22.8.08

Trin yr Eglwys fel Sinema

Dwi wrth fy modd yn mynd i'r Sinema yn enwedig ers symud i Fangor oherwydd fod mynd i weld ffilm yn cynnwys reid fach ar y trên draw i Gyffordd Llandudno. Ond er fy hoffter o'r tripiau bach draw i Junction (fel mae'r Conductor ar y trên yn ei alw) anaml iawn dwi'n cael noson rydd neu wythnos dawel i fynd; dim ond os nad oes dim byd arall o gwbl ymlaen, dim gwaith i'w gwblhau a dim adloniant amgen ar gael dwi'n ei throi hi am Junction. Wedi i chi gyrraedd draw does dim rhaid i chi wneud dim byd, prynu eich tocyn, y staff yn gweni diodydd a phop-corn i chi yna i mewn a chi ac eistedd nol a mwynhau y ffilm a chael dianc o'r byd go iawn am awr neu ddwy. Yna adref a chi a gadael i staff y Sinema glirio y pop-corn oddi ar y llawr a gosod y lle yn barod i'r ffilm nesaf. Tybed a ydych chi'n un o'r rheiny sy'n trin yr Eglwys fel Sinema? Mae yna ddigon o rai allan yna.

Dim ond os nad oes dim byd arall ymlaen rydych chi'n troi i mewn i'r cwrdd, a hynny dim ond lond llaw o weithiau'r flwyddyn, rhyw fath o last resort. A phan drowch chi fyny fyddwch chi ddim yn disgwyl gwneud mwy na eistedd yn y cefn ac yna ei throi hi adref ar y diwedd. Bydd y rheiny sy'n trin yr Eglwys fel Sinema yn cymryd yn ganiataol fod aelodau eraill yn gwneud yr holl waith ac y gallent hwy droi fyny pan yn gyfleus iddyn nhw. Mae cadw eich enw ar lyfrau aelodaeth eich capel a dangos eich wyneb yn cwrdd dim ond lond dwrn o weithiau'r flwyddyn er mwyn lleddfu eich cydwybod yn ymylu ar ofergoeliaeth ac mae hyn yn ffenomenon sy'n rhaid i'r Eglwysi Cymraeg ei wynebu a'i daclo rhag blaen. Un o brif elynion efengyl Crist yn ein capeli heddiw yw crefydd, nid yw crefydd a Christnogaeth yr un peth. Mae un yn dilyn ofergoel a'r llall yn dilyn gras Crist.

Os wyt ti'n un o'r aelodau hynny sy'n trin dy eglwys fel Sinema yna beth am roi ymdrech fis Medi ymlaen i ymroi mwy o fywyd a gwaith dy eglwys.

No comments: