5.7.08

Tân yn y Tabernacl ond mae'r Gyffes Ffydd yn sefyll yn gadarn!

Neithiwr fe rwygodd tan drwy hen gapel y Tabernacl yn Aberystwyth. Fe gaewyd yr Eglwys bum mlynedd yn ôl a dwi'n cofio mynd i un o'r gwasanaethau olaf yna cyn iddo gau gyda Nhadcu yn pregethu. Wrth gwrs, i anghydffurfwyr nid yw'r adeilad yn bwysig, pobl yw'r eglwys ac nid adeilad. Fodd bynnag roedd i gapel y Tabernacl bwysigrwydd neilltuol yn hanes y ffydd yng Nghymru oherwydd ar y safle yn 1823 y lluniwyd a mabwysiadwyd Cyffes Ffydd enwog y Methodistiaid Calfinaidd. Mae'r gyffes i'w darllen yn llawn YMA (yn Saesneg yn anffodus, er mai Cymraeg, wrth reswm, oedd y gwreiddiol). Mae'r gyffes yn un o'r gweithiau gorau sy'n bodoli yn holl wledydd cred ac yn dangos cymaint o rîn oedd ar Gristnogaeth Cymru ar y pryd, cymaint oedd llaw Duw arnom fel cenedl.

Isod ceir crynodeb fer o'r gyffes a luniwyd ganrif yn ddiweddarach dwi'n meddwl:

Credwn yn Nuw Dad Hollalluog, Creawdwr a Llywodraethwr pob peth.

Credwn yn Iesu Grist, ei Uniganedig Fab, ein Harglwydd a'n Gwaredwr. Trwy ei fywyd, ei farwolaeth ar y groes a'i atgyfodiad, gorchfygodd bechod ac angau gan faddau i ni ein pechodau a'n cymodi â Duw.

Credwn yn yr Ysbryd Glân. Trwyddo Ef y mae Crist yn preswylio yn y credinwyr, gan eu sancteiddio yn y gwirionedd.

Credwn yn yr Eglwys, Corff Crist a chymdeithas y saint; yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd, yng Ngweinidogaeth y Gair a'r Sacramentau.

Credwn yn nyfodiad Teyrnas Dduw ac yng ngobaith gwynfydedig y bywyd tragwyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

Credwn mai diben pennaf dyn ydyw gogoneddu Duw a'i fwynhau byth ac yn dragywydd.

No comments: