4.7.08

Hynt a helynt darlithio yn Undeb yr Annibynwyr

Fuesi lawr yn Abertawe heddiw yn rhoi'r ddarlith hanes yn Undeb yr Annibynwyr. Fel un sydd wedi fy magu mewn eglwys annibynnol nad sy'n aelod o'r Undeb roedd hi'n agoriad llygad gweld yr Undeb ar waith, ond trafodaeth at rywbryd eto yw hynny! Y testun heddiw oedd, sypreis sypreis, R. Tudur Jones a Phlaid Cymru. Swmp y ddarlith oedd fy nhraethawd hir gradd, mae e ar gael i ddarllen YMA (PDF) i unrhyw un a diddordeb. Fe'm harweiniwyd gan yr Ysbryd Glan i ddefnyddio'r ddarlith i herio yn ogystal a chyflwyno'r hanes moel am Dr. Tudur. Dyma oedd fy sylwadau clo, maddeuwch y llaw fer:

Casgliadau a'r Her Heddiw

Lle mae hyn yn ein gadael ni heddiw yn 2008? Pa wersi y gellid ei dysgu o hanes a syniadaeth Dr. Tudur? Eleni rydym ni'n coffau deng mlynedd ers marwolaeth R. Tudur Jones. Llawer wedi newid yn y ddeng mlynedd diwethaf: datganoli wedi blodeuo, yn ystadegol mae'r iaith Gymraeg yn y broses o gael ei hadfer, Plaid Cymru mewn Llywodraeth ac un o gyn-fyfyrwyr Dr. Tudur ym Mala-Bangor yn Weinidog Iaith a Diwylliant! Ond: dirywiad yr Eglwysi yn gwaethygu, cymunedau Cymraeg dan warchau a “cenedlaetholwyr” mewn llywodraeth yn torri addewidion

Byddai'n anghyfrifol i mi roi geiriau yng ngheg y diweddar Dr. Tudur. Ond holwch chi eich hun beth fyddai Dr. Tudur yn ei ddweud am rîn Plaid Cymru heddiw? Beth fyddai Dr. Tudur yn ei ddweud am hygrededd Gweinidogion Plaid Cymru mewn llywodraeth heddiw? Fy marn bendant i yw y bod angen dylanwad Cristnogol cryf ar y mudiad cenedlaethol yng Nghymru o'r newydd heddiw fel ag yn nydd Dr. Tudur – mae dyletswydd arnom i fod yn lefain yn y blawd.

Dywedodd Dr. Tudur yn 1976:

“Yn y diwedd, ffydd sy'n rhyddhau egni ac yn tanio hunanaberth ac ymroddiad. Dyna pam mae'n ddyletswydd ar y rhai ohonom sy'n dwyn cyfrifoldeb uniongyrchol am yr eglwysi ac am addysg gweinidogion i roi sylw gwirioneddol ddifrifol i bopeth a all beri adnewyddiad yn yr eglwysi. Achubwyd ein cenedl o bosibilrwydd difodiant fwy na unwaith gan adnewyddiad Cristnogol mawr.”


Gan adael gwrthrychedd academaidd wrth y drws rhaid i mi nodi mod i'n cyd-weld yn llwyr a gweledigaeth Dr. Tudur ac mi gredaf mai dim ond adferiad ysbrydol all ddod ac integriti gwleidyddol a diwylliannol llawn yn ôl i Gymru. Rhyddid a Hunanlywodraeth yw'r asgwrn cefn a'r ffydd Gristnogol yw'r sbeinal cord - ni all un lwyddo yn ei waith o gynorthwyo Cymru i gerdded yn gefn syth heb y llall.

No comments: