Showing posts with label Eglwys. Show all posts
Showing posts with label Eglwys. Show all posts

22.8.08

Trin yr Eglwys fel Sinema

Dwi wrth fy modd yn mynd i'r Sinema yn enwedig ers symud i Fangor oherwydd fod mynd i weld ffilm yn cynnwys reid fach ar y trên draw i Gyffordd Llandudno. Ond er fy hoffter o'r tripiau bach draw i Junction (fel mae'r Conductor ar y trên yn ei alw) anaml iawn dwi'n cael noson rydd neu wythnos dawel i fynd; dim ond os nad oes dim byd arall o gwbl ymlaen, dim gwaith i'w gwblhau a dim adloniant amgen ar gael dwi'n ei throi hi am Junction. Wedi i chi gyrraedd draw does dim rhaid i chi wneud dim byd, prynu eich tocyn, y staff yn gweni diodydd a phop-corn i chi yna i mewn a chi ac eistedd nol a mwynhau y ffilm a chael dianc o'r byd go iawn am awr neu ddwy. Yna adref a chi a gadael i staff y Sinema glirio y pop-corn oddi ar y llawr a gosod y lle yn barod i'r ffilm nesaf. Tybed a ydych chi'n un o'r rheiny sy'n trin yr Eglwys fel Sinema? Mae yna ddigon o rai allan yna.

Dim ond os nad oes dim byd arall ymlaen rydych chi'n troi i mewn i'r cwrdd, a hynny dim ond lond llaw o weithiau'r flwyddyn, rhyw fath o last resort. A phan drowch chi fyny fyddwch chi ddim yn disgwyl gwneud mwy na eistedd yn y cefn ac yna ei throi hi adref ar y diwedd. Bydd y rheiny sy'n trin yr Eglwys fel Sinema yn cymryd yn ganiataol fod aelodau eraill yn gwneud yr holl waith ac y gallent hwy droi fyny pan yn gyfleus iddyn nhw. Mae cadw eich enw ar lyfrau aelodaeth eich capel a dangos eich wyneb yn cwrdd dim ond lond dwrn o weithiau'r flwyddyn er mwyn lleddfu eich cydwybod yn ymylu ar ofergoeliaeth ac mae hyn yn ffenomenon sy'n rhaid i'r Eglwysi Cymraeg ei wynebu a'i daclo rhag blaen. Un o brif elynion efengyl Crist yn ein capeli heddiw yw crefydd, nid yw crefydd a Christnogaeth yr un peth. Mae un yn dilyn ofergoel a'r llall yn dilyn gras Crist.

Os wyt ti'n un o'r aelodau hynny sy'n trin dy eglwys fel Sinema yna beth am roi ymdrech fis Medi ymlaen i ymroi mwy o fywyd a gwaith dy eglwys.

28.7.08

Dylanwad llesol yr eglwys ar gymdeithas

Yn ddiweddar, yn Cristion ac hefyd ar fy mlog, rwyf wedi bod yn annog pobl i edrych tu hwnt i grefydd gyfundrefnol er mwyn ail-ddarganfod Cristnogaeth y Beibl ac ail ddarganfod Crist drostynt hwy eu hunain. Rwyf hyd yn oed wedi cyfeirio at ymadroddion beiddgar fel “Everyday people are leaving the Church and coming Back to God” yn ogystal â “Jesus – OK, Church – No Way!”. Rwyf wedi fy nghyhuddo o ddifrïo'r Eglwys lle mewn gwirionedd fy mwriad oedd herio a chwyldroi'r eglwys. Yn y blogiad yma felly fy mwriad yw tanlinellu o'r newydd beth yw'r eglwys a thanlinellu fod rhaid i ni ymroi i'n heglwysi mewn modd radical a graslon yr un pryd.

Maen ystrydebol bellach i gyfeirio a chymharu'r Eglwys a McDonalds - dydy mynd i'r Eglwys ddim yn eich gwneud chi'n Gristion mwy nag y gwnaiff mynd i McDonalds yn eich gwneud chi'n hamburger! Er, fel Protestant da, na gredaf fod yr Eglwys yn gyfrwng i selio iachawdwriaeth rwyf yn argyhoeddedig fod yr Eglwys ac athrawiaeth yr eglwys o bwys canolog i'r Cristion.

Mae'r Beibl yn cyfeirio at yr Eglwys fel Priodferch Crist. Meddai Paul yn Effesiaid 5:25-27:

“Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau'r eglwys a'i roi ei hun drosti, i'w sancteiddio a'i glanhau â'r golchiad dŵr a'r gair, er mwyn iddo ef ei hun ei chyflwyno iddo'i hun yn ei llawn ogoniant, heb fod arni frycheuyn na chrychni na dim byd o'r fath, iddi fod yn sanctaidd a di-fai.”


Mae'n debyg fod yr adnodau hynny yn rai sy'n fwy cyfarwydd i chi fel rhai sy'n cael eu darllen mewn gwasanaeth priodasol ond gadewch i ni am ennyd graffu yn fanwl ar yr adnodau. I mi mae'r adnodau yma yn ysgytwol: cymaint yw cariad Iesu dros ei eglwys, ei briodferch - hynny yw y ti a mi os wyt yn credu - fel ei fod wedi rhoi ei hun o'i wirfodd ar y groes drosom ni. Ond nid yn unig hynny ond pan ddaw y dydd (nid os ddaw y dydd) pan ddown i gyd o flaen Duw nid yn unig y bydd hi'n gysur gwybod fod Iesu wedi rhoi ei hun o'i wirfodd ar y groes trosom ond y bydd Iesu ei hun yn ein cyflwyno yn ddi-fai a di-frycheuyn i Dduw yn y nefoedd. Wylwch, o'r fath fraint! Mae rhai diwinwyr o'r farn fod Duw wedi creu'r sefydliad o briodas fel delwedd i ni allu cael mymryn o amgyffred o'r cariad mae Iesu wedi ei ddangos at yr Eglwys. Fe ddywed Joshua Harris yn ei lyfr 'Stop Dating the Church' (Multnomah, 2004):

“God invented romance and pursuit and the promise of undying love between a man and a woman so that throughout our lives we could catch a faint glimmer of the intense love Christ has for those He died to save. What passion He has for His Church! Even if you've never studied the Bible, you've heard echoes of this amazing love throughout your life. Every true love story has hinted at it. Every groom weakened at the sight of his radiant bride has whispered of it. Every faithful, committed, and loving marriage has pointed to it. Each is an imperfect echo of the perfect song of heaven.”


Dyna felly'r olwg hir dymor o bwysigrwydd yr eglwys – yr eglwys yw cymar Crist ei hun. Ond beth am bwysigrwydd fwy ymarferol dydd i ddydd yr Eglwys? Rwyf wedi cyfeirio eisoes at y ffaith nad ydy bod yn aelod o Eglwys yn eich gwneud chi'n Gristion, wedi dweud hynny rwy'n credu ei bod hi'n anodd os nad amhosib byw fel Cristion heb fod yn rhan o Eglwys. Mae dyletswydd ar Gristnogion i fod yn oleuni a halen yn y gymdeithas a'r ffordd orau i ddangos y goleuni a taenu'r halen hwnnw yw fel cymuned wedi dod at ein gilydd. Mae'r gymdeithas ehangach yn fwy tebygol o gymryd sylw o gymuned Gristnogol nag ydyw o Gristnogion unigol wedi eu gwasgaru dros dref, dinas neu ardal helaeth. Drwy gael cymuned o gredinwyr yn cyd-fyw yr efengyl a'r bywyd newydd gall y gymuned yn ehangach weld yr efengyl ar-waith yn arbennig felly pan fo cyfyngderau fel salwch a phrofedigaethau yn dod i'n rhan.

Yr Eglwys oedd asgwrn cefn moesol cymdeithas. Gan anwybyddu demensiwn ysbrydol Cristnogol a'r Eglwys am enyd maen rhaid i ni dderbyn fod Cristnogaeth a'r Eglwys wedi bod o les cymdeithasol sylweddol i Gymru a Lloegr a thu hwnt. Maen anhygoel o drist clywed am yr holl drywanu sy'n digwydd ymysg plant a phobl ifanc yn y dinasoedd yn ddiweddar. Ni allaf i ond deillio'r llwybr llithrig diweddar yma i fethiant trychunebus seciwlariaeth ac annffyddiaeth i ffeindio troed addas i lenwi esgid Eglwys Crist. Ac ofer bydd hi am byth oherwydd dim ond y ffydd Gristnogol all all ddod ac asgwrn cefn moesol yn ôl i ni yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth yn dangos fod yr arbrawf seciwlar yn methu.

5.7.08

Adolygiad o 'Stop Dating the Church' gan Joshua Harris

Cyfarfod drwy ffrind i ffrind gwnaeth Tomos a Ruth. O'r munud y gwnaethon nhw gyfarfod roedden nhw'n ymddangos fel y pâr perffaith. Roedd Ruth yn cynnig popeth roedd Tomos wastad wedi bod yn deheu amdano. Roedd hi'n brydferth, yn allblyg, yn alluog ac yn annwyl – roedd hi wastad yna pan oedd Tomos ei hangen hi. Am y pum mis cyntaf nid oedd modd eu gwahanu. Nid oedd angen i Tomos edrych ymhellach, byddai'n dweud wrth ei ffrindiau: “Hi yw'r Un!” Bellach mae tair blynedd wedi pasio heibio. Mae Tomos yn parhau i fwynhau'r cysur a'r cwmni o fod gyda Ruth, ond mae'r sbarc a'r cariad cyntaf wedi diflannu. Mae Tomos yn sylwi fwy fwy ar wendidau Ruth. Nid yw'n siŵr os ydy Ruth mor brydferth ag oedd hi unwaith ac mae'r wefr o fod gyda'i gilydd wedi ei golli. Un noson dyma Ruth yn holi Tomos i ddiffinio eu perthynas a dyma Tomos yn cynhyrfu a gwaeddi: “Dy ni gyda'n gilydd yn dydyn? Dydy hynny ddim yn ddigon i ti?” Yn amlwg nid oedd Tomos yn barod i ymrwymo ei hun i Ruth.

Tybed a ydych chi wedi bod mewn perthynas fel hyn? Mae lle cryf i dybio fod yna gannoedd o Gristnogion fel Tomos allan yna. Nid merch yw Ruth. Ruth yw'r Eglwys.


Dyna gyfieithiad/aralleiriad Cymraeg o ddechrau'r llyfr dwi newydd orffen darllen sef 'Stop Dating the Church' gan Joshua Harris (Multnomah, 2004). Mae'n lyfr bach, maint poced gyda dim ond 129 o dudalennau. Yn y llyfr mae Harris yn dadlau fod yna ddiwylliant anghywir wedi codi lle mae Cristnogion yn 'gweld' (hy “dating”) yr Eglwys ond ddim yn ymroi i 'berthynas' gyda hi. Enghraifft amlwg o'r ffenomenon yma yw'r rhan fwyaf o gapeli Cymraeg sydd a nifer eu cynulleidfaoedd gryn hanner beth yw aelodaeth yr eglwys. Nid yw'r aelodau yn troi fyny heb sôn am ymroi i'r gwaith. Dadleua Harris fod yr Eglwys yn bwysig oherwydd fod Duw yn gweld yr Eglwys yn bwysig cymaint nes rhoi'r Eglwys yn Briodferch i Grist. Fe â Harris ymlaen i ddadlau mae ffydd i'w fyw yn gymunedol mewn perthynas gyda Christnogion eraill ydy Cristnogaeth. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys penodau heriol ar sut y dylem ni ddewis eglwys ac hefyd pennod ar “ddiwrnod yr Arglwydd”, y Sul – maen dadlau fod y Sul yn ddiwrnod arbennig bwysig ond nad ydy hynny'n golygu y dylem droi'n ddeddfol ein hagwedd at y Sul.

Er fod yna lawer o bethau da gan Harris yn y llyfr mae yna wendidau yn ogystal, yn arbennig felly o'i ddarllen o'r persbectif Cymreig. Wrth ei ddarllen maen rhaid i chi gofio fod Harris yn arwain un o'r 'mega-churches' yn yr UDA ac mae hynny yn dangos ar adegau yn y llyfr. Maen amlwg nad ydy Harris wedi dod wyneb yn wyneb ar union yr un her a deilemas ag yr ydym ni yn ei wynebu gyda'r Eglwys yma yng Nghymru – yn bennaf, nid yw ei lyfr yn delio gyda'r modd sydd angen i ni ddiwygio a symud ymlaen o'r hen drefn anghydffurfiol sydd yma yng Nghymru. Mae Harris fel petai yn dechrau gyda dalen lan o'i flaen ond wrth gwrs nid dalen lan sydd gyda ni o'n blaenau yng Nghymru ond dalen a llawer o sgribles arno yn barod!

Er gwaetha'r gwendidau ar sylwadau culture-specific mi fuaswn ni'n awgrymu i chi ddarllen y llyfr os a diddordeb mewn diwygio Eglwysig.

'Stop Dating the Church' (£6.49 ar Amazon)

16.6.08

Faint o'r gloch mae'r cwrdd dydd Sul?

Nid yw mynd i Capel yn boblogaidd dyddiau yma ond hyd yn oed os byddech chi eisiau mynychu cwrdd ar y Sul maen arbennig o annodd gwneud hynny oherwydd nad oes unrhyw ffordd o wybod faint o'r gloch mae'r gwasanaethau. Dim ond nifer fychan iawn iawn o Eglwysi Cymraeg sydd a gwefannau felly dwi wedi cychwyn llenwi map google gyda lleoliadau Eglwysi Cymraeg ynghyd ac amseroedd eu cyrddau. Hyd yma dwi ond wedi rhoi gwybodaeth yr Eglwysi mae gennyf gyswllt a nhw ac felly yn digwydd gwybod y lleoliad ac amseroedd y cyfarfodydd, os ydych chi am i mi ychwanegu eich eglwys chi cysylltwch gyda mi.

Yn ein dydd ni gyda cyn lleied yn mynychu'r cwrdd maen gwbl hurt nad ydy'r Eglwysi yn gwneud mwy o ymdrech i adael pobl i wybod lle a phryd maen nhw yn cwrdd. Gobeithio bydd y map yma yn gymorth:


View Larger Map

17.5.08

Don Carson yn siarad am rôl addysg a cholegau diwinyddol

Dyma gyfweliad gan Adrian Warnock, un o flogwyr mwyaf adnabyddus y byd reformed-charismatic yn Lloegr gyda D.A. Carson, un o ddiwinwyr mwyaf blaenllaw yr Eglwys yn rhyngwladol ar hyn o bryd. Ei lyfr enwocaf yw The Gagging of God: Christianity Confronts Pluralism (Zondervan, 1996). Yr hyn sy'n hynod yw fod y cyfweliad wedi ei gynnal ym Mhenychain, Pwllheli pan oedd Carson yna dros y Pasg eleni fel un o brif siaradwyr yng nghynhaledd New Word Alive - tybed a wyddai poblach Pwllheli fod un o ddiwinwy'r mwyaf blaenllaw y byd yn troedio o amgylch eu tref yr wythnos hwnnw?!

Mae gan Carson bethau diddorol iawn i ddweud am rôl y diwinydd a rôl addysg ddiwinyddol o fewn yr eglwys, a dyna'r gyfrinach, sef mae disgyblaeth i ymarfer er budd yr eglwys yw diwinyddiaeth ac y dylai sefydliadau addysg ddiwinyddol fodoli er hwyluso a chryfhau'r eglwys leol. Mae hyn i mi, fel myfyrwyr diwinyddiaeth, yn berthnasol iawn. Er mae myfyriwr mewn adran ddiwinyddol seciwlar ydw i yn hytrach na mewn holeg diwinyddol mae fy agwedd i, gobeithio, tuag at y gwaith yn nes at safbwynt Carson nag y byddai awdurdodau Prifysgol Bangor yn ei hoffi! Rwy'n gobeithio y gallaf drosi yr hyn y byddaf fi yn ei sgwennu yn fy nhraethawd am waith R. Tudur Jones yn rhywbeth a fydd o fudd ac yn siarad yn gyfoes i'r eglwys wynebu her heddiw.

Dyma fy hoff ddyfyniad o'r fideo:

"...it's really important for those who teach in such places [colegau diwinyddol], nevertheless, to be pastors first, because if they think of themselves as teachers and scholars first, then they tend to produce teachers and scholars. So there's a stamping not simply from the course materials, but from your own values, what you think about, what you dream about. So at our seminary, we always hire a certain percentage of faculty who wish they were in the pastoral ministry or else, quite frankly, we don't want them. Now, they have to be academically competent and all the rest. But we don't want people who just want to be in a seminary.We want people who, in many ways, would prefer to be in the local church."


Mwynhewch y fideo:

Rhan 1



Rhan 2

25.12.07

Ydy Cristnogion yn patronising?

Ydy Cristnogion yn patronising? Ydyn yn sicr! Dwi'n meddwl mae un o brif broblemau'r eglwys, Cristnogaeth ac un o fy brif broblemau personol i ydy bod yn hunangyfiawn a dilornus o safbwyntiau gwahanol. Mae Cristnogaeth a Christnogion yn euog ar adegau o ddod drosodd yn patronising ac ar lawer adeg mi ydw i'n syrthio i'r twll ac yn fwy euog na neb am ddod drosodd yn patronising. Rwy'n cael fy hun yn aml yn gorwedd yn y gwely yn cicio fy hun am ddweud yr hyn ar llall mewn ffordd anraslon wrth rhywun, yn amlach na pheidio ar maes-e. Dwi'n gobeithio fod pobl sy'n fy adnabod yn y cigfyd yn gwybod yn iawn fod fy nghyfarth ar maes-e ac ar bapur (ac ar y blog hwn) yn fwy na'm brathiad. Ddim bod hynny wrth gwrs yn esgus am y troeon llawer lle dwi wedi bod yn ffyrnig o ymosodol tra'n dadlau am bethau yn enwedig felly am fy ffydd. Yr unig beth fedrai wneud ydy gwrido, edifarhau ac ymddiheurio. Wedi'r cyfan fe ddoith neb i berthynas a Iesu oherwydd iddyn nhw fethu a'm trechu i mewn dadl – yn yr un ffordd ag yr ydw i'n parhau i gredu yn Iesu er i mi gael fy llorio mewn dadleuon droeon ar y maes. Nid yw ffydd a wnelo dim gyda ennill a cholli dadleuon, rydw i'n anghofio hynny yn aml ac mae'r eglwys yn gyffredinol yn anghofio hynny hefyd.

Y broblem gyffredinol gyda Christnogaeth a Christnogion fel fi yw ein bod ni yn rhy hung-up ar grefydd – dy ni'n rhoi gormod o bwyslais ar ein cyfundrefn meddwl; yn y bon dy ni rhy grefyddol ac ddim yn ddigon duwiol. Dwi o'r farn mae prif nodwedd person duwiol ydy bod yn ostyngedig (h.y. 'humble'), fy nyhead dwfn i ydy bod yn Gristion mwy gostyngedig. Amwni mae'r ffordd ymlaen ydy gollwng Cristnogaeth fel crefydd a son mwy am Iesu Grist y gwaredwr, y dyn mwyaf gostyngedig a lleiaf patronising a fu erioed. A dyna yw fy neges i heno ma, noswyl gwyl dathlu geni Iesu; wrth edrych arnaf i maddeuwch i mi am fy amryfal frathiadau anraslon ac maddeuwch rhai o fy sylwadau patronising ac edrychwch yn hytrach ar Iesu ei hun – dyn heb ronyn o gasineb na penstiffrwydd; er mod i'n ceisio dilyn Iesu fe wridaf wrth gyfaddef nad ydw i'n rep. da iddo'n aml.

Os cewch chi gynnig mynd am wyliau yn rhad ac am ddim i Barbados trwy'r post peidiwch a chael eich troi i ffwrdd ar sail y ffaith y bod y dyn post a ddosbarthodd y neges am y cynnig yn haerllug a patronising. Negesydd ceiniog a dimau ydw i ac rydw i'n boenus o ymwybodol fod fy methiannau i fel crediniwr digon cyffredin ac an-ostyngedig yn debygol o beidio gwneud cyfiawnder ag Iesu. Felly ceisiwch edrych heibio i'r Cristion patronising yna (fi efallai?!) a aeth ar eich nerfau ac edrychwch arno Ef, Iesu Grist, yn lle ac ystyriwch. Nadolig Llawen.

14.12.07

Cynhadledd Yr Eglwys i'r Dyfodol I

Ddoe mi fuesi yn ysgol undydd yn y Coleg Gwyn ym Mangor i drafod 'Yr Eglwys i'r dyfodol' (Emergent Church). Trefn y dydd oedd gair o groeso gan Y Parch. Athro D. Densil Morgan yna'r cyflwyniad i'r maes gan Parch. Ddr. Robert Pope. Toriad am ginio yna astudiaeth Feiblaidd ar y pwnc gan y Parch. Euros Wyn Jones yn cael ei ddilyn gan grwpiau trafod ac yna diweddu'r dydd gydag adrodd yn ôl.

Croeso - Denz

Yn ei air o groeso fe ddyfynnodd Denz (rwy'n bwrpasol o hyn allan yn galw pobl wrth eu henwau cyntaf rhagor na'i teitlau 'Parchedig Athro' etc... er mwyn dal 'naws' yr Emergent Church) rhai o eiriau y diweddar Edwin Pryce Jones pan ddywedodd o gadair Undeb yr Annibynwyr, Y Tymbl 1980 fod 'rhaid diwinydd ymhob cenhedlaeth' ac y bod rhaid ail-ddiffinio yr hen Athrawiaethau o'r newydd ymhob cenhedlaeth. Nid newid eu hystyr oedd neges Edwin Pryce Jones ond yn hytrach gydnabod mae'r un ffydd a roddwyd unwaith i'r saint yw Cristnogaeth ond y bod angen ail-edrych ym mhob cenhedlaeth beth ma hynny yn ei olygu iddyn nhw a sut mae ei weithio allan yng nghymdeithas a diwylliant y dydd. Yn dra eironig yr unig brif athrawiaeth na wnaeth Edwin Pryce Jones ei drafod yn ei araith oedd athrawiaeth yr Eglwys ond dyma oedd testun y gynhadledd ddoe. Rhaid i'n cenhedlaeth ni ddiwinydd o'r newydd ar fater Athrawiaeth yr Eglwys a dyna oedd cri Denz ar ddechrau'r diwrnod.

Cyflwyniad i'r pwnc - Robert

Roedd Robert druan yn llawn annwyd ond chware teg fe gyflwynodd bapur tra diddorol. I ddechrau fe nododd ei fan cychwyn, dywedodd mae Anghydffurfiwr Calfinaidd ydoedd ac mae nid jest fel diwinydd academaidd yr oedd yn edrych ar y pwnc ond roedd hefyd yn edrych ar y pwnc fel gweinidog yr efengyl a hynny fel gweinidog oedd yn gweinidogaethu dros braidd oedd yn dirywio. Ei gonsyrn cyntaf oedd y ffaith fod y Cymry wedi bod yn fud ar fater athrawiaeth yr Eglwys a dirywiad/adfywiad yr Eglwys am rhy hir – ychydig o Gymry sydd wedi cyfrannu i'r ddadl. Dywedodd fod yr Eglwys wedi eu hesgeuluso hyd yn oed gan eu haelodau. Heura fod biwrocratiaeth, ail-strwythuro ayyb... wedi tynnu'r sylw i gyd oddi wrth y pethau pwysig sef lles ysbrydol yr eglwys.

