14.7.08

Mark Driscoll yn Llundain

Dwi newydd ddychwelyd adre ar ôl ychydig ddyddiau ar y ffordd. Yn gyntaf fe es i i Gaerfyrddin i groesawu Menna nôl, roedd hi wedi bod yn teithio ers bron i fis – dwi'n eithriadol o falch ei bod hi nôl yng Nghymru nawr a hynny yn saff a diogel! Fe es i ymlaen o Gaerfyrddin i Lundain i glywed Mark Driscoll o Mars Hill, Seattle yn siarad. Fe ges i'r fraint o gael sgwrs gyflym ag ef rhwng un o'r sesiynau ar y dydd Sadwrn. Esboniais iddo fe mae un o'r problemau oeddem ni yn ei wynebu yng Nghymru oedd drwgdeimlad ac amheuaeth o dŷ gwahanol Gristnogion tuag at waith a dulliau Cristnogion eraill boed yn amheuaeth enwadwyr at waith eglwysi Efengylaidd neu amheuaeth eglwysi efengylaidd o waith mwy emerging fel yr ydw i'n ceisio cael fy ngafael ynddi. Roedd cyngor Driscoll yn ddoeth iawn sef mae'r oll oedd angen gwneud oedd dangos fod unrhyw ddatblygiadau a chynlluniau emerging yn Feiblaidd a thrwy bwysleisio hynny law yn llaw a dangos cariad ac amynedd at y rhai sy'n amau eich dulliau a'ch cymhellion fe ddônt hwy i barchu eich ffordd gwahanol chi o wneud Eglwys (to do Church).

Fe welais hi'n reit ddifyr fod Driscoll yn cymharu fy nghefndir i mewn eglwys 'ffwndamentalaidd efengylaidd' (ei eiriau ef!) gyda'i gefndir ef mewn eglwys Babyddol. Wrth gwrs mae diwinyddiaeth eglwysi ffwndamentalaidd efengylaidd ac eglwysi Pabyddol yn hollol wahanol fodd bynnag mae yna un peth yn gyffredin sef eu methiant llwyr i gyrraedd y diwylliant cyfoes. Ac yn hynny o beth yn yr un modd ag yr oedd yn rhaid i Driscoll ddangos i'w gyfeillion Pabyddol fod yr hyn oedd yn gwneud yn Mars Hill yn Feiblaidd y maen rhaid i ni sydd ynghlwm a'r emerging Church ddangos i'r eglwysi efengylaidd fod yr hyn rydym ni'n ei wneud yn Feiblaidd.

Gan osgoi gwneud eilun o Mark Driscoll ei hun maen rhaid i mi ddweud ei bod hi wedi bod yn fraint cyfarfod ag arweinydd Cristnogol sydd wedi cael ei ddefnyddio gan Dduw mewn modd cwbl cwbl anghyffredin yn Seattle. Maen wych ac yn anogaeth fod Duw yn parhau i fendithio rhai eglwysi yn y Gorllewin ac dwi'n gweddïo y bydd Duw yn anfon bendith i'r gwaith yn y Gymru Gymraeg unwaith eto.

[Mae adroddiad o sgwrs Driscoll ar y Nos Wener ar y blog yma (Saesneg yn anffodus!)]

No comments: