol dros ganrif yn ol. Ydy pobl yn meddwl fod Duw yn cael time off tra eu bod nhw yn y brifysgol? Wn i ddim wir.

17.6.08

Wedi meddwl mynd i'r capel ond y pyb yn fwy atyniadol?



Wedi meddwl mynd i'r capel ond y pyb yn fwy atyniadol? Wel... mae ateb!

CWRDD, Eglwys Dafarn Gymraeg - tafarn The End, Caerdydd, 9 pm - 22 a 29 Mehefin 6 a 13 Gorffennaf

Dyma medd y trefnwyr:

Ni'n byw mewn cymdeithas sy' 'di newid. Dydy mynd ir capel ar y Sul ddim yn norm, dydy Cristnogaeth ddim mor ddylanwadol yng Nghymru ag oedd hi ganrifoedd yn ôl. Ma' lot 'di newid. Ond ma' 'na un peth yn aros yn union run peth. Efengyl Iesu Grist yw honno. Bwriad CWRDD yw cyfuno neges y Dyn adnabyddus hwnnw - Iesu Grist - trwy gyfrwng newydd.

Pwy yw Iesu? Does dim un cymeriad yn hanes y byd wedi'i bortreadu cynifer o weithiau a Iesu Grist. Pa un oedd yn gywir, os unrhywun? Celwyddgi? Gwr Priod? Terfysgwr? Cenedlaetholwr? Arglwydd?
Wrth edrych ar unigolion yn CWRDD yr Iesu yn y Beibl, bydd CWRDD yn eich herio a'ch cwestiynu ynglŷn ag ystrydebau a rhagdybiaethau ynghylch y ffigwr mwyaf dylanwadol yn hanes ein byd.

Ry' ni'n gwneud hyn mewn sefyllfa hollol anffurfiol. Mewn tafarn, mae modd sgwrsio, cymdeithasu a dod i 'nabod ein gilydd yn well. Rhannu'r newyddion da am Iesu - 'na gyd ni ishe neud.


Mwy o wybodaeth a fideo promo AR Y WEFAN

16.6.08

Tystiolaethu'n Ddigidol a'r Emerging Church

Fel y soniais ar y blog ddiwedd wythnos diwethaf fe wnes i fynychu Cynulliad Oedolion Ifanc yr Annibynwyr dros y penwythnos lle roeddw ni'n siarad ar y testun Tystiolaethu'n Ddigidol a'r Emerging Church. Dyma grynodeb o'r neges, ar waelod y postiad mae dolen i chi islwytho'r anerchiad yn llawn fel PDF.

Gellid dadlau gyda chryn argyhoeddiad fod dylanwad Cristnogaeth ar Gymru wedi bod cyn gryfed os nad yn fwy, dyweder, na dylanwad Marcsiaeth a'r Rwsia. Mae gan Gymru, yn ddi os, hanes gyfoethog o fod yn genedl sydd wedi ei chyffwrdd a'i ddylanwadu gan Gristnogaeth ond gadewch i ni edrych ar y sefyllfa heddiw. Fe ddywedodd 71% (sef dros ddwy filiwn o bobl) ohonom ni ein bod ni'n Gristnogion yn y cyfrifiad diwethaf. Ar bapur felly mae'r Cymry yn Gristnogion ac mae Cymru'n wlad Gristnogol o hyd. Ond fe ddywedodd y cymdeithasegydd Paul Chambers yn ei lyfr Religion, Secularization and Social Chance in Wales (2005) fod crefydd, er gwaetha'r ffaith fod dros 70% o Gymry yn adnabod eu hunain fel Cristnogion, yn farw yng Nghymru: 'Religion in Wales,' meddai Chambers, 'if not entirely dead, is seen as terminally sick, subject to the secularizing influences common throughout Europe.' Mewn ymateb i eiriau sobreiddiol Paul Chambers fan yma yn ogystal a defnydd digon elfennol o'n synhwyrau a'n synnwyr cyffredin ni ellid derbyn, yn ddi gwestiwn o leiaf, ganlyniadau cyfrifiad 2001 a honnodd fod Cymru yn parhau i fod yn wlad fwyafrifol Gristnogol.

Pan gyhoeddwyd Yr Her i Newid yn 1995 dim ond 8.7% o Gymry oedd yn mynychu unrhyw fath o eglwys a ddeng mlynedd yn ddiweddarach mae'r ffigwr wedi syrthio i 6.4%. Sut felly mae ymateb i'r her? Tri ymateb posib:

Ymateb 1: Negyddiaeth a gwrthod newid
Efengyl+Eglwys-Diwylliant = Ffwndamentaliaeth

Ymateb 2: Colli'r ffocws
Eglwys+Diwylliant-Efengyl = Rhyddfrydiaeth

Ymateb 3: Diwygiadol, neu yn Saesneg Reformitionnal
Efengyl+Eglwys+Diwlliant=Diwygiadol

Mae ffaeleddau amlwg yn y ddau ymateb cyntaf ac felly ein dyletswydd ni yw darganfod, arddel a gweithredu ffydd Gristnogiol sydd wedi deall yr Efengyl yn llawn, yn deall beth yw'r eglwys a'i rôl ond hefyd bod yn eglwys sy'n berthnasol yn ddiwylliannol.

Casgliadau

1. Mae'r Eglwys wedi methu a dilyn esiampl Paul ac yn fwy pwysig Iesu, rhaid i ni fel cenhedlaeth beidio efelychu'r genhedlaeth ddiwethaf.

2. Pwysig cofio mae addasu'r cyfrwng ydym ni'n gwneud ac nid addasu'r neges.

3. Iesu sy'n rhoi dilysrwydd i'n math newydd o eglwys ac nid yr hen fath o eglwys.

Rhowch glec yma i ddarllen yr anerchiad yn llawn: Tystioilaethu'n Ddigidol a'r Emerging Church (PDF)

20.5.08

Diwylliant Cristnogol yn rhy high-brow?

Dwi'n meddwl fod tystiolaeth Gristnogol wastad wedi cael y broblem o fod yn 'high-brow' a dwi cymaint a neb wedi gwneud fy siar yn cyfrannu i'r broblem yma, rwy'n ymddiheuro. Pan yn coleg roeddw ni ac eraill wedi tybio fod y model cyfarfod undeb Cristnogol o gael darlithydd neu weinidog i draethu ar bwnc trwm wedi apelio nol yn y 70au a bod tyrfa niferus yn mynychu'r cyfarfodydd ond fod y model yna ddim mynd i weithio heddiw, wrth reswm. Ond fe ddoes ar draws tystiolaeth yn awgrymu fod y model ddim yn gweithio yn y 70au chwaith ac fod y cyfan yn cael ei gynnal yn yr ysbryd cywir maen siŵr ac fod y cymhellion yn gywir ond yn anffodus yn rhy 'high-brow' i fod yn unrhyw gyfrwng effeithiol i genhadaeth.

“Cafwyd blwyddyn gymharol lwyddiannus eleni. Mae gennym gnewyllyn o tua hanner dwsin o Gristnogion sy'n mynychu'r holl weithgareddau Cymraeg yn ffyddlon, ac yna tua phymtheg o fyfyrwyr eraill sydd yn dod yn achlysurol. Cafwyd cyfres o gyfarfodydd ar Nos Sul ar y thema 'Ffydd', gyda phwyslais arbennig ar arwyr y ffydd, rhai o'r Hen Destament a rhai o hanes Cymru.” Llythyr Agored gan XXX XXXXX1, Awst 1971 (yng nghasgliad R. Tudur Jones, Bangor)


Dwi'n gwybod am beryglon cyfri bendith yn ôl niferoedd fod credaf fod rhan o'r “argyfwng” presennol yn deillio o'r ffaith ei fod hi'n “argyfwng” 40 mlynedd yn ôl ond rhwng 1970-2007 nid oes dim wedi newid! Pam y bu'r eglwys mor ddiog a di-weledigaeth cyhyd? Oherwydd ei anallu i feddwl tu allan i'r diwylliant neilltuedig Gristnogol “high-brow” o bosib? Mae yn broblem fawr fod y diwylliant Cristnogol mor dosbarth-canol a gwridaf wrth gyfaddef mod i wedi cyfrannu i'r broblem honno. Y gyfrinach nawr (ymysg cant a mil o bethau eraill) yw ceisio dad-high browio ein diwylliant Cristnogol fel bod pawb yn medru dod i ddeall neges syml Iesu o gariad a ffydd mewn byd sy'n chwilio am gariad ac yn chwilio am rhywbeth cadarn i roi eu ffydd arno.

TN:
1. Er chwarae teg dwi wedi dewis cadw enw awdur y llythyr yn gudd

5.5.08

Dylanwad (positif?) Martin Lloyd-Jones

Rwy'n deall fod fy mlogiad diweddar am Martin Lloyd-Jones wedi peri chwithdod i rai pobl, nid dyna oedd fy mwriad, ddim o gwbl, dim ond rhannu rhai meddyliau oedd gennyf ar ôl darllen y bennod honno yn y cofiant lle roedd MLl-J yn trafod gwleidyddiaeth dyna i gyd. Er nad ydw i'n cytuno a'r safbwynt yr oedd MLl-J yn ei fynegi am rationale y Cristion i fynd at y diwylliannol a'r gwleidyddol dwi wedi dod i werthfawrogi un agwedd o waith MLl-J yn fawr yn ddiweddar felly megis i fod yn gytbwys gyda'r blogiad diwethaf am y Doctor dyma drafod coleddiad o un o'i bwysleisiadau mewn maes arall. Ei ddealltwriaeth o fedydd yr Ysbryd Glan fel y'i mynegwyd yn ei lyfr trawiadol Joy Unspeakable a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1976.

Ffaith weddol ddi-sôn-amdano am MLl-J yw ei fod, drwy gamgymeriad, yn dâd i'r mudiad caresmataidd modern trwy ynysoedd Prydain. Maen debyg fod sawl arweinydd o fewn yr eglwys Galfinaidd-Garesmataidd Newfrontiers wedi eu dylanwadau yn drwm gan MLl-J wedi iddynt fynychu'r frawdoliaeth enwog dan arweiniad MLl-J yn Llundain yn y 60au a'r 70au. Er ei bwyslais pendant, a hynny yn gywir, ar awdurdod y Gair rhoes MLl-J bwyslais, fel y Piwritaniaid cynnar, ar y profiad Cristnogol hefyd. Trwy ddysgu ac esboniadaeth MLl-J y daeth llawer i glywed gyntaf, gyda mi yn eu plith, am athrawiaeth bedydd yr Ysbryd Glan fel rhywbeth a phrofiad gwahanol i dröedigaeth. Dyma gyflwyno rhai dyfyniadau gan MLl-J ar y pwnc:

" . . . What is the baptism of the Holy Spirit? Now there are some, as we have seen, who say that there is really no difficulty about this at all. They say it is simply a reference to regeneration and nothing else. It is what happens to people when they are regenerated and incorporated into Christ, as Paul teaches in 1 Corinthians 12:13: 'By one Spirit are we all baptized into one body' . . . Therefore, they say, this baptism of the Holy Spirit is simply regeneration.

"But for myself, I simply cannot accept that explanation, and this is where we come directly to grips with the difficulty. I cannot accept that because if I were to believe that, I should have to believe that the disciples and the apostles were not regenerate until the Day of Pentecost---a supposition which seems to me to be quite untenable. In the same way, of course, you would have to say that not a single Old Testament saint had eternal life or was a child of God."


