Showing posts with label Duw. Show all posts
Showing posts with label Duw. Show all posts

5.5.08

Dylanwad (positif?) Martin Lloyd-Jones

Rwy'n deall fod fy mlogiad diweddar am Martin Lloyd-Jones wedi peri chwithdod i rai pobl, nid dyna oedd fy mwriad, ddim o gwbl, dim ond rhannu rhai meddyliau oedd gennyf ar ôl darllen y bennod honno yn y cofiant lle roedd MLl-J yn trafod gwleidyddiaeth dyna i gyd. Er nad ydw i'n cytuno a'r safbwynt yr oedd MLl-J yn ei fynegi am rationale y Cristion i fynd at y diwylliannol a'r gwleidyddol dwi wedi dod i werthfawrogi un agwedd o waith MLl-J yn fawr yn ddiweddar felly megis i fod yn gytbwys gyda'r blogiad diwethaf am y Doctor dyma drafod coleddiad o un o'i bwysleisiadau mewn maes arall. Ei ddealltwriaeth o fedydd yr Ysbryd Glan fel y'i mynegwyd yn ei lyfr trawiadol Joy Unspeakable a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1976.

Ffaith weddol ddi-sôn-amdano am MLl-J yw ei fod, drwy gamgymeriad, yn dâd i'r mudiad caresmataidd modern trwy ynysoedd Prydain. Maen debyg fod sawl arweinydd o fewn yr eglwys Galfinaidd-Garesmataidd Newfrontiers wedi eu dylanwadau yn drwm gan MLl-J wedi iddynt fynychu'r frawdoliaeth enwog dan arweiniad MLl-J yn Llundain yn y 60au a'r 70au. Er ei bwyslais pendant, a hynny yn gywir, ar awdurdod y Gair rhoes MLl-J bwyslais, fel y Piwritaniaid cynnar, ar y profiad Cristnogol hefyd. Trwy ddysgu ac esboniadaeth MLl-J y daeth llawer i glywed gyntaf, gyda mi yn eu plith, am athrawiaeth bedydd yr Ysbryd Glan fel rhywbeth a phrofiad gwahanol i dröedigaeth. Dyma gyflwyno rhai dyfyniadau gan MLl-J ar y pwnc:

" . . . What is the baptism of the Holy Spirit? Now there are some, as we have seen, who say that there is really no difficulty about this at all. They say it is simply a reference to regeneration and nothing else. It is what happens to people when they are regenerated and incorporated into Christ, as Paul teaches in 1 Corinthians 12:13: 'By one Spirit are we all baptized into one body' . . . Therefore, they say, this baptism of the Holy Spirit is simply regeneration.

"But for myself, I simply cannot accept that explanation, and this is where we come directly to grips with the difficulty. I cannot accept that because if I were to believe that, I should have to believe that the disciples and the apostles were not regenerate until the Day of Pentecost---a supposition which seems to me to be quite untenable. In the same way, of course, you would have to say that not a single Old Testament saint had eternal life or was a child of God."


Yn bersonol dwi dal ddim yn llawn ddeall yr athrawiaeth yma ond tybiaf i fod MLl-J yn ein tywys ar hyd y llinellau cywir ac bod bedydd yr Ysbryd Glan yn rhywbeth gwahanol i dröedigaeth – gall ddigwydd run pryd, gall, ond nid yw o'r rheidrwydd yn digwydd run pryd. Mae peryglon amlwg i'r ddysgeidiaeth hon sef fod pobl yn chwilio a phwyso gormod ar y “profiad” fel sicrwydd ffydd yn hytrach na phwyso ar eu ffydd yn addewid Duw drwy Iesu. Perygl arall yw fod athrawiaeth o'r fath y debygol o greu dwy gynghrair o fewn yr Eglwys gyda rhai wedi derbyn bedydd yr Ysbryd Glan a rhai heb, gyda'r naill yn edrych i lawr ar y llall. Ond er gwaethaf peryglon yr athrawiaeth dwi'n gytûn gyda MLl-J fod yr athrawiaeth yn cael ei dysgu'n glir yn y Beibl a pheryglon neu beidio rhaid dilyn yr hyn sy'n ysgrythurol gywir.

Yn ddiweddar clywais sî fod MLl-J ar ddiwedd ei oes yn difaru cyhoeddi Joy Unspeakable oherwydd ei fod wedi 'newid ei feddwl' – edrychais i fewn i hyn a chanfod fod y gwrthwyneb yn wir – yn ei fisoedd olaf ategu yr hyn ddywedodd rai blynyddoedd yn gynt a wnaeth, John Piper sydd a'r hanes:

“...towards the end of his life he urged his followers to actively seek an experience of the Holy Spirit. Aside from his insistence that the baptism with the Spirit is a work of Jesus Christ distinct from regeneration, Lloyd-Jones also opposed cessationism, claiming that the doctrine is not founded upon Scripture. In fact, he requested that Banner of Truth Trust, the publishing company which he co-founded, only publish his works on the subject after his death.”


Mae hwn yn bwnc, wrth gwrs, sydd wedi bod yn destun trafod brwd ymysg Cristnogion ers degawdau os nad canrifoedd, diddorol byddai clywed ymatebion.

10.4.08

Jedi Church Caergybi

Fy hoff gyfres ffilmiau i heb os yw cyfres Star Wars, mae nhw'n glasuron ac mewn ffordd dwi ddim yn synnu bod y peth wedi mynd yn obsesiwn gyda rhai pobl i'r graddau eu bod nhw yn awr yn dilyn y grefydd Jedi a hyd yn oed wedi sefydlu eglwys Jedi a hynny yng Nghaergybi! Dwi wedi bod yn meddwl ysgrifennu am y ffenomenon yma ers tro ac yr wythnos yma ces i fy ngwahodd i gymryd rhan mewn rhaglen ddogfen amdanynt (sydd wedi ei chanslo bellach gyda llaw oherwydd na lwyddodd cynhyrchwyr y rhaglen i gael unrhyw footage difyr a defnyddadwy o'r Jedi Knights eu hunain!) felly dyna'r symbyliad i ysgrifennu ar y pwnc o'r diwedd.

Ar yr olwg gyntaf does dim o'i le ar y ffenomenon ac i ddweud y gwir mae'r ffenomenon ond yn tanlinelli rhai o'r gwirioneddau mae'r Cristion yn ei gredu. I ddechrau, mae'r ymgais yma gan y Jedi's ac ysbrydolwyr tebyg yn dangos fod yna gynneddf naturiol ym mhawb i chwilio am rhywbeth dyfnach a phwrpas a rheswm tu hwnt i'r byd gwyddonol. Yn ail, meddai'r Jedi Church: 'There are 2 sides to the force, the dark side and the light side,' mewn termau Cristnogol gellid deall y gosodiad yna fel ein bod ni gyd wedi ein llunio ar lun a delw Duw ond ar y llaw arall y bod staen pechod a'r byd syrthiedig ynom ni gyd hefyd.

Maen debyg mae thesis y rhaglen ddogfen na fu oedd holi'r cwestiwn a yw Jedi wirioneddol yn grefydd? Dwi ddim yn sicr, ond rwy'n tybied y byddai cynhyrchwyr y rhaglen yn disgwyl i mi ddadlau fel Cristion nad oedd y lol Jedi yma yn wir grefydd – serch hynny i'r gwrthwyneb yr oeddwn ni yn bwriadu dadlau. Y diffiniad gorau o beth yw crefydd yr ydw i wedi ei glywed yw 'ymgais dyn i gyrraedd duw,' ac yn hynny o beth crefydd yw Jedi gan eu bod nhw yn ceisio cyraedd undod gyda'r 'one all powerful force [duw?] that binds the entire universe together.' Mewn cyferbyniad gyda crefydd mae Cristnogaeth yn dysgu mae Duw sy'n estyn ac achub y byd colledig ac yn ein gwahodd i gyfrannogi yn hytrach na bod dyn yn ceisio am dduw.

O ran rhai sylwadau eraill, o edrych ar yr ystadegau ar wefan y Jedi Church mae dau beth yn aros allan sef fod y trwch helaeth o ddilynwyr Jedi yn fechgyn ac fod y trwch helaeth o'r dilynwyr yn bobl yn eu harddegau neu yn fyfyrwyr; mewn gair nid yw'r Jedi Church yn adlewyrchiad o'r gymdeithas yn gyfan. Ar y cyfan mae'r Eglwys Gristnogol yn gynrychioliadol o'r gymdeithas ehangach, oce mae yna ganran annaturiol o uchel o bobl hŷn a phobl o gefndir dosbarth canol yn y capeli traddodiadol Cymraeg ond mae hyn yn cael ei offsetio gan yr eglwysi newydd mwy Pentecostalaidd sy'n denu tyrfaoedd o bobl ifanc a phobl o bob cefndir cymdeithasol. Fel sylw terfynol maen ddifyr codi'r cwestiwn beth mae mae crefydd yn rhoi yn ôl i'r gymdeithas yn gyffredinol? Roedd y stori ddiweddar yma gan y BBC yn dangos yn glir y budd ehangach mae cymunedau ffydd (98% yn Gristnogol) yn dod i Gymru. Ac 'dy ni gyd yn gwybod am sawl eglwys sy'n weithgar gyda mudiadau fel Tearfund a Chymorth Cristnogol. Efallai mod i'n siarad ar fy nghyfer ond o bori dros wefannau'r Eglwysi Jedi wela i ddim son am unrhyw gyfraniad yn ôl i gymdeithas drwy elusennau ayyb...

Mewn oes sydd ar un llaw yn gweld seciwlareiddio sydyn ac yr y naill law yn parhau i weld pobl, fel y Jedi's, yn chwilio am rhywbeth maen bwysicach nag erioed i Gristnogion barhau i sôn am yr un a ddywedodd amdano ef ei hun 'myfi yw'r ffordd y gwirionedd a'r bywyd,' Iesu Grist.

5.3.08

Beth yw profiad o Dduw?

Beth yw profiad o Dduw? Dwi di bod yn meddwl lot am y cwestiwn yma yn ystod y dydd, beth yw profiad o Dduw, ac o bosib yn bwysicach sut mae ei ddisgrifio i bobl sydd heb brofiad o Dduw. Ges i bip ar lyfr enwog J.I. Packer, Knowing God (1973), ac fe ddaeth e a rhai pethau pwysig i'r amlwg i mi. I ddechrau mae Packer yn esbonio beth nad yw profiad o Dduw - nid profiad o Dduw yw gwybod am Dduw. Hynny ydy, fe all bron a bod pob Cymro Cymraeg sydd wedi cael magwraeth Ysgol Sul esbonio yn weddol lawn beth yw prif fannau'r ffydd Gristnogol: Iesu yn fab Duw ac oherwydd iddo farw dros ein pechodau roeddem ni, trwy Iesu, yn medru dod i berthynas a Duw ac bellach maen rhaid i ni fyw yn dda a gafalu am ein cymdogion. Ond dydy gwybod am a deall y safbwyntiau diwinyddol yna am Dduw ddim gyfystyr a phrofiad o Dduw. Ddim mod i am chwarae i lawr dirnadaeth/gwybodaeth o'r ffydd, ddim o gwbl wedi'r cyfan mae Duw am i ni ei garu gyda'n holl allu yn ogystal a'n holl enaid, ond dydy datganiadau am Dduw ddim yn brofiad o Dduw.

Mae profiad o Dduw yn fwy na dal gwybodaeth oblegid wedi dod i brofiad o Dduw mae eich byd-olwg a'ch mind-set yn newid yn llwyr - dwi wedi bod yn stryglan i esbonio beth yw hyn ers tro ond fe ddes i ar draws dyfyniad da gan Packer heddiw sy'n cyfleu peth o beth yw fy mhrofiad i o Dduw. Ni fyddai aralleiriad gennyf i cystal felly dyma ddyfynnu: '...when a Man knows God, losses and negatives cease to matter to him; what he has gained simply banishes these things from his mind.' Nid yw'r dyfyniad yna yn esboniad llawn o'r profiad Cristnogol ond mae, fodd bynnag, yn esbonio un gwedd ohono. O ran tystiolaeth o'r gobaith a'r profiad Cristnogol mi fyddai pawb oedd yng nghrebrwng ffrind i mi, Sion Ifan, rai wythnosau yn ol yn medru tystio beth yw profiad Cristnogol: byw ac nid marw a hynny yn wyneb marwolaeth hyd yn oed.

Beth sy'n bosib mewn saith diwrnod? Creu byd?

Mwy o bigion maes-e...

Macsen (maes-e): "Ond onid wyt ti'n dal i gredu bod y byd wedi ei greu gan Dduw mewn saith diwrnod ychydig filoedd o flynyddoedd yn ôl? Mae hynny i fi hefyd yn rwtsh. Croeso i ti fy nghywiro os nad wyt ti!"


I mi nid y cwestiwn creiddiol yw 'wyt ti'n credu ddaru Duw greu y Byd mewn Saith diwrnod?' Mae yna sawl cwestiwn tipyn pwysicach sydd angen eu hystyried yn gyntaf cyn dod at gwestiwn y cread. A'r ddau brif gwestiwn sydd angen ateb iddyn nhw cyn dod i drafod y cread ydy'r ddau gwestiwn yma: wyt ti'n credu fod Duw yn holl-alluog a phwerus? Fy ateb i yw ydw. Ac yn ail: wyt ti'n credu mewn gwyrthiau? Fy ateb i yw ydw. Os yw eich atebion i'r ddau gwestiwn yna yn myn tu hwnt gwyddoniaeth, hynny yw ateb yn bositif iddynt, yna rydych chi mynd i ddod at gwestiwn creadigaeth o safbwynt unigryw a gwahanol. Felly o fynd nol at y cwestiwn gwreiddiol: 'wyt ti'n credu ddaru Duw greu y Byd mewn saith diwrnod?' Yn hytrach nag ateb 'ydw' fy ateb i ar sail fy nghred mewn Duw holl alluog a bodolaeth gwyrthiau ydy 'pam lai?' sydd, credaf, yn yn wahanol i 'ydw' plaen oherwydd mod i wedi dod at yr ateb yn resymegol ac nid o ffydd ddall fel petae.

Ond beth am yr holl dystiolaeth sy'n profi fod y byd yn filiynau ar filiynau o flynyddoedd oed, y ffosils, deinasoriaid ayyb... Fy marn bersonol i yw ei bod hi'n ddigon posib, gan ei fod yn holl-alluog, fod Duw wedi creu y Byd eisioes mewn cyflwr o aeddfedrwydd yn yr un modd a bu iddo greu Adda ac Efa yn ddau oedolyn ac nid yn ddau faban. Y lle dwi'n pellhau fy hun o safbwynt Creationists America a mudiadau fel Answers in Genesis yw mod i'n cyfaddef nad ydy fy nehongliad i yn un gwyddonol tra fod Answers in Genesis yn ceisio defnyddio gwyddoniaeth i brofi gweithred wyrthiol - they miss the whole point yn fy marn i. Mewn ffordd dwi'n gyndyn i gyfrannu i drafodaethau ar greadigaeth oherwydd dwi'n greiddiol, fel nodesi uchod, fod yn rhaid i bobl holi ac ateb cwestiynau eraill a rheiny yn rai llawer mwy creiddiol am fodolaeth Duw cyn dod at y cwestiwn hwn.

3.3.08

Profiad Dyn - Datguddiad Duw?

Sgwenesi y sylwadau yma i ddechrau ar maes-e mewn trafodaeth oedd yn trafod pam fod trafodaethau yn y seiad 'Ffydd a Chrefydd' wastad yn troi allan yn ryfel mawr rhwng safbwyntiau ffwndamentalaidd di-gred a ffwndamentalaidd Gristnogol. Dyma oedd rhai o fy sylwadau athronyddol grefyddol, maen gymhleth ydy ond triwch ddilyn y ddadl er mwyn gadael sylwadau, bydd yn ddifyr!:


Difyr. Des i ar draws grwp o'r enw "We are not "believers", we are those who know the TRUTH" ar Facebook pwy ddiwrnod. Gwnaeth e i fi feddwl. Penderfynesi beidio ymuno a hynny am resymau tactegol (hy ddim ishe bobl feddwl mod i'n fwy o ben-bach nag ydw i'n barod!), fodd bynnag yn ôl dysgeidiaeth y Beibl/Cristnogaeth mae yn ddatganiad cywir. Dwi wedi pwysleisio dro ar ol tro ar y maes mae dim ond hyn a hyn o ffordd fedra i fynd yn esbonio a rhesymu dros Gristnogaeth ac fod yna bwynt yn dod lle maen rhaid cael ffydd - y 'leap of faith' os liciwch chi. Ond i bobl sydd wedi dod i adnabod Iesu mae'r ffydd yn peidio bod yn blind faith ac maen dod yn synnwyr cyffredin oherwydd eich bod chi wedi gweld a phrofi y gwirionedd.

Dwi'n gwybod ac nid credu fod Cristnogion yn bobl sydd yn gwybod y gwirionedd, ond wnes i ddim ymuno a'r grwp ar facebook oherwydd nad ydw i'n gwybod a deall popeth am y gwirionedd.

Ac o fynd nol at bwynt gwreiddiol yr edefyn sef trafodaethau loggerheads yn y seiat 'Ffydd a Chrefydd' - dyma yw'r ddeilema mawr wrth i Gristnogion a'r di-gred drafod ffydd - mae'r Cristnogion yn gwybod eu bod nhw'n iawn ac yn mynd yn rhwystredig nad ydy nhw yn gallu profi hynny i bobl sydd heb ffydd. Ac oherwydd fod y di-gred heb ffydd maen nhw, yn ddi-ymwybod iddyn nhw eu hunain, yn eiddugeddus o'r hyn sydd gan Gristnogion ac felly yn diystyru safbwynt y Cristion fel un ffol a di-reswm. Bendith a phroblem dyn ar yr un pryd yw ein bod ni'n dilysu popeth ar sail ein profiad ni ein hunain.

Anghredadyn = dim profiad o Dduw = dim Duw.

Cristion = profiad o Dduw = mae Duw.


Ond dyma lle mae gan y Cristion yr uper-hand, uper-hand y mae dyletswydd arno ei defnyddio yn i.) gall, yn ii.) ddoeth a iii.) graslon, rhywbeth nad ydyw Rooney (enw ffug Cristion Ffwndamentalaidd sydd ar maes-e) wedi ei feistroli yn anffodus (testun gweddi bid siwr). Yr uper-hand ydy fod y Cristion, yn ei hanes, wedi bod yn esgidiau yr Anghredadyn ac felly yn medru deall profiad yr anghredadyn tra nad ydy'r anghredadyn wedi bod yn esgidiau y Cristion ac felly ni all ddeall profiad y Cristion.

Oherwydd y ddeilema yma sy'n codi o roi'r pwys ar brofiad dyn mae diwinyddion o sylwedd wastad wedi rhoi y pwys ar ddatguddiad Duw yn hytrach na phrofiad dyn, oherwydd fod profiad dyn wastad yn berthynol (relative), tra ar y llaw arall fod datguddiad Duw yn wrthrychol. Yr amlycaf oedd Karl Barth. Wrth gwrs dwi'n saethu fy hun yn fy nhroed wrth ddweud fod fy mhrofiad o wrthrychedd Duw yn ddilys - ond y mae! Tystio y mae fy ffyd o ddatguddiad Duw ac nid y ffordd arall i.e. y syniad o ddatguddiad Duw yn ffitio fy mhrofiad. Fe ddaeth y datguddiad er mwyn i mi a chyn i mi gael y profiad.

Cymleth? Ydy! Ond wedyn dwi'n meddwl taw Athanasius Anselem (diolch am fy nghywiro Jean Calvin!) ddywedodd mae'r diffiniad o beth yw diwinyddiaeth yw: "ffydd yn ceisio deall"!

25.12.07

Ydy Cristnogion yn patronising?

Ydy Cristnogion yn patronising? Ydyn yn sicr! Dwi'n meddwl mae un o brif broblemau'r eglwys, Cristnogaeth ac un o fy brif broblemau personol i ydy bod yn hunangyfiawn a dilornus o safbwyntiau gwahanol. Mae Cristnogaeth a Christnogion yn euog ar adegau o ddod drosodd yn patronising ac ar lawer adeg mi ydw i'n syrthio i'r twll ac yn fwy euog na neb am ddod drosodd yn patronising. Rwy'n cael fy hun yn aml yn gorwedd yn y gwely yn cicio fy hun am ddweud yr hyn ar llall mewn ffordd anraslon wrth rhywun, yn amlach na pheidio ar maes-e. Dwi'n gobeithio fod pobl sy'n fy adnabod yn y cigfyd yn gwybod yn iawn fod fy nghyfarth ar maes-e ac ar bapur (ac ar y blog hwn) yn fwy na'm brathiad. Ddim bod hynny wrth gwrs yn esgus am y troeon llawer lle dwi wedi bod yn ffyrnig o ymosodol tra'n dadlau am bethau yn enwedig felly am fy ffydd. Yr unig beth fedrai wneud ydy gwrido, edifarhau ac ymddiheurio. Wedi'r cyfan fe ddoith neb i berthynas a Iesu oherwydd iddyn nhw fethu a'm trechu i mewn dadl – yn yr un ffordd ag yr ydw i'n parhau i gredu yn Iesu er i mi gael fy llorio mewn dadleuon droeon ar y maes. Nid yw ffydd a wnelo dim gyda ennill a cholli dadleuon, rydw i'n anghofio hynny yn aml ac mae'r eglwys yn gyffredinol yn anghofio hynny hefyd.

Y broblem gyffredinol gyda Christnogaeth a Christnogion fel fi yw ein bod ni yn rhy hung-up ar grefydd – dy ni'n rhoi gormod o bwyslais ar ein cyfundrefn meddwl; yn y bon dy ni rhy grefyddol ac ddim yn ddigon duwiol. Dwi o'r farn mae prif nodwedd person duwiol ydy bod yn ostyngedig (h.y. 'humble'), fy nyhead dwfn i ydy bod yn Gristion mwy gostyngedig. Amwni mae'r ffordd ymlaen ydy gollwng Cristnogaeth fel crefydd a son mwy am Iesu Grist y gwaredwr, y dyn mwyaf gostyngedig a lleiaf patronising a fu erioed. A dyna yw fy neges i heno ma, noswyl gwyl dathlu geni Iesu; wrth edrych arnaf i maddeuwch i mi am fy amryfal frathiadau anraslon ac maddeuwch rhai o fy sylwadau patronising ac edrychwch yn hytrach ar Iesu ei hun – dyn heb ronyn o gasineb na penstiffrwydd; er mod i'n ceisio dilyn Iesu fe wridaf wrth gyfaddef nad ydw i'n rep. da iddo'n aml.

Os cewch chi gynnig mynd am wyliau yn rhad ac am ddim i Barbados trwy'r post peidiwch a chael eich troi i ffwrdd ar sail y ffaith y bod y dyn post a ddosbarthodd y neges am y cynnig yn haerllug a patronising. Negesydd ceiniog a dimau ydw i ac rydw i'n boenus o ymwybodol fod fy methiannau i fel crediniwr digon cyffredin ac an-ostyngedig yn debygol o beidio gwneud cyfiawnder ag Iesu. Felly ceisiwch edrych heibio i'r Cristion patronising yna (fi efallai?!) a aeth ar eich nerfau ac edrychwch arno Ef, Iesu Grist, yn lle ac ystyriwch. Nadolig Llawen.

21.6.07

Golwg aeth a sisiwrn at fy epistol

Rwy'n ddiolchgar iawn i Golwg am gyhoeddi fy llythyr yn eu rhifyn heddiw. Fodd bynnag fe'm synwyd eu bod wedi tynnu un frawddeg allan a hwnw yn un go allweddol i rediad fy nadl. Mae'r frawddeg gafodd ei hepgor wedi ei oleuo yn y paragraff isod:

Serch hynny, rhaid cytuno ag ef ar un pwynt, sef mai '...nutces yw unrhyw un sy'n meddwl fod gan enwadaeth Cymru unrhyw ddyfodol', fel y mae pethau ar hyn o bryd o leiaf. Yma yn Aberystwyth mae criw o Gristnogion ifainc sydd, yn ogystal â pharhau i addoli yn eu capeli a’u heglwysi eu hunain, wedi cymryd eu ffydd allan o'r adeiladau traddodiadol, gan geisio mynd â’r Efengyl i’r priffyrdd a’r caeau, neu, yn ein hachos ni, y caffis a’r tafarnau. Bob nos Fercher cynhelir Cwrs Alffa, lle daw pobl o bob cefndir crefyddol, gan gynnwys rhai anffyddwyr o argyhoeddiad, i holi a thrafod rhai o bynciau canolog y ffydd Gristnogol. Trwy'r genhadaeth yma mae llond dyrnaid o Gymry ifanc wedi dod i berthynas real â’r Iesu eleni. Ar nos Sul cynhelir cyfarfod yn Nhafarn y Cŵps lle rhennir adnodau o'r Beibl, offrymir gweddi a cheir cyfnod o ganu emynau modern mewn awyrgylch anffurfiol.


Rwy'n ymwybodol fod perffaith hawl gan y Golygydd i olygu llythyron, yn bennaf i'w byrhau. Ond ni ellid ond synnu ei fod wedi tynnu y frawddeg uchod allan, un cwbwl allweddol i rediad fy nadl. O dynnu y frawddeg uchod allan mae e fel cyflwyno yr arbrawf heb ddatgelu canlyniadau'r arbrawf. Hynny yw, y ffaith fod yna rai wedi dod i gredu sy'n brawf fod Duw wedi gweithio a defnyddio y cyfarfodydd ar cyfrwng newydd yma. Amwni fod 'troedigaeth' a 'sicrwydd ffydd' yn gysyniadau tramgwyddus ochr yn ochr a 'ffwndamentalaidd' a 'terfysgaeth' yn y Gymru seciwlar sydd ohoni – trist.

Diolch fodd bynnag i bawb, rhai ffigurau blaenllaw ym myd Diwinyddiaeth a Crefydd yng Nghymru, sydd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth a diolchgarwch i mi am lunio'r ymateb.

19.6.07

Mudiad 'crefydd fel metaffordd-duw fel delwedd' Aled Jones-Williams


Maen debyg i rai ohono chi ddarllen llythyr y Parch. Aled Jones-Williams yn Golwg wythnos diwethaf. Efallai i chi glywed y llythyr yn cael ei drafod ar raglen John Roberts fore Sul – ar y rhaglen canolbwyntiodd John ar ei sylwadau am fod dim dyfodol i enwadaeth ac nad oedd llyfrau Cristnogol o werth yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd. Rwy'n deall i raddau pam y bu i John dynnu'r ddau bwnc yna allan o'r llythyr, maen nhw'n fwy 'radio friendly' na phynciau diwinyddol mawr. Fodd bynnag gau-athrawiaethau Aled Jones-Williams am hanfodion Cristnogaeth oedd yn sefyll allan i mi – dywedodd mai 'delwedd yw Duw' ac mai 'metaffor yw crefydd'.

Petawn i'n esgob Bangor - sydd, gyda llaw, yn wael iawn o ran ei iechyd ar hyn o bryd - byddwn yn poeni'n fawr am 'efengyl' ficer Porthmadog. Oni bai mod i wedi cam ddeall byrdwn Aled wrth iddo ddweud mai 'delwedd yw Duw' yna nid dyma yw Anglicaniaeth ac yn sicr nid dyna Gristionogaeth - na theistiaeth – ychwaith. Fodd bynnag mae athroniaeth Aled yn tu hwnt o debyg i athroniaeth crefyddol Cynog Dafis y clywais ef yn ei bledio yn y Morlan rai misoedd yn ôl - byddai'n dda i Cynog ac Aled gymharu nodiadau na ddylai fod yn broblem gan fod y ddau ohonynt yn Uchel Eglwyswyr Anglicanaidd.

Yn fy llythyr yn ei ateb nol fe es i i ddelio a hyn – bydd yn rhifyn dydd Iau ond dyma ddarllenwyr y blog yn cael ei weld cyn y darllenwyr cyffredin:

"Annwyl Olygydd,

Diddorol oedd darllen llythyr Mihangel Morgan (Golwg, 7 Mehefin 2007). Er fy mod i fel Cristion yn gresynu nad yw'n gweld gwerth i'r sffêr ysbrydol a thristau nad yw'n arddel Iesu'r Gwaredwr, rhaid cyfaddef fy mod i’n ei edmygu am beidio ag eistedd ar y ffens. Mae dyn yn gwybod ble maen’n sefyll gydag anffyddiwr grasol o argyhoeddiad. Tra gwahanol oedd y profiad a gefais o ddarllen epistol di-rasol Aled Jones-Williams (Golwg, 17 Mehefin 2007). Er ei fod yn offeiriad Anglicanaidd ac yn Gristion o ran ei berthyn crefyddol, dangosodd mwy o simsanu ac amwysedd, ar ryw wedd, na Mihangel Morgan yr anffyddiwr.

Rydym ni'n byw mewn oes sy’n ofni’r absoliwt ac mae hynny i’w weld yn amlwg iawn yn llythyr Aled Jones-Williams. Honna bod Cristnogaeth yn perthyn i fyd y dychymyg ac nid i fyd ffaith. Os na fuasai fy ffydd i yn Iesu'r Gwaredwr yn absoliwt, hynny yw fy mod yn ei gredu fel ffaith, ni fyddai i’m ffydd unrhyw werth o gwbl. Wrth gwrs bod yna elfennau o fewn y ffydd Gristnogol sy’n ddirgelwch ac mae’n rhaid ceisio’u deall a’u dirnad yn well: serch hynny, Iesu yw’r Gwirionedd a’r Bywyd ac wedyn y daw’r gweddill i wneud sens. O'i roi mewn cyd-destun gwahanol, os credwch chi fod 1+1 yn gwneud 2, allwch chi ddim hefyd credu bod 1+1 yn gwneud 3 – mae’n absoliwt ac ni all y ddau fod yn wir. Mae'r un peth yn wir am Gristnogaeth – nid yw'n 'rhesymegol', a defnyddio un o eiriau Aled Jones-Williams, i gredu mewn un peth tra ar y llaw arall gredu bod fframwaith ffydd hollol wahanol yn gywir hefyd.

Petai Aled Jones-Williams yn dadlau mai 'delwedd yw Duw' ac mai 'metaffor yw crefydd' fel rhywun nad sy’n perthyn i’r Eglwys Gristnogol yna buasai ei syniadaeth heriol yn ennyn mwy o barch gennyf – mae’n athroniaeth seciwlar-fodernaidd, gwerth ei ystyried. Ond fel offeiriad cyflogedig Anglicanaidd sy'n gweinyddu sacrament er cof am waed a chorff Crist, y mae ei eiriau yn ymddangos, a bod yn gwbwl onest, yn od i ddweud y lleiaf. Siawns nad yw ei eiriau a’i amheuon lliwgar yn rhan o broffes ffydd cyfredol yr eglwys y mae’n ei gwasanaethu.

Serch hynny, rhaid cytuno ag ef ar un pwynt, sef mai '...nutces yw unrhyw un sy'n meddwl fod gan enwadaeth Cymru unrhyw ddyfodol', fel y mae pethau ar hyn o bryd o leiaf. Yma yn Aberystwyth mae criw o Gristnogion ifainc sydd, yn ogystal â pharhau i addoli yn eu capeli a’u heglwysi eu hunain, wedi cymryd eu ffydd allan o'r adeiladau traddodiadol, gan geisio mynd â’r Efengyl i’r priffyrdd a’r caeau, neu, yn ein hachos ni, y caffis a’r tafarnau. Bob nos Fercher cynhelir Cwrs Alffa, lle daw pobl o bob cefndir crefyddol, gan gynnwys rhai anffyddwyr o argyhoeddiad, i holi a thrafod rhai o bynciau canolog y ffydd Gristnogol. Trwy'r genhadaeth yma mae llond dyrnaid o Gymry ifanc wedi dod i berthynas real â’r Iesu eleni. Ar nos Sul cynhelir cyfarfod yn Nhafarn y Cŵps lle rhennir adnodau o'r Beibl, offrymir gweddi a cheir cyfnod o ganu emynau modern mewn awyrgylch anffurfiol.

Rhaid wrth arbrofi gyda'r cyfrwng bid siŵr ond gwae Aled Jones-Williams a'i fudiad 'crefydd fel metaffor-duw fel delwedd' arbrofi gyda’r neges – edryched ar gyflwr Cristnogaeth yng Nghymru heddiw er mwyn gweld beth sy'n digwydd wrth geisio symud y pyst i'r nefoedd.


Yn gywir iawn
Rhys Llwyd
Aberystwyth, Ceredigion "

15.1.07

Benny Hinn - gau broffwyd?

Pregeth ddiddorol bore ma yn Capel yn seiliedig ar ddechrau Actau 2:

Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost roedd pawb gyda’i gilydd eto. Ac yn sydyn dyma nhw’n clywed sŵn oedd fel gwynt cryf yn chwythu drwy'r ystafell lle'r oedden nhw’n cyfarfod. Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw. Dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â'r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny. [darllen ymlaen...]


Roedd y pregethwyr yn nodi mae'r hyn sy'n gwneud Eglwys Crist yn wir Eglwys yw ei bresenoldeb. Rhybuddiodd rhag cadw'r sioe i fynd yn drefnus, cynnal cyfarfodydd ayyb... heb fod a presenoldeb yr Arglwydd yna. Y perygl o fod yn Eglwys Crist ar yr wyneb ond fod dim calon yna. Ond y rhan mwyaf diddorol oedd ei rybudd na ddylem ni geisio creu presenoldeb yr Arglwydd ein hunain – os ydym ni'n creu y syniad fod Duw yna heb fod Duw yna go iawn ei bod hi'n beryglus iawn. Crybwyllodd un o sêr y God Channel, Benni Hinn, fel gau broffwyd oedd yn amlwg yn euog o greu presenoldeb ffug yr Arglwydd drwy, yn y bôn, rhoi sioe dda ymlaen. Yn ei gyfarfodydd mae'n defnyddio ei got wen i daro pobol “gyda'r ysbryd” ac fod yr ysbryd glan yn gweithio trwy ei got. Nawr dwi'n credu mewn syrthio yn yr ysbryd, dwi'n adnabod Cymry Cymraeg call, rownd eu pethau a sefydlog eu meddwl ac iawn eu pwyll sydd wedi eu llorio gan yr ysbryd – fe'i trawyd hwy yn dawel bach tra'n gweddïo ac nid mewn rhyw sioe fawr o flaen y camerau a chot wen yn eu taro!

Yr hyn sy'n tanlinellu fod Benni Hinn yn ffug yw y ffaith fod ganddo fe Warm-up Man sef gŵr sy'n mynd allan i gynhyrfu y gynulleidfa cyn i Benni ddod allan a mynd yn fyw ar y teledu. Mer'r syniad yma o warm-up act yn rhywbeth sy'n digwydd ac yn holl bwysig yn y diwydiant adloniant drwyddi draw. Erbyn i Benni ddechrau mae'r dorf eisoes yn gynnes ac mae'r warm-up wedi eu perswadio eisoes fod gwyrthiau ar fin digwydd.

Mae'n ffigwr dadleuol hefyd oherwydd ei fod yn gwneud llwyth o bres allan o'i 'genhadaeth' drwy orchymyn ei ddilynwyr i roi mwy a mwy o bres i'w gynlluniau fel y tystia'r paragraff yma oddi ar Wikipedia:

His lavish lifestyle is often criticized, alongside allegations that his ministry exists first and foremost as a money-making machine with little financial accountability. The Trinity Foundation devotes considerable resources towards scrutinizing Hinn's financial affairs, including his ministry's tax-exempt status as a church....

In December 2006 Benny Hinn sent letters to followers seeking donations for a Gulfstream G400 executive jet. These letters followed Hinn's similar request that his program broadcasted throughout 2006. Hinn says a personal jet will allow him to " preach the Gospel around the globe." Hinn asked 6000 previous donors to each contribute $1000 to cover the $6 million down payment; the total cost of the plane is over $30 million. This resulted in a number of bloggers alleging a personal jet for Hinn was unnecessary since he already conducts revivals around the world.


Ond dwi'n meddwl mae'r peth mwyaf hurt mae wedi dweud yw hyn: '[that]...people would be raised from the dead to watch the Trinity Broadcasting Network'”Sef y sianel lle darlledir, ie dyna chi, ei raglen ef yn yr UDA!

Yr hyn sydd yn drist yw fod dim angen y sioe yma oblegid fod y sioe 'go-iawn' yn dipyn rhagorach. Y sioe go-iawn sy'n achub dynion ac yn rhoi heddwch meddwl am byth nid dim ond am hanner awr bob nos Sadwrn am 8.00.

Dyma fideo o'r got hudol a'r waith:

9.1.07

Arestio AC ac ASE Plaid Cymru

Dewch nol gyda mi i Drawsfynydd, fis Medi 1951. Roedd Plaid Cymru yn cynnal protest yn erbyn safle hyfforddi milwrol ym Meirionydd a dyma'r Prif-Gwnstabl y Cyrnol Jones-Williams – a oedd yn Annibynnwr selog yn Salem, Caernarfon – yn dod a'i blismyn i hel y “penboethiaid” hyn o'r ffordd ac yn dod at y cyntaf ac yn ebychu mewn syndod: “Dr Tudur Jones!” yna cam ymlaen: “Yr Athro Pennar Davies!” ac felly aeth heibio i gryn hanner dwsin o arwyr ei bulpud.

Rwyf wedi dod i gredu ers rhai blynyddoedd bellach mae gwladwriaeth sydd wedi fforeddu ei hawliau gerbron Duw ydy'r Wladwriaeth Brydeinig. Rwy'n aelod o Blaid Wleidyddol sydd a'i hamcan tymor hir o dorri i ffwrdd o Sataneiddiwch y wladwriaeth Brydeinig i ffurfio gwladwriaeth sy'n deg a chyfiawn yng ngolwg Duw. Rwyf hefyd yn gwbl dawel fy meddwl fod rhaid bod yn anufudd i'r wladwriaeth Brydeinig os am fod yn ufudd i Dduw a'i deyrnas. Braint a dyletswydd felly yw i'r Cristion leisio barn a gweithredu yn erbyn rhywbeth sydd o'r un drwg – ac nid oes gwadu fod rheibio o dy y gwladwriaethau imperialaidd, gyda Phrydain yna gyda'r gwaethaf, yn ganlyniad uniongyrchol y cwymp. Yn enw'r Iesu atgyfodedig felly yr anturiaf innau yn unol a'r traddodiad Cymreig Cristnogol (sy'n rhedeg o Forgan Llwyd i Hiraethog i Michael D. i Emrys ap Iwan i Lewis Valentine i R. Tudur Jones i Gwynfor) i danseilio y drefn anghyfiawn bechadurus. Nid theocratiaeth mo hyn ond ceisio cyfiawnder, Cristnogaeth yw fy ysbardun i ond diolch i Ras Cyffredin gall Gristnogion uno gyda'r anghrediniwr pennaf ar faterion gwleidyddol.

Er nad yw, hyd y gwn i, Leane Wood a Jill Evans yn Gristnogion o argyhoeddiad diolch i ras cyffredin gallaf uniaethu a chefnogi eu safiad yn erbyn Trident pan gawsant eu harestio heddiw – y tro cyntaf i aelodau etholedig Plaid Cymru fod o flaen eu gwell ers degawdau lawer. Gan droi yn ôl at Drawsfynydd – tybiaf y gallaf ddatgan yn reit bendant y byddai Dr Tudur Jones a'r Athro Pennar Davies yn falch iawn fod y traddodiad heddychol a phrotestgar yn erbyn gwladwriaeth Babel yn parhau yn rhengoedd eu Plaid! Fodd bynnag, dichon na fyddai'r aelodau etholedig dan sylw yr un mor frwd dros faterion sy'n egsgliwsif i'r genedl Gymreig megis, wel, parhad ei hiaith, tegwch economaidd a'i ymrafael am annibyniaeth.