Showing posts with label Creadigaeth. Show all posts
Showing posts with label Creadigaeth. Show all posts

14.7.08

Mark Driscoll yn Llundain

Dwi newydd ddychwelyd adre ar ôl ychydig ddyddiau ar y ffordd. Yn gyntaf fe es i i Gaerfyrddin i groesawu Menna nôl, roedd hi wedi bod yn teithio ers bron i fis – dwi'n eithriadol o falch ei bod hi nôl yng Nghymru nawr a hynny yn saff a diogel! Fe es i ymlaen o Gaerfyrddin i Lundain i glywed Mark Driscoll o Mars Hill, Seattle yn siarad. Fe ges i'r fraint o gael sgwrs gyflym ag ef rhwng un o'r sesiynau ar y dydd Sadwrn. Esboniais iddo fe mae un o'r problemau oeddem ni yn ei wynebu yng Nghymru oedd drwgdeimlad ac amheuaeth o dŷ gwahanol Gristnogion tuag at waith a dulliau Cristnogion eraill boed yn amheuaeth enwadwyr at waith eglwysi Efengylaidd neu amheuaeth eglwysi efengylaidd o waith mwy emerging fel yr ydw i'n ceisio cael fy ngafael ynddi. Roedd cyngor Driscoll yn ddoeth iawn sef mae'r oll oedd angen gwneud oedd dangos fod unrhyw ddatblygiadau a chynlluniau emerging yn Feiblaidd a thrwy bwysleisio hynny law yn llaw a dangos cariad ac amynedd at y rhai sy'n amau eich dulliau a'ch cymhellion fe ddônt hwy i barchu eich ffordd gwahanol chi o wneud Eglwys (to do Church).

Fe welais hi'n reit ddifyr fod Driscoll yn cymharu fy nghefndir i mewn eglwys 'ffwndamentalaidd efengylaidd' (ei eiriau ef!) gyda'i gefndir ef mewn eglwys Babyddol. Wrth gwrs mae diwinyddiaeth eglwysi ffwndamentalaidd efengylaidd ac eglwysi Pabyddol yn hollol wahanol fodd bynnag mae yna un peth yn gyffredin sef eu methiant llwyr i gyrraedd y diwylliant cyfoes. Ac yn hynny o beth yn yr un modd ag yr oedd yn rhaid i Driscoll ddangos i'w gyfeillion Pabyddol fod yr hyn oedd yn gwneud yn Mars Hill yn Feiblaidd y maen rhaid i ni sydd ynghlwm a'r emerging Church ddangos i'r eglwysi efengylaidd fod yr hyn rydym ni'n ei wneud yn Feiblaidd.

Gan osgoi gwneud eilun o Mark Driscoll ei hun maen rhaid i mi ddweud ei bod hi wedi bod yn fraint cyfarfod ag arweinydd Cristnogol sydd wedi cael ei ddefnyddio gan Dduw mewn modd cwbl cwbl anghyffredin yn Seattle. Maen wych ac yn anogaeth fod Duw yn parhau i fendithio rhai eglwysi yn y Gorllewin ac dwi'n gweddïo y bydd Duw yn anfon bendith i'r gwaith yn y Gymru Gymraeg unwaith eto.

[Mae adroddiad o sgwrs Driscoll ar y Nos Wener ar y blog yma (Saesneg yn anffodus!)]

5.7.08

Tân yn y Tabernacl ond mae'r Gyffes Ffydd yn sefyll yn gadarn!

Neithiwr fe rwygodd tan drwy hen gapel y Tabernacl yn Aberystwyth. Fe gaewyd yr Eglwys bum mlynedd yn ôl a dwi'n cofio mynd i un o'r gwasanaethau olaf yna cyn iddo gau gyda Nhadcu yn pregethu. Wrth gwrs, i anghydffurfwyr nid yw'r adeilad yn bwysig, pobl yw'r eglwys ac nid adeilad. Fodd bynnag roedd i gapel y Tabernacl bwysigrwydd neilltuol yn hanes y ffydd yng Nghymru oherwydd ar y safle yn 1823 y lluniwyd a mabwysiadwyd Cyffes Ffydd enwog y Methodistiaid Calfinaidd. Mae'r gyffes i'w darllen yn llawn YMA (yn Saesneg yn anffodus, er mai Cymraeg, wrth reswm, oedd y gwreiddiol). Mae'r gyffes yn un o'r gweithiau gorau sy'n bodoli yn holl wledydd cred ac yn dangos cymaint o rîn oedd ar Gristnogaeth Cymru ar y pryd, cymaint oedd llaw Duw arnom fel cenedl.

Isod ceir crynodeb fer o'r gyffes a luniwyd ganrif yn ddiweddarach dwi'n meddwl:

Credwn yn Nuw Dad Hollalluog, Creawdwr a Llywodraethwr pob peth.

Credwn yn Iesu Grist, ei Uniganedig Fab, ein Harglwydd a'n Gwaredwr. Trwy ei fywyd, ei farwolaeth ar y groes a'i atgyfodiad, gorchfygodd bechod ac angau gan faddau i ni ein pechodau a'n cymodi â Duw.

Credwn yn yr Ysbryd Glân. Trwyddo Ef y mae Crist yn preswylio yn y credinwyr, gan eu sancteiddio yn y gwirionedd.

Credwn yn yr Eglwys, Corff Crist a chymdeithas y saint; yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd, yng Ngweinidogaeth y Gair a'r Sacramentau.

Credwn yn nyfodiad Teyrnas Dduw ac yng ngobaith gwynfydedig y bywyd tragwyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

Credwn mai diben pennaf dyn ydyw gogoneddu Duw a'i fwynhau byth ac yn dragywydd.

5.3.08

Beth sy'n bosib mewn saith diwrnod? Creu byd?

Mwy o bigion maes-e...

Macsen (maes-e): "Ond onid wyt ti'n dal i gredu bod y byd wedi ei greu gan Dduw mewn saith diwrnod ychydig filoedd o flynyddoedd yn ôl? Mae hynny i fi hefyd yn rwtsh. Croeso i ti fy nghywiro os nad wyt ti!"


I mi nid y cwestiwn creiddiol yw 'wyt ti'n credu ddaru Duw greu y Byd mewn Saith diwrnod?' Mae yna sawl cwestiwn tipyn pwysicach sydd angen eu hystyried yn gyntaf cyn dod at gwestiwn y cread. A'r ddau brif gwestiwn sydd angen ateb iddyn nhw cyn dod i drafod y cread ydy'r ddau gwestiwn yma: wyt ti'n credu fod Duw yn holl-alluog a phwerus? Fy ateb i yw ydw. Ac yn ail: wyt ti'n credu mewn gwyrthiau? Fy ateb i yw ydw. Os yw eich atebion i'r ddau gwestiwn yna yn myn tu hwnt gwyddoniaeth, hynny yw ateb yn bositif iddynt, yna rydych chi mynd i ddod at gwestiwn creadigaeth o safbwynt unigryw a gwahanol. Felly o fynd nol at y cwestiwn gwreiddiol: 'wyt ti'n credu ddaru Duw greu y Byd mewn saith diwrnod?' Yn hytrach nag ateb 'ydw' fy ateb i ar sail fy nghred mewn Duw holl alluog a bodolaeth gwyrthiau ydy 'pam lai?' sydd, credaf, yn yn wahanol i 'ydw' plaen oherwydd mod i wedi dod at yr ateb yn resymegol ac nid o ffydd ddall fel petae.

Ond beth am yr holl dystiolaeth sy'n profi fod y byd yn filiynau ar filiynau o flynyddoedd oed, y ffosils, deinasoriaid ayyb... Fy marn bersonol i yw ei bod hi'n ddigon posib, gan ei fod yn holl-alluog, fod Duw wedi creu y Byd eisioes mewn cyflwr o aeddfedrwydd yn yr un modd a bu iddo greu Adda ac Efa yn ddau oedolyn ac nid yn ddau faban. Y lle dwi'n pellhau fy hun o safbwynt Creationists America a mudiadau fel Answers in Genesis yw mod i'n cyfaddef nad ydy fy nehongliad i yn un gwyddonol tra fod Answers in Genesis yn ceisio defnyddio gwyddoniaeth i brofi gweithred wyrthiol - they miss the whole point yn fy marn i. Mewn ffordd dwi'n gyndyn i gyfrannu i drafodaethau ar greadigaeth oherwydd dwi'n greiddiol, fel nodesi uchod, fod yn rhaid i bobl holi ac ateb cwestiynau eraill a rheiny yn rai llawer mwy creiddiol am fodolaeth Duw cyn dod at y cwestiwn hwn.