Yn bersonol dwi dal ddim yn llawn ddeall yr athrawiaeth yma ond tybiaf i fod MLl-J yn ein tywys ar hyd y llinellau cywir ac bod bedydd yr Ysbryd Glan yn rhywbeth gwahanol i dröedigaeth – gall ddigwydd run pryd, gall, ond nid yw o'r rheidrwydd yn digwydd run pryd. Mae peryglon amlwg i'r ddysgeidiaeth hon sef fod pobl yn chwilio a phwyso gormod ar y “profiad” fel sicrwydd ffydd yn hytrach na phwyso ar eu ffydd yn addewid Duw drwy Iesu. Perygl arall yw fod athrawiaeth o'r fath y debygol o greu dwy gynghrair o fewn yr Eglwys gyda rhai wedi derbyn bedydd yr Ysbryd Glan a rhai heb, gyda'r naill yn edrych i lawr ar y llall. Ond er gwaethaf peryglon yr athrawiaeth dwi'n gytûn gyda MLl-J fod yr athrawiaeth yn cael ei dysgu'n glir yn y Beibl a pheryglon neu beidio rhaid dilyn yr hyn sy'n ysgrythurol gywir.

Yn ddiweddar clywais sî fod MLl-J ar ddiwedd ei oes yn difaru cyhoeddi Joy Unspeakable oherwydd ei fod wedi 'newid ei feddwl' – edrychais i fewn i hyn a chanfod fod y gwrthwyneb yn wir – yn ei fisoedd olaf ategu yr hyn ddywedodd rai blynyddoedd yn gynt a wnaeth, John Piper sydd a'r hanes:

“...towards the end of his life he urged his followers to actively seek an experience of the Holy Spirit. Aside from his insistence that the baptism with the Spirit is a work of Jesus Christ distinct from regeneration, Lloyd-Jones also opposed cessationism, claiming that the doctrine is not founded upon Scripture. In fact, he requested that Banner of Truth Trust, the publishing company which he co-founded, only publish his works on the subject after his death.”


Mae hwn yn bwnc, wrth gwrs, sydd wedi bod yn destun trafod brwd ymysg Cristnogion ers degawdau os nad canrifoedd, diddorol byddai clywed ymatebion.

30.4.08

Tystiolaeth fod y Mor Coch wedi agor... a chau

Mi fydd darllenwyr cyson y blog a darllenwyr maes-e sy'n gyfarwydd a fy nghyfraniadau i drafodaethau ffydd yn gwybod nad oes meddwl uchel iawn gyda mi o wyddonwyr Cristnogol fel Ken Ham sy'n ceisio profi fod creadigaeth yn wir – i mi nid oes diben na modd profi rhywbeth sy'n wyrthiol drwy ddefnyddio gwyddoniaeth. Fodd bynnag fe dynnwyd fy sylw i'r erthygl yma wythnos diwethaf sy'n honni fod tystiolaeth wyddonol/archeolegol wedi dod i law sy'n profi cywirdeb y stori ryfeddol yn yr Ecsodus lle mae Duw yn agor y Mor Coch i'r Iddewon ddianc rhag yr Eifftiaid ac yna cau y mor yn glep yn wyneb yr Eifftiaid. Mae'r ymchwil yn honni eu bod nhw wedi canfod olion olwynion sydd wedi ei dyddio i oddeutu 3500 o flynyddoedd yn ôl ar waelod y Mor Coch. Olwynion oedd rhain, maen debyg, oedd yn rhan o gerbydau yr Eifftiaid wrth iddynt ddilyn yr Iddewon.

Yr hyn sy'n gwneud yr honiad yma yn wahanol i honiadau Ken Ham am greadigaeth yw mod i'n credu fod hanes agor y Mor Coch, er yn wyrth, yn siwr a adael ei sgil effaith gwyddonol ac er nad ydw i'n archeolegydd dwi'n agored yn sicr i'r posibilrwydd fod tystiolaeth allan yna i brofi cywirdeb hanesyddol y wyrth ryfeddol yma o agor y Mor Coch i'r Iddewon gael mynd gam yn nes at wlad yr addewid.

...wrth gwrs maen anodd deall pam yn union yr oedd angen boddi yr holl Eifftiaid yn y broses, 'mawr iawn fydd ef rhyw dydd pam ddatguddir pethau cudd' chwedl yr hen emyn amwn i....