Wedyn fe dynnodd sylw at bedwar peth y mae'r Beibl yn dweud yw'r Eglwys:

1. Halen y ddaear (Mathew 9:13)
2. Priodferch Crist (Effesiaid 5:23-32)
3. Y bobl o eiddo Duw (1 Pedr 2:9)
4. Corff Crist (1 Corinthiaid 12:12)


Ymhellach fe dynnodd sylw at yr hyn y dywed Calfin yw'r Eglwys sef lle mae'r gair yn cael ei bregethu a'i glywed. Wrth gwrs ail rhan y cymal sy'n broblematig i'r Eglwysi yng Nghymru heddiw oherwydd mae'r gair yn parhau i gael ei bregethu mewn sawl tref ond gan fod yr eglwysi yn wag dydy'r gair ddim yn cael ei glywed – ydy hynny yn golygu fod yr Eglwysi yn peidio bod yn eglwysi? Dim ond pryfocio.

Fe aeth Robert ymlaen wedyn i ddangos ystadegau'r eglwys rhwng 1980 a 2005. Roedd 14.1% o Gymry yn mynychu eglwys neu gapel yn 1980 ac erbyn 2005 roedd i ffigwr wedi gostwng i 6.4%. Y pwynt cyntaf i nodi oedd fod y ffigwr yn drychinebus o isel yn 1980 i ddechrau er fod pobl ar y pryd dal i gynnal yr hen gyfundrefnau heb fawr o bryder. Maen debyg fod problem heddiw yn deillio i'r ffaith i genhedlaeth 1980 fethu a gweld ei bod hi'n argyfwng bryd hynny hefyd. Wrth gwrs ar y pryd yn 1980 eciwmeniaeth oedd y bri mawr, sef uno'r eglwysi yn fiwrocrataidd yn hytrach na phoeni am ei lles ysbrydol. Fy marn i yw bod llawer o amser ac egni wedi cael ei wastraffu gan y mudiad eciwmenaidd – diwygio nid ail-strwythuro oedd angen! Cyn symud ymlaen o'r ystadegau y pwynt olaf y gwnaeth Robert oedd fod nifer y 'Cristnogion' yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel iawn, dros 70% yng nghyfrifiad 2001. Mae hyn yn dangos fod yna ysgariad wedi bod rhwng y label 'Cristion' a'r eglwys. Going to Church doesn't make you a Christian more than going to Mcdonad's dosn't make you a hamburger ond mae yn seicosis y mae'n rhaid i'r Eglwys, ein diwnwyr a'n harweinwyr ddelio a hi.

Ymlaen felly at yr ateb! Mewn ymateb i'r argyfwng yma y mae'r Emergent Church wedi codi. Nododd Robert y bod yn rhaid i ni ddeall o'r dechrau bod y term ar hyd o bryd yn anelwig ac yn anodd i'w ddifinio oherwydd nid oed yna enwad 'emerging church' ac nid yw'r emerging church yn weithien o fewn un enwad neu draddodiad unigol chwaith. Dyma ddywed Robert yn ei bamffled Saesneg ar y pwnc:

The name tends to be use to distinguish a Christian community whose praxis is very different from that which is ordinarily associated with the church giving rise to a comparison between that which is emerging and that which is 'institutional,' 'traditional' or 'inherited.' [it is] ... the attempt not only to relocate the church among an estranged people, but to redefine church practice within an estranged culture.


I orffen ei gyflwyniad fe gyflwynodd rhai enghreifftiau. Dyma gyflwyno un sef Solace – the bar church. Mae'n eglwys sy'n cyfarfod ym mariau a chlybiau Caerdydd – wele y lluniau, mae'n nhw'n cyfarfod weithiau yng Nghlwb Ifor Bach. Ar dudalen gyntaf eu gwefan maen nhw'n dyfynnu Lenny Bruce yn dweud 'Every day people are straying away from the church and going back to God.' Difyr yn wir.

Mae'r postiad yma wedi mynd braidd yn hir felly bydd rhaid aros am bostiad arall i gael adroddiad o astudiaeth Euros ac adrodd am y grwpiau trafod...